Y Nendyrau - Seran Dolma
- sônamlyfra
- May 20
- 2 min read
♥ Llyfr y Mis: Awst 2023 ♥
♥ Enillydd Gwobr Nofel i Bobl Ifanc Cyfeillion y Cyngor Llyfrau 2019 ♥

(awgrym) oed diddordeb: 14-24+
(awgrym) oed darllen: 14+
Disgrifiad Gwales:
Nofel wedi'i lleoli mewn dyfodol dychmygol ond posib yw hon. Cawn ein dal o'r frawddeg gyntaf: Pan ti'n edrych allan o ffenest gegin tŷ ni, ti'n gweld dim ond awyr a chlywn Daniel, bachgen 16 oed, yn adrodd ei stori yn ei lais clir. Yn sgil cynhesu byd-eang, mae'r byd wedi newid, a Daniel a'i gymuned yn byw mewn nendwr ar gyrion dinas a aeth dan y môr. Stori am antur a chariad.
Adolygiad gan Manon Palit-Rodway, 14 oed

Mae stori’r Nendyrau yn dilyn anturiaethau Daniel a’i ffrind Rani sy’n byw mewn dau dwr uchel uwchben dinas aeth o dan y mor mewn dyfodol wedi ei effeithio’n wael gan broblemau newid hinsawdd. Mae Daniel yn byw bywyd hapus, bodlon nes un diwrnod mae ei dad yn mynd ar goll ac mae e a Rani yn mynd ar antur i ddod o hyd iddo a’i achub.
Byddwn i’n awgrymu y llyfr yma i blant yn ei arddegau sy’n hoff o lyfrau ffuglen wyddonol yn llawn tensiwn ac antur. Mae’r stori yma hefyd yn delio themau pwysig fel newid hinsawdd ac y gwahaniaeth rhwng y pobl mewn pwer a’r bobl diniwed. Bydd hyn yn appelio at bobl sy’n hoffi straeon yn llawn ffyddlondeb a theyrngarwch.
Er nad ydy’r stori hon y fath o beth byddwn i fel arfer yn darllen dwi’n meddwl bod y perthynas rhwng Daniel a Rani yn un arbennig iawn ac yn un o gryfderau mwyaf y llyfr. Dwi hefyd yn meddwl bod tynnu sylw at broblemau newid hinsawdd yn bwysig iawn yn enwedig mewn llyfr i bobl ifanc.





Comments