top of page

Y Diffeithwch Du ~ Bethan Gwanas (Y Melanai)

*Scroll down for English & to leave comments*


"Ffantasi ac antur. Brwydr i oroesi mewn tir estron."

"Fantasy adventure. A battle for survival in strange lands."


Gwasg: Y Lolfa

Cyhoeddwyd: 2018

ISBN: 978-1784616526

*Gwreiddiol Cymraeg ~ Welsh Original*


Lefel: ❖ ❖ ❖


Iaith lafar, naturiol. Hawdd i'w ddarllen. (addas i ddysgwyr da)

Spoken Welsh, easy to read. Suitable for learners.

 

Wel, roeddwn i’n ysu i gael cychwyn Y Diffeithwch Du, sef ail nofel Bethan Gwanas yn y drioleg hynod o boblogaidd, Y Melanai. Roedd y nofel gyntaf yn ddigon clyfar i orffen ar cliffhanger fawr. Mae’r llyfr nesaf yn ail gydio’n syth, eiliadau wedi i ni weld y cymeriadau diwethaf.



Yn gyfrwys iawn, mae’r awdur yn llwyddo i integreiddio crynodeb o’r antur hyd yma ar ddechrau’r stori er mwyn ein hatgoffa, ond mae’n digwydd mewn ffordd gwbl naturiol. Mae hynny’n golygu nad oes raid darllen y llyfr gyntaf (ond mi fyddwn i’n argymell i chi wneud!)


Does dim angen i’r llyfr yma ein cyflwyno i’r cymeriadau, achos mae’r gwaith caled yma wedi ei wneud yn barod. Gall y llyfr yma fynd yn syth at y cyffro, wedi i Efa a’i chriw ddianc o Melania. Yn wir, er bod 'na gyfeiriadau tuag at eu mamwlad, nid ydym yn clywed mwy am drigolion Melania wedi’r seremoni fynd o chwith. Dwi’n ffeindio fy hun ar dân eisiau gweld ymateb y Frenhines wedi iddi sylweddoli fod ei merch wedi gwneud runner! Dwi’n siŵr bydd y pwynt yma’n cael sylw yn y drydedd nofel.



Mae’r criw wedi dianc dros y moroedd, ac maen nhw on the run mewn gwlad anghyfarwydd, estron a pheryglus. Dyna yn y bôn yw prif linyn stori’r llyfr. Mae’n brawf o allu’r ffrindiau i gyd-weithio i ddygymod â sefyllfaoedd brawychus. Maen nhw’n trio cyrraedd ochr arall y diffeithwch du ond yn bennaf yn ceisio goroesi.


Mae popeth yn eu herbyn. Mae’r ceffylau wedi eu hanafu ac mae Dalian yn ddifrifol wael. Tybed os allo ddod drwyddi? Wnâi ddim dweud mwy.

Mae ‘na gymeriadau newydd yn cael eu cyflwyno yn y llyfr, ac roeddwn i’n falch o weld o leiaf un person yn dod i helpu’ grŵp, wrth iddynt ddioddef ymosodiad ar ôl ymosodiad gan greaduriaid dychrynllyd o bob math. Yn ogystal â’r anifeiliaid, mae’n rhaid iddynt ddelio gyda pheryglon o haint ac afiechyd ac mae hyd yn oed y dirwedd yn eu herbyn. (fel yr awgrymir gan y clawr effeithiol).



Mae’r nofel yn dal sylw’r darllenydd drwyddi, ond o ddiwedd Pennod 19 hyd at ddiwedd y llyfr mae’r antur yn codi gêr. Mae’r tensiwn yn annioddefol wrth i ni ddisgwyl mewn distawrwydd i rywbeth ofnadwy ddigwydd:

“Roedd Prad a Bilen wedi bod ar ddyletswydd ers bron i awr pan sylwodd Prad fod Brân wedi dechrau aflonyddu. Rhoddodd brociad sydyn i Efa. Deffrodd honno’n syth, sylweddoli mewn dim fod rhywbeth wedi gwneud y ceffylau’n nerfus. Funud yn ddiweddarach, roedd pawb yn gwbl effro ac yn craffu i berfeddion y goedwig.”


Mae disgrifiadau o sŵn siffrwd y dail a phethau’n agosáu drwy’r coed yn fy atgoffa o Jurrassic Park, cyn i bethau fynd yn flêr. Scary stuff Bethan Gwanas. Dwi’n licio fo.


Mae’r ail nofel yn ddidrugaredd efo’r cymeriadau ac yn eu gosod mewn sefyllfaoedd anobeithiol, dro ar ôl tro, ond rhywsut, mae eu cyfeillgarwch yn eu cadw’n fyw. Mwyaf sydyn, mae hi’n gorffen gyda darganfyddiad enfawr a fydd yn newid bywyd Efa a’i chriw am byth.



Dwi dal ddim yn hollol siŵr os dwi’n hoff o’r ffaith fod y llyfr wedi ei osod yn y dyfodol ar ein daear ni, mae’n teimlo llawer mwy fel byd canoloesol neu ar blaned arall. Fy nheimladau personol i yw'r rhain. Mae’r awdur yn awgrymu mai ni’n hunain sy’n gyfrifol fod y ddaear wedi cyrraedd y stad yma yn y dyfodol. Mae’n awgrymu cyfnod ôl-dechnolegol yn y dyfodol lle mae’r bobl wedi mynd yn ôl i fyw oddi ar y tir mewn ffordd fwy cynaliadwy. Ydi’r awdur yn awgrymu mai dyma’r ffordd orau ymlaen i ni?


Cryfder y nofelau yma yw’r cymeriadau a’r ffyrdd y maen nhw’n rhyngweithio a'i gilydd. Mae digon ohonynt i gadw pethau’n ddiddorol. Dwi’n falch iawn fod yr awdur yn portreadu'r merched fel cymeriadau cryf sy’n gallu amddiffyn eu hunain. Wrth gwrs, mae’r bechgyn yn helpu gyda hyn (achos nhw yw’r gwarchodwyr) ond mae’n braf gweld y merched yn arwain ac yn gofalu am eu hunain (a’r dynion ar brydiau) yn hytrach na sgrechian fel damsels in distress yn disgwyl am help.


Mae rhai o’r themâu yn y llyfr yn mynd i apelio’n fawr at gynulleidfa yn eu harddegau, ond mae apêl ehangach i’r gyfres yma, a dwi wedi clywed am nifer o oedolion sydd wedi mwynhau’r llyfr yn fawr- gan gynnwys fi!

Dwi’n hoffi’r syniad o roi sneak preview o’r llyfr nesaf ar y diwedd hefyd, i gael ni’n barod at y nesaf...


 

Well, I couldn’t wait to get started on Y Diffeithwch Du, the second novel by Bethan Gwanas in the popular fantasy trilogy, Y Melanai. The First novel was clever enough to finish on a cliff-hanger. The next book immediately picks up where the last one left off.



The author has Cleverly Managed to integrate a recap or summary of what’s happened so far into the start, so don’t worry if you missed the First novel, you can still enjoy this one. (although I do recommend you try and read them in order!)


This book doesn’t need to introduce characters, so it can get straight to the action. And it does. They’ve just escaped from Melania. In fact, apart from a few mentions we don’t visit Melania at all in this book so we have no idea the look on the Queen’s face when she realises her daughter’s done a runner. I’d love to see her reaction; hopefully this will be addressed in the next book.

The Young gang have fled over the seas and they’re on the run in a foreign and unforgiving new land. This is the main plot thread in the story. It’s a testament to the friends’ ability to work together to defeat the odds. They are trying to cross Y Diffeithwch Du (dark desert/wilderness), but ultimately, they are trying to survive.



Everything is against them. The horses are injured and Dalian is gravely ill. Can they pull through? I won’t say anymore.

New characters are introduced in the book, and I was glad to hear of at least one person who comes to their aid as they encounter attack after attack by strange and frightening creatures, both big and small. As well as animals on the loose, they must deal with the dangers of illness and infection with limited medical Supplies. With raging volcanoes around and steam vents, even the landscape has turned on them.


The novel maintains the readers interest throughout and is well paced. From chapter 19 until the end of the novel things really move up a gear as the author ramps it up ready for the climax. The tension is unbearable as we wait in silence for something to happen (which we know inevitably will).

The descriptions of rustling noises coming from the forest, as it draws nearer, reminds me a lot of Jurassic Park. The calm before the storm as it were. Quite scary stuff actually. I like it.



This book is unrelenting and merciless with it’s characters as it puts them in several hopeless situations, but hopefully, their friendship will keep them alive. All of a sudden, the novel ends with a huge discovery that will possibly change their lives forever.


I'm still not sure that I like the fact that the book is set in a future on our earth. It just feels more suited to a middle-earth type location or on another planet. This is just my opinion. The author, with some use of social commentary and moral lessons (I’m not that keen on; they’re a bit forced) suggests that it was our actions that resulted in this sort of post-technological future. At least humans have ditched their planet-destroying ways and have gone back to living off the earth in a more sustainable way. Is the author hinting that this could this be the best way forward for us as a species?


The strength of this novel is its characters and the way they interact together. There’s a large cast which keep things interesting with plenty of variety. I’ m glad the author has chosen strong lead female characters who can defend themselves. Of course, the lads help out here (they are the protectors after all!) but it’s refreshing to see the girls leading and taking care of themselves. They are the stars here. This is much better and modern than the traditional damsel in distress routine.



The themes such as young love etc. will appeal to the teenage audience, but the book has a wider appeal. I’ve heard of many adults, including Welsh learners, who have really enjoyed it – including me!

I liked the idea of giving us a sneak preview of the next instalment to whet our appetite...

38 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page