top of page

Dyddiadur Dripsyn: Y Trip ~ Jeff Kinney

*Scroll down for English & to leave comments*


50% geiriau, 50% cartwns, 100% hilêriys!

50% words, 50% cartoons, 100% hilarious!



Addasiad: Owain Siôn

Gwasg: Rily Publications

Cyhoeddwyd: 2019

ISBN: 978-1-84967-091-3


Perffaith i ddarllenwyr amharod. Cymraeg hawdd iawn.

Perfect for reluctant/new readers. The Welsh is really easy.


 

Dyma addasiad Cymraeg Owain Siôn o’r llyfr Diary of a Wimpy Kid: The Long Haul, y nawfed mewn cyfres hynod o boblogaidd gan yr awdur enwog Americanaidd, Jeff Kinney.



Mae gwylia’r haf i fod yn grêt - dim ysgol, dim gwaith a jyst llonydd i wneud beth bynnag ‘da chi isio! Dyna oedd gobaith Greg druan, ond mae gan ei Fam syniadau gwahanol! Cylchgrawn Trafod Teulu sydd wedi rhoi’r syniad iddi, ac roedd yn llawn lluniau o deuluoedd neis yn cael amser braf ar wyliau. Roedd hi’n gobeithio y bydden nhw’n gweld llefydd diddorol, trio bwydydd lleol a thyfu’n agosach fel teulu. No chance gyda’r rhain!


Beth bynnag, pwy fydda eisiau darllen am drip teuluol lle mae popeth yn mynd yn iawn? Neb!


Mae gan ei Fam druan obeithion mawr, ond mae’r trip yn sydyn mynd o ddrwg i waeth! Shambles llwyr! I ddechrau’r cyfan, maen nhw’n aros mewn gwesty rhad sy’n drewi o fwg sigaréts - rêl dymp! Cyn pen dim mae Greg wedi llwyddo i ffraeo gyda hen ddyn blewog mewn trôns ac mae’r teulu wedi mabwysiadu babi mochyn, sy’n byw yng nghefn y car! Rhwng ymosodiad gwyllt gan wylanod ffyrnig, ymweliad annisgwyl at filfeddyg a Rodric druan yn crashio’r car, mae ‘na ddigon o bethau gwallgo’n mynd o’i le i ddifyrru’r darllenydd! A dweud y gwir, mae ‘na gymaint o bethau’n mynd o chwith i’r teulu, mae’r peth yn hollol boncyrs a dros ben llestri! Mae'n cyrraedd y pwynt nad ydi o’n gredadwy- ond dim ots - mae’n ddoniol dros ben!



Mi fydd y stori yma’n apelio’n fawr at blant gan fod y prif gymeriad, Greg, yn fachgen ifanc sydd braidd yn fed up, achos mae ei deulu mor niwsans. Mae’n adrodd ei hanes ac yn rhannu ei deimladau drwy’r llyfr ar ffurf dyddiadur. Maen nhw’n flashbacks am ddigwyddiadau sydd eisoes wedi bod. Dyma ffordd glyfar a gwahanol o adrodd stori, sy’n sicr yn golygu fod ni’n dod i ddeall sut mae Greg yn teimlo. Da ni’n gweld y cwbl o’i safbwynt o.


Mae’r ‘sgwennu mor llafar ac anffurfiol yn y llyfr (fel mae dyddiadur i fod) ac mae hyn yn ei wneud yn hawdd IAWN i’w ddarllen. Mae’r awdur yn deall hiwmor plant i’r dim ac mae’r llyfr yn siŵr o wneud i unrhyw un chwerthin gan fod y digwyddiadau yn gyfarwydd ac yn berthnasol i fywydau plant.




Un o fy hoff bethau am y llyfrau hyn yw’r layout. Mae hwn yn siŵr o apelio at ddarllenwyr amharod, yn enwedig hogiau! Mae 'na gartŵns ym mhob man ar bob tudalen ac mae hyn yn torri’r darllen i fyny i bytiau o baragraffau hylaw. Mae’r dwdls yn adio cymaint i’r stori ac yn helpu ni ddeall beth sy’n mynd ymlaen. Mae o fel hanner dyddiadur, hanner comig. Mae’r ffont llawysgrifen yn edrych yn dda ac yn plesio’r llygaid, gan edrych yn gwbl naturiol.


Hwn yw’r llyfr cyntaf Dyddiadur Dripsyn i mi ddarllen, a dwi’n siŵr o fynd i dyrchu yn y llyfrgell am y gweddill! Un peth sy’n sicr – fydd mam Greg yn meddwl dwywaith cyn trefnu gwyliau eto!


 

This is the Welsh adaptation of Diary of a Wimpy Kid: The Long Haul, the ninth in a hugely popular series by famous American writer, Jeff Kinney.



The summer holidays are supposed to be great- no school, no work and plenty of time to chill and do whatever you want! That was what Greg was hoping for, but his mum had different ideas! Family Frolics magazine gave her an idea; it was full of pictures of nice families having a lovely time on holiday. She hoped that a getaway would help them grow closer as a family. No Chance with these lot!


Who would want to read about a family trip where everything was fine? Nobody!


His poor mother had high hopes, but the trip goes from bad to worse! A total shambles! To start with, they stay in a cheap motel that stinks of cigarette smoke- a right dump! Before long, Greg has managed to argue with an old bearded man in his underwear and the family has adopted a baby pig, who lives in the back of the car! With frenzied seagull attacks, a surprise visit to the vet and poor Rodrick crashing the car, there are plenty of crazy things going wrong to keep us entertained! In fact, it's just one disaster after another; it’s absolutely bonkers and over the top! It comes the point that it is almost unbelievable -but no matter- it is extremely funny!


This story will really appeal to children because the main character, Greg, is a young lad who is a bit fed up, because his family are so annoying. He tells his story and shares his feelings throughout the book in the form of a diary. They are flashbacks about events that have already occurred. This is a clever and different way of telling the story, which certainly means that we get to understand how Greg feels. We see it all from his point of view.

The writing is so colloquial and informal in the book (as a diary is supposed to be) and this makes it VERY easy to read. The author understands children's humour well and the book is sure to make anyone laugh as the events are familiar and relevant to children's lives.


Simple and appealing. Lots of pics!

One of my favourite things about these books is the layout. This is bound to appeal to reluctant readers, especially boys! There are cartoons everywhere on every page and this breaks the reading up into chunks of manageable paragraphs. The doodles add a lot to the story and help us understand what’s going on. It's like half-diary, half-comic. The handwritten font looks good and is pleasing to the eyes, looking perfectly natural.


It's the first Dyddiadur Dripsyn book that I’ve read, and I'm sure to go and search in the library for another. One thing is certain – Greg's mother will think twice before organising a holiday again!

49 views0 comments
bottom of page