*Scroll down for English & comments*
"Tywysoges vs Y Frenhines: antur a ffantasi"
"Princess vs The Queen: Fantasy adventure."
Gwasg: Y Lolfa
Cyhoeddwyd: 2017
ISBN: 978-1-78461-502-4
Lefel: ❖ ❖ ❖
--Cymraeg Gwreiddiol--
Stori gyda iaith naturiol, ond fwy addas i ddarllenwyr hynStory with easy-to-read, natural language, but more suitable for older readers
Dyfarniad/Verdict: ★ ★ ★ ★ ★
Dyma ni gyfres newydd i bobl ifanc yn eu harddegau gan Bethan Gwanas. Y Melanai yw’r enw ar y drioleg, ac ‘Efa’ yw’r stori gyntaf. Petawn i’n gorfod crynhoi’r gyfres, byddwn i’n dweud cyfuniad o Lord of the Rings, Hunger Games a Game of Thrones efo ychydig bach mwy o hiwmor. Mae’n wir i ddweud fod y stori yma’n cydio o’r dudalen gyntaf.
Mae Bethan yn amlwg wedi dysgu gan y meistr o fyd ffantasi ei hun, J.R.R. Tolkein ac mae hi wedi creu byd newydd ei hun - ac mae 'na fap ar ddechrau’r llyfr. Gwych! Mae o’n rhoi rhyw fath o gyd-destun i’r llyfr cyn dechrau darllen ac erbyn i ni glywed am y llefydd yma yn y stori, ma’ na deimlad lled-gyfarwydd.
Un peth o’n i’n licio oedd y rhestr cymeriadau ar y dechrau. Dwi ddim wedi gweld hyn mewn llyfr o’r blaen, ac i fod yn onest, mae o’n handi! Mi o’n i’n gweld fy hun yn troi at y rhestr cymeriadau o dro i dro i atgoffa fy hun. Syniad da iawn, yn enwedig mewn llyfr gyda nifer o gymeriadau ag enwau anghyfarwydd.
Mae’r prolog yn wych. Mae’r awdur yn llwyddo i greu naws anghyfforddus a creepy yn syth gyda’r seremoni farbaraidd. Yn nheyrnas Melania, ‘da chi’n gweld, mae’n rhaid i ferch (y dywysoges) ladd ei Mam (Y Frenhines) ar ei phen-blwydd yn un ar bymtheg oed. Dyma’r rheolau ers canrifoedd. Mae hyn yn hollol normal yn Melania. Dwi’n hoff o’r ffordd mae’r awdur yn normaleiddio’r traddodiad ofnadwy yma yn y llyfr, ond i ni, fel y darllenwyr, da ni’n gwybod pa mor farbaraidd a hurt ydi o go iawn. Y peth ydi, mae o’n reit scary o beth i ddychmygu a dweud y gwir, achos ma’ 'na bethau tebyg wedi digwydd go iawn, mewn defodau paganaidd, lle'r oedd gwneud aberthau creulon drwy dywallt gwaed yn beth cyffredin. Mae traddodiadau o’r fath yn fy atgoffa o’r arferion hynafol o foddi neu losgi gwrachod. Y peth oedd, fel pobl Melanai, maen nhw’n meddwl fod nhw’n gwneud y peth iawn. Dyna sy’n frawychus.
Mae’r disgrifiad o’r seremoni yn amser y presennol yn effeithiol wrth greu’r teimlad ein bod ni yno ar y funud honno. Y dorf yn gweiddi a’r drymiau yn curo. Pawb yno i wylio’r lladdfa. Mae’n rhoi croen gŵydd i mi wrth feddwl am y peth. Dwi’n falch fod Bethan Gwanas yn cynnwys y disgrifiad erchyll, gwaedlyd i ni ar y dechrau. Dydi hi ddim yn trio sensro’r peth. Wrth ddarllen y geiriau am y ferch sydd: “gyda sgrech o boen yn plannu’r gyllell yng nghalon y fam,” mi ydw i’n hooked.
Flashback oedd hynny. Mae’r bennod gyntaf yn dod a ni’n ôl i’r presennol. Rydym ni’n cyfarfod Efa, y darpar frenhines, a’i ffrindiau. Mae Efa’n agosáu at yr amser lle bydd gofyn iddi ladd ei mam ei hun gyda chyllell er lles y wladwriaeth. Dyna i chi goblyn o benbleth i’r hogan i ddweud y lleiaf! Yn ystod y stori, da ni’n dod i’w nabod a buan iawn ’da ni’n ffeindio fod hi’n anghyfforddus iawn gyda’r disgwyliadau mawr yma.
Daw Efa i’r canlyniad fod y drefn ym Melania yn farbaraidd ac mae’n bryd i bethau newid. Yn anffodus, er pa mor greulon ydyw, dyma yw cyfraith y wlad ac mae’r gosb o beidio ufuddhau yn waeth. Felly, mae hi’n penderfynu (reit sydyn a dweud y gwir) i ddianc. Dyma yn y bôn, yw’r stori.
Mae’n bwysig nodi fy mod i’n fachgen sy’n llawer hŷn na chynulleidfa darged y nofel hon ond serch hynny, rydw i wedi mwynhau’r stori’n arw. Wrth gwrs, mae ’na ddarnau sy’n ei gwneud yn amlwg mai llyfr i bobl ifanc yn eu harddegau yw hwn, a bydd y sôn am filwyr hunky, plorod, fflyrtio a chusanu o bosib, yn apelio’n fwy at ferched yn eu harddegau na bechgyn, rwy’n tybio.
Mae 'na ddigon o antur yma i ddal fy sylw drwy’r nofel i gyd. Mae’r geiriau a’r brawddegau yn llifo mor naturiol ac mae dawn Bethan Gwanas gydag iaith lafar, Cymraeg dydd-i-ddydd yn gryf yma. Mae o mor hawdd i’w ddarllen. Dwi’n teimlo y gallai’r stori fod wedi gweithio’n well mewn byd ar blaned arall, neu ar y ddaear mewn rhyw oes hudol a fu ond ella mai barn personol ydi hyn. Weithiau, mae ychydig o’r social commentary am y morfilod glas a’r llygru plastig yn teimlo dipyn yn preachy. Er hynny, dwi’n cydnabod fod o’n neges bwysig!
Mae’r nofel yma’n llwyddo i’n cyflwyno i wlad Melania, ac erbyn y diwedd rydym yn teimlo’n hen gyfarwydd ag Efa, wrth i ni weld y byd drwy ei llygaid hi. Mae Bethan yn ein cyflyru i falio am y cymeriadau, a da ni’n invested go iawn erbyn y diwedd. Dwi wir isio gwybod os fydd Efa a Dalian yn cael efo’i gilydd!!
Mae’r nofel yma’n gosod pethau’n berffaith ar gyfer y llyfr nesaf yn y gyfres ac mae’r awdur yn gwybod yn union beth mae hi’n wneud drwy orffen y llyfr gyda wopar o cliffhanger. Dwi’n falch mod i’n darllen y rhain ar ôl i’r drioleg gyfan gael ei gyhoeddi neu mi fysa hi’n dipyn o job disgwyl am yr un nesaf!
Here we are: a new series for teenagers by well-known author, Bethan Gwanas. Y Melanai is the name for the trilogy, and ‘Efa’ is the First novel. If I had to summarise, I’d say a blend of Lord of the Rings, Hunger Games and Game of Thrones with a bit of humour thrown in. Safe to say, this story is gripping from the word go.
Bethan has obviously learned from the master of fantasy himself, J.R.R. Tolkein and she’s created a new fantasy world – with a map at the start. Brilliant! It gives a sort of context before reading and by the time we hear of these places, they feel vaguely familiar.
One thing I did like was the character list at the start. I haven’t seen this in a novel before, and to be honest, it’s handy! I found myself using it now and then to remind myself. A good idea, especially with so many new main characters.
The prologue is brilliant. The author creates an uncomfortable and creepy ambience with the violent ceremony. You see, in the land of Melania, the daughter (the princess) must kill her mother (the Queen) on her sixteenth birthday. These are the rules. I love the way the author makes it seem so normal in Melania, but we, as readers realise how crazy this is. The thing is, it’s quite scary to think about it because similar things have happened in history. Blood was often spilled in ritual pagan sacrifices. It reminds me of the traditions of drowning or burning witches. It’s scary because we, like the people of Melania, used to think this was the right thing to do.
The description of the ceremony in real time is effective in creating the feeling that we are there, witnessing the horror. The crowd shouting and the drums beating. It gives me goosebumps thinking about it. I’m glad that Bethan Gwanas has kept the gory details at the start. She doesn’t try and censor it. As soon as I read about the girl who, “with a scream of pain, plunges the knife deep into her mother’s heart,” I’m hooked.
That was a flashback. The first chapter brings us back to the present day. We meet Efa, the princess and soon-to-be Queen. She is nearing that time when she must kill her own mother for the sake of the country. What a dilemma for the poor girl to say the least! During the story, we get to know her and we soon find out that she’s not comfortable at all with what is being asked of her.
She comes to the conclusion that this tradition is barbaric and it’s time things changed. Despite it’s apparent cruelty, this is the law, and the punishment for refusal is worse. She decides (rather suddenly really) that she must escape. This is the story in a nutshell.
It’s important to note that I’m a man who’s much older than the target audience for the book, but despite this, I’ve enjoyed it thoroughly. Of course, there are parts that make it obvious that this book is aimed at teenagers. All the talk of hunky soldiers, spots, flirting and kissing will no doubt appeal to the book’s intended audience. It perhaps would appeal more to girls than most boys.
There’s plenty of action here to sustain my interest throughout the book. The sentences flow easily and Bethan Gwanas is skilled in using natural, informal, everyday Welsh. It’s so easy to read. I feel the story could have worked well on another planet or set in the past, in a magical age, rather than the future, but this is personal taste. Sometimes the social commentary about blue whales and plastic feels a bit preachy and on-the-nose. Even so, it is an important message.
This novel introduces us to the country of Melania, and by the end we are very familiar with Efa, as we see life through her eyes. Bethan forces us to care about the characters, and we are genuinely invested by the end. I really want to know if Dalian and Efa get together!
This novel sets things up perfectly for the next one and the author knows exactly what she’s doing by finishing the first instalment with a whopper of a cliff-hanger. I’m glad that I’m reading these after all three novels have been released otherwise it would be a long wait!
Opmerkingen