top of page

Y Soddgarŵ - Manon Steffan Ros

*For English review, see language toggle switch*


Paid â mynd i'r goedwig! dywedodd pawb. Yn fan'na mae'r Soddgarŵ yn byw! Ro'n i'n gwybod y ffordd drwy'r caeau, felly i ffwrdd â fi…



Addas: 3-7

 

Empathy Lab


Yn ddiweddar iawn, cefais i’r fraint o gydweithio gyda menter Empathy Lab UK, sy’n gweithio gydag ysgolion, llyfrgelloedd, cyhoeddwyr ac awduron i ddefnyddio pŵer llyfrau i ddatblygu a rhannu sgiliau empathi gyda phlant a phobl ifanc. Am y tro cyntaf eleni, fe wnaethon nhw ryddhau casgliad Cymraeg o lyfrau arbennig sy’n taro’r nod hwn.


Fel rhan o’m gwaith ar y panel beirniadu Cymraeg, mi ddes i ar draws llyfr bach quirky a gafodd ei ryddhau yn 2021. Mae cymaint o lyfrau yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol, mae’n rhaid fy mod i wedi ei fethu pan ddaeth allan. Beth sy’n saff i’w ddweud yw, ei fod yn llawn haeddu ei le yn y casgliad empathi. I weld y casgliad cyflawn, dilynwch y linc yma: https://irp.cdn-website.com/b2f3fbc2/files/uploaded/WELSH%20EMPATHYLAB%20GUIDE-%20signed%20off.pdf


Soddgarŵ – be di un o’r rheiny dwa?


Dyma stori am greadur mawr rhyfedd sy’n byw mewn coedwig ac mae pobl y pentref yn rhybuddio merch fach i gadw draw oddi wrtho. Mae’r bobl yn erbyn yr anifail am ei fod o’n cael ei feio am bob math o bethau fel dwyn bwyd. Y gwir yw, maen nhw’n ei ofni gan ei fod yn greadur mor wahanol.


Doedd gan y ferch fach ddim ofn o gwbl, ac i ffwrdd a hi am y goedwig i’w gyfarfod. Ar ôl treulio amser yn dod i’w nabod, fe ddaw’r ferch fach i sylweddoli nad yw’r creadur yn rhywbeth i’w ofni – dim ond trio byw mae o.


Ar ôl cael y bai gan y pentrefwyr am ddwyn bwyd, mae’r ferch yn helpu’r Soddgarŵ i ffeindio ffynhonnell newydd o fwyd – bîns. Lot a lot o fîns.


Erbyn diwedd y llyfr, mae’r Soddgarŵ a’r ferch wedi ffurfio cyfeillgarwch ac mae’r pentrefwyr wedi dechrau dod i dderbyn y creadur.


Prif neges y llyfr

Heblaw’r ffaith fod creaduriaid rhyfeddol yn hoff iawn o ffa pob, dwi’n meddwl mai prif neges y llyfr yw ‘peidiwch ag ofni’r hyn nad ydych yn ei ddeall.’ Dyma neges bwysig iawn i blant ifanc, sy’n mynd i fod yn dod ar draws pob math o sefyllfaoedd ac unigolion newydd ac amrywiol. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud amser i ddod i nabod pobl ac yn rhoi cyfle iddyn nhw gan beidio â rhagfarnu.



Dipyn bach o trivia...


Wnes i ddim sylwi mai canlyniad cystadleuaeth gan yr Urdd a’r Cyngor Llyfrau oedd y llyfr. Lily Mŷrennyn, artist ifanc o’r Rhondda, oedd enillydd y gystadleuaeth arbennig i ffeindio talent newydd ym maes arlunio llyfrau plant.


Roedd y dasg yn gofyn i arlunwyr ifanc rhwng 18-25 oed baratoi gwaith celf wreiddiol i gyd-fynd â stori a ysgrifennwyd gan yr anhygoel Manon Steffan Ros.


I fod yn onest, dydw i’n deall dim am ddarlunio llyfrau plant, ond dwi’n gallu gwerthfawrogi gwaith celf da. Dwi’n cytuno pob gair gyda beirniad y gystadleuaeth, Derek Bainton, sy’n dweud y canlynol am waith Lily:


“Dyma artist sy’n dangos dealltwriaeth, hyder a meistrolaeth ar y grefft o greu naratif drwy lun. Mae’r gwaith celf yn neilltuol o gain, ac yn cyfuno nifer o sgiliau medrus fel technegau traddodiadol a digidol. Mae naws bersonol a chynnes i’r palet lliw, sy’n clymu’r cyflwyniad at ei gilydd yn hyfryd mewn modd cydlynus, proffesiynol a gwreiddiol.”

Dwi’n falch iawn o weld cystadleuaeth gyffrous, newydd yn rhan o Eisteddfod yr Urdd, yn enwedig gan eu bod yn rhoi platfform i arlunwyr newydd talentog sydd yma yng Nghymru. Bydd hi’n ddiddorol iawn gweld allbwn y gystadleuaeth yma yn y blynyddoedd nesaf…



 

Gwasg: Atebol

Cyhoeddwyd: 2021

Pris: £6.99

 

25 views0 comments
bottom of page