top of page

Adnabod Awdur

Casia

Wiliam

1.jpg

Geni:

Ffeithiau Fflach

Yn wreiddiol o:

Nefyn

Byw yn:

Caernarfon

Ffaith

ddiddorol:

.

​

C705A6E0-02BC-4FEA-9179-54962CC6E276.jpe

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr ifanc yn ei gael o’r stori hon?

​

Pleser a mwynhad yn bennaf, ond rwy’n gobeithio hefyd y bydd yn gwneud iddynt feddwl am hiliaeth, gan sylwi ei fod yn gynnil weithiau, fel sylwadau Leila yn y nofel, ond ei fod wastad yn gwbl annerbyniol. 

​

Beth oedd un o’r pethau mwyaf rhyfeddol i chi ei ddysgu wrth greu eich llyfr?

​

Gan bod y stori wedi ei lleoli mewn sw, roedd gofyn i mi wneud llawer o waith ymchwil, ac un o’r pethau mwyaf rhyfeddol wnes i ddysgu oedd bod rhai anifeiliaid sydd yn y byd heddiw yn arfer bod yn llawer, llawer mwy o faint. Er enghraifft, dair miliwn o flynyddoedd yn ôl roedd cangarŵs ddwywaith y maint ydyn nhw rŵan; cewri’r cangarŵ oedd eu henwau! 

​

Beth wnaeth i chi ddechrau ysgrifennu?

​

Mae Mam (Meinir Pierce Jones) yn awdures, felly mae gwrando ar straeon a sgwennu straeon wastad wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd. Llun a stori oedd fy hoff weithgaredd yn yr ysgol gynradd, ac ers hynny fues i’n ddigon lwcus i gael athrawon gwych sydd wedi fy annog i ddarllen a dal ati i ysgrifennu. Amwn i ei fod yn rhywbeth naturiol i mi ei wneud a dweud y gwir, fedrwn i ddim peidio! 

​

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

​

Roeddwn i’n llyncu llyfrau pan oeddwn yn ifanc. Dyma rai o’m ffefrynnau sydd yn bendant wedi fy ysbrydoli: Cyfres plant blwyddyn (Elgan Philip Davies), Gwe Gwenhwyfar (addasiad Cymraeg gan Emily Huws), Gan yr Iâr (Bethan Gwanas), Llinyn Trons (Bethan Gwanas), holl lyfrau Judy Blume a Jacqueline Wilson, cyfres Harry Potter gan J.K Rowling wrth gwrs, a chyfres His Dark Materials gan Phillip Pullman. 

​

Pa brofiadau yn eich bywyd sydd wedi dylanwadu ar eich ysgrifennu fwyaf?

​

Dau beth; y cyntaf yw bod yn Fardd Plant Cymru rhwng 2017 a 2019. Roedd hynny yn fraint ac yn bleser a’r peth gorau amdano oedd cael cyfarfod gymaint o blant a phobl ifanc, dod i’w hadnabod, dod i ddysgu beth sy’n gwneud iddyn nhw chwerthin a beth maen nhw’n hoffi ddarllen. A’r ail yw cael plant fy hun. Mae gen i ddau fab ac mae’r hynaf yn dair a hanner, sy’n golygu ein bod yn darllen lot fawr iawn o storis, ac mae gweld ei ryfeddod wrth glywed stori dda yn fy sbarduno i ysgrifennu mwy. Mae ei ddychymyg o hefyd yn rhoi llawer o syniadau i mi! 

Pe gallech ddewis fod yn gymeriad o lyfr am ddiwrnod, pwy fyddai hwnnw a pham?

Ww cwestiwn difyr ac anodd! Mae’n bosib y byddwn yn dewis Lyra, o gyfres His Dark Materials gan Phillip Pullman. Mi fyddai’n ddiddorol gwybod sut deimlad yw cael dæmon fel sydd gan y cymeriadau yn y nofelau hynny, a chael teithio rhwng bydoedd gwahanol. Mi fyddai hynny yn dipyn o brofiad.

​

Ble gawsoch y syniadau am y cymeriadau yn eich llyfr?

​

Yn ystod fy nghyfnod fel Bardd Plant fe es i i ddegau ar ddegau o ysgolion ledled Cymru, ac mewn un ysgol fe wnes i gyfarfod â merch fach oedd yn gwirioni ar anifeiliaid. Roedd hi’n benderfynol o ysgrifennu cerdd am anifeiliaid (er mai rhywbeth arall oedd y themau diwrnod hwnnw!) ac ar ddiwedd y sesiwn daeth ata i a dweud,“Mae Mam yn dweud bod gen i berthynas arbennig gydag anifeiliaid”, a dyma fi’n meddwl – mi fyddet ti yn brif gymeriad perffaith! Roeddwn i eisiau trio dangos trawstoriad o gymdeithas yn y llyfr hefyd, felly mae yna blant o deuluoedd ac un rhiant, plant o gefndir tlawd a phlant cyfoethocach, ac yn amlwg mae Sara yn hil cymysg ond yn byw mewn cymdeithas sydd bennaf yn wyn, yn debyg i ble cefais i fy magu ym Mhen LlÅ·n. 

​

Pa neges sydd gennych i ysbrydoli ysgrifenwyr ifanc? 

​

Gall unrhyw un fod yn awdur. Dim ots am y sillafu, dim ots os oes nad oes unrhyw un arall o’ch teulu chi yn ysgrifennu straeon neu yn mwynhau darllen hyd yn oed, os ydych chi yn mwynhau ac yn dda am ddweud stori, gallwch chi fod yn awdur. Y gyfrinach, dwi’n meddwl, ydi darllen. Ewch ati i ddarllen gymaint â phosib o bethau gwahanol, a bydd eich ymennydd yn llenwi â syniadau a geiriau gwych, ac yna, bydd y storis yn llifo.

Hawlfraint y llun: Póló 

bottom of page