top of page

Cegin Mr Henry - Lloyd Henry

*For English review, see language toggle switch*


(awgrym) oed darllen: 9+

(awgrym) oed diddordeb: 10-15

 

Ar y weekend, hefo glasiad o win yn fy llaw, dipyn o chill out music yn chwarae, a bore dydd Llun yn teimlo’n bell i ffwrdd, does dim yn well gen i ‘na threulio oriau yn y gegin yn arbrofi hefo ryseitiau ac yn edmygu fy nghwpwrdd sbeisys! (o mam bach dwi definitely wedi cyrraedd middle age!)


Ond ar noson ysgol, ar ôl dod adra’n hwyr, finnau wedi anghofio defrostio’r chicken breasts a dim golwg o de - mae hi’n stori dra gwahanol. Does nunlle mwy diflas i fod 'na’r gegin wrth orfod pendroni ‘be gawn ni i de?’ a phawb yn y tŷ yn hangry! (i’r rhai sydd ddim yn gwybod ystyr ‘hangry’ = cymysgedd o ‘angry’ a ‘hungry’ - dim yn gyfuniad da o gwbl!)


fi yn y gegin, ar ôl penderfynu gwneud Stilton Sauce i fynd hefo'r ribeye!

Ond hei lwc, fydd dim angen i mi boeni rhagor, achos mae llyfr coginio syml, down to earth Cegin Mr Henry ar gael i roi help llaw – a hwnnw’n llawn o syniadau syml (ond blasus) sy’n ideal ar gyfer chefs o bob gallu.

Mae’r awdur, Lloyd Henry, yn athro technoleg bwyd yn Ysgol Gyfun Gŵyr, ac felly mae’n gwybod yn iawn sut i ddod a dŵr at ddannedd y gynulleidfa darged – bwyd blasus, iachus efo cyfarwyddiadau fool proof a chlir! Yn ôl y wasg, llyfr i’r arddegau ydi o, ond dwi’n meddwl y gall unrhyw un wneud defnydd da ohono.


Un peth reit annoying am lyfrau coginio fel arfer ydi pan maen nhw’n trio gwneud ryw ryseitiau elaborate, ffansi hefo chynhwysion weird. Petha ‘da chi byth yn cadw yn y tŷ - petha ‘sa angen mynd i'w prynu’n unswydd, a phetha fydd yn ôl pob tebyg, yn diflannu nôl i'r cwpwrdd wedyn ar eu hanner, never to be seen again. Mae’r llyfr yma’n wahanol. Dwi’n falch o ddweud fod y ryseitiau, a’r cynhwysion i gyd yn rai hollol normal, yn rhad, a nifer ohonynt yn debygol iawn o fod yn llechu yn eich cypyrddau’n barod. Winner winner chicken dinner.


pam gwastraffu arian ar takeaway nos wenar? Mae rhain yn edrych yn lysh - a hanner y pris!

Dwi’n meddwl, a dwi’n siŵr fasa Lloyd yn cytuno hefo fi, fod hi’n bwysig i bobl ifanc ddysgu’r sgil o goginio. Mae o’n sgil bywyd, a bydd yn enwedig o ddefnyddiol ar gyfer symud i’r Brifysgol lle bydd rhaid iddynt sortio eu bwyd eu hunain. (fedrwn ni ddim byw ar Pot Noodles a Dominos am byth!) Mae'r ffaith ‘bo chi’n gallu cookio hefyd yn ffordd dda o impressio cariadon... (Er, dwi’n meddwl nes i wneud job ‘chydig rhy dda, achos fi sydd wedi landio’r job o head chef yn tŷ ni).


Cyn mynd i’r coleg, dwi’n cofio cael copi o Sam Stern’s cookbook yn anrheg gan Mam. Cyn hynny, dwi’n meddwl mai cheese on toast oedd fy limit. Erbyn hyn, dwi’n teimlo’n reit gartrefol o flaen stôf ac yn ddiweddar iawn, mi wnes i wneud cinio dydd Sul i’r teulu cyfan- a hynny heb roi’r tŷ ar dân! Happy days! Felly os ‘da chi’n nabod rhywun sydd prin yn gallu berwi wy, neu ‘da chi’n awyddus i annog rhywun i godi’r ffedog a rhoi cynnig arni, mi fasa’r llyfr yma’n gwneud anrheg berffaith, ac yn siŵr o godi eu hyder yn y gegin.

Ond pa rysáit i’w goginio gyntaf? Dwi wedi mynd drwy’r drefn arferol, sef sticio post-its drwy'r llyfr yn dethol pa rai dwi am eu trio gyntaf. Mae’r cyri tatws melys a’r byns pizza yn edrych yn ffab.



Does ‘na ddim llawer (a deud y gwir, fedra i ddim meddwl am un ar y foment) o lyfrau coginio Cymraeg ar gyfer pobl ifanc yn benodol, felly dwi’n falch iawn o weld hwn yn cael ei gyhoeddi. Beth sydd yn dda hefyd, yw’r defnydd o’r codau QR fel cymorth ychwanegol. Maen nhw’n addas iawn i’r rheiny, fel fi, sy’n hoffi ‘gweld’ sut i wneud pethau. ‘Da chi’n cael y gorau o ddau fyd rili!



Mae llyfr cegin Mr Henry wedi hawlio ei le ar y silff ffenest, yng nghanol yr hen ffefrynnau eraill fel Pinch of Nom a Miguel Barclay’s £1 Meals. Mi glywais si ar led fod ‘na wefan ar ei ffordd, felly dwi’n siŵr bydd mwy o bigion disglair yn fanna pan ddaw. Gobeithio bydd ‘na fwy o lyfrau ar y gweill. Os ga i wneud awgrym - mi fasa un ‘prydau punt’ yn handi yn yr argyfwng costau byw sydd ohoni!


Reit, dyna ddigon o fy mwydro i, dwi’n mynd nôl i'r gegin i gychwyn te!



 

Gwasg: Atebol

Cyhoeddwyd: Rhagfyr 2022

Pris: £12.99

Fformat: Clawr caled (ac e-lyfr)

 

GWYLIWCH MR HENRY AR PRYNHAWN DA, S4C -CHWEFROR 2023



 

Dyma fy ymgais i wneud y byns pizza (roedd 'na mould yn y pot pesto gwyrdd, felly dim ond rhai caws a tomato wnes i tro 'ma.) Mi fedra i gadarnhau bydd rhain ar y menu eto...


Recent Posts

See All
bottom of page