♥ Enillydd Gwobrau Tir na n-Og 2022: Uwchradd♥
Genre: #arddegau #ffuglen #materioncyfredol
(awgrym) Oed darllen: 14+
(awgrym) Oed diddordeb: 14+
(mae 'na themau all beri gofid i rai, ac efallai na fydd pawb yn cytuno, ond ar y cyfan, rydym yn teimlo y bydd y nofelau yn briodol i oed 14+, yn dibynnu ar y darllenwr, wrth gwrs)
Y gyfres
Arloesol. Uchelgeisiol. Ac yn bwysicach na hynny - authentic. Dim ond rhai o’r geiriau dwi’n eu cysylltu â’r prosiect yma. Hyd y gwn i, does dim byd o’i fath wedi cael ei wneud yn y Gymraeg, ac mae’n arwain y ffordd ar gyfer sut y dylid cyhoeddi a marchnata llyfrau i bobl ifanc arddegau/OI wrth symud ymlaen. Pan gyhoeddwyd y llyfrau, roedd cryn dipyn o waith marchnata yn cael ei wneud ar y cyfryngau cymdeithasol, fel tudalen Insta newydd ar gyfer #YPump a defnyddio platfformau fel AM i rannu y cynnwys e.e. rhestrau chwarae sy’n gysylltiedig â’r nofelau.
Babi Elgan Rhys yw’r gyfres, ac mae’n cynnwys 5 nofel unigryw am 5 person ifanc arbennig iawn. Yr hyn sydd wirioneddol yn gyffrous am y gyfres, fodd bynnag, yw bod awduron cyhoeddedig, profiadol wedi cyd-weithio a chyd ysgrifennu’r nofelau gyda phobl ifanc ac awduron newydd y dyfodol sydd wedi byw rhai o’r profiadau.
Am syniad da, i gael awduron ifanc Cymru yn meithrin a mentora’r genhedlaeth nesaf o awduron ifanc. Drwy gydweithio yn y fath fodd, ’da ni’n sicrhau bod y straeon yn onest ac yn genuine, gan gyflwyno materion a phrofiadau go iawn mewn ffordd real a chredadwy (yn hytrach na chael awduron yn ysgrifennu am bynciau nad oes ganddynt unrhyw brofiad ohonynt). Does ‘na ddim byd mwy crinj, na hen bobl yn trio swnio’n cŵl ac yn ‘down with the kids.’ Yn ffodus, does ‘na ddim o hynny yma, dim ond lleisiau pobl ifanc go iawn.
Mae’r elfen o gydweithio rhwng yr awduron yn gyffrous, ac yn rhywbeth y dylid gwneud mwy ohono wrth symud ymlaen, yn enwedig wrth daclo pynciau heriol. Beth sydd hefyd yn werth ei gofio ydi, bod yr awduron a’r golygyddion wedi llwyddo i wneud y gwaith cydweithredol i gyd o dan amgylchiadau anarferol iawn yng nghanol y pandemig a dylai hyn fod yn destun balchder i bawb fu ynghlwm â’r prosiect.
Pwy yw’r Pump?
Mae’r gyfres yn dilyn bywydau pum ffrind ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Llwyd sy’n rhoi sylw i rai o’r cymhlethdodau sy’n codi wrth fod yn berson ifanc yn yr oes sydd ohoni. Dilynwn hanesion Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat wrth iddyn nhw gwrdd, a dod at ei gilydd i ffurfio criw Y Pump. Dyma grŵp o bobl ifanc sydd wedi cael eu hymylu yn gymdeithasol braidd, gan nad ydynt efallai yn ffitio’r label o beth sy’n cael ei ystyried yn ‘normal’ (hen air afiach!).
Caiff pob cymeriad eu novella 20,000 o eiriau eu hunain (sy’n seis da ar gyfer nofel OI yn fy marn i - dim rhy fyr, dim rhy hir). Mae pob nofel yn sefyll yn gadarn ar eu pen eu hunain ond, yn debyg iawn i griw Y Pump, teimlaf fod y gyfres ar ei chryfaf pan maen nhw gyda'i gilydd.
Cymeriadau unigryw ac arbennig yw giang Y Pump, ac mae’r nofelau yn taflu goleuni ar rai o’r materion cyfoes sy’n bwysig i bobl ifanc heddiw, yn ogystal â bod yn ddathliad o’r amrywiaeth sydd i’w weld yng Nghymru fodern yr 21ain ganrif. Er y cyflwynir themâu fel iechyd meddwl, hil, rhywedd ac iselder i enwi ond rhai, llwydda’r nofelau i osgoi bod yn bregethwrol, a phrofiadau’r cymeriadau a’u perthynas gyda’i gilydd sydd wrth wraidd pob un.
Cyflwynir y nofelau ar ffurf y person cyntaf, ac mae’n hynod ddiddorol gweld y byd drwy lygaid y cymeriadau gwahanol, a sut maent yn rhyngweithio gyda’i gilydd. Mae pob cymeriad yn dod a phersbectif a dimensiwn arall i’r pair.
Trefn a throsolwg o’r nofelau:
1. Tim – Elgan Rhys a Tomos Jones
2. Tami – Mared Roberts a Ceri-Anne Gatehouse
3. Aniq – Marged Elen Wiliam a Mahum Umer
4. Robyn – Iestyn Tyne a Leo Drayton
5. Cat – Megan Angharad Hunter a Maisie Awen
Mae nofelau 4 a 5 yn rhai o berlau’r gyfres yn fy marn i. Er ei bod hi’n gwbl bosib mwynhau unrhyw un o’r straeon fel rhai stand-alone, mae’n debyg mai fel rhan o gyfres (ac yn eu trefn) yw’r ffordd gorau i’w darllen. Mae’n dipyn o fargen hefyd, achos fe gewch chi’r 5 llyfr mewn bocs-set snazzy am £25!
Athrawon - os ydych chi’n dysgu Cymraeg yn yr ysgol uwchradd, plîs ystyriwch ddarllen y nofelau yma gyda’ch dosbarthiadau.
Tir Na n-Og
Llongyfarchiadau i bawb fu’n rhan o’r prosiect ar eich llwyddiant yn y Gwobrau Tir na n-Og 2022. Roedd y beirniaid yn teimlo mai’r gyfres oedd yn haeddu mynd a’r wobr, yn hytrach na llyfr unigol ac o bosib, mae’r ffaith bod cyfres wedi dod i’r brig yn first ar gyfer y gwobrau.
Da iawn i’r awduron, cyd-awduron, golygyddion, mentorwyr, marchnatwyr ac i’r wasg am gymryd chance a rhoi cyfle i’r syniad. Roedd hi’n fraint bod yn seremoni datgelu’r enillwyr ar Faes Eisteddfod yr Urdd, Sir Ddinbych. Ron i’n gallu gweld cymaint roedd y wobr yn golygu i bob un o’r criw oedd yn bresennol. Edrych ymlaen i weld prosiectau’r dyfodol gan griw awduron #YPump.
Comments