top of page

Y Mamoth Mawr - David Walliams [addas. Dewi Wyn Williams]

*For English review, see toggle switch*


(awgrym) oed darllen: 9-14

(awgrym) oed didordeb: 7+

 

Gwybodaeth am y llyfr:

Addasiad Cymraeg gan Dewi Wyn Williams o The Ice Monster gan David Walliams. Pan fo Elsi yn clywed bod mamoth o Begwn y Gogledd yn crwydro strydoedd y dre, mae hi'n benderfynol o ddarganfod mwy!

LLUNDAIN 1899 - Stori am berthynas plentyn amddifad deng mlwydd oed a mamoth deng mil o flynyddoedd oed ... Plentyn amddifad sy’n byw ar strydoedd Llundain yn Oes Fictoria yw Elsi. Pan mae’n clywed am y Mamoth Mawr – creadur gwlanog a ddarganfuwyd ym Mhegwn y Gogledd – mae hi’n benderfynol o ddarganfod mwy amdano ... Yn fuan, daw Elsi wyneb yn wyneb â’r mamoth hynafol, a dyma gychwyn antur fythgofiadwy – o Lundain, ar draws y moroedd mawr, i Begwn y Gogledd. Mae’r stori gyffrous hon yn dangos bod arwyr i’w cael ym mhob lliw a llun!

 


ADOLYGIAD GAN NEL GUEST, YSGOL Y CREUDDYN



Rydw i Nel wedi adolygu’r llyfr yma ar ôl i fy Athrawes Gymraeg Mrs Sioned Bevan ei argymell. Mae’r llyfr yn sôn am hogan ifanc amddifad o’r enw Elsi sydd yn byw ar strydoedd Llundain. Mae’n clywed pobl yn siarad am y Mamoth Mawr ac eisiau chwilota am fwy o wybodaeth. Yn y diwedd mae Elsi yn dod o hyd iddo ac mae rhywbeth anobeithiol yn digwydd..


Fy hoff ddarn o’r llyfr yw pan roedd hi’n bwrw glaw ac wnaeth Elsi ddringo peipen ddŵr i do yr amgueddfa ac roedd y dorf i gyd yn clapio a llongyfarch, dyna pryd wnes i fwynhau y llyfr mwyaf gan ei fod yn brofiad hwyliog. Mae’n ymddangos i mi mai fy hoff gymeriad oedd Dot y ddynes glanhau’r amgueddfa gan ei bod hi wedi ffeindio Elsi yn y cwpwrdd ac heb alw’r gwarchodwyr ac yn lle mi wnaeth hi wneud yn siŵr bod Elsi yn iawn ac edrych ar ei hol. Mi wnaeth y llyfr gadw’n ddiddorol gan fy mod eisiau gwybod beth oedd yn digwydd yn y diwedd gan ei fod yn stori mor anturus.


Yn fy marn i hoffais y llyfr llawer iawn ac roeddwn yn falch ei fod yn yr iaith Gymraeg felly roedd o’n haws i’w ddeall.

Credaf os ydych yn chwilio am lyfr hwylus, anturus, cyffrous a doniol dyma’r llyfr i chi!!



Mae 'na dipyn o waith darllen - llyfr swmpus!

 

Gwasg: Atebol

Cyhoeddwyd: 2020

Pris: £9.99

 



bottom of page