top of page

'Na, Nel! Un tro...' ~ Meleri Wyn James

Updated: Feb 9, 2020

*Scroll down for English & Comments*


Mwy o anturiaethau gyda'r ferch fach ddrygionus!

More adventures with this mischievous girl!


Dim ond £1! Only a £1! Bargen! Bargain!

Gwasg: Y Lolfa

Cyhoeddwyd: 2018

ISBN: 978-1-78461-549-9

*Gwreiddiol Cymraeg ~ Welsh Original*


Lefel: ❖

Iaith hawdd/llyfr byr

Easy, clear text/very short book

Dyfarniad/Verdict: ★ ★ ☆ ☆ ☆

 

Faint o weithiau dwi’n cofio fy rhieni’n gweiddi “Na!” arnaf pan oni’n blentyn...? Wel mae rhieni, brawd ac athrawon Nel wastad yn gorfod gweiddi “Na, Nel!” wrth y ferch fach ddireidus yma! Mae’r gyfrol weddol newydd yma wedi bod yn ‘hit’ dros Gymru wrth i ni ddarllen am anturiaethau y ferch fach “llawn bywyd”!


Lluniau da John Lund

Cafodd y stori yma ei ryddhau ar gyfer Diwrnod y Llyfrau ac mae’n un o’r llyfrau sydd ar gael am £1. Ia!! Dim ond £1!! Allwch chi gredu?! Dim ond 48 tudalen sydd i ‘Na Nel, Un tro…” ac mae ei faint yn berffaith i gael stori sydyn heb ormod o waith darllen. Mae’r print yn reit fawr ac yn glir ac mae’r penodau’n fyr hefyd! Bonws!


Short chapters.

Yn y stori yma, rydym ni’n dilyn Nel wrth iddi hi a’i ffrindiau a’i hathrawes, Miss Morgan, fentro allan yn y tywydd garw i’r gystadleuaeth dweud stori! Ond tydi bywyd byth yn ddistaw gydag ein hoff ferch, Nel. Mae yna antur o fewn cloriau’r llyfr byr yma! Rhowch gynnig arni i glywed beth yw hanes cyfrinach y ‘nicyrs’ a darganfod syrpréis Nel ar y diwedd!


Mae'r gyfres wedi'i hanelu at ddarllenwyr 6-8+ ac yn addas ar gyfer rhiant/athro i'w darllen ar gyfer 5-10 oed. Mae 'na luniau bach da du a gwyn gan John Lund hefyd sy’n mynd a ni i fyd Nel! Tafodiaith y de sydd yn y llyfr yma, ond mae’n ddigon hawdd i’w ddeall, hyd yn oed i Gog fel fi! Yr unig beth am y llyfr yma ydi bron ei fod o'n rhy fyr, ond wnai ddim cwyno am y pris!


Hwn oedd y llyfr ‘Na Nel!’ cyntaf i mi ddarllen, ond nid hwn yw’r cyntaf yn y gyfres, felly rwan dwi’n awyddus i fynd yn ôl i lyfr 1 i glywed mwy am ddrygioni Nel!


 

How many times do I recall my parents telling me “No!” when I was younger... Well, Nel’s parents, brother and teacher are always shouting “No, Nel” at this mischievous little girl! This new series has been a ‘hit’ across Wales as we read about the energetic antics of this likeable character!


This book was released for World Book Day and is one of the £1 books! Yes, £1!! Can you believe it?! Only 48 pages makes this a perfect quick story to enjoy without too much strenuous reading. The print is fairly large and clear and the chapters short too! Bonus!


In this story we follow Nel and her classmates and teacher, Miss Morgan as they venture out into the bad weather to attend a story competition. Life is never straightforward and boring with Nel, so as you can imagine, there’s an adventure even within this short novel! Give it a go and find out about the secret of the knickers and Nel’s big surprise at the end!


Testun clir. Simple and clear font

The series is aimed at readers aged 6-8+ and is suitable for parents/teachers to read to children aged 5-10. There are wonderful black and White illustrations throughout the book by John Lund, which help take us into Nel’s world. The dialect in the story is South Walian but it’s easy enough for a ‘Gog’ like me to understand! The only thing about this book is it’s almost too short! (but I won’t complain for the price!)


This was the First ‘Na, Nel!’ book that I read, but it’s not the First in the series, so I’ll have to go back and discover the rest and find about Nel’s mischief!


12 views0 comments
bottom of page