top of page

Chwilio

309 results found with an empty search

  • Y Diffeithwch Du ~ Bethan Gwanas (Y Melanai)

    *Scroll down for English & to leave comments* "Ffantasi ac antur. Brwydr i oroesi mewn tir estron." "Fantasy adventure. A battle for survival in strange lands." Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2018 ISBN: 978-1784616526 *Gwreiddiol Cymraeg ~ Welsh Original* Lefel: ❖ ❖ ❖ Iaith lafar, naturiol. Hawdd i'w ddarllen. (addas i ddysgwyr da) Spoken Welsh, easy to read. Suitable for learners. Genre: #antur #ffantasi #dyfodol #adventure #fantasy #future Wel, roeddwn i’n ysu i gael cychwyn Y Diffeithwch Du, sef ail nofel Bethan Gwanas yn y drioleg hynod o boblogaidd, Y Melanai. Roedd y nofel gyntaf yn ddigon clyfar i orffen ar cliffhanger fawr. Mae’r llyfr nesaf yn ail gydio’n syth, eiliadau wedi i ni weld y cymeriadau diwethaf. Yn gyfrwys iawn, mae’r awdur yn llwyddo i integreiddio crynodeb o’r antur hyd yma ar ddechrau’r stori er mwyn ein hatgoffa, ond mae’n digwydd mewn ffordd gwbl naturiol. Mae hynny’n golygu nad oes raid darllen y llyfr gyntaf (ond mi fyddwn i’n argymell i chi wneud!) Does dim angen i’r llyfr yma ein cyflwyno i’r cymeriadau, achos mae’r gwaith caled yma wedi ei wneud yn barod. Gall y llyfr yma fynd yn syth at y cyffro, wedi i Efa a’i chriw ddianc o Melania. Yn wir, er bod 'na gyfeiriadau tuag at eu mamwlad, nid ydym yn clywed mwy am drigolion Melania wedi’r seremoni fynd o chwith. Dwi’n ffeindio fy hun ar dân eisiau gweld ymateb y Frenhines wedi iddi sylweddoli fod ei merch wedi gwneud runner! Dwi’n siŵr bydd y pwynt yma’n cael sylw yn y drydedd nofel. Mae’r criw wedi dianc dros y moroedd, ac maen nhw on the run mewn gwlad anghyfarwydd, estron a pheryglus. Dyna yn y bôn yw prif linyn stori’r llyfr. Mae’n brawf o allu’r ffrindiau i gyd-weithio i ddygymod â sefyllfaoedd brawychus. Maen nhw’n trio cyrraedd ochr arall y diffeithwch du ond yn bennaf yn ceisio goroesi. Mae popeth yn eu herbyn. Mae’r ceffylau wedi eu hanafu ac mae Dalian yn ddifrifol wael. Tybed os allo ddod drwyddi? Wnâi ddim dweud mwy. Mae ‘na gymeriadau newydd yn cael eu cyflwyno yn y llyfr, ac roeddwn i’n falch o weld o leiaf un person yn dod i helpu’ grŵp, wrth iddynt ddioddef ymosodiad ar ôl ymosodiad gan greaduriaid dychrynllyd o bob math. Yn ogystal â’r anifeiliaid, mae’n rhaid iddynt ddelio gyda pheryglon o haint ac afiechyd ac mae hyd yn oed y dirwedd yn eu herbyn. (fel yr awgrymir gan y clawr effeithiol). Mae’r nofel yn dal sylw’r darllenydd drwyddi, ond o ddiwedd Pennod 19 hyd at ddiwedd y llyfr mae’r antur yn codi gêr. Mae’r tensiwn yn annioddefol wrth i ni ddisgwyl mewn distawrwydd i rywbeth ofnadwy ddigwydd: “Roedd Prad a Bilen wedi bod ar ddyletswydd ers bron i awr pan sylwodd Prad fod Brân wedi dechrau aflonyddu. Rhoddodd brociad sydyn i Efa. Deffrodd honno’n syth, sylweddoli mewn dim fod rhywbeth wedi gwneud y ceffylau’n nerfus. Funud yn ddiweddarach, roedd pawb yn gwbl effro ac yn craffu i berfeddion y goedwig.” Mae disgrifiadau o sŵn siffrwd y dail a phethau’n agosáu drwy’r coed yn fy atgoffa o Jurrassic Park, cyn i bethau fynd yn flêr. Scary stuff Bethan Gwanas. Dwi’n licio fo. Mae’r ail nofel yn ddidrugaredd efo’r cymeriadau ac yn eu gosod mewn sefyllfaoedd anobeithiol, dro ar ôl tro, ond rhywsut, mae eu cyfeillgarwch yn eu cadw’n fyw. Mwyaf sydyn, mae hi’n gorffen gyda darganfyddiad enfawr a fydd yn newid bywyd Efa a’i chriw am byth. Dwi dal ddim yn hollol siŵr os dwi’n hoff o’r ffaith fod y llyfr wedi ei osod yn y dyfodol ar ein daear ni, mae’n teimlo llawer mwy fel byd canoloesol neu ar blaned arall. Fy nheimladau personol i yw'r rhain. Mae’r awdur yn awgrymu mai ni’n hunain sy’n gyfrifol fod y ddaear wedi cyrraedd y stad yma yn y dyfodol. Mae’n awgrymu cyfnod ôl-dechnolegol yn y dyfodol lle mae’r bobl wedi mynd yn ôl i fyw oddi ar y tir mewn ffordd fwy cynaliadwy. Ydi’r awdur yn awgrymu mai dyma’r ffordd orau ymlaen i ni? Cryfder y nofelau yma yw’r cymeriadau a’r ffyrdd y maen nhw’n rhyngweithio a'i gilydd. Mae digon ohonynt i gadw pethau’n ddiddorol. Dwi’n falch iawn fod yr awdur yn portreadu'r merched fel cymeriadau cryf sy’n gallu amddiffyn eu hunain. Wrth gwrs, mae’r bechgyn yn helpu gyda hyn (achos nhw yw’r gwarchodwyr) ond mae’n braf gweld y merched yn arwain ac yn gofalu am eu hunain (a’r dynion ar brydiau) yn hytrach na sgrechian fel damsels in distress yn disgwyl am help. Mae rhai o’r themâu yn y llyfr yn mynd i apelio’n fawr at gynulleidfa yn eu harddegau, ond mae apêl ehangach i’r gyfres yma, a dwi wedi clywed am nifer o oedolion sydd wedi mwynhau’r llyfr yn fawr- gan gynnwys fi! Dwi’n hoffi’r syniad o roi sneak preview o’r llyfr nesaf ar y diwedd hefyd, i gael ni’n barod at y nesaf... Well, I couldn’t wait to get started on Y Diffeithwch Du, the second novel by Bethan Gwanas in the popular fantasy trilogy, Y Melanai. The First novel was clever enough to finish on a cliff-hanger. The next book immediately picks up where the last one left off. The author has Cleverly Managed to integrate a recap or summary of what’s happened so far into the start, so don’t worry if you missed the First novel, you can still enjoy this one. (although I do recommend you try and read them in order!) This book doesn’t need to introduce characters, so it can get straight to the action. And it does. They’ve just escaped from Melania. In fact, apart from a few mentions we don’t visit Melania at all in this book so we have no idea the look on the Queen’s face when she realises her daughter’s done a runner. I’d love to see her reaction; hopefully this will be addressed in the next book. The Young gang have fled over the seas and they’re on the run in a foreign and unforgiving new land. This is the main plot thread in the story. It’s a testament to the friends’ ability to work together to defeat the odds. They are trying to cross Y Diffeithwch Du (dark desert/wilderness), but ultimately, they are trying to survive. Everything is against them. The horses are injured and Dalian is gravely ill. Can they pull through? I won’t say anymore. New characters are introduced in the book, and I was glad to hear of at least one person who comes to their aid as they encounter attack after attack by strange and frightening creatures, both big and small. As well as animals on the loose, they must deal with the dangers of illness and infection with limited medical Supplies. With raging volcanoes around and steam vents, even the landscape has turned on them. The novel maintains the readers interest throughout and is well paced. From chapter 19 until the end of the novel things really move up a gear as the author ramps it up ready for the climax. The tension is unbearable as we wait in silence for something to happen (which we know inevitably will). The descriptions of rustling noises coming from the forest, as it draws nearer, reminds me a lot of Jurassic Park. The calm before the storm as it were. Quite scary stuff actually. I like it. This book is unrelenting and merciless with it’s characters as it puts them in several hopeless situations, but hopefully, their friendship will keep them alive. All of a sudden, the novel ends with a huge discovery that will possibly change their lives forever. I'm still not sure that I like the fact that the book is set in a future on our earth. It just feels more suited to a middle-earth type location or on another planet. This is just my opinion. The author, with some use of social commentary and moral lessons (I’m not that keen on; they’re a bit forced) suggests that it was our actions that resulted in this sort of post-technological future. At least humans have ditched their planet-destroying ways and have gone back to living off the earth in a more sustainable way. Is the author hinting that this could this be the best way forward for us as a species? The strength of this novel is its characters and the way they interact together. There’s a large cast which keep things interesting with plenty of variety. I’ m glad the author has chosen strong lead female characters who can defend themselves. Of course, the lads help out here (they are the protectors after all!) but it’s refreshing to see the girls leading and taking care of themselves. They are the stars here. This is much better and modern than the traditional damsel in distress routine. The themes such as young love etc. will appeal to the teenage audience, but the book has a wider appeal. I’ve heard of many adults, including Welsh learners, who have really enjoyed it – including me! I liked the idea of giving us a sneak preview of the next instalment to whet our appetite...

  • Na, Nel! ~ Meleri Wyn James

    *Scroll down for English & comments* Mewn brawddeg: Anturiaethau gyda'r ferch fach ddrygionus! In a nutshell: Adventures with a loveable but mischievous girl! Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2014 ISBN: 978-1-84771-895-2 *Gwreiddiol Cymraeg ~ Welsh Original* Lefel: ❖ Iaith hawdd/pennodau byr Easy, clear text/short chapters Dyfarniad/Verdict: ★ ★ ★ ★ ☆ Genre: #antur #adventure #mischief #direidi Mae Nel wedi glanio ar y ddaear!! Mi ddaeth i’r byd ar lawr archfarchnad gredwch chi fyth! A tydi bywyd erioed wedi bod yn ddiflas ers i Nel gyrraedd! Dyma’r llyfr cyntaf yng nghyfres Na, Nel gan Meleri Wyn James! Dyma’r geiriau mae oedolion wastad yn gweiddi ar Nel wrth iddi greu hafoc o gwmpas y lle! O safbwynt oedolyn (diflas!) mae Nel yn gallu ymddangos fel rêl poen weithiau gyda’i holl antics a blerwch! O safbwynt plant, mae hi’n ymeising! Mae’r gyfres yma, ond yn hytrach, cymeriad Nel, wirioneddol wedi cydio ym mhlant Cymru ac mae o bellach wedi dod yn un o’r cyfresi mwyaf poblogaidd. Mewn amser byr iawn, mae hi wedi datblygu i fod yn glasur! I ddechrau, fel dwi’n deall, gŵr Meleri Wyn James sydd wedi dylunio’r clawr a rhaid i mi ddeud, mae o wedi gwneud job bril. Mae 'na ddigon o liw i ddenu’r llygaid ond eto mae o’n syml hefyd. Mae lluniau John Lund hefyd yn wych ac yn adio cymaint i’r llyfr e.e. weithiau maen nhw’n dod gyda speech bubbles doniol! Mae’r ysgrifen yn reit fawr ac yn amlwg gyda phenodau byrion sy’n gwneud y gwaith darllen yn haws. Mae ‘na dair stori fer o fewn y cloriau ac mae hyn yn gweithio’n berffaith! Mae’n gweithio fel llyfr yr all rhieni ddarllen i blant iau, a hefyd fel llyfr i ddarllenwyr 'chydig yn hŷn. Mae’n nodi yn rhywle fod o’n addas i blant 7+ i ddarllen yn annibynnol ond 5+ os oes rhywun arall yn darllen. Mae’r cynnwys yn addas beth bynnag ac mae antics Nel yn sicr o apelio at fechgyn a merched, er ei fod yn mynd i apelio mwy at ferched, dybiwn i. Dydi Meleri Wyn James ddim yn ofn defnyddio hiwmor toiled (sydd wastad yn mynd lawr yn dda gyda phlant - ac oedolion fel fi!) ac mae 'na ddigon o sôn am chwerthin cymaint nes mae hi’n gwlychu ei nicyrs! Mae Nel yn llawn bywyd ac mae hi’n gwibio o gwmpas fel corwynt! Mae’r golwg ar wyneb ei rhieni yn dweud y cyfan!! Mi wnân nhw un rhywbeth dros Nel - ac mae hi’n gwybod hynny’n iawn! Mae ‘na ddigon o hiwmor yn y llyfr a digon o lanast wrth i Nel drio gwneud cacen ben-blwydd! Mae’r awdur yn llwyddiannus iawn wrth roi ‘blas’ Gymraeg i’r straeon gyda chyfeiriadau at y Capel, Sali Mali, Pobl y Cwm a Straeon y Wibli-wobli!! (Mabinogi!!) Mae 'na debygrwydd rhwng y gyfres yma a Horrid Henry yn y Saesneg. Mae Nel weithiau yn gwylltio ei rhieni yn racs ac yn hollol anhylaw, ond un peth sy’n sicr, mae hi’n hoffus iawn, iawn. Mae hi wedi dysgu’r dric o siffrwd ei hamrannau er mwyn cael ffordd ei hun! Ar ôl i mi ddarllen Na Nel, dwi’n gweld apêl y llyfr yn syth! Efallai tydi Nel ddim y role model gorau, ond dyna pam mae hi mor boblogaidd! Edrych ymlaen at yr anturiaethau nesaf!! Nel has landed! Would you believe that she was in such a rush to get here, she was born in a supermarket aisle? Life has never been boring- or indeed the same -since she arrived! This is the first book in the ‘Na, Nel!’ series by Meleri Wyn James. These are the words adults are always shouting at Nel as she goes about like a hurricane creating havoc wherever she goes! From a (boring) adult’s standpoint, I’m sure Nel can be a right pain with all her antics and messiness. From a child’s viewpoint, I’m sure she’s amazing! This series, or rather, Nel’s character, has totally gripped the children of Wales and this has quickly become one of the most recognizable and popular children’s book series. In a short space of time, this has developed into a children’s classic! To start, as I understand, it’s the author’s husband who designed the covers and I have to say what a good job he’s done of it. Plenty of colour to catch the eye but also quite simple too. John Lund’s illustrations are great and add so much to the book. I love the ones that come with funny little speech bubbles. The writing is in a large, easy to read font and its short chapters make it much easier to read. There are three short stories contained within the book and this works perfectly. It works as a book that parents and children could enjoy together at bedtime, but also as a book for independent reading. It states somewhere that it is appropriate for ages 7+ to read alone, but I would say that it is appropriate for ages 5+ of someone else is reading. The content is perfect for that age group and although boys and girls across Wales have enjoyed reading these books, I’d say they will appeal more to girls. Meleri Wyn James isn’t afraid to use toilet humour (always goes down a treat with children, and indeed some adults like myself!) There’s plenty of mention of laughing so hard that she wets her knickers! Nel is full of life! Full of energy! She seems barely able to sit still! The look on her parent’s faces says it all! They would do absolutely anything for Nel – and she knows this and has them wrapped around her little finger. There’s plenty of humour and mess as Nel tries to make a birthday cake! The author is very good at giving these books a distinctly ‘Welsh’ flavour, with references to going to chapel, Sali Mali, Pobl y Cwm and the Wibli-Wobli! (Y Mabinogi) There are similarities between this series and the popular English titles Horrid Henry by Francesca Simon. Nel sometimes infuriates her parents and brother and is completely unmanageable at times, but one thing is for sure, she’s very, very likeable. She has learned the eyelash fluttering trick to get away with it too! As soon as I read this book I could see it’s appeal. Maybe Nel isn’t the perfect role model for children, but I think that’s why she’s so popular! Bring on the next Na,Nel adventure!

  • Efa (Y Melanai) ~ Bethan Gwanas

    *Scroll down for English & comments* "Tywysoges vs Y Frenhines: antur a ffantasi" "Princess vs The Queen: Fantasy adventure." Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2017 ISBN: 978-1-78461-502-4 Lefel: ❖ ❖ ❖ --Cymraeg Gwreiddiol-- Stori gyda iaith naturiol, ond fwy addas i ddarllenwyr hynStory with easy-to-read, natural language, but more suitable for older readers Dyfarniad/Verdict: ★ ★ ★ ★ ★ Dyma ni gyfres newydd i bobl ifanc yn eu harddegau gan Bethan Gwanas. Y Melanai yw’r enw ar y drioleg, ac ‘Efa’ yw’r stori gyntaf. Petawn i’n gorfod crynhoi’r gyfres, byddwn i’n dweud cyfuniad o Lord of the Rings, Hunger Games a Game of Thrones efo ychydig bach mwy o hiwmor. Mae’n wir i ddweud fod y stori yma’n cydio o’r dudalen gyntaf. Mae Bethan yn amlwg wedi dysgu gan y meistr o fyd ffantasi ei hun, J.R.R. Tolkein ac mae hi wedi creu byd newydd ei hun - ac mae 'na fap ar ddechrau’r llyfr. Gwych! Mae o’n rhoi rhyw fath o gyd-destun i’r llyfr cyn dechrau darllen ac erbyn i ni glywed am y llefydd yma yn y stori, ma’ na deimlad lled-gyfarwydd. Un peth o’n i’n licio oedd y rhestr cymeriadau ar y dechrau. Dwi ddim wedi gweld hyn mewn llyfr o’r blaen, ac i fod yn onest, mae o’n handi! Mi o’n i’n gweld fy hun yn troi at y rhestr cymeriadau o dro i dro i atgoffa fy hun. Syniad da iawn, yn enwedig mewn llyfr gyda nifer o gymeriadau ag enwau anghyfarwydd. Mae’r prolog yn wych. Mae’r awdur yn llwyddo i greu naws anghyfforddus a creepy yn syth gyda’r seremoni farbaraidd. Yn nheyrnas Melania, ‘da chi’n gweld, mae’n rhaid i ferch (y dywysoges) ladd ei Mam (Y Frenhines) ar ei phen-blwydd yn un ar bymtheg oed. Dyma’r rheolau ers canrifoedd. Mae hyn yn hollol normal yn Melania. Dwi’n hoff o’r ffordd mae’r awdur yn normaleiddio’r traddodiad ofnadwy yma yn y llyfr, ond i ni, fel y darllenwyr, da ni’n gwybod pa mor farbaraidd a hurt ydi o go iawn. Y peth ydi, mae o’n reit scary o beth i ddychmygu a dweud y gwir, achos ma’ 'na bethau tebyg wedi digwydd go iawn, mewn defodau paganaidd, lle'r oedd gwneud aberthau creulon drwy dywallt gwaed yn beth cyffredin. Mae traddodiadau o’r fath yn fy atgoffa o’r arferion hynafol o foddi neu losgi gwrachod. Y peth oedd, fel pobl Melanai, maen nhw’n meddwl fod nhw’n gwneud y peth iawn. Dyna sy’n frawychus. Mae’r disgrifiad o’r seremoni yn amser y presennol yn effeithiol wrth greu’r teimlad ein bod ni yno ar y funud honno. Y dorf yn gweiddi a’r drymiau yn curo. Pawb yno i wylio’r lladdfa. Mae’n rhoi croen gŵydd i mi wrth feddwl am y peth. Dwi’n falch fod Bethan Gwanas yn cynnwys y disgrifiad erchyll, gwaedlyd i ni ar y dechrau. Dydi hi ddim yn trio sensro’r peth. Wrth ddarllen y geiriau am y ferch sydd: “gyda sgrech o boen yn plannu’r gyllell yng nghalon y fam,” mi ydw i’n hooked. Flashback oedd hynny. Mae’r bennod gyntaf yn dod a ni’n ôl i’r presennol. Rydym ni’n cyfarfod Efa, y darpar frenhines, a’i ffrindiau. Mae Efa’n agosáu at yr amser lle bydd gofyn iddi ladd ei mam ei hun gyda chyllell er lles y wladwriaeth. Dyna i chi goblyn o benbleth i’r hogan i ddweud y lleiaf! Yn ystod y stori, da ni’n dod i’w nabod a buan iawn ’da ni’n ffeindio fod hi’n anghyfforddus iawn gyda’r disgwyliadau mawr yma. Daw Efa i’r canlyniad fod y drefn ym Melania yn farbaraidd ac mae’n bryd i bethau newid. Yn anffodus, er pa mor greulon ydyw, dyma yw cyfraith y wlad ac mae’r gosb o beidio ufuddhau yn waeth. Felly, mae hi’n penderfynu (reit sydyn a dweud y gwir) i ddianc. Dyma yn y bôn, yw’r stori. Mae’n bwysig nodi fy mod i’n fachgen sy’n llawer hŷn na chynulleidfa darged y nofel hon ond serch hynny, rydw i wedi mwynhau’r stori’n arw. Wrth gwrs, mae ’na ddarnau sy’n ei gwneud yn amlwg mai llyfr i bobl ifanc yn eu harddegau yw hwn, a bydd y sôn am filwyr hunky, plorod, fflyrtio a chusanu o bosib, yn apelio’n fwy at ferched yn eu harddegau na bechgyn, rwy’n tybio. Mae 'na ddigon o antur yma i ddal fy sylw drwy’r nofel i gyd. Mae’r geiriau a’r brawddegau yn llifo mor naturiol ac mae dawn Bethan Gwanas gydag iaith lafar, Cymraeg dydd-i-ddydd yn gryf yma. Mae o mor hawdd i’w ddarllen. Dwi’n teimlo y gallai’r stori fod wedi gweithio’n well mewn byd ar blaned arall, neu ar y ddaear mewn rhyw oes hudol a fu ond ella mai barn personol ydi hyn. Weithiau, mae ychydig o’r social commentary am y morfilod glas a’r llygru plastig yn teimlo dipyn yn preachy. Er hynny, dwi’n cydnabod fod o’n neges bwysig! Mae’r nofel yma’n llwyddo i’n cyflwyno i wlad Melania, ac erbyn y diwedd rydym yn teimlo’n hen gyfarwydd ag Efa, wrth i ni weld y byd drwy ei llygaid hi. Mae Bethan yn ein cyflyru i falio am y cymeriadau, a da ni’n invested go iawn erbyn y diwedd. Dwi wir isio gwybod os fydd Efa a Dalian yn cael efo’i gilydd!! Mae’r nofel yma’n gosod pethau’n berffaith ar gyfer y llyfr nesaf yn y gyfres ac mae’r awdur yn gwybod yn union beth mae hi’n wneud drwy orffen y llyfr gyda wopar o cliffhanger. Dwi’n falch mod i’n darllen y rhain ar ôl i’r drioleg gyfan gael ei gyhoeddi neu mi fysa hi’n dipyn o job disgwyl am yr un nesaf! Here we are: a new series for teenagers by well-known author, Bethan Gwanas. Y Melanai is the name for the trilogy, and ‘Efa’ is the First novel. If I had to summarise, I’d say a blend of Lord of the Rings, Hunger Games and Game of Thrones with a bit of humour thrown in. Safe to say, this story is gripping from the word go. Bethan has obviously learned from the master of fantasy himself, J.R.R. Tolkein and she’s created a new fantasy world – with a map at the start. Brilliant! It gives a sort of context before reading and by the time we hear of these places, they feel vaguely familiar. One thing I did like was the character list at the start. I haven’t seen this in a novel before, and to be honest, it’s handy! I found myself using it now and then to remind myself. A good idea, especially with so many new main characters. The prologue is brilliant. The author creates an uncomfortable and creepy ambience with the violent ceremony. You see, in the land of Melania, the daughter (the princess) must kill her mother (the Queen) on her sixteenth birthday. These are the rules. I love the way the author makes it seem so normal in Melania, but we, as readers realise how crazy this is. The thing is, it’s quite scary to think about it because similar things have happened in history. Blood was often spilled in ritual pagan sacrifices. It reminds me of the traditions of drowning or burning witches. It’s scary because we, like the people of Melania, used to think this was the right thing to do. The description of the ceremony in real time is effective in creating the feeling that we are there, witnessing the horror. The crowd shouting and the drums beating. It gives me goosebumps thinking about it. I’m glad that Bethan Gwanas has kept the gory details at the start. She doesn’t try and censor it. As soon as I read about the girl who, “with a scream of pain, plunges the knife deep into her mother’s heart,” I’m hooked. That was a flashback. The first chapter brings us back to the present day. We meet Efa, the princess and soon-to-be Queen. She is nearing that time when she must kill her own mother for the sake of the country. What a dilemma for the poor girl to say the least! During the story, we get to know her and we soon find out that she’s not comfortable at all with what is being asked of her. She comes to the conclusion that this tradition is barbaric and it’s time things changed. Despite it’s apparent cruelty, this is the law, and the punishment for refusal is worse. She decides (rather suddenly really) that she must escape. This is the story in a nutshell. It’s important to note that I’m a man who’s much older than the target audience for the book, but despite this, I’ve enjoyed it thoroughly. Of course, there are parts that make it obvious that this book is aimed at teenagers. All the talk of hunky soldiers, spots, flirting and kissing will no doubt appeal to the book’s intended audience. It perhaps would appeal more to girls than most boys. There’s plenty of action here to sustain my interest throughout the book. The sentences flow easily and Bethan Gwanas is skilled in using natural, informal, everyday Welsh. It’s so easy to read. I feel the story could have worked well on another planet or set in the past, in a magical age, rather than the future, but this is personal taste. Sometimes the social commentary about blue whales and plastic feels a bit preachy and on-the-nose. Even so, it is an important message. This novel introduces us to the country of Melania, and by the end we are very familiar with Efa, as we see life through her eyes. Bethan forces us to care about the characters, and we are genuinely invested by the end. I really want to know if Dalian and Efa get together! This novel sets things up perfectly for the next one and the author knows exactly what she’s doing by finishing the first instalment with a whopper of a cliff-hanger. I’m glad that I’m reading these after all three novels have been released otherwise it would be a long wait!

  • Gwalia ~ Llŷr Titus

    *Scroll down for English* "Antur yn y gofod, archwilio bydoedd estron rhyfeddol" "Space adventure discovering strange new worlds." Gwasg: Gomer Cyhoeddwyd: 2015 ISBN: 978-1785620492 Lefel: ❖ ❖ ❖ --Cymraeg Gwreiddiol-- Stori gyda iaith naturiol, ond fwy addas i ddarllenwyr hyn Story with easy-to-read, natural language, but most suitable for older readers Dyfarniad/Verdict: ★ ★ ★ ★ ☆ Dyma i chi adolygiad gonest o nofel gyntaf Llŷr Titus, Gwalia, sy’n ychwanegiad hir-ddisgwyliedig i’r genre ffuglen wyddonol yn y Gymraeg. Dw i ddim yn expert o bell ffordd, a megis dechau ar fy siwrnai o ddarganfod llyfrau Cymraeg ydw i, ond dw i’n dal i deimlo fod ’na fwlch yn y farchnad Gymraeg i lyfrau o’r math yma – a ’da ni angen mwy! Awduron – ewch ati i ’sgwennu mwy plîs! Ers pan oeddwn i’n 9 oed, pan ddaeth Star Trek: Voyager ar y teledu, dw i wedi bod yn obsessed efo Sci-Fi. Dw i wrth fy modd efo unrhyw beth i wneud gyda’r gofod. Star Trek, Star Wars... you name it. Felly, roedd hi’n reit amlwg fod y nofel yma’n mynd i apelio ata i. Ond, mae’r ffaith fy mod i wedi gwylio cymaint o raglenni ffuglen wyddonol yn golygu fod gan Llŷr Titus dipyn o waith i drio fy mhlesio; roedd gen i ddisgwyliadau annheg o uchel a dweud y gwir. Stori antur ydi hon. Mae’n dilyn hanes Elan, merch sy’n byw ac yn gweithio ar fwrdd llong ofod y ‘Gwalia’. Yn wahanol i straeon Sci-Fi rhaglenni fel Star Wars a Star Trek lle mae’r cymeriadau naill ai yn rhan o frwydr neu ar fwrdd llong ofod sy’n archwilio’r gofod, llong fasnachol ydi’r Gwalia, sy’n symud a danfon cargo o blaned i blaned. Felly, yn hytrach na’r Milenium Falcon yn brwydro’r gelynion yn Star Wars: Force Awakens, mae’r Gwalia yn debycach i Parcel Force. Ond, peidiwch â phoeni, dydi hynny’n amharu dim ar yr antur. Yn syth wrth i mi ddarllen am y Gwalia dw i’n meddwl am Futurama, y cartŵn gan Matt Groening oedd yn dilyn anturiaethau doniol Philip J Fry, y delivery boy bach syml, gyda’i griw o gymeriadau eclectig ac unigryw. Mae’r nofel yn dechrau trwy fynd â ni yn syth i ganol y digwydd - In Media res fel petai (Lladin: “in the midst of things”) - ac mae o fel gwylio crash scene cyffrous mewn ffilm sy’n digwydd cyn yr opening credits. I feddwl mai darllen am drafferthion yr Athro Hans Reiter roeddwn i, wrth i’w long ofod blymio tuag at y blaned, roedd y dweud yn sinematig ei naws, yn enwedig gyda’r effaith cyfri lawr y mae’r awdur yn ei ddefnyddio. Rydan ni wedyn yn neidio i’r presennol ym mhennod 2, ac yn cyfarfod Elan, (hi yw prif gymeriad y stori, - wna i ddim mynd mor bell â dweud ei bod hi’n arwres, achos dw i’m yn meddwl fod na un yn y stori hon. Ar ddechrau’r stori, mae hi’n dod drosodd ychydig bach yn anaeddfed i fod ar long ofod, gan ei bod hi’n paffio ac yn pwdu y rhan fwyaf o’r amser. Rydan ni hefyd yn cyfarfod cymeriadau eraill o’r bennod hon ymlaen, fel Capten Ari, Dewyrth, Titsh, Doctor Jên, Mel a Tom. Mae ’na deimlad cartrefol ar fwrdd y Gwalia a phawb fel un teulu mawr. Mae popeth yn dda, yn rhy dda, ac roeddwn i'n dechrau meddwl fod rhywbeth yn siŵr o fynd o’i le yn hwyr neu’n hwyrach. Arafodd y stori gryn dipyn yma, wrth i Llŷr Titus ein cyflwyno i’r cymeriadau i gyd a disgrifio eu rhinweddau a’u bywydau ar fwrdd y llong. Mae’n cymryd ei amser i ddisgrifio sut beth yw bywyd yn y dyfodol – ac mae’n gwneud hyn yn dda iawn gan roi llawer o fanylion sy’n help i ni ddychmygu’r byd hwn. Rhaid i mi ddweud mai yma y gwnes i ddechrau diflasu mymryn, gan fy mod yn awyddus i’r stori symud yn ei blaen, ond dw i’n deall bod angen cyflwyno’r cymeriadau i gyd cyn i'r stori ddatblygu. Llyfr ydi o wedi’r cwbl, a rhaid disgrifio er mwyn i ni fedru creu’r byd futuristic gyda’n dychymyg. Roedd y trip i blaned Kansas gyda’r gwartheg yn teimlo fel tipyn o distraction oddi wrth y prif stori, ond roedd yn gyfle da i gyflwyno Milo a Rob, sef y ddau gymeriad sy’n gwrthdaro ag Elan. Drwyddi, mae Llŷr Titus yn llwyddo i’n bachu gyda’r stori gefndirol am yr Athro Hans Reiter, a’r darganfyddiad mawr y mae o wedi’i wneud. Erbyn y diwedd roeddwn i ar bigau’r drain eisiau gwybod mwy amdano. Pwy yn union oedd o? Beth wnaeth o ei ddarganfod? Lle mae o? Heb eich siomi gormod, tydan ni ddim yn cael atebion i’r cwestiynau yma, ac os rhywbeth, mae’r llyfr yn gorffen gan ein gadael gyda mwy fyth o gwestiynau. Posibilrwydd am sequel tybed? Gobeithio wir. Wna i ddim sbwylio pethau, ond am ryw reswm neu’i gilydd, mae’r prif gymeriadau yn mynd yn styc, yn marooned ar blaned estron. Rŵan mae’r stori wir yn symud yn ei blaen. Llwydda’r awdur i adeiladu’r byd estron rhyfeddol yma’n wych, gyda chreaduriaid od fel octopysau’r coed. But all is not as it seems. A diolch byth am hynny neu diflas iawn fasa petha! Mae digon o beryglon a phethau dirgel i ddal ein sylw yn yr ail ran. Daw’n amlwg fod yr awdur wedi gwneud ei waith cartref a’i fod yn gwybod cryn dipyn am Sci-Fi. Mae’r stori a’r disgrifiadau’n llifo, does dim byd yn teimlo'n forced (sy’n gallu digwydd pan mae rhywun yn sgwennu am rywbeth sy’n anghyfarwydd iddyn nhw) ac mae’n addas iawn ar gyfer y gynulleidfa darged. Mae o’n cyflwyno cysyniadau eithaf cymhleth ar brydiau, ond mae ganddo ffydd y bydd y darllenwyr yn eu deall. Dydi o byth yn patronising. Fe wnes i addo y byddai’r adolygiad yn un gonest yn do? Felly, os oes yna wendid yn perthyn i'r nofel, efallai mai’r diffyg datblygiad yn y cymeriadau yw hynny. Ydi’r profiadau wedi eu newid nhw? Erbyn cyrraedd diwedd stori, dw i eisiau teimlo fy mod i'n gwybod mwy am y cymeriadau, a’u bod nhw erbyn hyn yn hen ffrindiau cyfarwydd, ond erbyn cyrraedd diwedd Gwalia dw i’n dal i deimlo nad ydw i’n nabod y cymeriadau’n iawn. Dw i isio gwybod mwy am eu cefndir nhw. Sut ddaru Milo, Rob ac Elen ddod yn rhan o griw’r Gwalia? Mae ’na gyfle yma i lenwi’r bylchau, a dw i’n eithaf sicr y bydd o’n gwneud hyn yn y nofel nesaf. Croesi bysedd eniwê. Dw i’n ddiolchgar iddo am ddau reswm. Yn gyntaf, am ysgrifennu llyfr ffuglen wyddonol Gymraeg newydd a gwreiddiol, roedd gwir angen un, ac roedd yn llwyr haeddu ennill gwobr Tir na n-Og. Yn ail, am agor fy llygaid i’r byd llyfrau Cymraeg. Dw i isio darllen mwy rŵan a gweld beth arall sydd allan yno (yn debyg iawn i syniad y stori mewn ffordd). Here is an honest review of Llŷr Titus’s first novel, ‘Gwalia’ a long-needed addition to the Welsh Sciene Fiction genre. Now I don’t proclaim to be an expert at all, as I’m only just starting my journey of discovery of Welsh books, but even so, I feel that there’s agap in the market here and that we are crying out for more novels of this type! Authors– please go and write some more! Since I was 9 years old, I remember when Star Trek: Voyager came to BBC2 and I was hooked. I’ve been obsessed with Sci-Fi ever since. Star Trek. Star Wars. You name it. So, it was a pretty safe bet that I would like this new novel. But, in another way, the fact that I’d watched so much Sci-Fi on tv meant that poor Llŷr Titus had a pretty tough job to try and impress me with this book and I may even have had unfairly high expectations. At it’s core, this is a tale of and adventure in space. Of that there is no doubt. It follows the trials and tribulations of Elan, a girl who lives on board the ‘Gwalia,’ spaceship. But this story doesn’t quite follow the conventional Star Wars or Star Trek path, because the ship is a commercial cargo ship, that delivers much-needed supplies between the planets. So, instead of a Millennium Falcon battling it out against villains in epic space duels like in Star Wars: The Force Awakens, what we get here is more akin to Parcel Force. But fear not, because there’s plenty of action to be had here. As I read, I instantly think of ‘Futurama’, the other cartoon series by Simpsons creator, Matt Groening. That followed Philip J Fry, the hapless delivery boy with his band of unusual and eclectic shipmates. A very similar premise. The novel gets to it straight away- In Media res you could say. (Latin: “in the midst of things”) It’s like watching those high-octane crash scenes in films that happen just before the opening credits. To think that I was just reading about Prof. Hans Reiter’s troubles as his ship hurtled towards a planet, the writing was cinematic in nature, especially with the countdown style the author used to convey time running out. As we jump to the present, we meet Elan, (I’ll say main character – I won’t go as far as saying hero, because I don’t really think there is one). At the start of the story, she comes across a little immature with her fighting and sulking. There are other characters too such as Capten Ari, Dewyrth, Titsh, Doctor Jén, Mel and Tom. There’s a strong sense of family on the ship and one gets the feeling that everything is going too well and that something’s about to go wrong. The story slowed down quite a bit here as the author introduces us to the other characters and describes their daily routines on board. It takes time to build up the future world and he obviously knows how to do this. I have to say, it’s here that I got just a little bored, as I was keen to see the story progress, but I understand why he takes his time. It is a book after all, and needs to use words to convey this futuristic world to the readers. The trip to Kansas planet with the cows felt a little distracting, but it was a good chance to introduce the two supporting characters, Milo and Rob, who clash with Elan. Throughout, Llŷr Titus has us hooked with his background story about Professor Hans Reiter and his epic discovery. By the end, I was dying to know more about this. Who was he? What else did he find? Where is he now? Without spoiling things, we don’t really get to find answers and indeed, we probably end the story with more questions that ever. The possibility of a sequel perhaps? I hope so. For one reason or another, the main characters find themselves stuck on an alien planet. Now the story gets going again. The author has the skill here to world-build and describe in detail the planet and it’s weird and wonderful alien environment. His imagination knows no bounds with tree octopus creatures and the like. But all is not as it seems. And thank god for that, otherwise it could be quite boring! There are plenty of dangers and mysteries that the young characters must survive in the second half. It’s clear that the author’s done his homework and he is knowledgeable in this field. The story and it’s vivid descriptions flow naturally, they are not forced (like a writer trying to write about something they are not familiar with). It’s perfect for the young-ish target audience, and although it introduces some quite complex scientific concepts at times, there are clear explanations and a faith in the reader to understand. The author never patronises the audience as some do. I promised this would be an honest review didn’t I? So, here goes. If I had to name a shortcoming of this book, I’d perhaps say that there’s a lack of character development throughout the story. Did their experiences on the planet change them somehow? I like to think that I know the characters better after reading a novel, and that they are more like old familiar friends, but on this occasion, I felt that I hadn’t really gotten to know them as much as I would have liked. I want to know more of their backstories. How did Milo, Rob and Elan come to find themselves on the Gwalia? There’s plenty of room to fill in these gaps, and I’m sure he will be doing this in the next novel. Cross my fingers anyway. I’m grateful to Llyr for two reasons. First, for writing a Welsh Sci-Fi novel that was much needed, and worthy of winning the Tir na n-Og prize. Secondly, for opening my eyes to the world of Welsh books. I now want to go out and read more, to discover what else is out there. (Much like the characters in our story.)

  • 'Y Dyn Dweud Drefn' gan Lleucu Fflur Lynch

    *Scroll Down for English* "Stori fer am ddyn blîn" "Short story about an angry little man" Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: 2019 ISBN: 978-1-84527-645-4 Lefel: ❖ Stori fyr, hawdd. Short story, easy to read. Dyfarniad/Verdict: ★ ★ ★ ☆ ☆ Wel, mi wnes i fwynhau darllen y stori fach yma! Llyfr newydd a llyfr cyntaf gan Lleucu Fflur Lynch. Dwi’n siwr ein bod ni gyd yn ‘nabod o leiaf un person blin neu bigog sydd wastad yn cwyno fod rhywbeth o’i le. Efallai eich bod chi’n gweld dipyn o’r ‘Dyn Dweud Drefn’ ynoch chi’ch hun! Mae’r ‘Dyn Dweud Drefn’ yn dwrdio rhywbeth neu rywun drwy’r dydd, bob dydd. Mae ei baned yn rhy oer, mae’r tywydd rhy boeth, neu mae hi’n rhy fuan i godi. Be bynnag yw’r mater dan sylw, mae’r ‘Dyn Dweud Drefn’ yn flin. Bod yn flîn yw ei fywyd, hynny yw, nes bod rhywbeth mawr yn newid yn ei fywyd un diwrnod. Darllenwch y llyfr i ffeindio allan, beth sy’n llwyddo i feddalu calon y dyn bach annifyr. Stori syml iawn yw hon, sydd ddim yn rhy hir ac mae ‘chydig o hiwmor ynddo hefyd, er bod ganddo neges reit bwysig. Mae’r lluniau minimalist Gwen Millward yn werth chweil ac yn adio cymaint i’r stori - maen nhw’n fy atgoffa o’r gyfres Ifan Bifan, gan Gunilla Bergstrom. Yn wir, er nad oes ganddo enw, mae’r Dyn Dweud Drefn yn edrych yn debyg iawn i Gru o Despicable Me! ‘Da ni gyd yn euog o fod mewn hwyliau drwg weithiau, efallai ar ôl codi ar ochr anghywir y gwely, a dwi fy hun yn gallu bod yn bigog - yn enwedig yn y bora! Mae stori’r ‘Dyn Dweud Drefn’ yn ein hatgoffa fod 'na bethau pwysicach mewn bywyd na dwrdio a dweud drefn. Relax! Chill out man! Fel ma’ nhw’n ddweud yn y Saesneg! Yn lle bod yn flin, beth am roi’r egni yna mewn i rywbeth mwy cynhyrchiol? Mae bywyd rhy fyr i fod yn flîn. Mae 'na rywun neu rywbeth allan yn y byd sy’n llwyddo i gael bob person blîn i wenu yn y diwedd! Well, I enjoyed this short little story! This brand new book is Lleucu Fflyr Lynch’s first. I’m sure we all know or can think of at least one person who’s always angry and complaining about things not being right. Maybe you see yourself in the ‘Dyn Dweud Drefn’ (The Telling Off Man). The ‘Dyn Dweud Drefn’ is always angry about something or someone. His tea is too cold, the weather’s too hot or it’s too early to get up. Whatever the issue, you can guarantee that the ‘Dyn Dweud Drefn’ won’t be impressed. Being angry about things is his life. That is, until something happens which changes his life forever. Read the book to find out what’s the one thing that manages to melt the heart of this miserable little man. This is a really simple story, not too long and it’s got a touch of humour to it even though I think it holds an important message. The minimalist illustrations by Gwen Millward are brilliant and they add so much to the story – they remind me of the Ifan Bifan series from the 80s by Gunilla Bergstrom. Even though we don’t know what he’s really called, the ‘Dyn Dweud Drefn’ looks a lot like Gru from Despicable Me! We’re all guilty of being in a bad mood sometimes, maybe we’ve just woken up on the wrong side of the bed that day. I myself can be a bit ratty at times- especially in the mornings! This story reminds us that there are more important things in life than being angry all the time. Relax! Chill out Man! Instead of being angry, why not put that energy into something more productive? Life’s too short to be in a bad mood. This book proves that there’s always something or someone that can manage to make an angry person smile in the end!

  • Plentyn y Stryd ~ Berlie Doherty

    *Scroll down for English* "Bachgen yn ymladd am ei fywyd yn Oes Fictoria." "One boy's fight for survival on Victorian streets." Gwasg: Dref Wen Cyhoeddwyd: 2009 Addasiad: Dafydd Morse ISBN: 978-1-85596-847-9 Lefel: ❖ ❖ ❖ Ar gyfer darllenwyr profiadol/ for proficient readers (addas i oedolyn ddarllen/ but suitable for adults to read to child) Dyfarniad/Verdict: ★ ★ ★ ★ ½ Genre: #ffuglenhanesyddol #historicalfiction Cyfieithiad o ‘Street Child’ gan Berlie Doherty yw ‘Plentyn y Stryd’ ac mae’n stori afaelgar sydd wedi ei osod yn nhlodi’r oes Fictoria. Mae’n dilyn hanesion y bachgen tlawd, Jim Jarvis, wrth i’w fywyd gael ei droi wyneb i waered ar ôl i’r teulu gael eu tyrchu allan yn ddidrugaredd i’r oerfel am fethu talu’r rhent i’r landlord cas, Mr Spink. Mae bywyd ar y stryd yn beryglus ac yn unig, ac mae’n rhaid i Jim frwydro am ei fywyd. O ddrwg i waeth aiff bywyd Jim wrth iddo gael ei wahanu oddi wrth ei chwiorydd, a cholli ei Fam yn ogystal â’i Dad. Mae bywyd yn arwain Jim at y Wyrcws, hen le brwnt gydag athro cas sy’n pigo arno. Blant, os ydych chi’n meddwl fod eich athro neu eich athrawes yn gallu bod yn flin, wel, dydych chi ddim wedi cyfarfod Mr Prydderch y Wyrcws eto! Ar ôl dianc, mae Jim yn addasu’n dda i fywyd fel plentyn y stryd, ond cyn pen dim, ffeindia’r bachgen ei hun mewn sefyllfa waeth fyth, ar ôl cael ei werthu i feistr newydd creulon, Nic Seimllyd gyda’i gi ffyrnig a brawychus, Sneip. Dilynwch hynt a helynt Jim wrth iddo gynllunio i ddianc rhag y meistr blin er mwyn ffeindio ei chwiorydd a chael bywyd gwell. Ar ddechrau’r stori, rydym ni’n cael ein cyflwyno i ddyn dirgel, sef Barnie. Erbyn diwedd y nofel rydym ni’n dod i ddeall mai Dr.Barnardo yw’r dyn caredig, a dwi’n siwr eich bod wedi gweld siopau elusen Barnardo’s ar y stryd fawr. Er mai ffuglen yw’r stori, mae wedi ei selio ar gymeriadau go-iawn, sy’n gwneud y stori yn ddifyrrach fyth. (Cewch wybod mwy ar ddiwedd y stori yn y darn ‘Nodyn gan yr awdur.’) Mae’r nofel yma’n wych er ei fod yn llwyd, yn llwm ac yn llawn tristwch a chaledi. Mae’r awdur yn disgrifio pethau’n blwmp ac yn blaen sy’n creu’r darlun o fywyd anodd ar strydoedd Llundain yn Oes Fictoria. Mae’r darllen yn emosiynol iawn ar brydiau. Mae cymaint o elfennau hanesyddol i’r llyfr, ac mae’n amlwg fod yr awdur wedi gwneud ei gwaith ymchwil cyn ysgrifennu. Byddwn i wirioneddol yn argymell y llyfr yma i unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am y cyfnod. Yn wir, mae’r stori’n haeddu ei lle ar silff lyfrau'r cartref yn ogystal â’r ysgol. This is the Welsh adaptation of ‘Street Child’ by the Carnegie Medal winning author, Berlie Doherty. This is a gripping, page-turning novel set in the poverty of Victorian London. It follows the story of a young boy, Jim Jarvis, who’s life is turned upside down when his family is cast out onto the cold streets when they fail to pay the rent for their uncaring landlord, Mr Spink. Life on the street it both dangerous and unforgiving and Jim has to adapt quickly in his fight for survival. His life goes from bad to worse when he is separated from his sisters and loses his Mother as well as his Father. Life takes him to the Workhouse, a grim institution with a nasty teacher who beats him. Children, if you think your current teacher can be angry at times, you haven’t met Mr Prydderch yet! Following his escape, Jim finds some happiness even on the harsh streets. He makes friends, but these are quickly taken away from him as he is sold to a new and cruel master, Nic Seimllyd with his fierce and terrifying guard dog, Sneip. Follow Jim as he plans his daring escape from the cruel master, so he can find his sisters and a better life for himself. At the beginning of the story, we are briefly introduced to ‘Barnie’ , a man we later come to realise is Dr. Barnado. I’m sure you’ve seen the Barnardo’s charity shops on the high streets. Despite the story being a work of fiction, it is based on real life people which makes it all the more powerful. (You can discover more at the end of the novel in the ‘Note from the Author’ section. This is an amazing novel despite being very grim and depressing at times. Full of tales of woe and hardship, the author has a way of describing things with simple accuracy which successfully convey the difficulty of life in these times. The book is very emotional at times. There are so many historical references in the book – the author has clearly done her homework! I would thoroughly recommend this for anyone wanting to know more about peasant life in the Victorian times. This book really deserves pride of place on any book shelf at home or indeed school. Cofiwch adael sylw yn y bocs isod! Leave a comment or mini-review below!

  • Deg o Chwedlau Dyffryn Conwy ~ Myrddin ap Dafydd

    *Scroll down for english* Mewn brawddeg: Straeon byrion am fwystfilod a chewri, gwrachod a môr-forwynion! In a nutshell: Short tales of monsters and giants, witches and mermaids! Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: 2019 ISBN: 978-1-84527-708-6 *Gwreiddiol Cymraeg ~ Welsh Original* Lefel: ❖ ❖ Iaith ddim rhy anodd/straeon byrion. Language not too difficult/short stories Dyfarniad/Verdict: ★ ★ ★ ½ Genre: #chwedlau #straeon #tales #myths #legends Fel un sydd wedi byw yng Nghonwy ar hyd ei oes, mae’n syndod nad ydw i wedi clywed rhai o chwedlau’r Dyffryn. Wel, o’r diwedd, dyma gyfrol sy’n dod â rhai o chwedlau gorau’r ardal at ei gilydd mewn un man. Wrth ddarllen dw i’n teimlo fel fy mod i yng nghanol yr hud a’r lledrith ac yn dysgu am hanes yr ardal ar yr un pryd. Mae’r llyfr yn byrlymu gyda lluniau gwych a ffeithiau hanesyddol diddorol. Peidiwch â gadael i deitl y llyfr eich twyllo; nid llyfr i drigolion Dyffryn Conwy yn unig ydi hwn, ond llyfr i unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am hanesion bro Eisteddfod Genedlaethol 2019. Mae yna luniau hardd a map i’ch helpu i leoli pob chwedl hefyd. Mae stori Llys Helig yn debyg iawn i chwedl ‘Cantre’r Gwaelod’ ond bod yma stori o dwyll, llofruddiaeth a dial enbyd. Mae’n anodd credu fod tonnau’r môr wedi llyncu tir ffrwythlon Tyno Helig i gyd. Wrth fynd heibio Penmaenmawr ar yr A55, pan mae’r llanw allan, edrychwch i weld os daw’r hen waliau sgwâr i’r golwg yng nghanol y tywod. Neu beth am ddarllen hanes y telynor anffodus a gafodd anlwc mawr ar y ffriddoedd a’r corsydd yn ystod ei daith beryglus yn ôl i’r Bala. Roeddwn i ar bigau’r drain eisiau gwybod ei dynged pan aeth pethau o chwith… Mae rhywbeth at ddant pawb yma – straeon am fwystfilod, cewri, môr forynion, gwrachod ac anifeiliaid hudol o bob math. Mae’r straeon yn fyr hefyd– perffaith ar gyfer darllen gyda’r nos cyn mynd i’r gwely. Dyma lyfr bendigedig i astudio’r hen hanesion yn y dosbarth ac i ailddarganfod yr hud a’r lledrith fu’n perthyn i’r Dyffryn rhyfeddol hwn. Gall fod yn sbardun i chi fynd ati i greu eich chwedlau eich hunain! As someone who has lived in Conwy all his life, it came as a surprise that I hadn’t heard some of these myths and legends of the Dyffryn. Well, at last, we have a volume that brings them together in one place. As I read, I feel that I’m being transported back into the middle of the magic and wonder, whilst having a really exciting history lesson at the same time. The book is bursting with wonderful images and historical facts. Don’t let this book fool you; this is not only for the people of Conwy Valley, but for anyone in Wales who wants to discover the rich history of the home of the National Eisteddfod 2019. There’s a handy map to help you find these hidden places too. The story of Llys Helig is similar to the well-known legend of ‘Cantre’r Gwaelod’, but this story takes a darker turn, with tales of deceit, murder and revenge. It’s hard to believe that the sea has swallowed the fertile lands of Tyno Helig. When you go past Penmaenmawr on the A55, if the tide is out, have a look to see if you can make out the square remains of the walls in the sand. How about reading of the misfortunes of the harpist who got into some considerable bother on the moorlands and marshes on his way back to Bala in the perilous fog. I was on the edge of my seat as I read about his fate... There’s something for everyone here – tall tales of monsters, giants, mermaids, witches, magical animals and more. The stories are short too- perfect for bedtime reading, one a night. This is a wonderful book to study these myths and legends in the classroom too, rediscovering the magic that belongs to this great Valley. It may even serve as an inspiration for you to create all new myths and legends for the next generation!

  • Dosbarth Miss Prydderch a'r Carped Hud (Llyfr 1) ~ Mererid Hopwood

    *scroll down for English* Mewn brawddeg: Anturiaethau gyda athrawes anhygoel! In a nutshell: Awesome adventures with a super cool teacher! Gwasg: Gomer Cyhoeddwyd: 2017 ISBN: 978-1-84851-183-5 *Gwreiddiol Cymraeg ~ Welsh Original* Lefel: ❖ ❖ Iaith ddim rhy anodd/ffont reit syml Language not too difficult/quite simple font Dyfarniad/Verdict: ★ ★ ★ ★ ☆ Genre: #ffantasi #antur #fantasy #adventure Oedd gennych chi hoff athro/awes yn eich ysgol gynradd? Wel, Miss Arianwen Hughes oedd hoff athrawes Alfred! Roedd popeth yn grêt tan y newyddion gwaethaf erioed – roedd hi’n gadael yr ysgol! Yn ei lle, daeth Miss Prydderch, gyda’i ffrog lwyd, ei gwallt llwyd, sbectol llwyd a’i llygaid llwyd! Dydi Alfred ddim yn hapus o gwbl. Ond nid athrawes arferol ydi Miss Prydderch – O na! Mae hi’n gallu mynd a’r plant ar anturiaethau anhygoel, achos, fel mae’r teitl yn awgrymu, mae ganddi Garped Hud! Mae’r dosbarth i gyd yn gwibio o’r ysgol i Goedwig y Tylluanod, lle mae nhw’n cwrdd â nifer o ryfeddodau – gan gynnwys y badi, Dr Wg ab Lin! Peidiwch ac edrych i mewn i’w lygaid da chi! Mae’r stori yn symud yn ôl ac ymlaen rhwng yr anturiaethau amser stori yn y goedwig, a’r frwydr sy’n digwydd yn y pentref i gadw Ysgol Y Garn ar agor. Rydyn ni’n dod i ‘nabod rhai o aelodau’r dosbarth, a rhai o’r pobl eraill yn y gymuned. Erbyn diwedd y llyfr, mae Miss Prydderch yn dal i fod yn ddirgelwch ac mae gennym dal llwyth o gwestiynau amdani! Mae’r llyfr yn gorffen ar cliff-hanger gyffrous sy’n gosod y stori nesaf yn y drioleg i fyny ‘n berffaith. Mae iaith y llyfr yn eithaf syml ac yn llifo’n reit hawdd wrth ddarllen. Does dim gormod o ‘sgwennu ar y tudalennau ac mae na newidiadau ym maint y llythrennau a dwdls ar rai tudalennau i gadw pethau’n ddiddorol. Un peth arbennig am y llyfr yma ydi’r bocsys bach a’r llinellau sy’n dod allan o rai geiriau. Mae nhw’n helpu i esbonio geiriau sydd braidd yn anghyfarwydd- sy’n beth Andros o handi. Mae na hefyd saethau yn y llyfr sy’n mynd a chi i wefan www.missprydderch.cymru, lle mae na dipyn o weithgareddau sy’n cyd-fynd gyda’r llyfr. Mae’r llyfr yn 168 o dudalennau felly mae’n stori reit fyr sy’n grêt i rhywun sy’n newydd i ddarllen llyfr Cymraeg neu sy’n hoffi y teimlad da o orffen llyfr. Mae na dipyn o’r llyfr yma yn mynd ar osod y sefyllfa a cyflwyno ni i gymeriadau am y tro cyntaf, felly dwi’n siwr bydd y cyffro a’r antur yn hyd yn oed mwy yn y llyfrau nesa! Did you ever have a favourite teacher in school? Wel, Miss Arianwen Hughes was Alfred's favourite! Everything was going great until the worst news ever- she was leaving! In her place came Miss Prydderch, with her grey clothes, grey glasses, grey hair and grey eyes! Alfred is not impressed. But Miss Prydderch is no ordinary teacher - Oh no! She can take the children on incredible adventures, because, as the title suggests, she has a magic carpet! The entire class can zoom to Coedwig y Tylluanod (Forest of Owls) where they meet new friends - including the baddy - Dr Wg ab Lin! Don't look into his eyes whatever you do! The story moves back and forth between the forest adventures and another battle in the village to keep Ysgol y Garn open. We meet Alfred's classmates, along with others from the community. By the end of the book, we still have a million questions to ask about Miss Prydderch. The book ends on an exciting cliff-hanger which sets up the next story in the trilogy perfectly. The language is fairly simple and flows well/naturally. There isn't too much writing on the pages and some of the text is different sizes along with doodles which makes things more interesting. One great thing about this book is there are circles around some words that explain what they mean- which is really handy! You might also notice some arrows that point to some things- there are some resources (in Welsh) on www.missprydderch.cymru to go with the story. The story is 168 pages which is fairly short, so it's great for someone new to reading Welsh books and who like the feeling of success when finishing a book. A lot of this book has gone into introducing us and setting up the story and characters, so I'm sure the next books will contain even more excitement and adventure with our new friends!

  • Matilda ~ Roald Dahl

    *scroll down for English* Mewn brawddeg: "Merch anhygoel yn dial ar hen oedolion cas" In a nutshell: "Girl genius takes revenge on evil adults" Gwasg: Rily Publications Cyhoeddwyd: 2016 Addasiad Cymraeg: Elin Meek ISBN: 978-1849673495 *Cyfieithiad/translated book* Lefel/level: ❖ ❖ addas ar gyfer darllenwyr eithaf hyderus Suitable for fairly confident readers Dyfarniad/verdict: ★★★★★ Genre: #ffantasi #fantasy Dyma glasur o stori gan yr awdur enwog, Roald Dahl. Stori wych am ferch fach sy'n syrthio mewn cariad â llyfrau pan oedd hi'n ifanc. Erbyn ei bod hi'n dair oed, mae hi wedi dysgu ei hun sut i ddarllen. Erbyn fod hi'n bedair, mae hi wedi darllen yr holl lyfrau yn y llyfrgell. Dydi hi ddim yn cael llawer o gefnogaeth gan ei rhieni ac mae'n well gan ei thad wylio'r teledu! Pan mae Matilda'n cychwyn yn yr ysgol mae hi'n cyfarfod Miss Honey ac mae'r ddwy yn dod yn ffrindiau. Er fod ei hathrawes glên yn annog a helpu Matilda, mae pennaeth erchyll yr ysgol, Miss Trunchbull, yn gwneud bywyd yn anodd i bawb. Mae'n gas gan y brifathrawes dychrynllyd blant, ond Matilda yn enwedig! Mae'r stori wedi ei selio mewn ysgol, sy'n gyfarwydd iawn i ni gyd, ac mae Roald Dahl yn mynd a'r darllenwyr ar antur wrth i'r ferch fach dalentog yma ddysgu gwers i'r oedlion cas yn ei bywyd. Mae'r awdur yn siarad gyda'r darllenwr sy'n dod a'r stori'n fyw. Mae ei ddychymyg yn gryf ac mae hiwmor da drwy'r llyfr i gyd! Mae'n stori anwyl, sy'n llawn antur, hiwmor a dirgelwch er fod rhai darnau'n reit dywyll ar brydiau. Mae'r neges i blant yn glir yn y stori: mi allwch chi lwyddo! Hefyd, mae 'na neges i oedolion cas hefyd - byddwch yn glên gyda'ch plant neu watch out! Roald Dahl is on top form with this book. It's a wonderful story about a gifted little girl who falls in love with books straight away! By the time she's three, she's already taught herself how to read. Fast forward a year, and she's read every single book in the library! She doesn't get much support from her parents and her dad always tells her that tv is far more important than silly books. When she starts school, she meets the amazing Miss Honey and the two strike up a friendship. Even though her teacher is kind and caring, Matilda's school is terrorised by the awful headmistress, Miss Trunchbull. The story is set in school, somewhere that is familiar to us all. The author takes us on an adventure as this talented girl teaches those mean adults a lesson. His imagination and humour flows throughout the book. It's an endearing book, full of adventure, laughs and mystery as well as some rather dark bits! The message to children is clear: you can do it! A word of warning to nasty adults too - be nice to kids or else! I THOROUGHLY recommend this book - a Roald Dahl classic!

© 2019 Sônamlyfra. Proudly created with Wix.com.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon

Menter gwirfoddol yw Sôn am Lyfra sy’n darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i sgyrsiau a thrafodaethau am lyfrau. Rydym yn gweithredu’n gwbl annibynnol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.  Bydd eich rhodd yn help i ni gynnal y gwasanaeth.

 

Sôn am Lyfra is a voluntary venture that provides bilingual reviews for Welsh children and young people’s books. It shall also be a platform for conversations and discussions about books. We operate totally independently and we appreciate any donations that help us to achieve our goals. Your kindness will help us maintain the Service.

bottom of page