top of page
Writer's picturesônamlyfra

'Y Dyn Dweud Drefn' gan Lleucu Fflur Lynch

*Scroll Down for English*


"Stori fer am ddyn blîn"

"Short story about an angry little man"


Gwasg: Carreg Gwalch

Cyhoeddwyd: 2019

ISBN: 978-1-84527-645-4


Lefel: ❖

Stori fyr, hawdd.

Short story, easy to read.

Dyfarniad/Verdict: ★ ★ ★ ☆ ☆

 

Wel, mi wnes i fwynhau darllen y stori fach yma! Llyfr newydd a llyfr cyntaf gan Lleucu Fflur Lynch. Dwi’n siwr ein bod ni gyd yn ‘nabod o leiaf un person blin neu bigog sydd wastad yn cwyno fod rhywbeth o’i le. Efallai eich bod chi’n gweld dipyn o’r ‘Dyn Dweud Drefn’ ynoch chi’ch hun! Mae’r ‘Dyn Dweud Drefn’ yn dwrdio rhywbeth neu rywun drwy’r dydd, bob dydd. Mae ei baned yn rhy oer, mae’r tywydd rhy boeth, neu mae hi’n rhy fuan i godi. Be bynnag yw’r mater dan sylw, mae’r ‘Dyn Dweud Drefn’ yn flin. Bod yn flîn yw ei fywyd, hynny yw, nes bod rhywbeth mawr yn newid yn ei fywyd un diwrnod. Darllenwch y llyfr i ffeindio allan, beth sy’n llwyddo i feddalu calon y dyn bach annifyr.



Stori syml iawn yw hon, sydd ddim yn rhy hir ac mae ‘chydig o hiwmor ynddo hefyd, er bod ganddo neges reit bwysig. Mae’r lluniau minimalist Gwen Millward yn werth chweil ac yn adio cymaint i’r stori - maen nhw’n fy atgoffa o’r gyfres Ifan Bifan, gan Gunilla Bergstrom. Yn wir, er nad oes ganddo enw, mae’r Dyn Dweud Drefn yn edrych yn debyg iawn i Gru o Despicable Me!


‘Da ni gyd yn euog o fod mewn hwyliau drwg weithiau, efallai ar ôl codi ar ochr anghywir y gwely, a dwi fy hun yn gallu bod yn bigog - yn enwedig yn y bora! Mae stori’r ‘Dyn Dweud Drefn’ yn ein hatgoffa fod 'na bethau pwysicach mewn bywyd na dwrdio a dweud drefn. Relax! Chill out man! Fel ma’ nhw’n ddweud yn y Saesneg! Yn lle bod yn flin, beth am roi’r egni yna mewn i rywbeth mwy cynhyrchiol? Mae bywyd rhy fyr i fod yn flîn. Mae 'na rywun neu rywbeth allan yn y byd sy’n llwyddo i gael bob person blîn i wenu yn y diwedd!



 

Well, I enjoyed this short little story! This brand new book is Lleucu Fflyr Lynch’s first. I’m sure we all know or can think of at least one person who’s always angry and complaining about things not being right. Maybe you see yourself in the ‘Dyn Dweud Drefn’ (The Telling Off Man). The ‘Dyn Dweud Drefn’ is always angry about something or someone. His tea is too cold, the weather’s too hot or it’s too early to get up. Whatever the issue, you can guarantee that the ‘Dyn Dweud Drefn’ won’t be impressed. Being angry about things is his life. That is, until something happens which changes his life forever. Read the book to find out what’s the one thing that manages to melt the heart of this miserable little man.


This is a really simple story, not too long and it’s got a touch of humour to it even though I think it holds an important message. The minimalist illustrations by Gwen Millward are brilliant and they add so much to the story – they remind me of the Ifan Bifan series from the 80s by Gunilla Bergstrom. Even though we don’t know what he’s really called, the ‘Dyn Dweud Drefn’ looks a lot like Gru from Despicable Me!



We’re all guilty of being in a bad mood sometimes, maybe we’ve just woken up on the wrong side of the bed that day. I myself can be a bit ratty at times- especially in the mornings! This story reminds us that there are more important things in life than being angry all the time. Relax! Chill out Man! Instead of being angry, why not put that energy into something more productive? Life’s too short to be in a bad mood. This book proves that there’s always something or someone that can manage to make an angry person smile in the end!


34 views1 comment

Recent Posts

See All

1 Comment

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
gwanas
Mar 29, 2020

Llyfr da ar gyfer unrhyw un sy'n hoffi cŵn! Mae'r ci yn bwysig...

Like
bottom of page