top of page

Chwilio

310 results found with an empty search

  • Y Mamoth Mawr - David Walliams [addas. Dewi Wyn Williams]

    *For English review, see toggle switch* (awgrym) oed darllen: 9-14 (awgrym) oed didordeb: 7+ Genre: #ffuglen #doniol #hanesyddol Gwybodaeth am y llyfr: Addasiad Cymraeg gan Dewi Wyn Williams o The Ice Monster gan David Walliams. Pan fo Elsi yn clywed bod mamoth o Begwn y Gogledd yn crwydro strydoedd y dre, mae hi'n benderfynol o ddarganfod mwy! LLUNDAIN 1899 - Stori am berthynas plentyn amddifad deng mlwydd oed a mamoth deng mil o flynyddoedd oed ... Plentyn amddifad sy’n byw ar strydoedd Llundain yn Oes Fictoria yw Elsi. Pan mae’n clywed am y Mamoth Mawr – creadur gwlanog a ddarganfuwyd ym Mhegwn y Gogledd – mae hi’n benderfynol o ddarganfod mwy amdano ... Yn fuan, daw Elsi wyneb yn wyneb â’r mamoth hynafol, a dyma gychwyn antur fythgofiadwy – o Lundain, ar draws y moroedd mawr, i Begwn y Gogledd. Mae’r stori gyffrous hon yn dangos bod arwyr i’w cael ym mhob lliw a llun! ADOLYGIAD GAN NEL GUEST, YSGOL Y CREUDDYN Rydw i Nel wedi adolygu’r llyfr yma ar ôl i fy Athrawes Gymraeg Mrs Sioned Bevan ei argymell. Mae’r llyfr yn sôn am hogan ifanc amddifad o’r enw Elsi sydd yn byw ar strydoedd Llundain. Mae’n clywed pobl yn siarad am y Mamoth Mawr ac eisiau chwilota am fwy o wybodaeth. Yn y diwedd mae Elsi yn dod o hyd iddo ac mae rhywbeth anobeithiol yn digwydd.. Fy hoff ddarn o’r llyfr yw pan roedd hi’n bwrw glaw ac wnaeth Elsi ddringo peipen ddŵr i do yr amgueddfa ac roedd y dorf i gyd yn clapio a llongyfarch, dyna pryd wnes i fwynhau y llyfr mwyaf gan ei fod yn brofiad hwyliog. Mae’n ymddangos i mi mai fy hoff gymeriad oedd Dot y ddynes glanhau’r amgueddfa gan ei bod hi wedi ffeindio Elsi yn y cwpwrdd ac heb alw’r gwarchodwyr ac yn lle mi wnaeth hi wneud yn siŵr bod Elsi yn iawn ac edrych ar ei hol. Mi wnaeth y llyfr gadw’n ddiddorol gan fy mod eisiau gwybod beth oedd yn digwydd yn y diwedd gan ei fod yn stori mor anturus. Yn fy marn i hoffais y llyfr llawer iawn ac roeddwn yn falch ei fod yn yr iaith Gymraeg felly roedd o’n haws i’w ddeall. Credaf os ydych yn chwilio am lyfr hwylus, anturus, cyffrous a doniol dyma’r llyfr i chi!! Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: 2020 Pris: £9.99

  • Siani Pob Man - Valériane Leblond a Morfudd Bevan

    *For English, see language toggle switch* (awgrym) oed darllen: 6+ (awgrym) oed diddordeb: 4+ Genre: #hanes #lleol #Cymru Dyma lyfr newydd gan Valériane Leblond. Efallai eich bod chi’n gyfarwydd â gwaith celf Valériane ar ôl darllen ei llyfr hyfryd Y Cwilt. Mae’r llyfr yma, Siani Pob Man, yr un mor drawiadol ac yn nodweddiadol o waith celf gain a sylwgar Valériane. Mae lliwiau’r gynfas yn ein hatgoffa’n gryf o dywod y traeth, ac fe gewch chi wybodaeth ddiddorol yng nghefn y llyfr am y broses o beintio’r darluniau. Awdur y testun yw Morfudd Bevan, curadur yn y Llyfrgell Genedlaethol, sydd â chysylltiadau a'r ardal. Cyn darllen y stori, mi wnâi gyfaddef, wnes i ddim sylweddoli mai stori am hanes person go iawn oedd hon. Roedd Jane Leonard, neu ‘Siani Bob Man’ fel yr oedd hi’n cael ei hadnabod, yn gymeriad adnabyddus o ardal Cei Bach, Ceredigion ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn aml iawn, byddai Siani i’w gweld yn eistedd tu allan i’w bwthyn gwyngalchog ger y traeth, yn amlach na pheidio, gyda’i ieir. Yn dipyn o gymeriad ecsentrig, daeth yn boblogaidd gydag ymwelwyr ac yn ôl y sôn, byddai’n canu rhigymau neu’n dweud ffortiwn yr ymwelwyr, yn ogystal â gwerthu cardiau post. Mae hi mor bwysig ein bod ni’n cofio unigolion hynod fel Siani Pob Man, ac maen nhw’n rhan bwysig o’n hanes lleol. Fedra i feddwl am ambell i gymeriad lleol o fy ardal i sydd bellach wedi’n gadael ni, a does neb fawr callach eu bod nhw erioed wedi bod. Dwi’n falch felly, bod yr awdur wedi penderfynu rhannu’r stori yma, i sicrhau bod stori Siani Pob Man yn parhau drwy’r oesoedd wrth i ni ddarllen amdani. Diolch i waith ymchwil dyfal yr awdur a gwaith celf Valériane sy’n dod â’r stori’n fyw, mae hanes Siani’n cael ei rannu gyda gweddill Cymru, tu hwnt i ardal Ceredigion. Yn sicr, mae darllen y llyfr yn esgus da i ymweld â.Chei Newydd tro nesaf dwi’n yr ardal. Gwasg: Y Lolfa Fformat: Clawr Caled Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £7.99

  • Dirgelwch y Dieithryn - Elgan Philip Davies

    *For English see language toggle switch* (awgrym) oed darllen: 8+ (awgrym) oed diddordeb: 7+ Disgrifiad Gwales Pan mae Iwan, Mair a’i ffrindiau’n gweld dyn dieithr, blin yn y tŷ gwag wrth y parc maen nhw’n gwybod yn syth beth yw e – lleidr! Eu tasg nhw dros wyliau’r haf yw ei ddal. Rhaid cael cynllun, a hynny ar unwaith – ymunwch â’r ffrindiau yn eu hantur gyffrous! ADOLYGIAD GAN ELA GRIFFITH, BLWYDDYN 9, YSGOL Y CREUDDYN Mae’r llyfr Dirgelwch y Dieithryn gan Elgan Philip Davies yn llyfr gwych llawn antur a hwyl. Mae’r llyfr yn wych i deuluoedd neu i ddarllen yn annibynnol . Yn fy marn i byddwn yn argymell ar gyfer yr oedran 6 - 11 oed oherwydd mae’n fyr ac yn hawdd i ddarllen. Mae’r stori wedi cael ei lleoli yn ardd un o’r ffrindiau ac yn dilyn Iwan, Mair a’i ffrindiau wrth iddynt gael profiad nad ydynt wedi ei gael o’r blaen. Mae dyn newydd dieithr wedi cyrraedd, ond mae yna rhywbeth amheus ynghylch y dyn yma. Ydy o’n leidr ? Ydy o’n droseddwr ? Ydy o’n fôr-leidr? Eu tasg nhw yw ei ganfod ac ei ddal! Fy hoff gymeriad yw Mair oherwydd mae hi yn gymeriad tebyg i fi. Mae hi’n hoff iawn o antur ac yn benderfynol a phendant. Mae’n helpu Iwan a’i ffrindiau drio dal y dieithryn arswydus a chadw pawb yn saff! Yr unig beth negyddol am y llyfr yw dechrau deall y stori ar y cychwyn. Fel disgybl ym mlwyddyn 9 roeddwn yn teimlo fod y llyfr yn eithaf ifanc. Ond pan rydych yn darllen fyddwch yn teimlo fel un o’r ffrindiau ac ar antur eich hun i geisio dal y dieithryn. Felly darllenwch ‘Dirgelwch Y Dieithryn’ ac ymunwch hefo Iwan, Mair a’u ffrindiau ar eu hantur! Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2021 (1993) Cyfres: Gorau'r Goreuon Pris: £5.99 ISBN: 9781800991378 Beth yw cyfres Gorau'r Goreuon? GORAU’R GOREUON: CYFLWYNO TAIR STORI O’R GORFFENNOL I GYNULLEIDFAOEDD IFANC 2021 Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn lansio tri theitl cyntaf Gorau’r Goreuon, detholiad o lyfrau ar gyfer plant a phobl ifanc. Bwriad Gorau’r Goreuon yw cyflwyno detholiad o lyfrau a ystyrir yn glasuron ym maes llenyddiaeth plant a phobl ifanc i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr. Erthygl llawn: https://llyfrau.cymru/goraur-goreuon-cyflwyno-tair-stori-or-gorffennol/ MWY O LYFRAU YNG NGHYFRES GORAU'R GOREUON...

  • Yn gynnar yn y bore - Lawrence Schimel ac Elīna Brasliņa [Addas. Mari Siôn ac Elin Haf]

    Genre: #amrywiaeth #teulu #iechydalles Oed diddordeb: 0-3 Llyfrau syml a lliwgar sy’n cyfleu amrywiaeth ein teuluoedd. Meddwl oeddwn i faswn i’n tynnu’ch sylw chi at y llyfrau bwrdd (boardbooks) bach ciwt yma i blant ifanc dan 3. Wedi cael eu cyfieithu o’r Sbaeneg maen nhw ac roeddwn i’n meddwl eu bod nhw’n enghreifftiau gwych o amrywiaeth yn ein llenyddiaeth plant. Mae un llyfr ar gyfer deffro’r bore, ac mae’r llall ar gyfer amser mynd i’r gwely. Yn Yn gynnar yn y bore, fe welwn fachgen bach yn deffro cyn ei rieni (sefyllfa hen gyfarwydd dwi’n siŵr!) ac fe ddilynwn y bachgen, a’i gath yn ystod y morning routine. Yn yr ail lyfr, Dim Chwarae, Mot! Mae’r ferch a’i chi yn llawn egni, er ei bod hi’n hwyr. Llawer gwell ganddynt chwarae ‘na mynd i’r gwely. Mae’r llyfr yn cynnwys parau rhieni un-rhyw ac fe gaiff hyn ei gynnwys yn ddiffwdan ac yn naturiol fel rhan o’r stori. Grêt! Prin fod angen sôn am y peth neu dynnu sylw iddo o gwbl, oni bai mod i heb ei weld o’r blaen mewn llyfr Cymraeg. Da fod yr amrywiaeth yng Nghymru gyfoes yn cael ei adlewyrchu yn ein llyfrau a bod hyn yn normaleiddio’r syniad o ‘mami a mami’ neu ‘dadi a dadi’ o’r crud. Ar gael yn Saesneg hefyd o dan y teitlau Early One Morning a Bedtime, Not Playtime! Gwasg: Canolfan Peniairth Pris: £5.99 https://siop.peniarth.cymru/index.php?route=product/product&product_id=445

  • Dim chwarae, Mot! - Lawrence Schimel ac Elīna Brasliņa [Addas. Mari Siôn ac Elin Haf]

    Genre: #amrywiaeth #teulu #iechydalles Oed diddordeb: 0-3 Llyfrau syml a lliwgar sy’n cyfleu amrywiaeth ein teuluoedd. Meddwl oeddwn i faswn i’n tynnu’ch sylw chi at y llyfrau bwrdd (boardbooks) bach ciwt yma i blant ifanc dan 3. Wedi cael eu cyfieithu o’r Sbaeneg maen nhw ac roeddwn i’n meddwl eu bod nhw’n enghreifftiau gwych o amrywiaeth yn ein llenyddiaeth plant. Mae un llyfr ar gyfer deffro’r bore, ac mae’r llall ar gyfer amser mynd i’r gwely. Yn Yn gynnar yn y bore, fe welwn fachgen bach yn deffro cyn ei rieni (sefyllfa hen gyfarwydd dwi’n siŵr!) ac fe ddilynwn y bachgen, a’i gath yn ystod y morning routine. Yn yr ail lyfr, Dim Chwarae, Mot! Mae’r ferch a’i chi yn llawn egni, er ei bod hi’n hwyr. Llawer gwell ganddynt chwarae ‘na mynd i’r gwely. Mae’r llyfr yn cynnwys parau rhieni un-rhyw ac fe gaiff hyn ei gynnwys yn ddiffwdan ac yn naturiol fel rhan o’r stori. Grêt! Prin fod angen sôn am y peth neu dynnu sylw iddo o gwbl, oni bai mod i heb ei weld o’r blaen mewn llyfr Cymraeg. Da fod yr amrywiaeth yng Nghymru gyfoes yn cael ei adlewyrchu yn ein llyfrau a bod hyn yn normaleiddio’r syniad o ‘mami a mami’ neu ‘dadi a dadi’ o’r crud. Ar gael yn Saesneg hefyd o dan y teitlau Early One Morning a Bedtime, Not Playtime! Gwasg: Canolfan Peniairth Pris: £5.99 https://siop.peniarth.cymru/index.php?route=product/product&product_id=445

  • Gwag y Nos - Sioned Wyn Roberts

    *Scroll down for English* ♥Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2022: Cynradd♥ Oed darllen/reading age: 9+ Oed diddordeb/interest age: 9-14 3 rheswm da i ddarllen Gwag y Nos... · Cymeriadau da - Magi, y rebel dewr vs Nyrs Jenat evil! · Oes Fictoria – ffocws ar fywyd yn y Wyrcws/cymharu bywyd y tlodion/bonedd · Stori anturus gyda hiwmor ‘Da ni wedi bod yn galw am lyfr fel hwn yn y Gymraeg ers talwm iawn, a gobeithio y bydd hwn yn ddewis poblogaidd gydag ysgolion, yn enwedig ym mlynyddoedd 5 a 6. Does dim ffordd well o ddarganfod mwy am gyfnod mewn hanes, na thrwy nofel apelgar fel hon. Drwy ddefnyddio’r llyfr fel canolbwynt ar gyfer uned o waith thematig ar gyfnod Oes Fictoria, bydd modd cael llawer o waith cyfoethog. Weithia, ma’n cymryd ambell bennod i ddod i arfer gyda llyfr, a weithia di’r ‘sbarc’ byth yn tanio. Ond wir i chi, hefo Gwag y Nos, mi o’n i’n hooked o’r cychwyn cyntaf (a dwi reit fussy efo llyfra, ma’ rhaid i mi gyfadda). Dyma i chi brolog trawiadol, sy’n llawn iaith ddi-flewyn-ar-dafod ar gyfer creu effaith: Ma’r clawr yn ardderchog ac yn cael sgôr uchel iawn gen i, felly llongyfarchiadau @almon unwaith eto! Dyma glawr sy’n cyfleu naws iasol yr uffern-ar-y-ddaear, sef wyrcws Gwag y Nos (er y gwnes i feddwl mai mynwent oedd o i ddechrau). Heb os, mae Sioned Wyn Roberts wedi ’sgwennu clamp o nofel fan hyn, ac mae hi lawn cystal a’r clasur Plentyn y Stryd [Street Child] gan Berlie Doherty (sef y go-to novel arall o Oes Fictoria sydd allan o brint yn anffodus). A dweud y gwir, mae’r nofel yma’n fwy perthnasol i gyd-destun Cymreig, ac mae’n amlwg yn stori bwysig iawn i’r awdur, sydd wedi gwehyddu naratif ffuglen anturus a chyffrous o gwmpas hanes go iawn ei theulu. Am ddifyr! Magi yw’r prif gymeriad. Merch ifanc sy’n ffeindio ei hun mewn sefyllfa ddigon cas - ar ei phen ei hun, mewn wyrcws o dan orthrwm Nyrs Jenat a Robat Wyllt. Dwi’n mynd i roi fy mhen ar y bloc fan hyn, a dweud bod Nyrs Jenat up there efo’r badis eraill o lenyddiaeth plant - digon i wneud i Ms. Trunchbull edrych fatha angel! Allwch chi ddim peidio â hoffi natur rebellious a drygionus Magi ac mae ei dewrder yn ysbrydoliaeth. ’Da chi bob amser ar #TeamMagi er nad ydi hi’n berffaith bob amser chwaith (gofynnwch i Elsi, druan!). Pan mae tric yn mynd o’i le yn y wyrcws, caiff Magi ei hel ymaith i Blas Aberhiraeth i weini ar ei meistres newydd, Mrs Rowlands. Efallai bod bywyd yn y wyrcws yn erchyll, ond dydi ei chartref newydd fawr gwell, a buan iawn y daw’r Plas yn garchar yn ei hun. Does ond un ateb i hyn – dianc. Mae rhywbeth sinistr iawn yn dal i fynd ymlaen yn Wyrcws Gwag y Nos, a dim ond Magi all roi stop arno. Beth mae Nyrs Jenat yn ceisio’i guddio? Fydd hi’n llwyddo i ddatgelu’r gyfrinach dywyll ac achub ei ffrindiau ’run pryd? Pwy sydd am wrando ar hen giaridým o’r wyrcws? Dim ond rhai o’r cwestiynau sydd angen eu hateb! Mae’r cymeriadau a’r plot yn spot-on. Dwi ddim am ddweud mwy rhag i mi sbwylio’r stori, ond wir i chi, rhowch gynnig arni. Athrawon Cymru – plîs dewiswch hon fel eich nofel ddosbarth. Oherwydd rhai themâu ’chydig yn dywyll, mi faswn i’n dweud bod y nofel yma’n fwy addas i blant 9+ (9-13 welais i’n rhywle) ac er mai llyfr i ‘blant’ yw hwn yn y bôn, fel oedolyn mi wnes i ei fwynhau yn arw. You might not have even realised it, but we’ve needed a novel like this in Welsh for a long time on this subject. I hope this’ll be a popular choice with schools, especially with years 5&6 in mind. What better way of discovering about a certain period in history, than through a novel like this? Using the book as a focal point for an unit of thematic work on the Victorian period will provide rich possi bilities to generate quality work and explore a fascinating topic. Sometimes, it takes a few chapters to get ‘the feel’ of a book, and sometimes it just never happens. With Gwag y Nos, I was hooked right away (no mean feat as I’m fussy) with its hard-hitting prologue that doesn’t mince it’s words. On a side note, the front cover is excellent and gets a high score from me, so well done @almon once again! It conveys the creepy qualities of the hell-on- earth which is Gwag y Nos workhouse (although I have to say I initially thought that it was a cemetery). Sioned Wyn Roberts has undoubtedly created a masterpiece here, one which rivals Plentyn y Stryd, the Welsh adaptation of Street Child by Berlie Doherty (another classic Victorian novel, which is sadly out of print) In fact, this novel is actually more relevant to a Welsh context, and it’s clearly a story close to the author’s heart – she’s woven a fictional narrative around her real family history. Really interesting stuff. Magi is the main character. She’s a young girl who finds herself in an unpleasant situation. Alone. In the workhouse. Living under the oppressive regime of Nyrs Jenat and Robat Wyllt. I’ll put my head on the block here, and say that Nurse Jenat is up there with some classic baddies from children’s literature – enough to make Ms.Trunchbull seem angelic! You can't help but admire Magi's rebellious determination and her bravery is admirable. You’re always on #TeamMagi although she’s not perfect either (just ask poor Elsi!) When a prank goes awry in the workhouse, Magi is soon carted away to Plas Aberhiraeth to become a servant for a wealthy lady. Life in the workhouse may be horrific, but her new home isn’t much better, and the Plas soon becomes a prison of its own. There really is only one solution – escape! Something very sinister is afoot in Gwag y Nos, and Magis is the only one that can put a stop to it! What’s Nurse Jenat trying to hide? Will Magi manage to reveal the secret and save her friends? Who’s even going to listen to a brat from the workhouse? These are but a few of the questions we have! The characters and plot are spot-on. I don't want to say any more in case I spoil the story, but honestly, KS2 teachers– please choose this as your class novel. Because of its slightly darker themes, I would say that this novel is more suitable for children aged 9+ (9-13 I saw somewhere) and although this is a children’s book per se, it can definitely be enjoyed by an older audience. Cyhoeddwr/publisher: Atebol Cyhoeddwyd/published: 2021 Pris: £6.99 ISBN: 9781801061650

  • Ynyr yr Ysbryd a'r Dylwythen Deg - Rhian Cadwaladr a Leri Tecwyn

    *For English review, please see language toggle switch* (awgrym) Oed diddordeb: 3-7 (awgrym) Oed darllen: 6/7+ Genre: #llyfrlluniau #ysbryd #cyfeillgarwch #ffuglen Bww! Mae’r ysbryd bach mwyaf ciwt a welsoch chi ’rioed yn ei ôl! Dwi’m yn meddwl y bydd o’n ennill unrhyw wobrau am ddychryn neb, ond mae’n sicr yn gradur bach annwyl. Y tro yma, ar ôl i’r ysbryd ifanc ddatgan nad oes ganddo unrhyw ffrindiau (bechod☹) mae’n cael ei hel o’r tŷ gan ei fam yn reit ddidrugaredd i fynd i chwilio am rai. Dwi’n siŵr ein bod ni i gyd yn gyfarwydd â’r hen deimlad ’na o landio mewn sefyllfa newydd, ar ben eich hun, lle ’da chi ddim yn nabod neb, felly dwi’n teimlo bechod dros Ynyr, ac yn falch ohono am roi cynnig arni. Er iddo drio a thrio, mae gan y bobl a’r anifeiliaid ormod o ofn ysbyrydion i gysidro bod yn fêts efo fo. Dydi hi ddim yn hawdd bod yn ysbryd, nac ydi! Ond ar ôl iddo weld Tylwythen Deg yn straffaglu efo sanau (i wybod pam mae’n rhaid i chi ddarllen y stori!) mae o’n gweld ei gyfle i wneud cyfaill bach newydd. Y broblem ydi, does ganddi hi ddim diddordeb bod yn ffrindiau! Ydi ein ffrind tryloyw am roi’r ffidil yn y to? Go brin! Mae Ynyr yn dipyn o wariar, ac mae’n dyfalbarhau, gan feddwl am ffyrdd creadigol o ddod i nabod y Dylwythen Deg yn well. Mae’n hawdd iawn beirniadu rhywun y tro cyntaf i chi eu cyfarfod nhw, ac weithiau, mae’n rhaid rhoi ail gyfle i rhywun. ’Da chi byth yn gwybod... Yn siarad o brofiad, doedd gan un ferch benodol ddim llawer o fynadd hefo hen foi gwirion fatha fi ar gychwyn ein dyddiau coleg, ond dros amser, fe ddaethon ni’n dipyn o ffrindia, a rŵan mae hi’n wraig i mi! Felly os dydi hynny ddim yn eich annog i ddyfalbarhau, dwi’m yn gwybod be neith! Tîm mam a merch sydd y tu ôl i’r gyfres yma, ac mi o’n i eisoes wedi gwirioni gyda gwaith arlunio Leri ar ôl ei hymdrechion gyda’r gyfres arall Tomos Llygoden y Theatr. Tra bod rheiny’n llyfrau maint poced, mae llyfrau cyfres Ynyr yr Ysbryd yn anferth o’u cymharu. Mae Ynyr yn cael llyfryn mawr maint A4, sy’n gwneud cyfiawnhad â’r arlunwaith cynnes, bendigedig sy’n britho’r tudalennau. Mae ’na vibes traddodiadol, clasurol i’r gwaith celf, sy’n fy atgoffa o lyfrau plant pan oeddwn i’n blentyn. No disrespect i waith celf digidiol, modern, ond mae ’na jest rhywbeth am waith celf go iawn na fedrwch chi ei guro. Stori ddigon syml am gyfeillgarwch, caredigrwydd a dyfalbarhad yw hon, ac mae ’na fwy o waith darllen nag y mae rhywun yn ei feddwl. Stori berffaith felly, i’w rhannu amser gwely. Ac yn debyg i’r ‘007 will return’ ’da chi’n weld ar ddiwedd ffilmiau James Bond, mae’n dda gweld y bydd Ynyr yn ei ôl unwaith eto. Gwasg: Gwasg Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £6.50 ISBN: 9781845278274

  • Y Pump - Awduron amrywiol [gol. Elgan Rhys]

    ♥ Enillydd Gwobrau Tir na n-Og 2022: Uwchradd♥ Genre: #arddegau #ffuglen #materioncyfredol (awgrym) Oed darllen: 14+ (awgrym) Oed diddordeb: 14+ (mae 'na themau all beri gofid i rai, ac efallai na fydd pawb yn cytuno, ond ar y cyfan, rydym yn teimlo y bydd y nofelau yn briodol i oed 14+, yn dibynnu ar y darllenwr, wrth gwrs) https://amam.cymru/ypump/cyhoeddi-y-pump-annoncement Y gyfres Arloesol. Uchelgeisiol. Ac yn bwysicach na hynny - authentic. Dim ond rhai o’r geiriau dwi’n eu cysylltu â’r prosiect yma. Hyd y gwn i, does dim byd o’i fath wedi cael ei wneud yn y Gymraeg, ac mae’n arwain y ffordd ar gyfer sut y dylid cyhoeddi a marchnata llyfrau i bobl ifanc arddegau/OI wrth symud ymlaen. Pan gyhoeddwyd y llyfrau, roedd cryn dipyn o waith marchnata yn cael ei wneud ar y cyfryngau cymdeithasol, fel tudalen Insta newydd ar gyfer #YPump a defnyddio platfformau fel AM i rannu y cynnwys e.e. rhestrau chwarae sy’n gysylltiedig â’r nofelau. Babi Elgan Rhys yw’r gyfres, ac mae’n cynnwys 5 nofel unigryw am 5 person ifanc arbennig iawn. Yr hyn sydd wirioneddol yn gyffrous am y gyfres, fodd bynnag, yw bod awduron cyhoeddedig, profiadol wedi cyd-weithio a chyd ysgrifennu’r nofelau gyda phobl ifanc ac awduron newydd y dyfodol sydd wedi byw rhai o’r profiadau. Am syniad da, i gael awduron ifanc Cymru yn meithrin a mentora’r genhedlaeth nesaf o awduron ifanc. Drwy gydweithio yn y fath fodd, ’da ni’n sicrhau bod y straeon yn onest ac yn genuine, gan gyflwyno materion a phrofiadau go iawn mewn ffordd real a chredadwy (yn hytrach na chael awduron yn ysgrifennu am bynciau nad oes ganddynt unrhyw brofiad ohonynt). Does ‘na ddim byd mwy crinj, na hen bobl yn trio swnio’n cŵl ac yn ‘down with the kids.’ Yn ffodus, does ‘na ddim o hynny yma, dim ond lleisiau pobl ifanc go iawn. Mae’r elfen o gydweithio rhwng yr awduron yn gyffrous, ac yn rhywbeth y dylid gwneud mwy ohono wrth symud ymlaen, yn enwedig wrth daclo pynciau heriol. Beth sydd hefyd yn werth ei gofio ydi, bod yr awduron a’r golygyddion wedi llwyddo i wneud y gwaith cydweithredol i gyd o dan amgylchiadau anarferol iawn yng nghanol y pandemig a dylai hyn fod yn destun balchder i bawb fu ynghlwm â’r prosiect. Pwy yw’r Pump? Mae’r gyfres yn dilyn bywydau pum ffrind ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Llwyd sy’n rhoi sylw i rai o’r cymhlethdodau sy’n codi wrth fod yn berson ifanc yn yr oes sydd ohoni. Dilynwn hanesion Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat wrth iddyn nhw gwrdd, a dod at ei gilydd i ffurfio criw Y Pump. Dyma grŵp o bobl ifanc sydd wedi cael eu hymylu yn gymdeithasol braidd, gan nad ydynt efallai yn ffitio’r label o beth sy’n cael ei ystyried yn ‘normal’ (hen air afiach!). Caiff pob cymeriad eu novella 20,000 o eiriau eu hunain (sy’n seis da ar gyfer nofel OI yn fy marn i - dim rhy fyr, dim rhy hir). Mae pob nofel yn sefyll yn gadarn ar eu pen eu hunain ond, yn debyg iawn i griw Y Pump, teimlaf fod y gyfres ar ei chryfaf pan maen nhw gyda'i gilydd. Cymeriadau unigryw ac arbennig yw giang Y Pump, ac mae’r nofelau yn taflu goleuni ar rai o’r materion cyfoes sy’n bwysig i bobl ifanc heddiw, yn ogystal â bod yn ddathliad o’r amrywiaeth sydd i’w weld yng Nghymru fodern yr 21ain ganrif. Er y cyflwynir themâu fel iechyd meddwl, hil, rhywedd ac iselder i enwi ond rhai, llwydda’r nofelau i osgoi bod yn bregethwrol, a phrofiadau’r cymeriadau a’u perthynas gyda’i gilydd sydd wrth wraidd pob un. Cyflwynir y nofelau ar ffurf y person cyntaf, ac mae’n hynod ddiddorol gweld y byd drwy lygaid y cymeriadau gwahanol, a sut maent yn rhyngweithio gyda’i gilydd. Mae pob cymeriad yn dod a phersbectif a dimensiwn arall i’r pair. Trefn a throsolwg o’r nofelau: 1. Tim – Elgan Rhys a Tomos Jones 2. Tami – Mared Roberts a Ceri-Anne Gatehouse 3. Aniq – Marged Elen Wiliam a Mahum Umer 4. Robyn – Iestyn Tyne a Leo Drayton 5. Cat – Megan Angharad Hunter a Maisie Awen Mae nofelau 4 a 5 yn rhai o berlau’r gyfres yn fy marn i. Er ei bod hi’n gwbl bosib mwynhau unrhyw un o’r straeon fel rhai stand-alone, mae’n debyg mai fel rhan o gyfres (ac yn eu trefn) yw’r ffordd gorau i’w darllen. Mae’n dipyn o fargen hefyd, achos fe gewch chi’r 5 llyfr mewn bocs-set snazzy am £25! Athrawon - os ydych chi’n dysgu Cymraeg yn yr ysgol uwchradd, plîs ystyriwch ddarllen y nofelau yma gyda’ch dosbarthiadau. Tir Na n-Og Llongyfarchiadau i bawb fu’n rhan o’r prosiect ar eich llwyddiant yn y Gwobrau Tir na n-Og 2022. Roedd y beirniaid yn teimlo mai’r gyfres oedd yn haeddu mynd a’r wobr, yn hytrach na llyfr unigol ac o bosib, mae’r ffaith bod cyfres wedi dod i’r brig yn first ar gyfer y gwobrau. Da iawn i’r awduron, cyd-awduron, golygyddion, mentorwyr, marchnatwyr ac i’r wasg am gymryd chance a rhoi cyfle i’r syniad. Roedd hi’n fraint bod yn seremoni datgelu’r enillwyr ar Faes Eisteddfod yr Urdd, Sir Ddinbych. Ron i’n gallu gweld cymaint roedd y wobr yn golygu i bob un o’r criw oedd yn bresennol. Edrych ymlaen i weld prosiectau’r dyfodol gan griw awduron #YPump. Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £5.99 yr un neu £25 am bocs set Elgan Rhys yn sgwrsio gydag awduron ifanc newydd prosiect Y Pump

  • Gan Bwyll a Gwyddbwyll - Stewart Foster [addas. Bethan Gwanas]

    *for English review, see language toggle switch* Oed diddordeb: 12-14 Oed darllen: 12+ Genre: #ffuglen #cyfeillgarwch #iechydalles #ADHD #dirgel ADOLYGIAD GAN BECA JONES, BLWYDDYN 9 YSGOL Y CREUDDYN. Nofel swmpus yw ‘Gan Bwyll a Gwyddbwyll’ am fachgen ysgol o’r enw Felix Schopp sydd gyda’r cyflwr ADHD. Awdur y nofel yw Stewart Foster, ond mae’r llyfr wedi ei addasu gan Bethan Gwanas. Felix Schopp yw’r bachgen sydd yn gyson mewn helynt yn yr ysgol, ac o hyd yn yr ystafell gosb. Mae Felix yn ei gweld hi’n anodd i ganolbwyntio ac eistedd yn llonydd mewn gwersi. Ond, un diwrnod mae rhieni Felix yn mynd am wyliau bach dros y penwythnos ac mae’n rhaid iddo fynd i aros efo’i daid. Roedd ei daid yn drist iawn ers i Nain farw, a’r unig beth roedd o’n gwneud oedd chwarae gwyddbwyll. Wrth gwrs, doedd Felix ddim yn edrych ymlaen at y penwythnos, ond nid oedd yn gwybod pa mor wych oedd ei daid am chwarae gwyddbwyll. Mae’n mynnu dysgu Felix i chwarae! Mae neges glir, eglur a phwerus yn y nofel hwn, sef fod gan bawb eu cryfderau a’u gwendidau, ac nid yw pawb yn rhagori ym mhopeth. Gan fod Felix gyda ADHD, mae o bob byth a beunydd mewn trafferth am ddiffyg gwaith a chanolbwyntio. Ond, mae tro hapus i’r nofel, gan fod Felix wedi darganfod ei gryfder. Hefyd, mae elfen o hunan hyder a dyfalbarhâd i’r nofel. Yn fy marn i, yn anffodus dydy’r nofel yma ddim at fy nant. Mae’r llyfr hwn ychydig yn ddigynnwrf, gan nad oes llawer yn digwydd ynddo. Ond efallai mai dim ond fy marn i yw hynny, gan fy mod yn hoff iawn o nofelau cyffrous ac anturus. Felly, os ydych chi’n chwilio am nofel llawn cyffro ac antur, ni fuaswn yn argymell eich bod yn ei brynu. Ond, eto mae’r nofel hon yn un ddifyr a hamddenol, felly dydw i ddim eisiau rhoi cam argraff o’r llyfr. Mae’n addas ar gyfer plant a phobl ifanc blwyddyn 7-9, ac mae’n hawdd a phleserus i’w ddarllen. Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £6.99 ISBN: 978-1-80099-066-1 Mwy o adolygiadau a gwybodaeth am y llyfr ar wefan BookTrust: https://www.booktrust.org.uk/book/c/check-mates/

  • Genod Gwych a Merched Medrus 2 - Medi Jones-Jackson

    *For English review, see language toggle switch on top of page* Cyfle i ddod i adnabod 12 o ferched ysbrydoledig ac uchelgeisiol. ♥Llyfr y Mis i blant: Medi 2021♥ Genre: #ffeithiol #merched #ysbrydoliaeth #Cymru (awgrym) Oed darllen: 7+ (awgrym) Oed diddordeb: 6-14+ O ystyried llwyddiant y llyfr cyntaf, Genod Gwych a Merched Medrus, anodd ydi meddwl sut y gallai’r awdur, Medi Jones-Jackson, fod wedi gwella ar yr hyn sydd mewn print yn barod. Cafodd y llyfr cyntaf gryn dipyn o sylw ar ôl ei gyhoeddi yn 2019 - aeth ymlaen i sicrhau ei le ar Restr Fer Gwobrau Tir na n-Og 2020 ac ar restr fer gwobr newydd sbon Llyfr y Flwyddyn i blant a phobl ifanc yn yr un flwyddyn. Not bad eh? Ond wrth i mi feddwl am y cwestiwn, mae’r ateb yn syml. Sut allwch chi wella ar y llyfr cyntaf? Wel, ychwanegu ato gyda chyfrol arall yn llawn o ferched anhygoel siŵr iawn! Genod Gwych 2 Dyma lyfrau hynod o ddefnyddiol ac amlbwrpas, sy’n haeddu eu lle ar unrhyw silff lyfrau, boed hynny yn y cartref neu’r ysgol. Fel y dywedais am y gyfrol gyntaf, peidiwch â meddwl mai llyfr i enethod yn unig yw hwn. Bydd bechgyn, yn ogystal â merched yn buddio o ddarllen y llyfr hwn, a chael eu sbarduno a’u hysbrydoli gan rai o enwogion benywaidd Cymru’r gorffennol a heddiw. Mwy am y Merched Be dwi’n licio fwyaf am lyfrau ffeithiol fel hyn yw’r cymysgedd a’r amrywiaeth sydd i’w cael rhwng y cloriau. Mae’n rhyfeddol, o ystyried pa mor fach yw Cymru, ein bod wedi cynhyrchu cymaint o dalent! Mae’n debyg mai un o’r pethau anoddaf am waith yr awdur oedd dethol pa ferched i’w cynnwys a pha rai i’w hepgor! Gallwch ddarganfod mwy am y broses o roi’r llyfr at ei gilydd yng nghefn y llyfr, lle mae Q&A rhwng yr awdur a rhai o’r darllenwyr. Diddorol iawn. Yn ogystal â’r enwogion adnabyddus megis Shirley Bassey, mae’n dda dysgu mwy am fenywod llai adnabyddus, ond sydd wedi gwneud cyfraniadau sydd yr un mor werthfawr. Tybiaf y bydd pawb sy’n darllen y llyfr yma’n dysgu rhywbeth newydd, neu’n darllen am ferch ryfeddol nad oeddent yn ymwybodol ohoni ynghynt. Yn sicr, fe wnes i ddysgu am straeon merched ysbrydoledig nad oeddwn i’n gwybod amdanynt, fel Ann Pettitt, yr ymgyrchydd heddwch o Sir Gaerhirfryn a’r Athro Meena Upadhyaya, y gwyddonydd a’r ymchwilydd geneteg. Mae’n braf fod y merched yma’n cael cydnabyddiaeth am eu cyfraniadau. Does ’na ddim lle yn y blogiad yma i drafod pob merch yn unigol, ac mi fasa hi’n amhosib dewis ‘ffefryn’ o’r casgliad. Beth sy’n amlwg yw bod cyfraniadau’r merched yn wahanol ac yn unigryw, ond yr un mor bwysig. Rhain yw’r merched rhyfeddol sydd wedi eu cynnwys yn y gyfrol yma: Vulcana Ann Pettitt Cranogwen Lowri Morgan Mary Vaughan Jones Rachel Rowlands Margaret Haig Thomas Annie Atkins Mary Quant Shirley Bassey Lucy Thomas Yr Athro Meena Upadhyaya Dyma lyfr sy’n destament i lwyddiannau’r merched ac mae’n ffordd hyfryd o’u hanrhydeddu, drwy eu cyflwyno i’r genhedlaeth nesaf o ferched medrus. Y gobaith yw, wrth gwrs, y bydd eu straeon yn ysbrydoli merched (a bechgyn) Cymru’r dyfodol i wneud pethau anhygoel, ac y bydd eu gorchestion nhw yn llenwi sawl cyfrol arall o’r gyfres yma yn y dyfodol! “Nid yn unig mae’r llyfr lliwgar yn byrlymu â ffeithiau diddorol, ond mae hefyd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau i ddiddanu’r darllenwr.” Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £5.99 ISBN: 978-1-180099-055-5 “Mentraf ddweud bod y llyfr yma wedi gwella ar y gyfrol gyntaf. Enghraifft o hyn yw cynnwys ambell i ffotograff go iawn i gyfoethogi’r gwaith arlunio cartŵn modern Telor Gwyn.”

  • Ga' i fyw adra? - Haf Llewelyn

    *For English review, see language toggle switch on top of page* Nofel sydd wedi ei gosod yn ystod gaeaf garw 1981, cyfnod pan oedd prisiau tai yn codi a phobl ifanc ardaloedd gwledig Cymru yn methu prynu tai yn eu bröydd Oed darllen: 10+ Oed diddordeb: 9-16+ Genre: #ffuglen #hanes #Cymru #gwleidyddiaeth #cenedlaetholdeb "Doedden nhw byth yn trafod dim fel hyn o gwmpas y bwrdd adre, dim ond gwrando ar Dad yn dweud ei farn. Gwyddai Gwion oddi wrth dawelwch ei fam nad oedd hi'n cytuno weithiau, ond dewis aros yn dawel fyddai hi. Wyddai Gwion ddim pam." Dwi’m yn cofio’r tro diwethaf i mi ddarllen llyfr a wnaeth i mi deimlo cymaint o wahanol emosiynau â llyfr newydd Haf Llewelyn. Fel person (gweddol) ifanc, mae’r pwnc dan sylw yn agos at fy nghalon ac roeddwn i’n llythrennol yn gweiddi ar brydiau wrth ddarllen, yn symud rhwng ocheneidiau o ryddhad un foment ac yna’n diawlio’r funud nesaf. Fel yr awgrymir gan y teitl, mae’r llyfr yn cyfeirio at bwnc llosg (idiom go addas yn yr achos yma) sy’n hynod o bwysig ar hyn o bryd, ac er mai ym 1981 y gosodwyd y nofel, mae hi’n hynod o berthnasol i ni heddiw. Mae Dafydd a Llinos, fel nifer o gyplau ifanc, yn awyddus i fyw yn eu bro, yn hen gartref Nain Dafydd, Tŷ’n Drain. A hithau’n gorfod symud i gartref henoed, mae’r hen wraig yn awyddus i basio’r awenau ymlaen i’r cwpwl ifanc. Yn anffodus, mae gan ewythr di-egwyddor Dafydd syniadau gwahanol wrth iddo sylweddoli y gallai wneud ei ffortiwn drwy werthu’r bwthyn fel tŷ haf – rhywbeth a fyddai’n mynd yn hollol groes i ddymuniadau Nain. Yn anffodus, dyma sefyllfa sy’n gyfarwydd ar draws ein cymunedau. Yn yr achos yma, mae’n ddigon i greu rhwyg mawr yn nheulu Llinos a Dafydd, wrth i rai gychwyn ffraeo ac i eraill gael eu dal yn ei chanol hi wrth geisio cadw’r heddwch. Mae rhwystredigaeth a siom y cwpwl ifanc yn amlwg, ac wrth i’r tensiwn rhwng y cymeriadau gynyddu drwy’r nofel, mae’r sefyllfa yn barod i ffrwydro! Daeth sawl llinyn storïol at ei gilydd yn y nofel, ac roedd yr awdur yn gelfydd wrth fynd ati i ddangos yr ‘amrywiaeth caleidosgopig’ o safbwyntiau, a hynny jest o fewn un teulu, a sut y caiff pob un eu heffeithio’n wahanol gan y sefyllfa. Cawn hefyd flas ar fywyd yng nghyfnod Meibion Glyndŵr, y mudiad cenedlaetholgar dirgel sy’n gwrthwynebu’r tai haf. Wrth i’r Heddlu fynd yn fwy despret i ddod o hyd i’r rhai sy’n gyfrifol am losgi’r tai, does neb tu hwnt i amheuaeth ac fe geir cryn dipyn o bwyntio bys a chyhuddo... Roedd y llwynog yn thema gyson drwy’r llyfr, gyda nifer o gyfeiriadau at gerdd enwog R. Williams Parry. Yn debyg iawn i’r Meibion, sy’n gweithredu’n gyfrwys ac yn ddistaw yn y cysgodion fin nos, mae’r ddelwedd o’r llwynog yn addas iawn yma. Wrth ddarllen, roeddwn yn cydymdeimlo â Dafydd a Llinos, oedd jest eisiau byw a magu teulu ym mro eu mebyd, a bod y cyfle yn greulon o agos - ond eto mor bell i ffwrdd o’u gafael. Mae penbleth y cwpl ifanc yn codi cwestiwn mawr - oes gennym ni hawl sylfaenol i fyw adra? Rydym wedi dod yn bell ers dyddiau llosgi adeiladau i wneud safiad, ac o bosib, trwy ddulliau deialog ystyrlon ac agored gyda’r rhai mewn grym mae sicrhau gwir newid. Mae’n galonogol fod ymgyrchoedd heddychlon fel ‘Hawl i Fyw Adra’ wedi agor ddeialog gyda’r Llywodraeth ar sut i fynd ati i ddatrys y broblem. Wedi dweud hynny, bydd sicrhau newid go iawn yn broses hir, sy’n fawr o gysur i’r rheiny sydd angen tŷ rŵan. Yn y cyfamser felly, mae’r cwestiwn o ‘ga i fyw adra?’ yn parhau... Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £7.95 ISBN: 9781845278250 EWCH I DDYSGU MWY AM YMGYRCH HAWL I FYW ADRA... https://www.facebook.com/hawlifywadra/

  • Y Soddgarŵ - Manon Steffan Ros

    *For English review, see language toggle switch* Paid â mynd i'r goedwig! dywedodd pawb. Yn fan'na mae'r Soddgarŵ yn byw! Ro'n i'n gwybod y ffordd drwy'r caeau, felly i ffwrdd â fi… Addas: 3-7 Genre: #cyfeillgarwch #ffuglen #caredigrwydd #empathy Empathy Lab Yn ddiweddar iawn, cefais i’r fraint o gydweithio gyda menter Empathy Lab UK, sy’n gweithio gydag ysgolion, llyfrgelloedd, cyhoeddwyr ac awduron i ddefnyddio pŵer llyfrau i ddatblygu a rhannu sgiliau empathi gyda phlant a phobl ifanc. Am y tro cyntaf eleni, fe wnaethon nhw ryddhau casgliad Cymraeg o lyfrau arbennig sy’n taro’r nod hwn. Fel rhan o’m gwaith ar y panel beirniadu Cymraeg, mi ddes i ar draws llyfr bach quirky a gafodd ei ryddhau yn 2021. Mae cymaint o lyfrau yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol, mae’n rhaid fy mod i wedi ei fethu pan ddaeth allan. Beth sy’n saff i’w ddweud yw, ei fod yn llawn haeddu ei le yn y casgliad empathi. I weld y casgliad cyflawn, dilynwch y linc yma: https://irp.cdn-website.com/b2f3fbc2/files/uploaded/WELSH%20EMPATHYLAB%20GUIDE-%20signed%20off.pdf Soddgarŵ – be di un o’r rheiny dwa? Dyma stori am greadur mawr rhyfedd sy’n byw mewn coedwig ac mae pobl y pentref yn rhybuddio merch fach i gadw draw oddi wrtho. Mae’r bobl yn erbyn yr anifail am ei fod o’n cael ei feio am bob math o bethau fel dwyn bwyd. Y gwir yw, maen nhw’n ei ofni gan ei fod yn greadur mor wahanol. Doedd gan y ferch fach ddim ofn o gwbl, ac i ffwrdd a hi am y goedwig i’w gyfarfod. Ar ôl treulio amser yn dod i’w nabod, fe ddaw’r ferch fach i sylweddoli nad yw’r creadur yn rhywbeth i’w ofni – dim ond trio byw mae o. Ar ôl cael y bai gan y pentrefwyr am ddwyn bwyd, mae’r ferch yn helpu’r Soddgarŵ i ffeindio ffynhonnell newydd o fwyd – bîns. Lot a lot o fîns. Erbyn diwedd y llyfr, mae’r Soddgarŵ a’r ferch wedi ffurfio cyfeillgarwch ac mae’r pentrefwyr wedi dechrau dod i dderbyn y creadur. Prif neges y llyfr Heblaw’r ffaith fod creaduriaid rhyfeddol yn hoff iawn o ffa pob, dwi’n meddwl mai prif neges y llyfr yw ‘peidiwch ag ofni’r hyn nad ydych yn ei ddeall.’ Dyma neges bwysig iawn i blant ifanc, sy’n mynd i fod yn dod ar draws pob math o sefyllfaoedd ac unigolion newydd ac amrywiol. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud amser i ddod i nabod pobl ac yn rhoi cyfle iddyn nhw gan beidio â rhagfarnu. Dipyn bach o trivia... Wnes i ddim sylwi mai canlyniad cystadleuaeth gan yr Urdd a’r Cyngor Llyfrau oedd y llyfr. Lily Mŷrennyn, artist ifanc o’r Rhondda, oedd enillydd y gystadleuaeth arbennig i ffeindio talent newydd ym maes arlunio llyfrau plant. Roedd y dasg yn gofyn i arlunwyr ifanc rhwng 18-25 oed baratoi gwaith celf wreiddiol i gyd-fynd â stori a ysgrifennwyd gan yr anhygoel Manon Steffan Ros. I fod yn onest, dydw i’n deall dim am ddarlunio llyfrau plant, ond dwi’n gallu gwerthfawrogi gwaith celf da. Dwi’n cytuno pob gair gyda beirniad y gystadleuaeth, Derek Bainton, sy’n dweud y canlynol am waith Lily: “Dyma artist sy’n dangos dealltwriaeth, hyder a meistrolaeth ar y grefft o greu naratif drwy lun. Mae’r gwaith celf yn neilltuol o gain, ac yn cyfuno nifer o sgiliau medrus fel technegau traddodiadol a digidol. Mae naws bersonol a chynnes i’r palet lliw, sy’n clymu’r cyflwyniad at ei gilydd yn hyfryd mewn modd cydlynus, proffesiynol a gwreiddiol.” Dwi’n falch iawn o weld cystadleuaeth gyffrous, newydd yn rhan o Eisteddfod yr Urdd, yn enwedig gan eu bod yn rhoi platfform i arlunwyr newydd talentog sydd yma yng Nghymru. Bydd hi’n ddiddorol iawn gweld allbwn y gystadleuaeth yma yn y blynyddoedd nesaf… Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £6.99

© 2019 Sônamlyfra. Proudly created with Wix.com.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon

Menter gwirfoddol yw Sôn am Lyfra sy’n darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i sgyrsiau a thrafodaethau am lyfrau. Rydym yn gweithredu’n gwbl annibynnol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.  Bydd eich rhodd yn help i ni gynnal y gwasanaeth.

 

Sôn am Lyfra is a voluntary venture that provides bilingual reviews for Welsh children and young people’s books. It shall also be a platform for conversations and discussions about books. We operate totally independently and we appreciate any donations that help us to achieve our goals. Your kindness will help us maintain the Service.

bottom of page