top of page

Adnabod Awdur

Rhian

Cadwaladr

mgwSVjq6.jpg

Geni:

Ebrill 27, 1962

Ganwyd yn:

Llanberis

Byw yn:

Rhosgadfan

Ffeithiau Fflach

Llyfrau

(plant a phobl ifanc)

Mae Rhian wedi cyhoeddi ei llyfr cyntaf i blant yn dilyn cwrs ysgrifennu yng Nghanolfan TÅ· Newydd...   https://www.tynewydd.cymru/

Annotation 2020-01-26 220343.jpg

Dyma erthygl

diddorol am waith Rhian

ar North Wales Live.

​

Cliciwch yma

ddarllen.

​

Nid ydym yn gyfrifol am wefannau allanol

Annotation 2020-01-26 220343d.jpg
Annotation 2020-01-26 2d12204.jpg
Annotation 2020d-01-26 2d12204.jpg

Cwestiwn ac Ateb

Rhian Cadwaladr

thumbnail.jpg

Dyma gyfle'r actores a'r awdur, Rhian Cadwaladr i

ateb rai o gwestiynau Sôn am Lyfra am ei gwaith.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu llyfrau?

​

Dwi ddim yn cofio amser pan nad oeddwn i isho bod yn awdur ond mi gymerodd flynyddoedd lawer cyn i mi fynd ati o ddifri.

Pa lyfrau wnaeth eich ysbrydoli chi fel darllenwr ifanc?   

 

Roeddwn i'n darllen yn eang iawn pan oeddwn yn blentyn - roedd Mam yn arfer dweud fy mod i'n darllen cyn dod allan o fy nghlytia bron! Pan oni i chydig hÅ·n na hynny roeddwn i'n hoff iawn o lyfrau clasuron Saesneg i blant fel The Secret Garden, Heidi,  Little Women, What Katy Did, Pipi Longstocking, Anne of Green Gables a llyfrau Charles Dickens. T Llew Jones un o fy ffefryna yn y Gymraeg. 

Beth sydd bwysicaf – y cymeriadau neu’r plot? Hynny yw – beth sy’n gwneud llyfr da?    

 

Y cymeriadau sydd bwysicaf i mi. Mae'n rhaid bod ots ganddoch chi am y cymeriad - boed yn ei garu neu ei gasâu. Os nad oes ots ganddoch chi yna tydi yr awch i wybod beth sy'n digwydd iddyn nhw ddim yna.

Library Books
8eo5t9v9.png
Annotation 2020-01-26 2d12204.jpg

Beth yw eich llyfr diweddaraf i blant?

Beth ydych chi’n gobeithio i ddarllenwyr ei gael o ddarllen y stori?

 

Nain Nain Nain yw enw fy llyfr cynta i blant a gyhoeddwyd diwedd 2019. Llyfr ydi hwn sy'n cyflwyno y cyflwr dementia i blant bach. Fy ngobaith ydi y bydd y darllenwyr, drwy gyfrwng y geiriau a hefyd lluniau bendigedig Jac Jones, yn dod i ddeall 'chydig am y broses o heneiddio ac am y cyflwr, ond hefyd yn mwynhau cyfarfod neiniau lliwgar Nedw.

Beth yw eich hoff lyfr neu awdur i blant/pobl ifanc a pham?

O dyma gwestiwn anodd! Mae gwahanol lyfrau wedi apelio atai ar adegau gwahanol y fy mywyd. Ond os oes rhaid i mi ddewis un mi ddewisai Llyfr Mawr y Plant achos mi nes i fwynhau darllen hwn pan yn blentyn a mwyhau ei ddarllen eto i mhlant fy hun pan oeddan nhw'n fychan.

Llyfr_Mawr_y_Plant.jpg
75535b5c360ce55ff39c24d67c60d4f1.jpg

Oes yna gymeriad rydach chi’n ei garu neu ei gasáu?

 

Ella bod casau yn air rhy gry ond tydwi ddim yn hoff o Tomos y Tanc. Roedd Meilir fy mab hynaf wrth ei fodd efo'r gyfres pan oedd o'n blentyn ond roeddwn i'n eu gweld yn ddiflas iawn.

1_wnqZYEqhzdmJ63svveymfQ.jpeg
Writing on Computer
Bright Idea

Pa neges sydd gennych i ysbrydoli darllenwyr/ysgrifenwyr ifanc?

​

Rhwng cloriau llyfr fe gewch chi gyfle i ddianc i fydoedd newydd ac i ddeall mwy am eich byd eich hun. Darllenwch unrhywbeth a phopeth - ond peidwich a disgwyl mwynhau bob dim! Os ydi un llyfr ddim yn apelio, chwiliwch am un sydd - mae yna gant a mil i ddewis ohonyn nhw! I ysgrifenwyr ifanc mi fyddwn i'n rhoi yr un cyngor ac ychwanegu dau air arall ato - jyst sgwennwch!

thumbnail.jpg

Diolch Rhian

​

am fod mor barod i ateb ein cwestiynau.

​

Rydan ni'n edrych ymlaen at y straeon newydd!

Ffaith

ddiddorol:

Y fi ydi'r Siani Flewog yn y gyfres deledu o'r 90au Caffi Sali Mali!

Oes llyfr newydd ar y gorwel?

 

Oes! Rwyf wedi bod yn gweithio ar lyfr newydd i blant bach o'r enw 'Ynyr yr Ysbryd Ofnus' gyda fy merch - y darlunydd Leri Tecwyn. Mi fydd o yn y siopa erbyn Calan Gaeaf gobiethio. Yn ogystal a hyn mae gen i nofel newydd i oedolion yn cael ei chyhoeddi yr haf yma.

Beth sydd well gynnoch chi - llyfr go iawn neu e-lyfr?

​

Llyfr go iawn pob tro - dwi'n hoff o deimlad llyfr yn fy llaw a hyd yn oed ei oglau! Tydi e-lyfr jesd ddim yr un fath.

© 2019 Sônamlyfra. Proudly created with Wix.com.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon

Menter gwirfoddol yw Sôn am Lyfra sy’n darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i sgyrsiau a thrafodaethau am lyfrau. Rydym yn gweithredu’n gwbl annibynnol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.  Bydd eich rhodd yn help i ni gynnal y gwasanaeth.

 

Sôn am Lyfra is a voluntary venture that provides bilingual reviews for Welsh children and young people’s books. It shall also be a platform for conversations and discussions about books. We operate totally independently and we appreciate any donations that help us to achieve our goals. Your kindness will help us maintain the Service.

bottom of page