Chwilio
309 results found with an empty search
- Gweld, Cyffwrdd, Teimlo
*Scroll down for English & comments* Llyfr i'r synhwyrau i'w rannu gyda'ch babi. First sensory book to share with your baby. Gwasg/publisher: Rily Cyhoeddwyd/released: 2018 Addasiad: Catrin Wyn Lewis Pris: £7.99 ISBN: 978-1-84967-422-5 *Llyfr dwyieithog - Bilingual Book* Llyfr cyntaf i fabi sy’n llawn gweithgareddau difyr i ddeffro ac ysgogi’r synhwyrau. Mae’n llyfr perffaith i riant a babi fwynhau dysgu gyda’i gilydd. Dyma lyfr da iawn ar gyfer gweld, clywed, cyffwrdd a theimlo. Mae yna weadau a siapiau newydd a diddorol er mwyn iddyn nhw allu teimlo’r patrymau gwahanol. Dwi’n hoffi’r drych ar y dudalen olaf. Mae’r brawddegau’n fyr ac mae’r cyfieithiad Saesneg ar gael hefyd oddi tanodd. Cyfle gwych i riant a babi ddysgu 'chydig o eiriau Cymraeg newydd. A first book for a baby with fun activities to stimulate the senses. It's a perfect book for a parent and baby to enjoy learning together. This is a very good book for seeing, hearing, touching and feeling. There are new and interesting textures and shapes so they can feel the different patterns. I like the mirror on the last page. The sentences are short and the English translation is also available underneath. A great opportunity for parent and baby to learn a few new Welsh words.
- Tom - Cynan Llwyd
*Scroll down for English & comments* Stori sy'n cydio, wedi ei leoli yn y ddinas. Gripping story set in the city. Gwasg/publisher: Y Lolfa Cyhoeddwyd/released: 2019 Pris: £5.99 ISBN: 978-1-78461-745-5 *Llyfr gwreiddiol - Welsh Original* Lefel her/challenge level: ❖ ❖ ❖ Dwi’n mwynhau darllen, ond ddim yn aml dwi’n mwynhau nofel cymaint â hon. Mae’n swnio dipyn bach yn cliché, ond roedd hi wir y amhosib rhoi hon i lawr. Tydi hi ddim fel unrhyw beth dwi wedi’i ddarllen yn y Gymraeg o’r blaen. Mae lleoliad dinesig y nofel, mewn stad o fflatiau, yn fy atgoffa o’r ddrama deledu This is England - ond wrth gwrs, mae hwn yn sbesial i Gymru ac yn llawer gwell! Tydi’r wybodaeth ar wefan y Lolfa ddim yn gwneud cyfiawnder â’r nofel yma: “Mae Tom yn 15 oed ac mae ei fywyd yn gymhleth.” Wel, dyna i chi understatement! Llawer gwell gen i ddisgrifiad Manon Steffan Ros ohoni fel nofel sy’n “gyffrous, mentrus a chwbl unigryw.” Mae hi’n unigryw. Bachgen 15 oed yw Tom, sy’n dioddef y pethau teenage angst fyse chi’n disgwyl mewn nofel fel hyn, ond mae ambell i dwist diddorol. Er enghraifft, mae o’n obsessed efo bod yn lân a pheidio dal germau. Rhywbeth diddorol sy’n cael ei esbonio wedyn. Mae Tom yn byw ar stad Caercoed yn Grangetown. Dwi wedi gwirioni efo disgrifiadau Cynan Llwyd o’r ardal - mae o’n ein trochi ym myd dydd-i-ddydd y stad. Mae’n cyfleu tlodi a chaledi bywyd yno. Er hyn, mae ’na lawer o gariad yn nhŷ Tom, ond mae ei fam, sy’n fam sengl, yn gweithio ddydd a nos er mwyn crafu byw i roi bîns a chicken nuggets ar y bwrdd. Mae pres yn dynn a fedrwch chi ddim helpu ond cydymdeimlo â nhw. Mae’r disgrifiadau yn gignoeth, ac yn blaen - nid ydynt yn ceisio cuddio’r agweddau annymunol. Pan ffeindia Tom gath wedi marw er enghraifft, dyweda: “dwi’n credu ’mod i wedi delio gyda hynny’n dda er gwaetha’r gwaed, y perfedd, y drewdod a hagrwch moelni’r ci.” Trafoda’r nofel nifer o themâu cyfoes. Mae yna dlodi, oes, a gangs, trais, cyffuriau, hiliaeth a llofrudd, ond yng nghanol hyn oll, mae yna gyfeillgarwch a theimlad o gymdogaeth hefyd. Mae Tom yn ffrindiau mawr efo Dai, sef dyn yn ei wythdegau, ac maen nhw’n rhannu mwynhad o gomics. Ffrind gorau Tom yw Ananya, ac maen nhw’n fêts gorau. Mae ei theulu, Y Khans, yn wreiddiol o Fangladesh, ac yn dioddef peth atgasedd hiliol yn y stori. Serch hynny, llwydda’r nofel i ddangos Cymru fodern sy’n amlddiwylliannol a sut mae gwahanol hiliau a chrefyddau’n cyd-fyw gyda’i gilydd, er bod 'na anghydraddoldebau cymdeithasol yn dal i fod. I fynd yn ôl at ddisgrifiad gor-syml Y Lolfa o’r nofel, yndi, mae bywyd Tom yn gymhleth. Mae’n ffeindio’i hun yn cael ei dynnu’n ddyfnach i mewn i fyd tywyll y gangs ac mae’r pethau mae’n ei weld - ac yn ei wneud - yn peri gofid mawr iddo. Yn wir, mae ei fywyd mewn perygl. Wna i ddim rhoi mwy o spoliers! Ella fod 'na fymryn gormod o ddisgrifio ar brydiau, ac yn bersonol mi faswn i wedi hoffi diweddglo gwahanol. Roedd y tensiwn a’r drama wedi cael eu hadeiladu i’r fath raddau, roeddwn i’n siŵr fod rhywbeth ofnadwy’n mynd i ddigwydd, ond siomedig braidd oedd y diweddglo sydyn, taclus. Roeddwn i’n awyddus i’r nofel fod yn dywyllach yn y diwedd. Roedd iaith ddeheuol y llyfr yn hawdd i’w ddeall (hyd yn oed i Gog fel fi) a dwi’n hapus iawn i weld nifer o eiriau Saesneg (wedi eu hitaleiddio) yn hytrach na thrio defnyddio geiriau Cymraeg stiff ac annaturiol. O ganlyniad, roedd popeth yn llifo’n dda. Roeddwn i’n hoffi’r darnau ‘social media chatroom’ yn ogystal â defnyddio pwyntiau bwled i grynhoi ambell ddisgrifiad. Pam lai? Mae’n lleihau’r baich darllen ond yn cyfleu’r wybodaeth i gyd yn syml ac yn sydyn. Dwi’n gobeithio y bydd yna lyfr arall gan yr awdur yma, ac mi faswn i’n synnu os na fydd hwn yn ymddangos ar y maes llafur TGAU yn fuan. Mae’n hen bryd i ni gael nofel gyfoes, rymus wedi ei lleoli mewn dinas ar y cwricwlwm sy’n fwy perthnasol erbyn hyn i bobl ifanc na Y Stafell Ddirgel. (No offens i Marion Eames!) I enjoy reading but I’m not often gripped by a novel as I was with this one. Sounds a little bit cliché perhaps but it really was impossible to put down. It's not like anything I've read in Welsh before. The novels urban location, based on a block of flats within an estate reminds me of the TV drama This is England – but of course this is special to us in Wales and much better! The information on The Lolfa’s website does not do this novel justice: "Tom is 15 years old and his life is complicated." Well, that’s an understatement! I much prefer Manon Steffan Ros’s description. She calls it "exciting, risky and totally unique." It is unique. Tom, our 15-year-old main character suffers from the usual teenage angst you’d expect in a novel for this age group, but it does have a few interesting twists. For one, he is obsessed with cleanliness and despises germs. This is something that is addressed later in the book. Tom lives on the Caercoed estate in Grangetown. I'm thrilled with Cynan Llwyd's descriptions of the area – he immerses us in day-to-day life on the estate. It portrays the deprivation and poverty as well as the general struggle of life there. Despite the bleakness, there’s a lot of love in Tom's house, and the two have a strong bond. His mother, who is a single parent, works day and night to scrape a living and to put chicken nuggets on the table. Money is tight and you can’t help but feel sorry for them. The descriptions are blunt and raw. They do not attempt to conceal the undesirable aspects. For example, when he finds a dead cat, he describes: "I think I have dealt with it well despite the blood, the guts, the stench and the deformity.” The novel discussed a number of topical themes. There is poverty, yes, and gangs, violence, murder, drugs and racism, but in the midst of all this, there is also friendship and comradery amongst neighbours. Tom is big friends with Dai, a man in his eighties, and they share a love of comics. Tom's best friend is Ananya, and they are close. Her family, the Khans, are originally from Bangladesh, and they suffer some racial abuse in the story. But more than this, the novel portrays a modern and multicultural Wales where different races and religions co-exist together despite many social inequalities. Going back to that overly simplistic description of the novel, I agree, his life is complex. He finds himself being dragged deeper into the world of the gangs and he sees and does things that are very distressing. Indeed, it puts his very life in danger. No more spoilers, I promise! Maybe there are too many descriptions at times, and personally I would have liked a different ending. The tension, and the drama had been built to such an extent, I was sure that something terrible was going to happen, but the swift, tidy ending was somewhat disappointing. I wanted the novel to be darker towards the end. The South-Walian dialect of the book was easy enough to understand (even for a Gog such as myself) and I was very happy to see a number of English words (italicised) rather than using a number of stiff, artificial-sounding Welsh words. As a result, the story flows naturally. I liked the ' social media chatroom ' sections and the use of bullet points to summarise some descriptions. Why not? - It reduces the reading burden but conveys all the information simply and quickly. I hope another book is on it’s way from the author, and I would be surprised if this does not appear on the GCSE syllabus soon. It’s about time for us to have a modern, powerful, city-based novel on the curriculum that is more relevant to the youth of today than Y Stafell Ddirgel. (No offence to Marion Eames of course!)
- Hunllef o Anrheg - Graham Howells
*Scroll down for English & comments* Antur ym myd y Tylwyth Teg - Cymraeg ei naws Fairytale adventure- with a Welsh flavour Gwasg/publisher: Gomer Cyhoeddwyd/released: 2019 Addasiad/adaptation: Bethan Gwanas Pris/price: £5.99 ISBN: 978-1-78562-316-5 Lefel Her/challenge level: ❖ ❖ Mwy addas i ddarllenwr da - un da i riant ddarllen More suited for good readers - but could be read by an adult Dwi’m yn siŵr os mai llyfr arall yw hwn neu sequel i’r Bwbach Bach Unig, ond mae o’n sicr yn rhyw fath o ddilyniant. Mae ganddo ‘r un gwedd a naws a’r llyfr cyntaf ac mae ein cyfaill bach annwyl, Y Bwbach, yn gwneud ymddangosiad! Os wnaethoch chi fwynhau’r Bwbach Bach Unig, dwi’n meddwl wnewch chi hoffi hon yn well. Dwi’n teimlo fod hon yn well stori gyda mwy o bethau’n digwydd. Addasiad Bethan Gwanas o The Nightmare Gift gan Graham Howells ydi hwn. Mae B G yn hen law ar ‘sgwennu llyfrau i blant ac mae’n rhaid i mi ddweud ei fod o’n llifo’n lot gwell na’r llyfr cyntaf. Mi oedd yr iaith dipyn yn grandiose yn y llyfr diwethaf ac mae o wedi cael ei symleiddio dipyn ar gyfer hon. (sy’n beth da iawn!) Mae Aled yn boenwr. Mae o’n gofidio gan ei fod yn cychwyn mewn ysgol newydd. Ar gyrraedd yr ysgol, mae o’n darganfod fod ganddo athrawes annisgwyl newydd, Miss Ceridwen ac mae hi’ agor ei lygaid i fyd newydd a rhyfeddol o antur. Mae hi’n ei yrru i’r cwpwrdd yng nghefn y dosbarth… ond nid cwpwrdd normal mohono… ond cartref y Bwbach!! Mae o’n rhoi anrheg bythgofiadwy i Aled, sef y Bwci Bo sydd ar y clawr. (Dwi wedi gwirioni hefo’r pelan bach fflwffiog hyll yma!! Dwi isio un fy hun ‘Dolig!) Wrth i’r ddau ffrind newydd fynd ar antur, da ni’n cyfarfod ambell i hen gymeriad fel Gwyn ap Nudd, a rhai newydd fel y Ladi Wen, yr hwch ddu anferthol, y ferch heb ben a mwy… Er bod y llyfr yn llawn hud a lledrith a chymeriadau rhyfeddol, mae’r awdur yn llwyddo i blethu’r byd chwedlonol gyda’r byd real. Mae’n llwyddo i gyfleu neges bwysig hefyd am orchfygu’ch ofnau ac am sut i drin eraill. Diddorol fod Ethan y bwli, sy’n pigo ar eraill, yn ofn ac yn unig ei hun… Unwaith eto, dwi wrth fy modd gyda lluniau Graham Howells. Mae ei luniau’n cyfoethogi’r llyfr gyda’r cymeriadau lliwgar. Mae ganddo ddawn am greu bwystfilod; mae hynny’n ffaith. Cofiwch fod na sôn am Amgueddfa Sain Ffagan yn y llyfr yma hefyd, ac os nad ydych wedi bod – ewch! I'm not sure if this is another book or a sequel to Y Bwbach Bach Unig, but it's definitely some sort of follow-up. It has the same look and feel of the first book and our dear little friend, the Bwbach, makes an appearance! If you enjoyed Y Bwbach Bach Unig, I think you’ll like this one even more. I feel this is a better story with more action and things going on. This is Bethan Gwanas's adaptation of The Nightmare Gift by Graham Howells. B G is well versed in book writing for children and I have to say that this one flows a lot better than the first book. The language was a bit difficult/posh in the last book and it’s been simplified for this one. (which is a very good thing!) Aled, a young boy, is a worrier. He is anxious because he’s starting at a new school. On arrival, he discovers that he has an unexpected new teacher, Miss Ceridwen, and she opens his eyes to an amazing world of adventure. She sends him on an errand to the storeroom cupboard at the back of the class... This isn’t just any old cupboard... but it’s the Bwbach’s home!! He gives Aled the unforgettable gift of the Bwci Bo (monster) on the cover. (I’m in love with this cute, yet ugly fluffball – I want one for Christmas!) As the two new friends go on an adventure, we meet some old characters such as Gwyn ap Nudd, and new ones like the Ladi Wen, the hairy black sow, the headless woman and more… Although the book is filled to the brim with magic and adventure, the author manages to intertwine the mythical world with the real world. He also manages to convey an important message about overcoming your fears and how to treat others. Interesting to note that Ethan the bully, who picks on others, is scared and lonely himself… Again, I'm delighted with Graham Howells's drawings. His illustrations enrich the book with colourful characters. He has a talent for creating monsters; that is a fact. The St Fagans Museum gets another mention in this book too, and if you still haven't been – go!
- Teulu Tŷ Bach - Eurig Salisbury
*Scoll down for English & to leave comments* Stori llawn hiwmor am dŷ bach boncyrs Funny story about a mad little house Gwasg/publisher: CAA Cymru Cyfres/series: Halibalŵ Cyhoeddwyd: 2018 ISBN: 978-1-84521-704-4 Llyfr hawdd i'w ddarllen, pennodau byr, font mawr. Fairly easy to read, short chapters, large font. Lefel: ❖ Mae Teulu Tŷ Bach yn fy atgoffa o rhai o’r llyfrau Cymraeg roeddwn i’n arfer mwynhau eu darllen yn y 90au. Tydi’r stori ddim yn ddwys, nac yn cymryd ei hun o ddifri, mae o jyst yn nyts – ac mae hynny’n braf weithiau. Y math o lyfr y gallwch ddarllen heb orfod meddwl gormod. Llyfr syml ac ysgafn (dim yn llythrennol). Mae’r stori’n hollol random a dweud y gwir. Ar ddiwedd y stori, doeddwn i ddim cweit yn siŵr beth oeddwn i newydd ddarllen, na beth yn union oedd wedi digwydd, ond mam bach mi wnes i fwynhau! Yn y llyfr, yn lle un stori fawr hir, rydym ni’n clywed pytiau o straeon sy’n adrodd hanes doniol a helbulus y rhai sy’n byw yn Nhŷ Bach, sef Blodwen, Cleif a Sam y ci. Mae ‘na bob math o bethau boncyrs yn digwydd yn y llyfr – wrth ddarllen doedd gen i ddim syniad i ble roedd y stori’n mynd nesaf, oedd yn braf o beth. Y Gath drws nesaf yw gelyn mwyaf Sam y ci; mae hi’n dod i mewn i’r ardd ac yn mwynhau ei bryfocio. Mae hyn yn cynhyrfu Sam y ci’n racs - gyda chanlyniadau doniol! Mae’r gath a’r ci yn fy atgoffa o’r cartŵns Tom & Jerry! Mae’r hiwmor yn y llyfr yn slapstick pur, ac mae meddwl am Edward Edwards (y dyn moel drws nesaf) yn rhedeg o gwmpas yr ardd gyda’r gath am ei ben yn hileriys! Yna, mae Blodwen yn gweld llygoden fawr tra mae hi yn y bath! Rhywsut mae hi’n landio yn yr ardd yn gwisgo dim byd ond ei thywel! Wrth i’r cymdogion busneslyd ddod i drio helpu, mae pethau’n mynd yn rhemp lwyr wrth i’r dynion ddechrau cwffio yn yr ardd! Mae unrhyw un sy’n hoffi stori wirion bost yn siŵr o fod yn eu dybla’n chwerthin drwy’r llyfr yma! Ond mae yna hefyd ddiweddglo hapus, annwyl yng nghanol yr holl wallgofrwydd. O, ia, a dwi ddim yn siŵr fedrai BYTH edrych ar jar o bicls eto heb feddwl am Cleif – neu Edward Edwards druan! YCH-A-FI!!! Mae’r ysgrifen yn fawr ac yn glir yn y llyfr yma. Mae o’n un o ddewisiadau Bl.3a4 ar gyfer ‘Cwis Llyfrau 2019’ ond mi fasa fo’n addas i blant Bl.5&6 sy’n newydd i ddarllen llyfrau Cymraeg neu’n dysgu Cymraeg achos fod o’n syml ac yn hawdd i'w ddarllen. Er hyn, dwi’n meddwl fod Eurig Salisbury’n defnyddio iaith dda ynddo. Mae’r lluniau cartŵn od yn gweddu’r llyfr i’r dim. Athrawon, cofiwch fod yna adnoddau ar gyfer y llyfr yma ar HWB: Teulu Tŷ Bach reminds me of some of the funny Welsh books I used to enjoy reading in the 90s. The story isn't intense, doesn’t take itself too seriously, and is just nuts, basically! It’s nice to read a story like that sometimes. It’s the kind of book you can read without having to think too much. A simple, easy read. The story is totally random. At the end of the story, I still wasn’t quite sure what I’d just read, or what exactly had happened, but boy did I enjoy it! Even though it is one story, it feels more like a few shorter stories about the crazy antics of those who live at Tŷ Bach, namely Blodwen, Cleif and Sam the dog. There are all sorts of mad things going on in the book – as I was reading, I had no idea where the story was going next, which was interesting. Next door’s cat is Sam’s biggest enemy; she comes into the garden and enjoys winding him up whilst he’s stuck in the house. The results are hilarious – they both remind me of the Tom & Jerry cartons! The humour in the book is a pure slapstick, and the thought of Edward Edwards (the bald man next door) running around the garden with the cat on his head is very funny indeed! Then, all of a sudden, Blodwen sees a big rat while she’s in the bath! One way or another she ends up standing in the garden wearing nothing but her towel! As the nosey, meddling neighbours come to her rescue, it descends into complete chaos as the grown men start brawling in her prized flowerbed! Anyone who likes a silly story is bound to in stitches throughout this book! But there is also a happy, affectionate ending in the midst of all the madness. Oh, and, I'm not sure I can EVER look at a jar of pickles again without thinking of Cleif – or poor Edward Edwards! Yuck! The font is large and clear in this book. It is one of the choices for Yrs.3&4 in the 2019 Book Quiz but I have also found it suitable for children in Yrs. 5&6 who are learners or are new to reading in Welsh. This is because it’s a simple and easy-going read. Despite its down to earth storyline, Eurig Salisbury uses rich, good quality language with many learning opportunities. The odd-looking cartoon pictures suit the book perfectly. Teachers, remember that there are teaching resources for this book on HWB: https://hwb.gov.wales/repository/resource/4bbcaeff-c46d-4e30-b2cc-e4a8fe236bb2/cy
- Y Boced Wag - Eurgain Haf
*Scroll down for English & to leave comments* Stori annwyl am fabwysiadu i blant ifanc. Lovely story about adoption for young children. Gwasg/publisher: Y Lolfa Cyhoeddwyd/released: 2019 Lluniau: Siôn Morris ISBN: 978-1-78461-746-2 Lefel her/challenge level: ❖ Llyfr byr a syml. Un da i ddarllen gyda phlentyn. Short and simple book. A good one to read with children. Dyma lyfr annwyl newydd gan Eurgain Haf sy’n trafod thema mabwysiadu mewn ffordd sy’n ddealladwy i blant ifanc. Yn ôl sôn, hwn yw’r llyfr cyntaf ar y pwnc yma yn y Gymraeg i blant bach – dwi’n falch o’i weld ar y silffoedd. Fel dwi’n deall, mae gan yr awdur brofiad o fabwysiadu ei hun, felly hi yw’r person perffaith i ysgrifennu’r llyfr yma. Mae ynddo luniau hyfryd a syml gan Siôn Morris. Ar ddechrau’r stori mae Cadi’r cangarŵ yn drist achos mae ei phoced hi’n wag a does ganddi ddim cangarŵ bach i ofalu amdano. Mae hi’n mynd am dro o gwmpas y wlad yn chwilio am ‘hapusrwydd’ ac yn dod ar draws nifer o anifeiliaid Awstralia. Mae rhai o’r anifeiliaid yn fwy na pharod i helpu ond mae ambell un yn trio ei thwyllo. (Cyfle da yma i drafod sut mae’r dihiryn yn trio ei thwyllo). Yn y pen draw, mae arth coala clên yn ei helpu ac erbyn diwedd y stori, mae Cadi wedi mabwysiadu Jo Bach. Tydi’r stori ddim yn dweud yn union fod Jo Bach wedi colli ei Fam, ond yn hytrach, ei roi mewn ffordd sensitif sy’n addas i blant bach. Mae’r stori’n gynnil felly gallwch ei ddarllen mewn un eisteddiad. Dwi’n meddwl fod y llyfr yn cynnig sbardun da ar gyfer trafodaeth. Anrheg lyfli am £4.99. This is a charming new book by writer Eurgain Haf which discusses the theme of adoption in a way that young children understand. I’m told that this is the first book on this subject in Welsh for young children – I'm glad to see it on the shelves. As I understand, the author has experience of adopting herself, so she is the perfect person to write this book. It contains lovely and simple drawings by Siôn Morris. At the start of the story Cadi the kangaroo is sad because her pouch is empty and she doesn't have a little joey to look after. She goes for a walk around the country looking for ' happiness ' and encounters a number of Australian animals on the way. Some of the animals are more than happy to help but one tries to trick her. (a good opportunity here to discuss how the rascal tries to do this). Eventually, a nice koala bear helps her out and by the end of the story, Cadi has adopted Jo Bach. The story doesn't exactly say that Jo Bach lost (or no longer has) his mum, but instead puts it in a sensitive way that suits small children. The story is nice and short, with each word being chosen carefully, so you can read it in one sitting. I think the book provides a good stimulus for discussion. A lovely gift at £4.99.
- Y Bwbach Bach Unig - Graham Howells
*Scroll down for English & comments* Antur gyda'r Bwbach ryfeddol! House-hunting adventure with the Bwbach! Gwasg/Publisher: Gomer ISBN: 978-1-78562-282-3 Cyhoeddwyd/Published: 2018 Addasiad/Adaptation: Angharad Elen Level her/challenge level: ❖ ❖ Lluniau gwych, iaith mymryn yn heriol i ddarllenwyr ifanc, iawn os oedolyn yn darllen. Full of fantastic pictures but language a little on challenging side - ok if an adult reads. Er ei fod yn addasiad, mae hwn yn llyfr Cymraeg ei naws. Mae llawer o sôn am hud a lledrith ac am gymeriadau chwedlonol, fel Bwbachod a Brenin y Tylwyth Teg, Gwyn ap Nudd. Fel dwi’n deall, roedd bwbachod yn greaduriaid hud oedd yn byw gyda theuluoedd ac yn gwneud troeon da neu waith tŷ am fowlen o hufen. Er eu bod nhw’n rhyw fath o gremlins, mae’r creaduriaid Cymraeg yma’n ddireidus a chyfeillgar yn hytrach na’n broblem. Mae’r bwbach wedi bod yn byw mewn bwthyn ers amser hir, ond does dim teulu’n byw yno bellach ac mae’r lle wedi mynd yn adfail. Un diwrnod mae’r bwbach yn gweld dynion ac yn gobeithio bydd teulu newydd yn dod yno. Yn anffodus, er gwaethaf protestiadau’r bwbach druan, mae’r dynion yn dymchwel ei fwthyn ac yn ei gario ymaith. Beth arall mae bwbach i fod i wneud pan mae ei dŷ’n cael ei ddatgysylltu a’i symud o’i gwmpas? Wel, mynd i chwilio amdano wrth gwrs! Druan ohono… Tra mae’r Bwbach yn ddigartref, mae Brenin y Tylwyth Teg, Gwyn ap Nudd, yn dweud wrth y bwbach fod rhaid iddo fynd i chwilio am atebion drwy fynd ar daith at dai Ffagan yng Nghaer Didus (swnio’n gyfarwydd?) Yn y llyfr, da ni’n mynd ar antur gyda’r Bwbach i Gaer Didus, gan gyfarfod Dŵr-lamwr, llwynog a barcud ar y ffordd! Tipyn o antur! Yn ystod y siwrne, mae’r Bwbach yn cyfarfod teulu modern - sgwn i os all y Bwbach ryddhau’r teulu o’r hudlath sy’n eu caethiwo i ffenestri trydanol sgwâr? (eto, swnio’n gyfarwydd?) Ar ddiwedd ei daith hir, beth fydd yn disgwyl amdano yn Nhai Ffagan? Dwi’n siŵr y gwnewch chi gytuno, mae lluniau Graham Howells yn anhygoel. Maen nhw wirioneddol yn gwneud y stori yma, ac yn dod a’r hud yn fyw. Mae ganddo ddawn wrth greu cymeriadau hudol a rhyfeddol, yn enwedig bwystfilod afiach fel y dŵr-lamwr. Swni’n gallu prynu’r llyfr yma jyst am a darluniadau - bonws fod 'na stori dda ynddi hefyd. O edrych ar faint y llyfr (weddol fyr) a’r lluniau lliwgar mae’n hawdd meddwl fod y stori’n mynd i fod yn andros o hawdd, ond rhaid i mi gyfaddef, roedd yr iaith yn fwy heriol nac oeddwn yn disgwyl. Mae hyn yn beth da, yn sicr mae yna eirfa gyfoethog a phatrymau graenus ond efallai fod y rhain braidd yn rhy anodd i ddarllenwyr ifanc neu ddysgwyr. Dwi’n hoffi’r ffordd y mae’r awdur wedi cynnwys Amgueddfa Sain Ffagan yn y llyfr, a gobeithio y bydd y stori’n sbarduno plant i achwyn ar eu rhieni i fynd a nhw yno i weld Bwthyn Llainfadyn, sef y bwthyn mae’r stori wedi ei seilio arno. Oes 'na Fwbach yn byw yn eich tŷ chi? Although an adaptation of 'The Lonely Bwbach', this is a Welsh-themed book with much talk of magic and of mythical characters, such as legendary King of the ‘Tylwyth Teg’ , Gwyn ap Nudd. As I understand, Bwbachs were magical creatures who lived with families and did good deeds and housework in return for a bowl of cream. Although they are some sort of gremlins, these Welsh creatures are mischievous and friendly rather than problematic. The Bwbach has been living in a cottage for a long time, but no one lives there anymore and the place has become ruined. One day the Bwbach sees men near the cottage and hopes that a new family will come there. Unfortunately, despite his protests, the men demolish his cottage and carry it away, stone by stone. What else is a poor Bwbach to do when his house is dismantled and taken away? Well, go and look for it of course! Whilst homeless, the king of the fairies, Gwyn ap Nudd appears to the Bwbach and tells him that he must go and look for answers by going on a journey to the tai Ffagan in Caer Didus (sound familiar?) We then go on adventure with the Bwbach to Caer Didus, meeting magical and frightening creatures along the way. During the journey, the Bwbach meets a modern day family- will he be able to break the spell that has them hooked on strange square screens that run on electricity? (again, sound familiar?) At the end of his long journey, what will he be waiting for him at St Fagans? I am sure you will agree, Graham Howells's drawings are incredible. They really make the story here, as the magic comes alive. He has a talent in creating magical, amazing characters, especially scary monsters like the Dŵr-Lamwr. I could buy this book just for the illustrations- it’s a bonus that it's also a good story. Looking at the size of the (fairly short) book and the colourful pictures it is easy to think that the story is going to be easy, but I must admit, the language was more challenging than I expected. This is a good thing; there’s certainly a rich vocabulary but these may be rather too difficult for young readers or learners. I like the way the author has included the St Fagans Museum in the book, and I hope the story will inspire the children to nag their parents to take them there to see Llainfadyn Cottage, on which the story is based. Is there a Bwbach living in your house?
- Ffrindiau - Gareth F. Williams
*Scroll down to leave comments & for English* Mae 'na rhywbeth o'i le yn yr atig... Something's not right in the attic.. Gwasg: Gomer Cyfres: Whap! Cyhoeddwyd: 2008 ISBN: 978-1843239734 Stori tipyn yn ofnus - iath eithaf hawdd Little bit creepy - language level o.k. but may be too difficult for new learners. #arswyd #horror #creepy #ghosts #ysbrydion Mae’r ffaith fod y diweddar Gareth F. Williams wedi ennill Gwobr Tir na n-Og chwe gwaith yn cadarnhau ei le fel un o awduron gorau Cymru, ym myd llyfrau plant ac oedolion. Dyma’r llyfr cyntaf ganddo i mi ei ddarllen, ar ôl i mi ei spotio mewn siop elusen. Yn ôl Gwales.com, roedd yn llyfr y mis yn Hydref 2008. I feddwl fod y llyfr dros ddeng mlynedd oed bellach, mae’n edrych yn gyfoes iawn, ac mae’r clawr du a gwyn wedi'i ddylunio’n dda iawn. Mae’r lluniau a’r ysgrifen ar y clawr yn rhoi naws spooky iawn, ac yn wir, roedd hynny’n un o’r prif resymau y prynais i hi. (wnes i ddim edrych ar y broliant o be dwi’n cofio) Dwi wrth fy modd gyda straeon arswyd, ac roedd y clawr yn awgrymu y byddai hon yn fy siwtio i'r dim. Dwi’n meddwl fod ‘na ddau fath o lyfrau. Rhai sy’n mynd yn syth iddi, ac yn eich cydio’n syth, a rhai eraill sy’n fwy o slow-burners. Hynny yw, mae’n rhaid dyfalbarhau achos mae’n cymryd dipyn i'r stori gychwyn yn iawn. Roedd pennod gyntaf Ffrindiau wedi fy machu’n syth. Efallai fod hynny’n swnio ‘chydig bach yn cliché, ond wir i chi, roedd y cychwyn yn dda. Dwi wedi ei gynnwys yn y blog er mwyn i chi gael cipolwg. Cychwyn hynod o creepy. Dwi’n dal i gael shivers wrth glywed... “Blaaaaantoss... Blaaaantoooos...” Mae Tegwen yn mynd drwy gyfnod anodd yn ei bywyd personol. Mae ei Mam, Eirlys, a’i thad, Sam, wedi gwahanu bellach ac mae hi wedi gorfod symud i mewn i dŷ boyfriend ei mam, ac yn gorfod rhannu hwn gyda’i blant o. Maen nhw’n boen i Tegwen, ac mae hi’n hiraethu am ei hen gartref, ei hen lofft, a’i hen fywyd. Tydi pethau ddim yn wych rhwng ei Mam a’i Thad ac mae’r ddau yn cecru ar ei gilydd pob cyfle maen nhw’n cael. Mae hi wedi cael llond bol. Mae ei thad wedi prynu fflat newydd yn Stryd y Parc, ac mae hi’n edrych ymlaen ato orffen peintio’r atig er mwyn iddi gael aros yno - rhywle lle caiff hi lonydd oddi wrth ei theulu newydd niwsans. Y peth yw, nid atig cyffredin yw hwn ac mae rhywun yn cael teimlad annifyr wrth fod yno. Fel petai rywbeth yn eich gwylio. Buan iawn ‘da ni’n dod i sylweddoli fod yna rhywbeth mawr o’i le yn yr adeilad yma. Wrth i'r nofel fynd yn ei flaen, mae Tegwen yn dechrau datod rhai o gyfrinachau’r atig ac mae hi’n dod i ddarganfod y pethau erchyll sydd wedi bod yn mynd ymlaen yn y gorffennol. Wrth iddi syrthio’n ddyfnach i mewn i fyd yr atig, mae ei bywyd hi wirioneddol mewn perygl. Ydi ffeindio’r gwir werth y pris bydd rhaid iddi dalu? Rhowch hi felma, fydd hi BYTH yr un fath wedyn! Mae yna dipyn o sôn am drais, marwolaeth, ysbrydion a naws arswydus drwy’r llyfr, ond mae’n gwbl addas i'r oedran. Mae’r awdur yn gynnil iawn wrth ddod ag is-themâu o fwlio a rhieni’n gwahanu i mewn. Os ‘da chi’n licio llyfrau sy’n rhoi ias oer lawr cefn eich gwddf, hwn ydi’r llyfr i chi. Mae’r iaith yn safonol, ond yn glir. Tydi o ddim mor hawdd i’w ddarllen a rhai llyfrau Cymraeg ond eto, doedd o ddim yn anodd chwaith. Mi wnes i hyd yn oed ddysgu ambell i air newydd - fel ‘decini’ a ‘llybindian.’ Mi oni’n hoff o’r ffordd mae’r penodau, a hyd yn oed darnau o fewn penodau yn neidio o gymeriad i gymeriad, o olygfa i olygfa. Dwi’n meddwl fod hyn yn torri’r stori i fyny’n dda. Er bod canol y stori braidd yn fflat gan nad oedd cymaint yn digwydd, roedd gen i groen gŵydd wrth ddarllen darnau o’r stori ac mae hyn yn destun i lwyddiant yr awdur, ei fod wedi llwyddo, drwy ddawn geiriau, i greu ymateb corfforol yn y darllenydd. Roedd darnau o’r stori yn gwneud i rywun deimlo’n reit annifyr - diolch byth fod gen i ddigon o olau yn y tŷ achos ron i'n reit nerfus wedyn am chydig. Roedd RHAID i mi gael gwybod beth oedd cyfrinach yr atig - mae’n werth parhau i ddarllen er mwyn cyrraedd y diweddglo. A dweud y gwir, roeddwn i'n ffeindio hi’n anodd rhoi’r llyfr i lawr a byddaf yn sicr o ddarllen mwy gan yr awdur. The fact that the late Gareth F. Williams has won the Tir na n-Og prize six times earns him his rightful place as one of the leading authors of Welsh children's, Young people's and indeed, adult literature. This is the First of his books for me to read, after I spotted it hiding on the shelf in a charity shop. According to Gwales.com, this was the book of the month in October 2008. To think that it’s over a decade old, it looks very contemporary and it’s Black and White cover is effective. The images and the writing give it a rather spooky vibe and this was one of the things that made me buy it. ( I didn’t even read the blurb as I recall). I love horror stories, and the cover suggested i would like this one. I think there are two types of stories. Ones that get straight to it and hook you immediately, and others that are slow burners. You’ve got to keep persevering with those ones. Ffrindiau had me intrigued right away. I’ve included a screenshot in the blog. It’s very creepy and God forbid I ever hear ‘Blaaaantos..... blaaaaanntoooos...” again! Tegwen is a Young girl who’s having a tough time of it lately. Her mother, Eirlys and her father, Sam have separated and she’s had to move into her mum’s boyfriend’s house with his two children. They get on her nerves and she longs for her old house, her old room and her old life. Things aren’t great between her parents and they argue and bicker every time they see each other. In other words, she’s had enough. Her Dad has bought a new flat on Stryd y Parc, and she’s looking forward to when he finally finishes painting the attic so that she can stay with him. Somewhere to have peace and quiet. The thing is, this is no ordinary attic and one gets an uneasy feeling from being there. The feeling that someone is watching. We quickly come to realise that all is not well in this old Building. As the novel progresses, Tegwen starts to unravel some of the mysteries of the attic and she comes to learn of past horrors and atrocities. As she ventures deeper into the world of the attic, her life is put in jeopardy. Is finding out the truth worth the price she must pay? Put it this way, she’ll never be the same again! There’s some talk of death, violence, ghosts and general creepiness throughout the book but it is age appropriate. The author Cleverly brings in sub themes of the challenges of a broken family and bullying/loneliness. If you like stories that give you a real chill, then this one’s for you. The language is of a high Standard, but it is clear. It’s not quite as easy reading as some of the books I’ve read, but it’s not difficult either. In fact, I learned a few new words myself! I liked the way the chapters go back and forth between different scenes and characters and I found it broke the story up nicely. Despite the middle being a little flat, I had goose pimples all over as I read some parts. This is a testament to the author; that he has been able to elicit a physical response in the reader, using only words. Some parts of the story make you feel really uneasy – thankfully I had enough lights in the house because I was a bit jumpy afterwards. I just HAD to find out what was going on in the attic – it’s worth persevering with the book for the payoff at the end. I did find it hard to put this book down actually and I will be looking for more books by this author.
- Dyddiadur Dripsyn: Y Trip ~ Jeff Kinney
*Scroll down for English & to leave comments* 50% geiriau, 50% cartwns, 100% hilêriys! 50% words, 50% cartoons, 100% hilarious! Addasiad: Owain Siôn Gwasg: Rily Publications Cyhoeddwyd: 2019 ISBN: 978-1-84967-091-3 Perffaith i ddarllenwyr amharod. Cymraeg hawdd iawn. Perfect for reluctant/new readers. The Welsh is really easy. Dyma addasiad Cymraeg Owain Siôn o’r llyfr Diary of a Wimpy Kid: The Long Haul, y nawfed mewn cyfres hynod o boblogaidd gan yr awdur enwog Americanaidd, Jeff Kinney. Mae gwylia’r haf i fod yn grêt - dim ysgol, dim gwaith a jyst llonydd i wneud beth bynnag ‘da chi isio! Dyna oedd gobaith Greg druan, ond mae gan ei Fam syniadau gwahanol! Cylchgrawn Trafod Teulu sydd wedi rhoi’r syniad iddi, ac roedd yn llawn lluniau o deuluoedd neis yn cael amser braf ar wyliau. Roedd hi’n gobeithio y bydden nhw’n gweld llefydd diddorol, trio bwydydd lleol a thyfu’n agosach fel teulu. No chance gyda’r rhain! Beth bynnag, pwy fydda eisiau darllen am drip teuluol lle mae popeth yn mynd yn iawn? Neb! Mae gan ei Fam druan obeithion mawr, ond mae’r trip yn sydyn mynd o ddrwg i waeth! Shambles llwyr! I ddechrau’r cyfan, maen nhw’n aros mewn gwesty rhad sy’n drewi o fwg sigaréts - rêl dymp! Cyn pen dim mae Greg wedi llwyddo i ffraeo gyda hen ddyn blewog mewn trôns ac mae’r teulu wedi mabwysiadu babi mochyn, sy’n byw yng nghefn y car! Rhwng ymosodiad gwyllt gan wylanod ffyrnig, ymweliad annisgwyl at filfeddyg a Rodric druan yn crashio’r car, mae ‘na ddigon o bethau gwallgo’n mynd o’i le i ddifyrru’r darllenydd! A dweud y gwir, mae ‘na gymaint o bethau’n mynd o chwith i’r teulu, mae’r peth yn hollol boncyrs a dros ben llestri! Mae'n cyrraedd y pwynt nad ydi o’n gredadwy- ond dim ots - mae’n ddoniol dros ben! Mi fydd y stori yma’n apelio’n fawr at blant gan fod y prif gymeriad, Greg, yn fachgen ifanc sydd braidd yn fed up, achos mae ei deulu mor niwsans. Mae’n adrodd ei hanes ac yn rhannu ei deimladau drwy’r llyfr ar ffurf dyddiadur. Maen nhw’n flashbacks am ddigwyddiadau sydd eisoes wedi bod. Dyma ffordd glyfar a gwahanol o adrodd stori, sy’n sicr yn golygu fod ni’n dod i ddeall sut mae Greg yn teimlo. Da ni’n gweld y cwbl o’i safbwynt o. Mae’r ‘sgwennu mor llafar ac anffurfiol yn y llyfr (fel mae dyddiadur i fod) ac mae hyn yn ei wneud yn hawdd IAWN i’w ddarllen. Mae’r awdur yn deall hiwmor plant i’r dim ac mae’r llyfr yn siŵr o wneud i unrhyw un chwerthin gan fod y digwyddiadau yn gyfarwydd ac yn berthnasol i fywydau plant. Un o fy hoff bethau am y llyfrau hyn yw’r layout. Mae hwn yn siŵr o apelio at ddarllenwyr amharod, yn enwedig hogiau! Mae 'na gartŵns ym mhob man ar bob tudalen ac mae hyn yn torri’r darllen i fyny i bytiau o baragraffau hylaw. Mae’r dwdls yn adio cymaint i’r stori ac yn helpu ni ddeall beth sy’n mynd ymlaen. Mae o fel hanner dyddiadur, hanner comig. Mae’r ffont llawysgrifen yn edrych yn dda ac yn plesio’r llygaid, gan edrych yn gwbl naturiol. Hwn yw’r llyfr cyntaf Dyddiadur Dripsyn i mi ddarllen, a dwi’n siŵr o fynd i dyrchu yn y llyfrgell am y gweddill! Un peth sy’n sicr – fydd mam Greg yn meddwl dwywaith cyn trefnu gwyliau eto! This is the Welsh adaptation of Diary of a Wimpy Kid: The Long Haul, the ninth in a hugely popular series by famous American writer, Jeff Kinney. The summer holidays are supposed to be great- no school, no work and plenty of time to chill and do whatever you want! That was what Greg was hoping for, but his mum had different ideas! Family Frolics magazine gave her an idea; it was full of pictures of nice families having a lovely time on holiday. She hoped that a getaway would help them grow closer as a family. No Chance with these lot! Who would want to read about a family trip where everything was fine? Nobody! His poor mother had high hopes, but the trip goes from bad to worse! A total shambles! To start with, they stay in a cheap motel that stinks of cigarette smoke- a right dump! Before long, Greg has managed to argue with an old bearded man in his underwear and the family has adopted a baby pig, who lives in the back of the car! With frenzied seagull attacks, a surprise visit to the vet and poor Rodrick crashing the car, there are plenty of crazy things going wrong to keep us entertained! In fact, it's just one disaster after another; it’s absolutely bonkers and over the top! It comes the point that it is almost unbelievable -but no matter- it is extremely funny! This story will really appeal to children because the main character, Greg, is a young lad who is a bit fed up, because his family are so annoying. He tells his story and shares his feelings throughout the book in the form of a diary. They are flashbacks about events that have already occurred. This is a clever and different way of telling the story, which certainly means that we get to understand how Greg feels. We see it all from his point of view. The writing is so colloquial and informal in the book (as a diary is supposed to be) and this makes it VERY easy to read. The author understands children's humour well and the book is sure to make anyone laugh as the events are familiar and relevant to children's lives. One of my favourite things about these books is the layout. This is bound to appeal to reluctant readers, especially boys! There are cartoons everywhere on every page and this breaks the reading up into chunks of manageable paragraphs. The doodles add a lot to the story and help us understand what’s going on. It's like half-diary, half-comic. The handwritten font looks good and is pleasing to the eyes, looking perfectly natural. It's the first Dyddiadur Dripsyn book that I’ve read, and I'm sure to go and search in the library for another. One thing is certain – Greg's mother will think twice before organising a holiday again!
- Cyfrinach Plas Hirfryn - Siân Lewis
*Scroll down for English & to leave comments* Nofel llawn dirgel a chyfrinachau. Mysterious novel full of secrets. Gwasg/Publisher: Gomer Cyfres: Swigod Cyhoeddwyd/Published: 2011 ISBN: 978-1-84851-399-0 *Cymraeg gwreiddiol - Welsh Original* Iaith digon syml ond fwy addas i ddarllenwyr da Easy enough language but more suited for proficient readers. Yn ei guddfan crynai’r Tad Harri hefyd, a sŵn curiadau’i galon yn llenwi’r gell. Dim ots sawl gwaith oedd e’n cuddio fel hyn, roedd e’n dal i deimlo’n llawn arswyd. “Ry’n ni’n gwybod ei fod e yma,” chwyrnodd capten y milwyr. “Mae rhywun wedi’i i weld e...” Roeddwn ar bigau’r drain wrth ddarllen cychwyn nofel Cyfrinach Plas Hirfryn gan Siân Lewis. Gallwn deimlo’r panig a’r cynnwrf wrth i filwyr chwilio a chwalu drwy’r plasty - yn benderfynol o ffeindio’r dihiryn. Mae yntau’n cuddio mewn cwpwrdd cudd yng nghefn y lle tân, prin yn gallu anadlu gan fod y gofod mor gyfyng. I ddweud y gwir, ar ddechrau’r nofel yma, roeddwn yn meddwl mai nofel hanesyddol fyddai hon ond mi aeth i gyfeiriad reit annisgwyl. Heb ddweud gormod, mae’r nofel yn ymdrin â phwc llosg cyfoes iawn, mewn ffordd hawdd i’w ddeall. Yn y stori, rydym ni’n cyfarfod Hanna a Harri James, yr efeilliaid, sydd yn byw yn Llanaron. Mae pethau’n reit wael ar y teulu ers i’w tad golli ei swydd, ac mae eu mam wedi gorfod cymryd gwaith ychwanegol mewn gwesty lleol. Mae pres yn brin iawn. Mae eu hewythr, Wncwl Hef, yn gweithio i wylwyr y glannau, sydd wedi cael nifer uchel o alwadau brys yn ddiweddar. Mae’r hofrenyddion wedi bod allan yn ddiddiwedd ganol nos mewn tywydd garw... ond pam? Galwadau ffug tybed neu oes rhywbeth mwy sinistr yn mynd ymlaen yma? Dirgelwch yn wir... Mae byd y plant yn newid yn gyfan gwbl un diwrnod, wrth i’r teulu symud o’u cartref bychan yn Rhif 3, Stad Rhydwen i fynd i fyw mewn plas crand ar gyrion y pentref. Mae’r teulu yn symud ar ôl i’w tad dderbyn cynnig unwaith-mewn-bywyd gan ‘y wraig mewn Mercedes du’ ond dydi’r plant ddim yn hapus o gwbl. Sut fysa chi’n teimlo o glywed fod rhaid i chi adael eich cartref clyd i fynd i fyw mewn hen blasty oer? Ar ôl setlo yn eu cartref newydd, mae’r plant yn digwydd crwydro ar dir y plasty ac yn dod ar draws rhywbeth od iawn. Buan iawn y daw’r teulu i sylweddoli fod ‘na rhywbeth o’i le ym Mhlas Hirfryn... Rhaid i mi gyfaddef, roeddwn i wedi drysu ychydig tua’r diwedd ac roedd rhaid i mi ail ddarllen rhai darnau. Fodd bynnag, llwyddodd y stori i ddal fy sylw ac roedd rhaid i mi gael ateb i’r dirgelwch mawr. Enillodd Siân Lewis dlws Mary Vaughan Jones yn 2015 am ei holl waith ym myd llenyddiaeth plant. Yn wir, doeddwn i ddim wedi sylweddoli ei bod hi wedi bod mor weithgar ac wedi ysgrifennu 250+ o lyfrau! Mae Cyfrinach Plas Hirfryn yn ychwanegiad cyffrous i’r casgliad. I was on tenterhooks reading the start of Cyfrinach Plas Hirfryn, a novel by Siân Lewis. We can feel the panic and the agitation as soldiers ransack a mansion - determined to find the fugitive. He is hiding in a secret cupboard in the back of the fireplace, hardly able to breathe because the space is so confined. To tell the truth, at the beginning of this novel, I thought this would be a historic novel but it went in a surprising direction. Without saying too much, the novel deals with a very contemporary hot topic, but in an easy-to-understand way. In the story, we meet Hanna and Harri James, the twins, who live in Llanaron. Things are tough for the family since their dad lost his job, and their mum has even had to take on extra work at a local hotel. Money is scarce. Their uncle, Hef, works for the Coastguard, who have recently received a high number of emergency calls. The helicopters have been out endlessly at night in bad weather searching. But for what? And why? Are they hoax calls or is there something more sinister going on here? A mystery for sure… The children's lives are forever changed as the family move from their small home in No. 3, Rhydwen estate to go and live in a grand manor house on the outskirts of the village. The family must relocate after their father accepts a once-in-a-lifetime offer from 'the lady in a black Mercedes' but the kids aren't at all happy. How would you feel if you suddenly had to leave your cosy home to go and live in an old, cold mansion? Just as they are settling into their new home, the children happen to wander on the grounds of the mansion and encounter something very strange. The family will soon come to realise all is not as it seems in Plas Hirfryn… I must confess, I was confused a little towards the end and I had to re-read some passages. However, the story managed to sustain my attention throughout and I simply had to find the answer to the great mystery. Siân Lewis won the Mary Vaughan Jones award in 2015 for all her contributions to children's literature. Indeed, I didn't realise that she had been so active and had written 250+ books! Cyfrinach Plas Hirfryn is an exciting addition to the ever-growing collection.
- Edenia (Y Melanai) ~ Bethan Gwanas
*Scroll down for English & to leave comments* Diweddglo gyffrous i'r saga. Exciting climax to the fantasy saga Gwasg/Publisher: Y Lolfa Cyhoeddwyd/Published: 2019 ISBN: 978-1784617080 *Gwreiddiol Cymraeg - Original Welsh* Iaith naturiol, hawdd i'w ddarllen ond peth cynnwys mwy aeddfed. Easy to read language, but some mature themes Wel, dyma ni, y drydydd llyfr - a'r olaf - mewn trioleg hynod o boblogaidd, Y Melanai. Mae ‘na grynodeb byr ar ddechrau’r llyfr sy’n adrodd yr hanes hyd yma ond y gwir yw, llawer gwell fyddai ddarllen y llyfrau o’r cychwyn ac yn y drefn gywir. Mae’n gwneud llawer mwy o synnwyr, ac maen nhw mor dda. Mae’r prolog yn awgrymu nad yw pethau’n rhy dda ym Melania. Does neb wedi gweld y Frenhines ers tro ac mae’r blodau wedi gwywo ac mae’r gwenyn yn swrth. Ar ddiwedd Y Diffeithwch Du, mi gyrhaeddodd y Dywysoges Efa a’i chriw wlad arall, sef, fel mae’r teitl yn awgrymu, Edenia. Dyma wlad lle mae popeth yn iawn ac mae pawb yn hapus. Does ‘na ddim rheolau rhyfedd ynglŷn â lladd eich mam – diolch byth! A dweud y gwir, nid Brenhines sy’n llywodraethu yma, ond pwyllgor rheoli ddemocrataidd. Dim yn ddrwg o beth i gyflwyno ‘chydig o politics. Mae’r nofel yma’n parhau ar yr un cyflymder a’r ail nofel, ac er eu bod nhw wedi cyrraedd diogelwch (gymharol) Edenia, mae yna ddigon o beryglon i'r criw wynebu. Mae yna lyswennod anferth gyda dannedd miniog, a phryfaid cop anferthol i frwydro yn eu herbyn. Diolch byth fod ganddyn nhw ffrindiau newydd yn Edenia. Yn un peth, mae croeso mawr i'r bobl ifanc yn Edenia, ond does dim croeso i Id, y cawr. Mae gan bobl Edenia ofn y cewri ac maen nhw’n eu casáu. Tybed ydi Id, eu ffrind newydd, wedi bod yn dweud y gwir? Er bod y criw wedi dod drwy’r diffeithwch du gyda’i gilydd, mae yna her newydd wrth iddyn nhw gael eu gwahanu yn y nofel yma. A fydd perthynas pob un yn goroesi, neu bydd bod ar wahân yn golygu fod hi ar ben i rai? Mae’r criw ifanc yn setlo’n dda yn eu cartref newydd ac er bod pawb yn fodlon eu byd yn Edenia, mae ‘na rai o’r trigolion angen help. Tydi Prad, Efa a Dalian ddim yn meddwl dwywaith cyn gwirfoddoli i fynd ar rescue mission heriol a pheryglus – does dim sicrwydd y bydden nhw’n dod nôl yn fyw! Ar y daith yma, mae Efa’n gwneud darganfyddiad fydd yn newid ei bywyd am byth... Rŵan fod y drioleg allan yn ei chyfanrwydd, mae’n bosib cael darlun llawn. Mae’r trydydd llyfr yn cloi nifer o linynnau sydd wedi cael eu cyflwyno eisoes. Dwi’n meddwl fod Bethan Gwanas yn gwneud job dda o ddod a phopeth at ei gilydd yn daclus yn y llyfr olaf. Mae’r ddau lyfr cyntaf wedi bod yn arwain at y foment lle bydd Efa’n dychwelyd i Felania i achub y dydd, neu i wynebu ei ffawd. Mae popeth yn adeiladu ar gyfer y final showdown, neu’r epic battle ddisgwyliedig ar y diwedd llyfr 3, fel sy’n draddodiadol yn y genre yma. Yn anffodus, mae’r diweddglo wedi ei frysio braidd ac yn cael ei grynhoi i gyd mewn epilog. Roedd y drioleg wych yma’n haeddu diweddglo gwell - sawl pennod arall, a dweud y gwir. Ond fydd ‘na happy ever after i Efa a’i ffrindiau tybed? Wel, un peth sy’n sicr. Mae’r drioleg yma wedi apelio at fwy na dim ond plant yn eu harddegau, ac mae nifer o oedolion wedi ei mwynhau. Mae’r awdur wedi dangos fod ganddi ddawn ysgrifennu ym maes ffantasi ac nid yn unig ei bod hi’n deall y genre, ond yn amlwg yn ei fwynhau ei hun. Dwi’n meddwl fod yna fwy o straeon i'w hadrodd am Felania, Edenia, Pica a’r byd newydd ryfeddol mae Bethan Gwanas wedi llwyddo i’w greu. Dwi’n gobeithio wir y bydd hi’n ail ymweld â’r Melanai yn y dyfodol i ni gael darllen mwy am anturiaethau’r genhedlaeth nesaf. Well, here we go, the third – and last – in the popular trilogy, Y Melanai. There’s a quick re-cap at the start of the book that brings us up to date so far. I’d certainly recommend reading the two other novels First though, in correct order. It makes more sense, and they’re just so good. The prologue suggests that things aren’t too great in Melania. Nobody’s seen the Queen for some time and the flowers have wilted and the bees are lethargic. At the end of Y Diffeithwch Du, Princess Efa and her crew arrived in a new Country which is, the aptly named, Edenia. This is a land where everything’s fine and everyone’s happy. There are no rules about killing your mother, that’s for sure. No queen reigns here, but instead, a democratic council. Not bad - bringing in some politics. The novel maintains the pace of the previous, and despite them arriving in the relative safety of Edenia, there are still dangers facing the young friends. These include giant eels with sharp teeth and huge man-eating spiders. Thank goodness they have some new friends to help. They are welcomed into Edenia but there’s no welcome to their giant friend, Id. The inhabitants of Edenia hate giants. Is there something Id hasn’t been telling us? Despite their strong bonds from their previous adventures, these are put to the test now as they become separated. Will their relationships survive? The young crew settle well in their new home and even though everyone is quite content, some of Edenia’s people need help. Prad, Efa and Dalian waste no time in volunteering for a daring rescue mission – with no certainty that they will return alive! On this mission, Efa makes a startling discovery which will have big implications... Now that the full trilogy is out, it’s possible to reflect and get the full Picture. The last book ties up all the strings neatly. The first books have all been about building up to the big moment when Efa returns to her home country to either save the day or face the consequences of her actions. Everything has been building up to the final showdown, or the expected epic battle that is common in this genre. Unfortunately, the ending is very rushed and is all done in the epilogue. This excellent trilogy deserved a more fleshed out ending – a few more chapters, in my opinion. So, will there be a happy ever after for Efa and co? Well, one thing’s for sure. This trilogy has appealed to more than just a teenage audience. There are a number of adults who have also enjoyed it. The author shows she has a firm grasp of the fantasy genre, and not only does she understand it, but she enjoys it. I think there are more tales to be told from Melania, Edenia, Pica and the new world she has successfully crafted. I hope in future that we can return here to read about the next generation’s adventures.
- Teyrnas Kenzuke - Michael Morpurgo
*scroll down for English & to leave a comment* Antur ar y môr a brwydr i oroesi. A spellbinding tale of survival and self-discovery. Gwasg/publisher: Dref Wen Addasiad/adaptation: Dafydd Morse Cyhoeddwyd/published: 2009 ISBN: 978-1-85596-845-5 *Addasiad/adaptation from English* Lefel: ❖ ❖ ❖ Iaith ddim rhy anodd ond mae'n debyg y byddai'n well ar gyfer darllenwyr hyderus. Language not too difficult but probably best suited to more confident readers. Genre: #adventure #antur #hanesyddol #historical #ocean #môr Enillodd y llyfr gwreiddiol Saesneg ‘Kensuke's Kingdom’ y Wobr Llyfrau Plant 2000 a chafodd y rhestr fer ar gyfer y Gwobrau Plant Whitbread a Carnegie. Mae wedi gwerthu dros 400,000 copi ar draws y byd. Mae’n un o fy hoff nofelau gan yr awdur enwog, Michael Morpurgo ac o'r diwedd, mae o yn Gymraeg. Dyma i chi stori o antur ar y moroedd mawr, a brwydr i oroesi wrth i’r prif gymeriad, Meilyr ffeindio’i hun wedi ei longddryllio ar ynys ryfedd ar ochr arall y byd. Mae’n gyfnod o newid llwyr i fyd cyfforddus Meilyr pan mae ei rieni yn colli eu swyddi yn y ffatri friciau. Yng ngeiriau Meilyr ei hun: “tan i’r llythyr ddod, roedd bywyd yn hollol normal.” Mwyaf sydyn, mae tad Meilyr yn datgan ei fod wedi gwerthu ei gar, a bod y teulu cyfan yn symud i Dde Lloegr. O na! Ac fel tase hynny ddim yn ddigon o sioc, mae o wedi prynu cwch, Y Ladi Wen ac maen nhw am fynd i hwylio’r byd. Dyna ddechrau ar yr antur fawr- Mam, Dad, Meilyr a Sali Mali'r ci, ar fwrdd y Ladi Wen. Nid yw’n fêl i gyd yn amlwg, fel mae'r llinell gyntaf yn awgrymu: “Diflannais y noson cyn fy mhen-blwydd yn ddeuddeg oed. Yr wythfed o ar hugain o Orffennaf, 1988.” O fewn dwy frawddeg o ddarllen, roeddwn i’n hooked. Yn benderfynol o ddarganfod beth ddigwyddodd i Meilyr. Mae’r awdur yn dod a chymaint o themâu a phynciau i mewn i’r llyfr, mae’n byrstio â gwybodaeth ddaearyddol am fyd natur, hanes a mordwyo. Yn ystod rhan gyntaf y fordaith mae gennym gyfeiriadau di-ri at anifeiliaid rhyfeddol y mae’r teulu’n dod ar eu traws, a phorthladdoedd mewn gwledydd pell. Yn glyfar iawn, mae’r awdur yn cyfleu’r doreth o wybodaeth yma ar ffurf lòg llong, sy’n rhywbeth go-iawn y mae morwyr yn gadw. Wrth ddarllen, dim gair o gelwydd, mi oedd gen i fap o’r byd, ac mi wnes i gadw trac o’r fordaith gan ddefnyddio ‘sticky dots.’ Roedd hyn yn weithgaredd hynod o ddiddorol i wneud wrth ddarllen. Dwi’n cofio hefyd defnyddio’r we i ddarganfod mwy am rai o’r anifeiliaid yn y stori, fel y Pysgodyn Hedegog a’r Heulforgi. Mae rhywun yn dysgu cymaint wrth ddarllen y llyfr yma, gan fwynhau stori wych ar yr un pryd. Mewn storm enfawr, mae Meilyr a’r ci yn cael eu taflu dros ochr y gwch. Mae hyn yn ddigwyddiad brawychus a fedrai ddim ond dychmygu pa mor ofnadwy o deimlad fyddai gweld eich teulu yn hwylio i ffwrdd a chithau yng nghanol y tonnau oer a ffyrnig. Wrth geisio cadw’n fyw ar yr ynys, mae Meilyr yn dod ar draws hen ddyn Japaneaidd, sef Kenzuke. Mae o’n gofalu am Meilyr, er nad ydynt yn ffrindiau nac yn debyg o gwbl. Ar y cychwyn, maent yn ffraeo, gan i Meilyr ei weld fel hen ddyn blin ac annifyr, ond tros amser, mae’r ddau yn tyfu’n agosach ac yn dod yn ffrindiau mawr. Mae canol y nofel yn eithaf araf, wrth i ni glywed am fywyd ar yr ynys, wrth iddyn nhw ddelio gyda phob math o drafferthion, fel y pobl ddrwg sy’n dod i’r ynys i aflonyddu ar yr anifeiliaid. Er fod cyflymdra’r stori yn arafach yma, mae’r awdur yn gwybod yn iawn beth mae’n ei wneud. Mae’n datblygu’r cymeriadau’n dda ac erbyn y diwedd rydym ni’n eu nabod yn well ac yn bwysicach, yn malio amdanynt. Heb sboilio’r nofel, mae ‘na ‘dwist’ mawr tua’r diwedd a phob math o ddatguddiadau wrth i ni ddarganfod mwy am Kenzuke, y dyn dirgel sydd ‘bia’r’ ynys. Mi wnâi eich rhybuddio am un peth - pan oeddwn yn darllen y llyfr am y tro cyntaf, doedd dim llygaid sych yn y dosbarth, ac roeddwn i’n cael trafferth dal y dagrau’n ôl. Emosiynol iawn. Os ydych yn hoffi anifeiliaid, antur, y môr, daearyddiaeth, hanes, a stori wych gyda chymeriadau bendigedig; yna darllenwch Teyrnas Kenzuke. Dwi’n synnu nad yw hwn wedi cael ei droi mewn i ddrama deledu a dweud y gwir, gan ei fod mor dda, ond mae llyfr yn curo’r TV pob tro! The original English version, ‘Kenzuke’s Kingdom’ won the Children’s Book Award 2000 and was shortlisted for the Whitbread Children’s Prize and the Carnegie Medal. It’s sold over 400,000 copies across the world and it’s my favourite Michael Morpurgo novel. At last, we have a Welsh version of this classic! This is a story of adventure on the high seas and desert Island Survival as the main character, Meilyr, finds himself shipwrecked on a strange Island on the other side of the world. Meilyr’s comfortable life is turned upside down when his parents lose their jobs in the local brickworks. In Meilyr’s own words; “life was normal until the letter came.” All of a sudden, his Dad sells the car and declares that the whole family is moving to Southern England. Oh no! And if that wasn’t enough, he’s bought a boat, and they are going to sail around the world aboard the Ladi Wen. Things won’t be plain sailing though as you can imagine from the First lines of the book: “I disappeared on the night before my twelfth birthday. 28th of July, 1988.” Within two sentences, I was hooked. I simply had to know what happened to Meilyr. The author brings so many themes and subjects into his book, that is almost bursts! It’s full of geographical and historical facts, nautical terms, animals and wildlife. In the First half of the novel we see many creatures and far-away destinations that they encounter on their world voyage. Cleverly, the author conveys this huge amount of information in the form of a ship’s logbook, a real-life diary that sailors would have kept. As I read, no word of a lie, I had a blank map of the world, that I used to chart their voyage with sicky dots – a really interesting activity to do whilst reading. I used the Internet to find out more about animals such as the Basking shark and the flying fish. One learns so much about the world from reading this book, whilst enjoying a brilliant story at the same time. A huge storm causes Meilyr and his dog to be thrown overboard. This is frightening and I can only imagine what it would be like to see your family sailing away as you are floating in the cold, vast ocean. As he adjusts to life on the Island, Meilyr comes across an old Japanese man, Kenzuke. He cares for Meilyr, even though they aren’t friends, or even remotely alike. To begin with, they quarrel and Meilyr sees him as an angry old man, whilst Kenzuke is annoyed with Meilyr for disturbing his peace. Over a long time, they get to know each other and become close friends. The middle of the novel could be described as quite slow, as we find out lots about day to day life on the Island. We hear of their struggles against ‘bad people’ who come onto the Island to disturb the wildlife. Despite the slower pace, the author knows exactly what he’s doing. He is telling the reader of the hardship of life on the Island and developing the characters into ones we really understand and care about. Without spoilers, there’s a huge twist at the end of the novel! Will we find out more about the mysterious Kenzuke and how he came to be on ‘his’ Island. I will warn you of one thing, when I read this story aloud for the first time, there was not a dry eye in the classroom and I struggled – and failed- to hold back the tears. Bottom line – if you like animals, adventure, the ocean, geography, history and a brilliant story with excellent characters, then read Teyrnas Kenzuke. I actually preferred the Welsh version. This story is so good that it will soon become an animated film, but trust me, read the book – they’re always better!
- Pluen ~ Manon Steffan Ros
*scroll down for English & to leave comments* "Stori emosiynol, gyda chymeriadau cryf a themâu heriol" "Emotional story, with strong characters and challenging themes." Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2016 ISBN: 978-1784613181 *Gwreiddiol Cymraeg ~ Welsh Original* Lefel: ❖ ❖ Nofel hawdd i'w darllen, easy to read. Emotional themes/themâu emosiynol. Genre: #hanes #history #dementia #friendship #ffrindiau Mae Manon Steffan Ros wedi llwyddo i blethu sawl thema gyda’i gilydd yn effeithiol dros ben sef heneiddio, salwch a’r Ail Ryfel Byd. Mae iaith yr awdur yn gyfoethog ond yn hawdd i’w ddeall a rhai darnau yn emosiynol iawn. Mae hi’n gallu mynd o dan groen cymeriadau ac mae hi’n deall sut mae ysgrifennu stori ar gyfer plant yn eu harddegau. Er mai’r oedran darged yw rhwng 10-14 oed, mi all unrhyw un fwynhau hon. Mae’r dudalen gyntaf yn eich cydio’n syth gyda’r frawddeg “Dwi ddim yn gwybod beth fyddwch chi’n ei feddwl o’r stori yma…Do’n ni ddim yn coelio mewn ysbrydion tan yr haf dwytha.” Prif gymeriad y stori yw Huw, bachgen cyffredin deuddeg oed sy’n agos iawn at ei nain ac rydym yn dilyn ei hanes dros gyfnod gwyliau’r haf. Ond nid nain gyffredin gwallt gwyn, ffedog a sbectol ydy hon. Er fod Nain yn wyth deg pump roedd hi’n ifanc iawn ei ffordd. Ers talwm roedd hi’n gwisgo dillad ffasiynol a sodlau uchel ac yn mwynhau rhedeg Ras yr Wyddfa ond erbyn heddiw mae hi wedi arafu ac mae tad Huw wedi sôn ei fod yn bryderus amdani gan ei bod yn anghofus weithiau. Er hynny mae gan Huw a Nain berthynas glos iawn a dydy Huw ddim yn poeni’n ormodol amdani’n anghofio pethau tan y diwrnod mae Nain yn ei groesawu a’i gyfarch fel Hywel. Brawd Nain oedd Hywel ac roedd o wedi marw yn yr Ail Ryfel Byd. Er i Huw holi doedd Nain ddim yn hoffi siarad am Hywel. Dirgelwch! Gwaethygu mae cyflwr Nain ac maen cael pyliau “anghofus” yn fwy aml. Un tro mae Huw yn dod o hyd i’w nain yn cuddio yn y cwt glo yn cysgodi rhag “awyrennau’r Jyrmans”. Weithiau dydy Nain ddim yn ‘nabod Huw neu yn meddwl mai Hywel ydy o. Yn sgîl hyn mae rhieni Huw yn penderfynu dylai fynd i gartref nyrsio i fyw. Er nad ydy Huw yn hapus am hyn ar y dechrau, buan iawn mae o’n gweld fod Nain yn hapus iawn yn y cartref ac yn mynd yno i’w gweld yn aml. Yn ystod un ymweliad i’r cartref nyrsio mae Huw yn cyfarfod un o ofalwyr y cartref- dyn caredig iawn sy’n dod ymlaen yn dda gyda Nain. Yn aml iawn mae pluen wen yn ymddangos yn hollol annisgwyl pan mae Huw yn ceisio ffeindio mwy o wybodaeth am Hywel... Mae nifer o droeon spooky yn y stori ac mae’r awdur yn gofalu fod y darllenwr, fel Huw, wir eisiau gwybod yr atebion i nifer o gwestiynau. Beth oedd hanes Hywel? Pam nad ydy Nain eisiau siarad amdanno? Beth ydy arwyddocâd y plu gwynion? Nofel hynod o annwyl y gallwn ei hargymell i unrhyw un. Manon Steffan Ros has succeeded in bringing together several sensitive themes effectively in this book. It discusses the Second World War, growing old and dementia. There’s plenty of rich language but at the same time it’s easy enough to understand and some parts are deeply moving and emotional. She gets under the skin of her characters and she knows how to write for the teenage audience. Despite this story being ideally suited for Young people aged between 10-14, anyone could – and would – enjoy this novel. The first page captures our interest straight away with the sentence: “Dwi ddim yn gwybod beth fyddwch chi’n ei feddwl o’r stori yma…Do’n ni ddim yn coelio mewn ysbrydion tan yr haf dwytha.” [I didn’t believe in ghosts; that is, until last summer] The main character is Huw, a regular 12-year-old who’s very close to his Nain as we follow his story over the summer holidays. His Nain isn’t your typical grandmother with White hair, an apron and glasses. Even though Nain is 85 years old she is very Young in her ways. A long time ago, she used to wear high heels and fashionable clothes. She even enjoyed running the Snowdon Race. By now of course, she has slowed down a little and Huw’s Dad is a little concerned as she has started getting a little forgetful. Despite this, Huw and Nain maintain a close friendship and Huw isn’t’ too worried until the day Nain calls him ‘Hywel’. The thing is, Hywel is Nain’s brother who died in the Second World War and she really doesn’t like to talk about him. This is a bit of a mystery... Nain’s condition worsens and she has more frequent forgetful episodes. One day, Huw finds Nain hiding in the coal box hiding from the ‘German planes.’ Sometimes, she doesn’t recognise Huw and she thinks it’s Hywel. For this reason, Huw’s parents decide that it’s time for her to go to a nursing home to live. Huw isn’t impressed with this decision to begin with but comes to realise how happy Nain is in the home once she’s settled. He goes there often to visit her. During one visit he meets one of the carers – a kind man who gets along well with his grandmother. Often, when Huw enquires about Hywel, a White feather appears... There are a few spooky turns in the story and the author makes sure that the reader, like Huw, desperately wants to know the answers to their questions. What was Hywel’s fate? Why doesn’t Nain want to talk about it? What’s the significance of the White feathers? An endearing novel: I can thoroughly recommend.