top of page

Chwilio

294 items found for ""

  • 'Y Dyn Dweud Drefn' gan Lleucu Fflur Lynch

    *Scroll Down for English* "Stori fer am ddyn blîn" "Short story about an angry little man" Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: 2019 ISBN: 978-1-84527-645-4 Lefel: ❖ Stori fyr, hawdd. Short story, easy to read. Dyfarniad/Verdict: ★ ★ ★ ☆ ☆ Wel, mi wnes i fwynhau darllen y stori fach yma! Llyfr newydd a llyfr cyntaf gan Lleucu Fflur Lynch. Dwi’n siwr ein bod ni gyd yn ‘nabod o leiaf un person blin neu bigog sydd wastad yn cwyno fod rhywbeth o’i le. Efallai eich bod chi’n gweld dipyn o’r ‘Dyn Dweud Drefn’ ynoch chi’ch hun! Mae’r ‘Dyn Dweud Drefn’ yn dwrdio rhywbeth neu rywun drwy’r dydd, bob dydd. Mae ei baned yn rhy oer, mae’r tywydd rhy boeth, neu mae hi’n rhy fuan i godi. Be bynnag yw’r mater dan sylw, mae’r ‘Dyn Dweud Drefn’ yn flin. Bod yn flîn yw ei fywyd, hynny yw, nes bod rhywbeth mawr yn newid yn ei fywyd un diwrnod. Darllenwch y llyfr i ffeindio allan, beth sy’n llwyddo i feddalu calon y dyn bach annifyr. Stori syml iawn yw hon, sydd ddim yn rhy hir ac mae ‘chydig o hiwmor ynddo hefyd, er bod ganddo neges reit bwysig. Mae’r lluniau minimalist Gwen Millward yn werth chweil ac yn adio cymaint i’r stori - maen nhw’n fy atgoffa o’r gyfres Ifan Bifan, gan Gunilla Bergstrom. Yn wir, er nad oes ganddo enw, mae’r Dyn Dweud Drefn yn edrych yn debyg iawn i Gru o Despicable Me! ‘Da ni gyd yn euog o fod mewn hwyliau drwg weithiau, efallai ar ôl codi ar ochr anghywir y gwely, a dwi fy hun yn gallu bod yn bigog - yn enwedig yn y bora! Mae stori’r ‘Dyn Dweud Drefn’ yn ein hatgoffa fod 'na bethau pwysicach mewn bywyd na dwrdio a dweud drefn. Relax! Chill out man! Fel ma’ nhw’n ddweud yn y Saesneg! Yn lle bod yn flin, beth am roi’r egni yna mewn i rywbeth mwy cynhyrchiol? Mae bywyd rhy fyr i fod yn flîn. Mae 'na rywun neu rywbeth allan yn y byd sy’n llwyddo i gael bob person blîn i wenu yn y diwedd! Well, I enjoyed this short little story! This brand new book is Lleucu Fflyr Lynch’s first. I’m sure we all know or can think of at least one person who’s always angry and complaining about things not being right. Maybe you see yourself in the ‘Dyn Dweud Drefn’ (The Telling Off Man). The ‘Dyn Dweud Drefn’ is always angry about something or someone. His tea is too cold, the weather’s too hot or it’s too early to get up. Whatever the issue, you can guarantee that the ‘Dyn Dweud Drefn’ won’t be impressed. Being angry about things is his life. That is, until something happens which changes his life forever. Read the book to find out what’s the one thing that manages to melt the heart of this miserable little man. This is a really simple story, not too long and it’s got a touch of humour to it even though I think it holds an important message. The minimalist illustrations by Gwen Millward are brilliant and they add so much to the story – they remind me of the Ifan Bifan series from the 80s by Gunilla Bergstrom. Even though we don’t know what he’s really called, the ‘Dyn Dweud Drefn’ looks a lot like Gru from Despicable Me! We’re all guilty of being in a bad mood sometimes, maybe we’ve just woken up on the wrong side of the bed that day. I myself can be a bit ratty at times- especially in the mornings! This story reminds us that there are more important things in life than being angry all the time. Relax! Chill out Man! Instead of being angry, why not put that energy into something more productive? Life’s too short to be in a bad mood. This book proves that there’s always something or someone that can manage to make an angry person smile in the end!

  • Plentyn y Stryd ~ Berlie Doherty

    *Scroll down for English* "Bachgen yn ymladd am ei fywyd yn Oes Fictoria." "One boy's fight for survival on Victorian streets." Gwasg: Dref Wen Cyhoeddwyd: 2009 Addasiad: Dafydd Morse ISBN: 978-1-85596-847-9 Lefel: ❖ ❖ ❖ Ar gyfer darllenwyr profiadol/ for proficient readers (addas i oedolyn ddarllen/ but suitable for adults to read to child) Dyfarniad/Verdict: ★ ★ ★ ★ ½ Genre: #ffuglenhanesyddol #historicalfiction Cyfieithiad o ‘Street Child’ gan Berlie Doherty yw ‘Plentyn y Stryd’ ac mae’n stori afaelgar sydd wedi ei osod yn nhlodi’r oes Fictoria. Mae’n dilyn hanesion y bachgen tlawd, Jim Jarvis, wrth i’w fywyd gael ei droi wyneb i waered ar ôl i’r teulu gael eu tyrchu allan yn ddidrugaredd i’r oerfel am fethu talu’r rhent i’r landlord cas, Mr Spink. Mae bywyd ar y stryd yn beryglus ac yn unig, ac mae’n rhaid i Jim frwydro am ei fywyd. O ddrwg i waeth aiff bywyd Jim wrth iddo gael ei wahanu oddi wrth ei chwiorydd, a cholli ei Fam yn ogystal â’i Dad. Mae bywyd yn arwain Jim at y Wyrcws, hen le brwnt gydag athro cas sy’n pigo arno. Blant, os ydych chi’n meddwl fod eich athro neu eich athrawes yn gallu bod yn flin, wel, dydych chi ddim wedi cyfarfod Mr Prydderch y Wyrcws eto! Ar ôl dianc, mae Jim yn addasu’n dda i fywyd fel plentyn y stryd, ond cyn pen dim, ffeindia’r bachgen ei hun mewn sefyllfa waeth fyth, ar ôl cael ei werthu i feistr newydd creulon, Nic Seimllyd gyda’i gi ffyrnig a brawychus, Sneip. Dilynwch hynt a helynt Jim wrth iddo gynllunio i ddianc rhag y meistr blin er mwyn ffeindio ei chwiorydd a chael bywyd gwell. Ar ddechrau’r stori, rydym ni’n cael ein cyflwyno i ddyn dirgel, sef Barnie. Erbyn diwedd y nofel rydym ni’n dod i ddeall mai Dr.Barnardo yw’r dyn caredig, a dwi’n siwr eich bod wedi gweld siopau elusen Barnardo’s ar y stryd fawr. Er mai ffuglen yw’r stori, mae wedi ei selio ar gymeriadau go-iawn, sy’n gwneud y stori yn ddifyrrach fyth. (Cewch wybod mwy ar ddiwedd y stori yn y darn ‘Nodyn gan yr awdur.’) Mae’r nofel yma’n wych er ei fod yn llwyd, yn llwm ac yn llawn tristwch a chaledi. Mae’r awdur yn disgrifio pethau’n blwmp ac yn blaen sy’n creu’r darlun o fywyd anodd ar strydoedd Llundain yn Oes Fictoria. Mae’r darllen yn emosiynol iawn ar brydiau. Mae cymaint o elfennau hanesyddol i’r llyfr, ac mae’n amlwg fod yr awdur wedi gwneud ei gwaith ymchwil cyn ysgrifennu. Byddwn i wirioneddol yn argymell y llyfr yma i unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am y cyfnod. Yn wir, mae’r stori’n haeddu ei lle ar silff lyfrau'r cartref yn ogystal â’r ysgol. This is the Welsh adaptation of ‘Street Child’ by the Carnegie Medal winning author, Berlie Doherty. This is a gripping, page-turning novel set in the poverty of Victorian London. It follows the story of a young boy, Jim Jarvis, who’s life is turned upside down when his family is cast out onto the cold streets when they fail to pay the rent for their uncaring landlord, Mr Spink. Life on the street it both dangerous and unforgiving and Jim has to adapt quickly in his fight for survival. His life goes from bad to worse when he is separated from his sisters and loses his Mother as well as his Father. Life takes him to the Workhouse, a grim institution with a nasty teacher who beats him. Children, if you think your current teacher can be angry at times, you haven’t met Mr Prydderch yet! Following his escape, Jim finds some happiness even on the harsh streets. He makes friends, but these are quickly taken away from him as he is sold to a new and cruel master, Nic Seimllyd with his fierce and terrifying guard dog, Sneip. Follow Jim as he plans his daring escape from the cruel master, so he can find his sisters and a better life for himself. At the beginning of the story, we are briefly introduced to ‘Barnie’ , a man we later come to realise is Dr. Barnado. I’m sure you’ve seen the Barnardo’s charity shops on the high streets. Despite the story being a work of fiction, it is based on real life people which makes it all the more powerful. (You can discover more at the end of the novel in the ‘Note from the Author’ section. This is an amazing novel despite being very grim and depressing at times. Full of tales of woe and hardship, the author has a way of describing things with simple accuracy which successfully convey the difficulty of life in these times. The book is very emotional at times. There are so many historical references in the book – the author has clearly done her homework! I would thoroughly recommend this for anyone wanting to know more about peasant life in the Victorian times. This book really deserves pride of place on any book shelf at home or indeed school. Cofiwch adael sylw yn y bocs isod! Leave a comment or mini-review below!

  • 'Na, Nel! Un tro...' ~ Meleri Wyn James

    *Scroll down for English & Comments* Mwy o anturiaethau gyda'r ferch fach ddrygionus! More adventures with this mischievous girl! Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2018 ISBN: 978-1-78461-549-9 *Gwreiddiol Cymraeg ~ Welsh Original* Lefel: ❖ Iaith hawdd/llyfr byr Easy, clear text/very short book Dyfarniad/Verdict: ★ ★ ☆ ☆ ☆ Genre: #antur #adventure #mischief #direidi Faint o weithiau dwi’n cofio fy rhieni’n gweiddi “Na!” arnaf pan oni’n blentyn...? Wel mae rhieni, brawd ac athrawon Nel wastad yn gorfod gweiddi “Na, Nel!” wrth y ferch fach ddireidus yma! Mae’r gyfrol weddol newydd yma wedi bod yn ‘hit’ dros Gymru wrth i ni ddarllen am anturiaethau y ferch fach “llawn bywyd”! Cafodd y stori yma ei ryddhau ar gyfer Diwrnod y Llyfrau ac mae’n un o’r llyfrau sydd ar gael am £1. Ia!! Dim ond £1!! Allwch chi gredu?! Dim ond 48 tudalen sydd i ‘Na Nel, Un tro…” ac mae ei faint yn berffaith i gael stori sydyn heb ormod o waith darllen. Mae’r print yn reit fawr ac yn glir ac mae’r penodau’n fyr hefyd! Bonws! Yn y stori yma, rydym ni’n dilyn Nel wrth iddi hi a’i ffrindiau a’i hathrawes, Miss Morgan, fentro allan yn y tywydd garw i’r gystadleuaeth dweud stori! Ond tydi bywyd byth yn ddistaw gydag ein hoff ferch, Nel. Mae yna antur o fewn cloriau’r llyfr byr yma! Rhowch gynnig arni i glywed beth yw hanes cyfrinach y ‘nicyrs’ a darganfod syrpréis Nel ar y diwedd! Mae'r gyfres wedi'i hanelu at ddarllenwyr 6-8+ ac yn addas ar gyfer rhiant/athro i'w darllen ar gyfer 5-10 oed. Mae 'na luniau bach da du a gwyn gan John Lund hefyd sy’n mynd a ni i fyd Nel! Tafodiaith y de sydd yn y llyfr yma, ond mae’n ddigon hawdd i’w ddeall, hyd yn oed i Gog fel fi! Yr unig beth am y llyfr yma ydi bron ei fod o'n rhy fyr, ond wnai ddim cwyno am y pris! Hwn oedd y llyfr ‘Na Nel!’ cyntaf i mi ddarllen, ond nid hwn yw’r cyntaf yn y gyfres, felly rwan dwi’n awyddus i fynd yn ôl i lyfr 1 i glywed mwy am ddrygioni Nel! How many times do I recall my parents telling me “No!” when I was younger... Well, Nel’s parents, brother and teacher are always shouting “No, Nel” at this mischievous little girl! This new series has been a ‘hit’ across Wales as we read about the energetic antics of this likeable character! This book was released for World Book Day and is one of the £1 books! Yes, £1!! Can you believe it?! Only 48 pages makes this a perfect quick story to enjoy without too much strenuous reading. The print is fairly large and clear and the chapters short too! Bonus! In this story we follow Nel and her classmates and teacher, Miss Morgan as they venture out into the bad weather to attend a story competition. Life is never straightforward and boring with Nel, so as you can imagine, there’s an adventure even within this short novel! Give it a go and find out about the secret of the knickers and Nel’s big surprise at the end! The series is aimed at readers aged 6-8+ and is suitable for parents/teachers to read to children aged 5-10. There are wonderful black and White illustrations throughout the book by John Lund, which help take us into Nel’s world. The dialect in the story is South Walian but it’s easy enough for a ‘Gog’ like me to understand! The only thing about this book is it’s almost too short! (but I won’t complain for the price!) This was the First ‘Na, Nel!’ book that I read, but it’s not the First in the series, so I’ll have to go back and discover the rest and find about Nel’s mischief!

  • Deg o Chwedlau Dyffryn Conwy ~ Myrddin ap Dafydd

    *Scroll down for english* Mewn brawddeg: Straeon byrion am fwystfilod a chewri, gwrachod a môr-forwynion! In a nutshell: Short tales of monsters and giants, witches and mermaids! Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: 2019 ISBN: 978-1-84527-708-6 *Gwreiddiol Cymraeg ~ Welsh Original* Lefel: ❖ ❖ Iaith ddim rhy anodd/straeon byrion. Language not too difficult/short stories Dyfarniad/Verdict: ★ ★ ★ ½ Genre: #chwedlau #straeon #tales #myths #legends Fel un sydd wedi byw yng Nghonwy ar hyd ei oes, mae’n syndod nad ydw i wedi clywed rhai o chwedlau’r Dyffryn. Wel, o’r diwedd, dyma gyfrol sy’n dod â rhai o chwedlau gorau’r ardal at ei gilydd mewn un man. Wrth ddarllen dw i’n teimlo fel fy mod i yng nghanol yr hud a’r lledrith ac yn dysgu am hanes yr ardal ar yr un pryd. Mae’r llyfr yn byrlymu gyda lluniau gwych a ffeithiau hanesyddol diddorol. Peidiwch â gadael i deitl y llyfr eich twyllo; nid llyfr i drigolion Dyffryn Conwy yn unig ydi hwn, ond llyfr i unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am hanesion bro Eisteddfod Genedlaethol 2019. Mae yna luniau hardd a map i’ch helpu i leoli pob chwedl hefyd. Mae stori Llys Helig yn debyg iawn i chwedl ‘Cantre’r Gwaelod’ ond bod yma stori o dwyll, llofruddiaeth a dial enbyd. Mae’n anodd credu fod tonnau’r môr wedi llyncu tir ffrwythlon Tyno Helig i gyd. Wrth fynd heibio Penmaenmawr ar yr A55, pan mae’r llanw allan, edrychwch i weld os daw’r hen waliau sgwâr i’r golwg yng nghanol y tywod. Neu beth am ddarllen hanes y telynor anffodus a gafodd anlwc mawr ar y ffriddoedd a’r corsydd yn ystod ei daith beryglus yn ôl i’r Bala. Roeddwn i ar bigau’r drain eisiau gwybod ei dynged pan aeth pethau o chwith… Mae rhywbeth at ddant pawb yma – straeon am fwystfilod, cewri, môr forynion, gwrachod ac anifeiliaid hudol o bob math. Mae’r straeon yn fyr hefyd– perffaith ar gyfer darllen gyda’r nos cyn mynd i’r gwely. Dyma lyfr bendigedig i astudio’r hen hanesion yn y dosbarth ac i ailddarganfod yr hud a’r lledrith fu’n perthyn i’r Dyffryn rhyfeddol hwn. Gall fod yn sbardun i chi fynd ati i greu eich chwedlau eich hunain! As someone who has lived in Conwy all his life, it came as a surprise that I hadn’t heard some of these myths and legends of the Dyffryn. Well, at last, we have a volume that brings them together in one place. As I read, I feel that I’m being transported back into the middle of the magic and wonder, whilst having a really exciting history lesson at the same time. The book is bursting with wonderful images and historical facts. Don’t let this book fool you; this is not only for the people of Conwy Valley, but for anyone in Wales who wants to discover the rich history of the home of the National Eisteddfod 2019. There’s a handy map to help you find these hidden places too. The story of Llys Helig is similar to the well-known legend of ‘Cantre’r Gwaelod’, but this story takes a darker turn, with tales of deceit, murder and revenge. It’s hard to believe that the sea has swallowed the fertile lands of Tyno Helig. When you go past Penmaenmawr on the A55, if the tide is out, have a look to see if you can make out the square remains of the walls in the sand. How about reading of the misfortunes of the harpist who got into some considerable bother on the moorlands and marshes on his way back to Bala in the perilous fog. I was on the edge of my seat as I read about his fate... There’s something for everyone here – tall tales of monsters, giants, mermaids, witches, magical animals and more. The stories are short too- perfect for bedtime reading, one a night. This is a wonderful book to study these myths and legends in the classroom too, rediscovering the magic that belongs to this great Valley. It may even serve as an inspiration for you to create all new myths and legends for the next generation!

  • Dosbarth Miss Prydderch a'r Carped Hud (Llyfr 1) ~ Mererid Hopwood

    *scroll down for English* Mewn brawddeg: Anturiaethau gyda athrawes anhygoel! In a nutshell: Awesome adventures with a super cool teacher! Gwasg: Gomer Cyhoeddwyd: 2017 ISBN: 978-1-84851-183-5 *Gwreiddiol Cymraeg ~ Welsh Original* Lefel: ❖ ❖ Iaith ddim rhy anodd/ffont reit syml Language not too difficult/quite simple font Dyfarniad/Verdict: ★ ★ ★ ★ ☆ Genre: #ffantasi #antur #fantasy #adventure Oedd gennych chi hoff athro/awes yn eich ysgol gynradd? Wel, Miss Arianwen Hughes oedd hoff athrawes Alfred! Roedd popeth yn grêt tan y newyddion gwaethaf erioed – roedd hi’n gadael yr ysgol! Yn ei lle, daeth Miss Prydderch, gyda’i ffrog lwyd, ei gwallt llwyd, sbectol llwyd a’i llygaid llwyd! Dydi Alfred ddim yn hapus o gwbl. Ond nid athrawes arferol ydi Miss Prydderch – O na! Mae hi’n gallu mynd a’r plant ar anturiaethau anhygoel, achos, fel mae’r teitl yn awgrymu, mae ganddi Garped Hud! Mae’r dosbarth i gyd yn gwibio o’r ysgol i Goedwig y Tylluanod, lle mae nhw’n cwrdd â nifer o ryfeddodau – gan gynnwys y badi, Dr Wg ab Lin! Peidiwch ac edrych i mewn i’w lygaid da chi! Mae’r stori yn symud yn ôl ac ymlaen rhwng yr anturiaethau amser stori yn y goedwig, a’r frwydr sy’n digwydd yn y pentref i gadw Ysgol Y Garn ar agor. Rydyn ni’n dod i ‘nabod rhai o aelodau’r dosbarth, a rhai o’r pobl eraill yn y gymuned. Erbyn diwedd y llyfr, mae Miss Prydderch yn dal i fod yn ddirgelwch ac mae gennym dal llwyth o gwestiynau amdani! Mae’r llyfr yn gorffen ar cliff-hanger gyffrous sy’n gosod y stori nesaf yn y drioleg i fyny ‘n berffaith. Mae iaith y llyfr yn eithaf syml ac yn llifo’n reit hawdd wrth ddarllen. Does dim gormod o ‘sgwennu ar y tudalennau ac mae na newidiadau ym maint y llythrennau a dwdls ar rai tudalennau i gadw pethau’n ddiddorol. Un peth arbennig am y llyfr yma ydi’r bocsys bach a’r llinellau sy’n dod allan o rai geiriau. Mae nhw’n helpu i esbonio geiriau sydd braidd yn anghyfarwydd- sy’n beth Andros o handi. Mae na hefyd saethau yn y llyfr sy’n mynd a chi i wefan www.missprydderch.cymru, lle mae na dipyn o weithgareddau sy’n cyd-fynd gyda’r llyfr. Mae’r llyfr yn 168 o dudalennau felly mae’n stori reit fyr sy’n grêt i rhywun sy’n newydd i ddarllen llyfr Cymraeg neu sy’n hoffi y teimlad da o orffen llyfr. Mae na dipyn o’r llyfr yma yn mynd ar osod y sefyllfa a cyflwyno ni i gymeriadau am y tro cyntaf, felly dwi’n siwr bydd y cyffro a’r antur yn hyd yn oed mwy yn y llyfrau nesa! Did you ever have a favourite teacher in school? Wel, Miss Arianwen Hughes was Alfred's favourite! Everything was going great until the worst news ever- she was leaving! In her place came Miss Prydderch, with her grey clothes, grey glasses, grey hair and grey eyes! Alfred is not impressed. But Miss Prydderch is no ordinary teacher - Oh no! She can take the children on incredible adventures, because, as the title suggests, she has a magic carpet! The entire class can zoom to Coedwig y Tylluanod (Forest of Owls) where they meet new friends - including the baddy - Dr Wg ab Lin! Don't look into his eyes whatever you do! The story moves back and forth between the forest adventures and another battle in the village to keep Ysgol y Garn open. We meet Alfred's classmates, along with others from the community. By the end of the book, we still have a million questions to ask about Miss Prydderch. The book ends on an exciting cliff-hanger which sets up the next story in the trilogy perfectly. The language is fairly simple and flows well/naturally. There isn't too much writing on the pages and some of the text is different sizes along with doodles which makes things more interesting. One great thing about this book is there are circles around some words that explain what they mean- which is really handy! You might also notice some arrows that point to some things- there are some resources (in Welsh) on www.missprydderch.cymru to go with the story. The story is 168 pages which is fairly short, so it's great for someone new to reading Welsh books and who like the feeling of success when finishing a book. A lot of this book has gone into introducing us and setting up the story and characters, so I'm sure the next books will contain even more excitement and adventure with our new friends!

  • Matilda ~ Roald Dahl

    *scroll down for English* Mewn brawddeg: "Merch anhygoel yn dial ar hen oedolion cas" In a nutshell: "Girl genius takes revenge on evil adults" Gwasg: Rily Publications Cyhoeddwyd: 2016 Addasiad Cymraeg: Elin Meek ISBN: 978-1849673495 *Cyfieithiad/translated book* Lefel/level: ❖ ❖ addas ar gyfer darllenwyr eithaf hyderus Suitable for fairly confident readers Dyfarniad/verdict: ★★★★★ Genre: #ffantasi #fantasy Dyma glasur o stori gan yr awdur enwog, Roald Dahl. Stori wych am ferch fach sy'n syrthio mewn cariad â llyfrau pan oedd hi'n ifanc. Erbyn ei bod hi'n dair oed, mae hi wedi dysgu ei hun sut i ddarllen. Erbyn fod hi'n bedair, mae hi wedi darllen yr holl lyfrau yn y llyfrgell. Dydi hi ddim yn cael llawer o gefnogaeth gan ei rhieni ac mae'n well gan ei thad wylio'r teledu! Pan mae Matilda'n cychwyn yn yr ysgol mae hi'n cyfarfod Miss Honey ac mae'r ddwy yn dod yn ffrindiau. Er fod ei hathrawes glên yn annog a helpu Matilda, mae pennaeth erchyll yr ysgol, Miss Trunchbull, yn gwneud bywyd yn anodd i bawb. Mae'n gas gan y brifathrawes dychrynllyd blant, ond Matilda yn enwedig! Mae'r stori wedi ei selio mewn ysgol, sy'n gyfarwydd iawn i ni gyd, ac mae Roald Dahl yn mynd a'r darllenwyr ar antur wrth i'r ferch fach dalentog yma ddysgu gwers i'r oedlion cas yn ei bywyd. Mae'r awdur yn siarad gyda'r darllenwr sy'n dod a'r stori'n fyw. Mae ei ddychymyg yn gryf ac mae hiwmor da drwy'r llyfr i gyd! Mae'n stori anwyl, sy'n llawn antur, hiwmor a dirgelwch er fod rhai darnau'n reit dywyll ar brydiau. Mae'r neges i blant yn glir yn y stori: mi allwch chi lwyddo! Hefyd, mae 'na neges i oedolion cas hefyd - byddwch yn glên gyda'ch plant neu watch out! Roald Dahl is on top form with this book. It's a wonderful story about a gifted little girl who falls in love with books straight away! By the time she's three, she's already taught herself how to read. Fast forward a year, and she's read every single book in the library! She doesn't get much support from her parents and her dad always tells her that tv is far more important than silly books. When she starts school, she meets the amazing Miss Honey and the two strike up a friendship. Even though her teacher is kind and caring, Matilda's school is terrorised by the awful headmistress, Miss Trunchbull. The story is set in school, somewhere that is familiar to us all. The author takes us on an adventure as this talented girl teaches those mean adults a lesson. His imagination and humour flows throughout the book. It's an endearing book, full of adventure, laughs and mystery as well as some rather dark bits! The message to children is clear: you can do it! A word of warning to nasty adults too - be nice to kids or else! I THOROUGHLY recommend this book - a Roald Dahl classic!

bottom of page