top of page

Aduniad - Elidir Jones

Updated: Mar 14



(awgrym) oed diddordeb: 14+

(awgrym) oed darllen: 13+


 



Mae ffeindio amser i ddarllen wedi bod yn heriol yn ddiweddar. Hefo babi 8 mis oed yn tŷ, mae cwsg ac amser sbâr yn pethau prin iawn. Lle roedden ni’n arfer binge wylio cyfresi mewn dyddiau, mi gymerodd hi dros fis i ni orffen gwylio cyfres 3 o Happy Valley yn ddiweddar! How life has changed! 




Ond na fo, dwi’m yn cwyno. Ond y realiti ydi, mae darllen nofelau mawr yn amhosib bellach. Sgen i ddim y stamina. Diolch byth felly am y gyfres Stori Sydyn. Dwi wedi darllen teitlau o’r gyfres o’r blaen, fel Herio i’r Eithaf gan Huw Jack Brassington, ac Un Noson gan Llio Maddocks, ond dwi’n meddwl mod i wedi anghofio am y gyfres rhywle ar hyd y ffordd. Rŵan mod i’n gweithio rhan amser mewn llyfrgell, mae’n le perffaith i ddarganfod llyfrau newydd. Dyna lle welais i’r llyfr yma’n syllu arnaf o’r display unit wrth ymyl y ddesg.


Pan welais i’r clawr – ‘my kinda book’ ddaeth i fy meddwl yn syth. Doeddwn i ddim yn anghywir chwaith. Mae Bethan Briggs-Miller wedi creu clawr ardderchog, a taswn i byth yn sgwennu stori arswyd, mi faswn i’n cael hi i wneud y gwaith celf. Dwi wedi mwynhau straeon arswyd diweddar Elidir Jones, felly keep them coming dduda i - rhai mwy tywyll a sinistr os rhywbeth... Mae'n dda iawn fod o'n taflu goleuni ar rai o straeon llen gwerin coll Cymru.


Dwi wedi cael ffrae am roi gormod o spoilers, so fydd ‘na ddim byd felly yma heddiw. Be alla i ddweud ydi, fod 4 ffrind coleg, Dan, Emyr, Alun a Celt, yn cael dipyn bach o reunion, ond yn lle hitio’r dafarn neu’r strip club, mae nhw’n penderfynu mynd i gampio yng nghanol nunlle – Cwm Darran. Y nod go debyg ydi gosod y tent reit handi, cynna tân, wedyn ista’n yfad, siarad a hel atgofion nes bod nhw’n meddwi eu hunain i gysgu! Sounds like a plan.


Wrth gwrs, fasa hynny rhy’n llawer rhy syml! Fel mae’r broliant yn awgrymu, mae rhywun – neu rhywbeth – wedi eu dilyn i’r mynyddoedd. Ella bod y pedwar yn mynd i fyny yn ffrindiau, ond fydda nhw’n sicr ddim yn dychwelyd fel rhai... Mae un o’u plith yn fradwr.


LLYGAD AM LYGAD. DANT AM DDANT. BYWYD AM FYWYD.

Mae cyfres stori sydyn yn aidial- jest y peth i’r rheiny sydd, fel fi, rhy flinedig a diog i ddarllen, neu’n brin o amser. ‘Da chi’n syth i fewn i’r stori, a does na ddim gormod o fflwff disgrifiadol ac emosiynol. ‘Da chi hefyd yn cael y buzz smug ‘na o allu gorffen nofel am unwaith ac yna ‘sgwennu blogiad bach amdano. LOL.

O ia, a mae’r llyfrau’n costio £1. What’s not to like?


Dwi wedi gwylio tipyn o ffilmiau arswyd yn fy nydd, ac yn mwynhau darllen straeon arswyd byrion. Doeddwn i ddim yn disgwyl y byddai’r llyfr yn codi ofn arna i mewn gwirionedd. Ond mi benderfynais ychwanegu at y vibes, a darllen y nofel mewn golau gwan gyda’r hwyr (yr unig amser o’r dydd ga i lonydd!) Roedd ‘na ddarnau digon creepy chwarae teg, a mwyaf sydyn roedd pob sŵn bach yn y tŷ yn swnio’n llawer uwch...


Mae’n ryw ddeg mlynedd ers i mi adael y coleg, a gan fod pawb ar wasgar dydan ni ddim yn cael y cyfle i gwrdd ryw lawer. Ond os fydd ‘na neges whatsapp yn dod drwodd yn cynnig bod ni’n cael aduniad, dwi’n meddwl y bydd rhaid i mi ail feddwl... dwi’n erm..... brysur y diwrnod yna sori....



 

Cyhoeddwr: Y Lolfa

Cyfres: Stori Sydyn Fformat: Clawr Meddal

Cyhoeddwyd: 2023

Pris: £1 (bargen btw)

 

bottom of page