Chwilio
94 results found with an empty search
- T. Llew Jones | Sonamlyfra
Adnabod Awdur T. Llew Jones Geni: 1915 Marw: 2009 Yn wreiddiol o: Llandysul Ffeithiau Fflach https://blog.library.wales/t-llew-jones/
- Anfon adolygiadau | Sonamlyfra
Anfon Adolygiadau Mae sawl ffordd o anfon adolygiadau at Sôn am Lyfra: ebost Facebook Twitter Instagram Pôst Ffurflen uwchlwytho ar-lein Camau Dilynwch y camau yma ar gyfer cael eich adolygiadau'n ôl atom. 01 Ysgrifennwch neu ffilmiwch eich adolygiad. Gallwch ddefnyddio dogfen word neu templed. Cliciwch yma . 02 Cwblhewch y ffurflen proffil adolygwr. Bydd hwn yn mynd gyda'ch adolygiad. Cliciwch yma . 03 *PWYSIG* Os ydych o dan 16 oed, rhaid cael caniatâd gan riant. Defnyddiwch y ffurflen yma - gallwch gynnwys llun hefyd os hoffech. 04 Unwaith rydych wedi cael oedolyn i arwyddo'r ffurflen ganiatâd, anfonwch eich adolygiad i ni. sonamlyfra@aol.com
- Hysbysebu | Sonamlyfra
Hysbysebu Pwy yw ein cynulleidfa? Plant a phobl ifanc Rhieni (Cymraeg, dysgwyr a di-gymraeg) Athrawon Gweisg Rhanddeilliaid eraill y maes Pam hysbysebu â ni? Rydym ni'n blatfform ar-lein AM DDIM sy'n cael ei redeg yn wirfoddol a da ni'n dibynnu ar ffynhonnell o incwm ar gyfer cynnal y wefan. Ein pwrpas yw darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau plant a phobl ifanc. Rydym eisiau cefnogi'r diwydiant llyfrau yng Nghymru drwy hyrwyddo teitlau newydd. Byddwn hefyd yn tynnu sylw at rai o glasuron Cymraeg sy'n eistedd ar silffoedd lyfrau ar draws y wlad. Mi allwn rannu eich hysbysebion ar ein cyfryngau cymdeithasol (Facebook, Instagram, Twitter) yn ogystal â'r wefan. Mae gennym gynulleidfa sy'n tyfu ac mae ein prisiau'n rhesymol! Cost Hysbyseb Pris hysbyseb yw: £25 yr hysbyseb (1 flwyddyn) Gweisg Gallwch anfon copi o lyfrau i ni a byddwn yn hapus i'w hadolygu a rhoi cyhoeddusrwydd i deitlau newydd. Cysylltwch drwy ebost i drafod: sonamlyfra@aol.com Ein cyfeiriad postio yw: 39 LG Conwy LL31 9FG Up 513%
- Casia Wiliam | Sonamlyfra
Adnabod Awdur Casia Wiliam Geni: Ffeithiau Fflach Yn wreiddiol o: Nefyn Byw yn: Caernarfon Ffaith ddiddorol: . Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr ifanc yn ei gael o’r stori hon? Pleser a mwynhad yn bennaf, ond rwy’n gobeithio hefyd y bydd yn gwneud iddynt feddwl am hiliaeth, gan sylwi ei fod yn gynnil weithiau, fel sylwadau Leila yn y nofel, ond ei fod wastad yn gwbl annerbyniol. Beth oedd un o’r pethau mwyaf rhyfeddol i chi ei ddysgu wrth greu eich llyfr? Gan bod y stori wedi ei lleoli mewn sw, roedd gofyn i mi wneud llawer o waith ymchwil, ac un o’r pethau mwyaf rhyfeddol wnes i ddysgu oedd bod rhai anifeiliaid sydd yn y byd heddiw yn arfer bod yn llawer, llawer mwy o faint. Er enghraifft, dair miliwn o flynyddoedd yn ôl roedd cangarŵs ddwywaith y maint ydyn nhw rŵan; cewri’r cangarŵ oedd eu henwau! Beth wnaeth i chi ddechrau ysgrifennu? Mae Mam (Meinir Pierce Jones) yn awdures, felly mae gwrando ar straeon a sgwennu straeon wastad wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd. Llun a stori oedd fy hoff weithgaredd yn yr ysgol gynradd, ac ers hynny fues i’n ddigon lwcus i gael athrawon gwych sydd wedi fy annog i ddarllen a dal ati i ysgrifennu. Amwn i ei fod yn rhywbeth naturiol i mi ei wneud a dweud y gwir, fedrwn i ddim peidio! Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc? Roeddwn i’n llyncu llyfrau pan oeddwn yn ifanc. Dyma rai o’m ffefrynnau sydd yn bendant wedi fy ysbrydoli: Cyfres plant blwyddyn (Elgan Philip Davies), Gwe Gwenhwyfar (addasiad Cymraeg gan Emily Huws), Gan yr Iâr (Bethan Gwanas), Llinyn Trons (Bethan Gwanas), holl lyfrau Judy Blume a Jacqueline Wilson, cyfres Harry Potter gan J.K Rowling wrth gwrs, a chyfres His Dark Materials gan Phillip Pullman. Pa brofiadau yn eich bywyd sydd wedi dylanwadu ar eich ysgrifennu fwyaf? Dau beth; y cyntaf yw bod yn Fardd Plant Cymru rhwng 2017 a 2019. Roedd hynny yn fraint ac yn bleser a’r peth gorau amdano oedd cael cyfarfod gymaint o blant a phobl ifanc, dod i’w hadnabod, dod i ddysgu beth sy’n gwneud iddyn nhw chwerthin a beth maen nhw’n hoffi ddarllen. A’r ail yw cael plant fy hun. Mae gen i ddau fab ac mae’r hynaf yn dair a hanner, sy’n golygu ein bod yn darllen lot fawr iawn o storis, ac mae gweld ei ryfeddod wrth glywed stori dda yn fy sbarduno i ysgrifennu mwy. Mae ei ddychymyg o hefyd yn rhoi llawer o syniadau i mi! Pe gallech ddewis fod yn gymeriad o lyfr am ddiwrnod, pwy fyddai hwnnw a pham? Ww cwestiwn difyr ac anodd! Mae’n bosib y byddwn yn dewis Lyra, o gyfres His Dark Materials gan Phillip Pullman. Mi fyddai’n ddiddorol gwybod sut deimlad yw cael dæmon fel sydd gan y cymeriadau yn y nofelau hynny, a chael teithio rhwng bydoedd gwahanol. Mi fyddai hynny yn dipyn o brofiad. Ble gawsoch y syniadau am y cymeriadau yn eich llyfr? Yn ystod fy nghyfnod fel Bardd Plant fe es i i ddegau ar ddegau o ysgolion ledled Cymru, ac mewn un ysgol fe wnes i gyfarfod â merch fach oedd yn gwirioni ar anifeiliaid. Roedd hi’n benderfynol o ysgrifennu cerdd am anifeiliaid (er mai rhywbeth arall oedd y themau diwrnod hwnnw!) ac ar ddiwedd y sesiwn daeth ata i a dweud,“Mae Mam yn dweud bod gen i berthynas arbennig gydag anifeiliaid”, a dyma fi’n meddwl – mi fyddet ti yn brif gymeriad perffaith! Roeddwn i eisiau trio dangos trawstoriad o gymdeithas yn y llyfr hefyd, felly mae yna blant o deuluoedd ac un rhiant, plant o gefndir tlawd a phlant cyfoethocach, ac yn amlwg mae Sara yn hil cymysg ond yn byw mewn cymdeithas sydd bennaf yn wyn, yn debyg i ble cefais i fy magu ym Mhen Llŷn. Pa neges sydd gennych i ysbrydoli ysgrifenwyr ifanc? Gall unrhyw un fod yn awdur. Dim ots am y sillafu, dim ots os oes nad oes unrhyw un arall o’ch teulu chi yn ysgrifennu straeon neu yn mwynhau darllen hyd yn oed, os ydych chi yn mwynhau ac yn dda am ddweud stori, gallwch chi fod yn awdur. Y gyfrinach, dwi’n meddwl, ydi darllen. Ewch ati i ddarllen gymaint â phosib o bethau gwahanol, a bydd eich ymennydd yn llenwi â syniadau a geiriau gwych, ac yna, bydd y storis yn llifo. Hawlfraint y llun: Póló
- Daf James | Sonamlyfra
Daf James Lawrlwytho PDF
- Pryderi Gwyn Jones | Sonamlyfra
Pryderi Gwyn Jones Lawrlwytho PDF
- Podcasts | Sonamlyfra
PODCASTS AM LYFRAU A DARLLEN Caru Darllen Cyngor Llyfrau Cymru Cylchgrawn Cip Urdd Gobaith Cymru Colli'r Plot Awduron Amyrwiol Am Blant Prifysgol Bangor Siarad Cyfrolau Cyngor Llyfrau Cymru Y Pod Llyfrau Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin Byw Llyfrau Estyn Allan Y Clwb Darllen S4C Dysgu Cymraeg
- Siopau Llyfrau | Sonamlyfra
Siopau Llyfrau yng Nghymru Mae'n bosib y bydd y wybodaeth yma yn newid. Nid ydym yn gwarantu fod y wybodaeth yn gyfredol.
- LANDING TEMP | Sonamlyfra
Mae'r wefan yn cael ei uwchraddio Website upgrade in progress. Back soon! Adolygiadau dwyieithog o lyfrau plant a phobl ifanc Cymraeg. Bilingual reviews of Welsh children and young people's books. sonamlyfra@aol.com
- Rhian Cadwaladr | Sonamlyfra
Adnabod Awdur Rhian Cadwaladr Geni: Ebrill 27, 1962 Ganwyd yn: Llanberis Byw yn: Rhosgadfan Ffeithiau Fflach Llyfrau (plant a phobl ifanc) Nain Nain Nain (Gwasg y Bwthyn, 2019) Mae Rhian wedi cyhoeddi ei llyfr cyntaf i blant yn dilyn cwrs ysgrifennu yng Nghanolfan Tŷ Newydd... https://www.tynewydd.cymru/ Dyma erthygl diddorol am waith Rhian ar North Wales Live. Cliciwch yma i ddarllen. Nid ydym yn gyfrifol am wefannau allanol Cwestiwn ac Ateb Rhian Cadwaladr Dyma gyfle'r actores a'r awdur, Rhian Cadwaladr i ateb rai o gwestiynau Sôn am Lyfra am ei gwaith. Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu llyfrau? Dwi ddim yn cofio amser pan nad oeddwn i isho bod yn awdur ond mi gymerodd flynyddoedd lawer cyn i mi fynd ati o ddifri. Pa lyfrau wnaeth eich ysbrydoli chi fel darllenwr ifanc? Roeddwn i'n darllen yn eang iawn pan oeddwn yn blentyn - roedd Mam yn arfer dweud fy mod i'n darllen cyn dod allan o fy nghlytia bron! Pan oni i chydig hŷn na hynny roeddwn i'n hoff iawn o lyfrau clasuron Saesneg i blant fel The Secret Garden, Heidi, Little Women, What Katy Did, Pipi Longstocking, Anne of Green Gables a llyfrau Charles Dickens. T Llew Jones un o fy ffefryna yn y Gymraeg. Beth sydd bwysicaf – y cymeriadau neu’r plot? Hynny yw – beth sy’n gwneud llyfr da? Y cymeriadau sydd bwysicaf i mi. Mae'n rhaid bod ots ganddoch chi am y cymeriad - boed yn ei garu neu ei gasâu. Os nad oes ots ganddoch chi yna tydi yr awch i wybod beth sy'n digwydd iddyn nhw ddim yna. Beth yw eich llyfr diweddaraf i blant? Beth ydych chi’n gobeithio i ddarllenwyr ei gael o ddarllen y stori? Nain Nain Nain yw enw fy llyfr cynta i blant a gyhoeddwyd diwedd 2019. Llyfr ydi hwn sy'n cyflwyno y cyflwr dementia i blant bach. Fy ngobaith ydi y bydd y darllenwyr, drwy gyfrwng y geiriau a hefyd lluniau bendigedig Jac Jones, yn dod i ddeall 'chydig am y broses o heneiddio ac am y cyflwr, ond hefyd yn mwynhau cyfarfod neiniau lliwgar Nedw. Beth yw eich hoff lyfr neu awdur i blant/pobl ifanc a pham? O dyma gwestiwn anodd! Mae gwahanol lyfrau wedi apelio atai ar adegau gwahanol y fy mywyd. Ond os oes rhaid i mi ddewis un mi ddewisai Llyfr Mawr y Plant achos mi nes i fwynhau darllen hwn pan yn blentyn a mwyhau ei ddarllen eto i mhlant fy hun pan oeddan nhw'n fychan. Oes yna gymeriad rydach chi’n ei garu neu ei gasáu? Ella bod casau yn air rhy gry ond tydwi ddim yn hoff o Tomos y Tanc. Roedd Meilir fy mab hynaf wrth ei fodd efo'r gyfres pan oedd o'n blentyn ond roeddwn i'n eu gweld yn ddiflas iawn. Pa neges sydd gennych i ysbrydoli darllenwyr/ysgrifenwyr ifanc? Rhwng cloriau llyfr fe gewch chi gyfle i ddianc i fydoedd newydd ac i ddeall mwy am eich byd eich hun. Darllenwch unrhywbeth a phopeth - ond peidwich a disgwyl mwynhau bob dim! Os ydi un llyfr ddim yn apelio, chwiliwch am un sydd - mae yna gant a mil i ddewis ohonyn nhw! I ysgrifenwyr ifanc mi fyddwn i'n rhoi yr un cyngor ac ychwanegu dau air arall ato - jyst sgwennwch! Diolch Rhian am fod mor barod i ateb ein cwestiynau. Rydan ni'n edrych ymlaen at y straeon newydd! Ffaith ddiddorol: Y fi ydi'r Siani Flewog yn y gyfres deledu o'r 90au Caffi Sali Mali! Oes llyfr newydd ar y gorwel? Oes! Rwyf wedi bod yn gweithio ar lyfr newydd i blant bach o'r enw 'Ynyr yr Ysbryd Ofnus' gyda fy merch - y darlunydd Leri Tecwyn. Mi fydd o yn y siopa erbyn Calan Gaeaf gobiethio. Yn ogystal a hyn mae gen i nofel newydd i oedolion yn cael ei chyhoeddi yr haf yma. Beth sydd well gynnoch chi - llyfr go iawn neu e-lyfr? Llyfr go iawn pob tro - dwi'n hoff o deimlad llyfr yn fy llaw a hyd yn oed ei oglau! Tydi e-lyfr jesd ddim yr un fath.
- Themau Ca2 | Sonamlyfra
LLYFRAU CA 2 7-11 Oed Nid yw'r llyfrau canlynol wedi cael eu gwirio i weld os ydynt yn addas ar gyfer yr oedran yma. Rydym yn argymell eich bod yn menthyg y llyfr o'r llyfrgell gyntaf i sicrhau ei fod yn addas. Rhyfel Byd (hanes) RHYFEL BYD I Ceffyl Rhyfel, (Gwasg Carreg Gwalch, 2011) Ci Rhyfel (Gomer, 2014) Cyfres Rygbi: 2. Rhyfelwr Rygbi (Gwasg Carreg Gwalch, 2017) Y Gêm (Gwasg Carreg Gwalch, 2014) Diffodd y Sêr, (Y Lolfa, 2017) Gwrando ar y Lloer, (Gwasg Carreg Gwalch, 2015) Y Rhyfel Byd Cyntaf (Rily, 2015) Stori'r Rhyfel Byd Cyntaf (Rily, 2015) Caeau Fflandrys (2009, Dref Wen) Rhyfelwr Rygbi YR AIL RYFEL BYD Ein Rhyfel Ni (Gwasg y Bwthyn, 2006) Sais Ydi O, Miss! (Gwasg Gwynedd, 1999) Stori'r Ail Ryfel Byd, (Rily, 2015) Cyfres Strach: Coed Du (Gomer, 2012) Bachgen Mewn Pyjamas, Y (Gwasg Carreg Gwalch, 2011) Amser Rhyfel (Gomer, 2004) Pecyn Athrawon Amser Rhyfel (2004) Cyfres Cled: Lloches Ddirgel (1995) Y Ail Ryfel Byd (Rily, 2015) Teyrnas Kenzuke (Dref Wen) Y Môr Merched y Môr a chwedlau eraill (T Llew Jones) Trysor y Môr Ladron (T Llew Jones) Lawr ar lan y Môr (Elin Meek) Dirgelwch yr ogof (T Llew Jones) Cyfrinach Craig yr Wylan (Bet Jones) Ofnadwy nos (T Llew Jones) Bachgen Y Môr (Morris Gleitzman) Draig o'r enw môr (Jilly Bebbington) Cnoi cil: Royal Charter (Sian Vaughan) Barti Ddu (T Llew Jones) Doniol Direidi Nicolas (Dalen, 2019) Cyfres 'Na, Nel!' Cyfres 'Dosbarth Miss Prydderch' Addasiadau Roald Dahl i gyd Addasiadau David Walliams i gyd Tricsi a Dicsi (Dref Wen) Pogo Ping Pong (Dref Wen) Sothach a Sglyfath (Y Lolfa) Cyfres Halibalŵ (CAA) Hanes y Twrch Bach oedd am wybod Pwy oedd wedi gwneud am ei ben (Gomer) Iechyd a Lles Gwen, Fy Mrawd (Dref Wen) Y Bys Hyd (Roald Dahl, Rily) Tŷ Tomi Treorci (Rily) Paid â gofyn i Alys (Carreg Gwalch) Cwmwl Cai (Gomer) Seren Orau'r Sêr (Rily) Y Goeden Gofio (Gomer) Y Llew tu mewn (Atebol) Sut dwi'n teimlo? (Rily) Gyda'n Gilydd (Rily) Y Goeden Ioga (Gomer) Achub y Dydd (Gomer) Mam-gu a fi (CAA) Mae'n iawn bod yn wahanol (Atebol) Het gynnes Tad-cu ( Gomer) Daearyddiaeth a'r amgylchedd Teyrnas Kenzuke (Dref Wen) Cymru ar y Map (Rily) Cyfres A wyddoch chi am...? (ddaearyddiaeth Cymru) Pwy sy Wedi Llyncu Llŷr? (Dref Wen) Mae ein Tŷ Ni ar Dân (Rily) Hanes ein Byd ar y Map (Rily) Stori Pobl (Rily) Cyfres archwilio'r Amgylchedd Arswyd Lleuad yn Olau (T Llew Jones) Gwyddoniaeth Stori Dyfeisiau (Rily) Hud a lledrith Harri Potter (a Maen yr athronydd) Yr Hudlath a'r Haearn (Cressida Cowell) Hanes Boddi Cymoedd Cymru Ta-ta Tryweryn (1999) Yr Argae Haearn (GCG) Streic Chwarel y Penrhyn Bwli a Bradwr Cyfnod y Stiwardiaid Ble mae John Iorc? Y Rhufeiniaid Dilyn Caradog (GCG) Rhyfel Cartref Sbaen Mae'r lleuad yn goch Rebel Rygbi Brwydr yr Iaith Gymraeg Paent! (Angharad Tomos) Darn bach o bapur (Angharad Tomos) Pleidlais i Ferched Henriet y Syffrajet Y Welsh Not Pren a Chansen Gwerin Cymru, Cyfnod Patagonia Gwenwyn a gwasgod Felen Twm Bach ar y Mimosa Pyllau Glo Cwmwl Dros y Cwm Drws Du yn Nhonypandy Cymoedd De Cymru Gethin Nyth Brân Canol Oesoedd Ifor Bach (Gomer) Merched Beca Cri'r Dylluan (T Llew Jones) Oes Fictoria Plentyn Y Stryd (Dref Wen) Antur Taro'r Targed (Gomer) Cyfres Alecs Rider (Dref Wen) Cyfres Asiant A (Anni Llŷn) Cyfres o Ddigwyddiadau Anffodus Anifeiliaid Sw Sara Mai (Lolfa)
- Gwobr Tir na n-Og | Sonamlyfra
ENILLWYR #TNNO22 . RHESTR FER #TNNO22 Beth yw'r Gwobrau Tir na n-Og? Ers 1976, mae Gwobrau Tir na n-Og yn cydnabod rhagoriaeth ym maes llyfrau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Maent yn gwobrwyo llyfrau Cymraeg a Saesneg o Gymru. Caiff y gwobrau eu cyflwyno gan Cyngor Llyfrau Cymru a'u rhoi i'r llyfrau gorau a ysgrifennwyd ar gyfer plant a phobl ifanc yn y flwyddyn ddiwethaf. Prif bwrpas y wobr yw i annog plant a phobl ifanc i brynu, darllen a mwynhau llyfrau da drwy rhoi cyhoeddusrwydd i deitlau ac awduron newydd . Dros y blynyddoedd mae'r wobr wedi cael ei dyrannu i nifer o awduron profiadol cydnabyddedig yn ogystal â'i chyflwyno i awduron newydd. Mae'r panel beirniadu'n cynnwys cynrychiolwyr o nifer o feysydd perthnasol fel addysg, llyfrgelloedd, Llên Cymru, a.y.y.b. Maen nhw'n cyfarfod ar ddechrau'r flwyddyn ac yn llunio rhestr fer o deitlau addas. Mae'r wobr ar gyfer llyfrau Saesneg yn dathlu llyfr sydd â chefndir neu naws Gymreig ond wedi'i ysgrifennu yn wreiddiol yn Saesneg. Caiff y wobr hon ei noddi gan CILIP Cymru a'i chyflwyno yn y gynhadledd flynyddol ym mis Mai. Mae enillwyr y gwobrau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi yn Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai. Mae yna gategori Cynradd ac Uwchradd. Mae sticer 'Enillydd Gwobr Tir na n-Og' ar y llyfrau buddugol. Cadwch lygad allan! Enillwyr Blaenorol 2021 Cynradd: Sw Sara Mai, Casia Wiliam Uwchradd: #Helynt, Rebecca Roberts 2020 Cynradd: Pobol Drws Nesaf, Manon Steffan Ros a Jac Jones Uwchradd: Byw yn fy Nghroen Gol. Sioned Erin Hughes 2019 Primary: Cymru ar y Map, Elin Meek and Valériane Leblond Secondary: Fi a Joe Allen, Manon Steffan Ros 2018 Primary: Dosbarth Miss Prydderch a'r Carped Hud, Mererid Hopwood Secondary: Mae'r Lleuad yn Goch, Myrddin ap Dafydd 2017 Primary: ABC Byd Natur, Luned Aaron Secondary: Pluen, Manon Steffan Ros 2016 Primary: Pedair Cainc Y Mabinogi, Siân Lewis Secondary: Gwalia, Llŷr Titus 2015 Primary: Straeon Gorau'r Byd, Caryl Lewis Secondary: Y Gêm, Gareth F. Williams 2014 Primary: Cwmwl dros y Cwm, Gareth F. Williams Secondary: Diffodd y Sêr, Haf Llewelyn 2013 Primary: Cynefin yr Ardd, Iolo Williams and Bethan Wyn Jones Secondary: Y Gêmau Olympaidd a Champau’r Cymry, Alun Wyn Bevan 2012 Primary: Prism , Manon Steffan Ros Secondary: Yr Alarch Du , Rhiannon Wyn 2011 Primary: Dirgelwch y Bont , Hywel Griffiths Secondary: Stwff Guto S. Tomos , Lleucu Roberts 2010 Primary: Trwy’r Tonnau , Manon Steffan Ros Secondary: Codi Bwganod , Rhiannon Wyn 2009] Primary: Bownsio , Emily Huws Secondary: Annwyl Smotyn Bach , Lleucu Roberts 2008 Primary: Y Llyfr Ryseitiau: Gwaed y Tylwyth , Nicholas Daniels Secondary: Eira Mân, Eira Mawr , Gareth F. Williams 2007 Primary: Ein Rhyfel Ni , Mair Wynn Hughes Secondary: Adref Heb Elin , Gareth F. Williams 2006 Primary: Carreg Ateb , Emily Huws Secondary: Creadyn , Gwion Hallam Before 2006 the Welsh Award contained two categroeis: Fiction and Non-Fiction. 2005 Fiction: Eco , Emily Huws Non-Fiction: Byd Llawn Hud , Ceri Wyn Jones , Tudur Dylan , Mererid Hopwood , Sonia Edwards ac Elinor Wyn Reynold s 2004 Fiction: Iawn Boi? , Caryl Lewis Non-Fiction: Stori Dafydd ap Gwilym , Gwyn Thomas & Margaret Jones 2003 Fiction: Sgôr , Bethan Gwanas Non-Fiction: Dewi Sant , Rhiannon Ifans & Margaret Jones 2002 Fiction: Gwirioni , Shoned Wyn Jones Non-Fiction: Poeth! Cerddi Poeth ac Oer , Non ap Emlyn & Marian Delyth 2001 Fiction: Llinyn Trôns , Bethan Gwanas Non-Fiction: Jam Coch Mewn Pwdin Reis , Myrddin ap Dafydd 2000 Fiction: Ta Ta-Tryweryn , Gwenno Hughes Non-Fiction: Chwedlau o’r Gwledydd Celtaidd , Rhiannon Ifans & Margaret Jones 1999 Fiction: Pam Fi Eto, Duw? , John Owen Non-Fiction: Byw a Bod yn y Bàth , Lis Jones 1998 Fiction: Dyddiau Cŵn , Gwen Redvers Jones Non-Fiction: Stori Branwen , Tegwyn Jones & Jac Jones 1997 Fiction: Ydy Fe! , John Owen Non-Fiction: Dirgelwch Loch Ness , Gareth F. Williams 1996 Fiction: Coch yw Lliw Hunllef , Mair Wynn Hughes Non-Fiction: Sbectol Inc , Eleri Ellis Jones & Marian Delyth 1995 Fiction: Pam Fi, Duw, Pam Fi? , John Owen Non-Fiction: Geiriadur Gomer i’r Ifanc , D Geraint Lewis 1994 Fiction: Sothach a Sglyfath , Angharad Tomos Non-Fiction: Cristion Ydw I , Huw John Hughes & Rheinallt Thomas 1993 Fiction: ’Tisio Tshipsan? , Emily Huws Non-Fiction: Chwedl Taliesin , Gwyn Thomas & Margaret Jones 1992 Joint fiction winners: Wmffra , Emily Huws Broc Môr , Gwen Redvers Jones Non-Fiction: Yn y Dechreuad , Robert M. Morris & Catrin Stephens 1991 Fiction: O Ddawns i Ddawns , Gareth F. Williams Non-Fiction: Cymru Ddoe a Heddiw , Geraint H. Jenkins 1990 Fiction: Llygedyn o Heulwen , Mair Wynn Hughes Non-Fiction: Lleuad yn Olau , T. Llew Jones & Jac Jones 1989 Joint fiction winners: Liw , Irma Chilton Ben y Garddwr a Storïau Eraill , Jac Jones Non-Fiction: Culhwch ac Olwen, Gwyn Thomas & Margaret Jones 1988 Fiction: ’Tydi Bywyd yn Boen! , Gwenno Hywyn Non-Fiction: Yr Atlas Cymraeg , Dafydd Orwig (editor) 1987 Fiction: Jabas , Penri Jones Non-Fiction: Gardd o Gerddi , Alun Jones & John Pinion Jones Before 1987 only two awards were given – A Welsh and and English. 1986 Y Llipryn Llwyd , Angharad Tomos 1985 Not awarded. 1984 Joint winners: Y Llinyn Arian , Mair Wynn Hughes Herio’r Cestyll , Malcolm M. Jones , Cyril Jones & Gwen Redvers Jones 1983 Croes Bren yn Norwy , J. Selwyn Lloyd 1982 Gaeaf y Cerrig , Gweneth Lilly 1981 Y Drudwy Dewr , Gweneth Lilly 1980 Y Llong , Irma Chilton 1979 Y Flwyddyn Honno , Dyddgu Owen 1978 Miriam , Jane Edwards 1977 Trysor Bryniau Caspar , J. Selwyn Lloyd 1976 Tân ar y Comin , T. Llew Jones