top of page

Dirgelwch y Dieithryn - Elgan Philip Davies

*For English see language toggle switch*


(awgrym) oed darllen: 8+

(awgrym) oed diddordeb: 7+

 

Disgrifiad Gwales


Pan mae Iwan, Mair a’i ffrindiau’n gweld dyn dieithr, blin yn y tŷ gwag wrth y parc maen nhw’n gwybod yn syth beth yw e – lleidr! Eu tasg nhw dros wyliau’r haf yw ei ddal. Rhaid cael cynllun, a hynny ar unwaith – ymunwch â’r ffrindiau yn eu hantur gyffrous!

 


ADOLYGIAD GAN ELA GRIFFITH, BLWYDDYN 9, YSGOL Y CREUDDYN



Mae’r llyfr Dirgelwch y Dieithryn gan Elgan Philip Davies yn llyfr gwych llawn antur a hwyl. Mae’r llyfr yn wych i deuluoedd neu i ddarllen yn annibynnol . Yn fy marn i byddwn yn argymell ar gyfer yr oedran 6 - 11 oed oherwydd mae’n fyr ac yn hawdd i ddarllen.


Mae’r stori wedi cael ei lleoli yn ardd un o’r ffrindiau ac yn dilyn Iwan, Mair a’i ffrindiau wrth iddynt gael profiad nad ydynt wedi ei gael o’r blaen. Mae dyn newydd dieithr wedi cyrraedd, ond mae yna rhywbeth amheus ynghylch y dyn yma. Ydy o’n leidr ? Ydy o’n droseddwr ? Ydy o’n fôr-leidr? Eu tasg nhw yw ei ganfod ac ei ddal!


Fy hoff gymeriad yw Mair oherwydd mae hi yn gymeriad tebyg i fi. Mae hi’n hoff iawn o antur ac yn benderfynol a phendant. Mae’n helpu Iwan a’i ffrindiau drio dal y dieithryn arswydus a chadw pawb yn saff!


Yr unig beth negyddol am y llyfr yw dechrau deall y stori ar y cychwyn. Fel disgybl ym mlwyddyn 9 roeddwn yn teimlo fod y llyfr yn eithaf ifanc.

Ond pan rydych yn darllen fyddwch yn teimlo fel un o’r ffrindiau ac ar antur eich hun i geisio dal y dieithryn.

Felly darllenwch ‘Dirgelwch Y Dieithryn’ ac ymunwch hefo Iwan, Mair a’u ffrindiau ar eu hantur!



 

Gwasg: Y Lolfa

Cyhoeddwyd: 2021 (1993)

Cyfres: Gorau'r Goreuon

Pris: £5.99

ISBN: 9781800991378

 

Beth yw cyfres Gorau'r Goreuon?


fersiwn gwreiddiol 1993

GORAU’R GOREUON: CYFLWYNO TAIR STORI O’R GORFFENNOL I GYNULLEIDFAOEDD IFANC 2021

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn lansio tri theitl cyntaf Gorau’r Goreuon, detholiad o lyfrau ar gyfer plant a phobl ifanc. Bwriad Gorau’r Goreuon yw cyflwyno detholiad o lyfrau a ystyrir yn glasuron ym maes llenyddiaeth plant a phobl ifanc i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr.


Erthygl llawn:


 

MWY O LYFRAU YNG NGHYFRES GORAU'R GOREUON...



bottom of page