top of page

Genod Gwych a Merched Medrus 2 - Medi Jones-Jackson

*For English review, see language toggle switch on top of page*


Cyfle i ddod i adnabod 12 o ferched ysbrydoledig ac uchelgeisiol.

♥Llyfr y Mis i blant: Medi 2021♥


(awgrym) Oed darllen: 7+

(awgrym) Oed diddordeb: 6-14+

 

O ystyried llwyddiant y llyfr cyntaf, Genod Gwych a Merched Medrus, anodd ydi meddwl sut y gallai’r awdur, Medi Jones-Jackson, fod wedi gwella ar yr hyn sydd mewn print yn barod. Cafodd y llyfr cyntaf gryn dipyn o sylw ar ôl ei gyhoeddi yn 2019 - aeth ymlaen i sicrhau ei le ar Restr Fer Gwobrau Tir na n-Og 2020 ac ar restr fer gwobr newydd sbon Llyfr y Flwyddyn i blant a phobl ifanc yn yr un flwyddyn. Not bad eh?


Ond wrth i mi feddwl am y cwestiwn, mae’r ateb yn syml. Sut allwch chi wella ar y llyfr cyntaf? Wel, ychwanegu ato gyda chyfrol arall yn llawn o ferched anhygoel siŵr iawn!


Genod Gwych 2

Dyma lyfrau hynod o ddefnyddiol ac amlbwrpas, sy’n haeddu eu lle ar unrhyw silff lyfrau, boed hynny yn y cartref neu’r ysgol. Fel y dywedais am y gyfrol gyntaf, peidiwch â meddwl mai llyfr i enethod yn unig yw hwn. Bydd bechgyn, yn ogystal â merched yn buddio o ddarllen y llyfr hwn, a chael eu sbarduno a’u hysbrydoli gan rai o enwogion benywaidd Cymru’r gorffennol a heddiw.


Mwy am y Merched

Be dwi’n licio fwyaf am lyfrau ffeithiol fel hyn yw’r cymysgedd a’r amrywiaeth sydd i’w cael rhwng y cloriau. Mae’n rhyfeddol, o ystyried pa mor fach yw Cymru, ein bod wedi cynhyrchu cymaint o dalent! Mae’n debyg mai un o’r pethau anoddaf am waith yr awdur oedd dethol pa ferched i’w cynnwys a pha rai i’w hepgor! Gallwch ddarganfod mwy am y broses o roi’r llyfr at ei gilydd yng nghefn y llyfr, lle mae Q&A rhwng yr awdur a rhai o’r darllenwyr. Diddorol iawn.



Yn ogystal â’r enwogion adnabyddus megis Shirley Bassey, mae’n dda dysgu mwy am fenywod llai adnabyddus, ond sydd wedi gwneud cyfraniadau sydd yr un mor werthfawr. Tybiaf y bydd pawb sy’n darllen y llyfr yma’n dysgu rhywbeth newydd, neu’n darllen am ferch ryfeddol nad oeddent yn ymwybodol ohoni ynghynt. Yn sicr, fe wnes i ddysgu am straeon merched ysbrydoledig nad oeddwn i’n gwybod amdanynt, fel Ann Pettitt, yr ymgyrchydd heddwch o Sir Gaerhirfryn a’r Athro Meena Upadhyaya, y gwyddonydd a’r ymchwilydd geneteg. Mae’n braf fod y merched yma’n cael cydnabyddiaeth am eu cyfraniadau.



Does ’na ddim lle yn y blogiad yma i drafod pob merch yn unigol, ac mi fasa hi’n amhosib dewis ‘ffefryn’ o’r casgliad. Beth sy’n amlwg yw bod cyfraniadau’r merched yn wahanol ac yn unigryw, ond yr un mor bwysig. Rhain yw’r merched rhyfeddol sydd wedi eu cynnwys yn y gyfrol yma:

  1. Vulcana

  2. Ann Pettitt

  3. Cranogwen

  4. Lowri Morgan

  5. Mary Vaughan Jones

  6. Rachel Rowlands

  7. Margaret Haig Thomas

  8. Annie Atkins

  9. Mary Quant

  10. Shirley Bassey

  11. Lucy Thomas

  12. Yr Athro Meena Upadhyaya

Dyma lyfr sy’n destament i lwyddiannau’r merched ac mae’n ffordd hyfryd o’u hanrhydeddu, drwy eu cyflwyno i’r genhedlaeth nesaf o ferched medrus. Y gobaith yw, wrth gwrs, y bydd eu straeon yn ysbrydoli merched (a bechgyn) Cymru’r dyfodol i wneud pethau anhygoel, ac y bydd eu gorchestion nhw yn llenwi sawl cyfrol arall o’r gyfres yma yn y dyfodol!


“Nid yn unig mae’r llyfr lliwgar yn byrlymu â ffeithiau diddorol, ond mae hefyd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau i ddiddanu’r darllenwr.”


 

Gwasg: Y Lolfa

Cyhoeddwyd: 2021

Pris: £5.99

ISBN: 978-1-180099-055-5

 
“Mentraf ddweud bod y llyfr yma wedi gwella ar y gyfrol gyntaf. Enghraifft o hyn yw cynnwys ambell i ffotograff go iawn i gyfoethogi’r gwaith arlunio cartŵn modern Telor Gwyn.”


bottom of page