top of page

Siani Pob Man - Valériane Leblond a Morfudd Bevan

*For English, see language toggle switch*


(awgrym) oed darllen: 6+

(awgrym) oed diddordeb: 4+

 

Dyma lyfr newydd gan Valériane Leblond. Efallai eich bod chi’n gyfarwydd â gwaith celf Valériane ar ôl darllen ei llyfr hyfryd Y Cwilt. Mae’r llyfr yma, Siani Pob Man, yr un mor drawiadol ac yn nodweddiadol o waith celf gain a sylwgar Valériane. Mae lliwiau’r gynfas yn ein hatgoffa’n gryf o dywod y traeth, ac fe gewch chi wybodaeth ddiddorol yng nghefn y llyfr am y broses o beintio’r darluniau. Awdur y testun yw Morfudd Bevan, curadur yn y Llyfrgell Genedlaethol, sydd â chysylltiadau a'r ardal.


Cyn darllen y stori, mi wnâi gyfaddef, wnes i ddim sylweddoli mai stori am hanes person go iawn oedd hon. Roedd Jane Leonard, neu ‘Siani Bob Man’ fel yr oedd hi’n cael ei hadnabod, yn gymeriad adnabyddus o ardal Cei Bach, Ceredigion ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.


Yn aml iawn, byddai Siani i’w gweld yn eistedd tu allan i’w bwthyn gwyngalchog ger y traeth, yn amlach na pheidio, gyda’i ieir. Yn dipyn o gymeriad ecsentrig, daeth yn boblogaidd gydag ymwelwyr ac yn ôl y sôn, byddai’n canu rhigymau neu’n dweud ffortiwn yr ymwelwyr, yn ogystal â gwerthu cardiau post.



Mae hi mor bwysig ein bod ni’n cofio unigolion hynod fel Siani Pob Man, ac maen nhw’n rhan bwysig o’n hanes lleol. Fedra i feddwl am ambell i gymeriad lleol o fy ardal i sydd bellach wedi’n gadael ni, a does neb fawr callach eu bod nhw erioed wedi bod. Dwi’n falch felly, bod yr awdur wedi penderfynu rhannu’r stori yma, i sicrhau bod stori Siani Pob Man yn parhau drwy’r oesoedd wrth i ni ddarllen amdani.



Diolch i waith ymchwil dyfal yr awdur a gwaith celf Valériane sy’n dod â’r stori’n fyw, mae hanes Siani’n cael ei rannu gyda gweddill Cymru, tu hwnt i ardal Ceredigion. Yn sicr, mae darllen y llyfr yn esgus da i ymweld â.Chei Newydd tro nesaf dwi’n yr ardal.



 

Gwasg: Y Lolfa

Fformat: Clawr Caled

Cyhoeddwyd: 2022

Pris: £7.99

 


bottom of page