top of page

Dyddiau Cŵn - Gwen Redvers Jones

*For English review, see language toggle switch on top of webpage*


♥Enillydd Gwobr Tir na n-Og 1998♥



 


Des i ar draws copi o ‘Dyddiau Cŵn’ yn Siop Clwyd a theimlai fel petawn i’n cyfarch hen ffrind do’n i ddim wedi ei weld ers yr ysgol uwchradd. Doedd hynny ddim yn bell o’r gwir - yn yr ysgol ddarllenais Dyddiau Cŵn, a dwi’n ei chofio fel un o’r unig nofelau Cymraeg y gwnes i’w gwirioneddol mwynhau. Pryd hynny roedd nifer o gloriau nofelau yn gartwnaidd, ac yn edrych braidd yn ‘ifanc’ i rywun yn ei harddegau. Ond roedd rhywbeth am glawr Dyddiau Cŵn a pherodd i mi godi’r llyfr. Roedd yna ddyn noeth ar y dudalen gyntaf! Nid llun, yn amlwg, ond disgrifiad. Dechrau addawol, i laslances llawn hormonau! Darllenais Dyddiau Cŵn a’i mwynhau digon i’w chodi oddi ar y silff rhyw ugain mlynedd (ish) yn ddiweddarach.


Dyma stori Sera, Cymraes ddeunaw oed yn byw gartref â’i rhieni. Mae hi’n cyfarfod Dan, teithiwr ifanc a golygus, ac yn syrthio mewn cariad â fo yn syth. Arweinia hyn at wrthdaro rhyngddi hi a’i rhieni, ac mae Sera yn gadael y nyth i deithio Cymru efo Dan a’i ffrindiau, sydd hefyd yn deithwyr yn benderfynol o fyw bywyd ‘rhydd’.


Daw tensiwn y nofel o’r gwrthdaro rhwng magwraeth draddodiadol Sera a dyhead Dad i fod yn rhydd o ddisgwyliadau cymdeithas - yn rhydd o’r cyfrifoldeb o dalu rhent a threth, ac i garu’n rhydd, heb ymrwymiad na chyfrifoldeb. Cryfder y stori yw nad yw Gwen Redvers Jones yn pregethu na’n cyflwyno’r un cymeriad fel cymeriad ‘da’ neu ‘ddrwg’. Mae Dan yn gymeriad hudolus, carismatig ar un llaw, ond yn hynod hunanol ar adegau eraill. Ar ddiwedd y nofel wyneba Sera benderfyniad anodd, tyngedfennol ynglŷn â’r ffordd orau iddi fyw. Wna i ddim datgelu’r diweddglo, heblaw am ddweud bod y neges yn un cadarnhaol am hunan benderfyniad ac annibyniaeth sy’n parhau’n berthnasol hyd heddiw.



Sut mae’r nofel wedi goroesi traul amser? Mewn un ffordd, roedd yn braf i gael fy atgoffa o gyfnod cyn y we, cyn ffonau symudol (cyhoeddwyd y nofel yn 1997). Ar y llaw arall, ymddangosa agweddau o’r nofel, yn enwedig ‘pearl clutching’ ac agwedd gysetlyd Mam Sera at ‘hipis’ yn chwerthinllyd o hen ffasiwn. Tybiaf ei bod hi’n ymddangos yn gor-amddiffynol hyd yn oed pan gyhoeddwyd y nofel - ar adegau teimlai fel petai reolau ac agweddau’r teulu yn dyddio o’r pumdegau! Doedd y gwrthdaro rhwng Sera a’i rhieni ddim gwastad yn taro deuddeg chwaith - roedd Sera yn rhy bwdlyd a phlentynnaidd o lawer am ddynes ifanc ddeunaw oed.

Y peth gorau am y stori oedd y portread o ffrindiau Dan, y teithwyr, a’u ffordd o fyw. Cymeriadau crwn a byw, pob un - a’r dafodiaith! Ar brydiau teimlai fel petawn i’n gwrando ar ddrama radio, mor fyw oedd y lleisiau. Hyfryd.


Mwynheais ddarllen am amser Sera gyda’r criw o deithwyr yn fawr, a braf oedd ei gwylio hi’n aeddfedu ac yn dod yn fwy annibynnol dal adain y cymeriadau benywaidd hŷn.


Er bod y nofel hon yn ymwneud â pherthynas rywiol cyntaf dynes ifanc ac yn cynnwys ambell gyfeiriad at ddefnydd cyffuriau, mae yna ddiniweidrwydd yn perthyn iddi sy’n ei gwneud yn addas i’r arddegau ifanc. Oherwydd hynny efallai na fyddai’n apelio cymaint i’r rhan fwyaf o ieuenctid heddiw, ond mae pleser hiraethus i’w gael o ail-ymweld a’r nawdegau o fewn cloriau llyfr.


 

Gwasg: Gomer

Cyhoeddwyd: 1997

Pris: Allan o brint - llyfrgell/ ail law yn unig

 


Recent Posts

See All
bottom of page