top of page

Matilda ~ Roald Dahl

Updated: Sep 24, 2019

*scroll down for English*


Mewn brawddeg: "Merch anhygoel yn dial ar hen oedolion cas"

In a nutshell: "Girl genius takes revenge on evil adults"

Gwasg: Rily Publications

Cyhoeddwyd: 2016

Addasiad Cymraeg: Elin Meek

ISBN: 978-1849673495

*Cyfieithiad/translated book*


Lefel/level: ❖ ❖

addas ar gyfer darllenwyr eithaf hyderus

Suitable for fairly confident readers


Dyfarniad/verdict: ★★★★★


 

Dyma glasur o stori gan yr awdur enwog, Roald Dahl. Stori wych am ferch fach sy'n syrthio mewn cariad â llyfrau pan oedd hi'n ifanc. Erbyn ei bod hi'n dair oed, mae hi wedi dysgu ei hun sut i ddarllen. Erbyn fod hi'n bedair, mae hi wedi darllen yr holl lyfrau yn y llyfrgell. Dydi hi ddim yn cael llawer o gefnogaeth gan ei rhieni ac mae'n well gan ei thad wylio'r teledu!


Pan mae Matilda'n cychwyn yn yr ysgol mae hi'n cyfarfod Miss Honey ac mae'r ddwy yn dod yn ffrindiau. Er fod ei hathrawes glên yn annog a helpu Matilda, mae pennaeth erchyll yr ysgol, Miss Trunchbull, yn gwneud bywyd yn anodd i bawb. Mae'n gas gan y brifathrawes dychrynllyd blant, ond Matilda yn enwedig!




Mae'r stori wedi ei selio mewn ysgol, sy'n gyfarwydd iawn i ni gyd, ac mae Roald Dahl yn mynd a'r darllenwyr ar antur wrth i'r ferch fach dalentog yma ddysgu gwers i'r oedlion cas yn ei bywyd. Mae'r awdur yn siarad gyda'r darllenwr sy'n dod a'r stori'n fyw. Mae ei ddychymyg yn gryf ac mae hiwmor da drwy'r llyfr i gyd!


Mae'n stori anwyl, sy'n llawn antur, hiwmor a dirgelwch er fod rhai darnau'n reit dywyll ar brydiau. Mae'r neges i blant yn glir yn y stori: mi allwch chi lwyddo!


Hefyd, mae 'na neges i oedolion cas hefyd - byddwch yn glên gyda'ch plant neu watch out!



 


Roald Dahl is on top form with this book. It's a wonderful story about a gifted little girl who falls in love with books straight away! By the time she's three, she's already taught herself how to read. Fast forward a year, and she's read every single book in the library! She doesn't get much support from her parents and her dad always tells her that tv is far more important than silly books.


When she starts school, she meets the amazing Miss Honey and the two strike up a friendship. Even though her teacher is kind and caring, Matilda's school is terrorised by the awful headmistress, Miss Trunchbull.




The story is set in school, somewhere that is familiar to us all. The author takes us on an adventure as this talented girl teaches those mean adults a lesson. His imagination and humour flows throughout the book.


It's an endearing book, full of adventure, laughs and mystery as well as some rather dark bits! The message to children is clear: you can do it!


A word of warning to nasty adults too - be nice to kids or else!


I THOROUGHLY recommend this book - a Roald Dahl classic!

103 views1 comment
bottom of page