top of page

Chwilio

94 results found with an empty search

  • Adra | Sonamlyfra

    ADOLYGIADAU Llyfrau Cymraeg i Blant a Phobl Ifanc Mwy DIWEDDARAF Cliciwch ar y teils i ddarllen. Darllen Mwy Parti Prysur / Busy Party - [Addas. Elin Meek] 18 0 comments 0 Post not marked as liked Y Fainc Ffrindiau - Wendy Meddour [addas. Manon Steffan Ros] 43 0 comments 0 Post not marked as liked Un Noson - Llio Elain Maddocks 10 0 comments 0 Post not marked as liked Cyfrinach Noswyl Nadolig- Eurgain Haf 9 0 comments 0 Post not marked as liked Y Castell ar y Dŵr - Rebecca Thomas 113 0 comments 0 Post not marked as liked Mwy o Straeon o'r Mabinogi - Siân Lewis 38 0 comments 0 Post not marked as liked LLYFR Y MIS I BLANT Cyngor Llyfrau Cymru . Gwales AWDURON CYMRU Darganfod GWOBRAU TIR NA N-OG Gwobr flynyddol i'r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mwy LLYFR Y FLWYDDYN Gwobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig ​ Llenyddiaeth Cymru TOP 10 Y MIS Gwerthwyr Gorau Canolfan Ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru. EBOST sonamlyfra@aol.com Cysylltwch > FACEBOOK Ewch > TWITTER Ewch > INSTAGRAM Ewch >

  • Elin Meek | Sonamlyfra

    Elin Meek Lawrlwytho PDF

  • 10 llyfr i'w darllen cyn i chi droi'n ddeg! | Sonamlyfra

    Yn ôl 10 llyfr i'w darllen cyn i chi droi'n ddeg! 26.3.20 Dyma fy erthygl ar wefan BBC Cymru Fyw Dwi wedi bod yn brysur yn trio dewis 10 o'm hoff lyfrau - rhain ydi fy 'must reads' personol! Dilynwch y linc i ddarllen yr erthygl yn llawn. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/52048407 I've been scratching my head trying to pick 10 of my all time favourite books for 7-11 year olds. Follow the link to read the article in full. (on top right of website, there's a VOCAB button that can help you with certain words if you're learning Welsh) https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/52048407

  • Gareth Evans | Sonamlyfra

    Gareth Evans Lawrlwytho PDF

  • Branwen Davies | Sonamlyfra

    Branwen Davies Lawrlwytho PDF

  • Medi Jones-Jackson | Sonamlyfra

    Medi Jones-Jackson Lawrlwytho PDF

  • Polisi Preifatrwydd | Sonamlyfra

    Polisi Preifatrwydd Data personol O dan Reoliad Cyffredinol Diogelu Data (GDPR) yr UE, diffinnir data personol fel y canlynol: 1. Sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth? Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych sut y byddwn ni, Sôn am Lyfra, yn casglu ac yn defnyddio eich data personol ar gyfer eich diweddaru am ein gwefan a hefyd os ydych yn anfon cynnwys yr hoffech ei gynnwys ar ein tudalennau cymunedol. Rydym ond yn casglu data er mwyn anfon gwybodaeth atoch am ddigwyddiadau sydd i ddod ac i gysylltu â chi os ydych chi wedi llwytho cynnwys am eich hun. Os ydych chi'n rhoi rhodd ariannol, yna gall PayPal gasglu eich data at ddibenion talu a dibenion cyswllt e-bost. Ewch i https://www.paypal.com/uk/home am fwy o fanylion. Os byddwch yn anfon clipiau neu wybodaeth bersonol atom i'w rhannu ar ein tudalennau cymunedol naill ai drwy e-bost, cyfryngau cymdeithasol (fel Instagram, Twitter, Facebook) neu drwy unrhyw fodd arall, yna trwy gyflwyno'r rhain i ni, rydych yn rhoi caniatâd i ni rannu eich data a delweddau personol (un o'r clipiau hynny) trwy ein gwefan a'n holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill. ​ 2. Pam mae angen i Sôn am Lyfra gasglu a storio data personol? ​ Y rhesymau yw fel ein bod yn gallu cyfathrebu am ddigwyddiadau sydd i ddod ac i gysylltu â chi os ydych am rannu clipiau fideo neu gynnwys arall amdanoch chi'ch hun ar ein tudalennau cymunedol. Bydd unrhyw gynnwys sydd wedi’i gyflwyno i'w rannu ar ein tudalennau cymunedol yn cael ei archifo ar ein gwefan a'i gynnal am gyfnod amhenodol. Fodd bynnag, os ydych am i'r cynnwys hwn gael ei ddileu ar unrhyw adeg, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig drwy gysylltu â'r swyddog data (gweler y manylion isod). Ym mhob achos, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y wybodaeth yr ydym yn ei chasglu a'i defnyddio yn briodol at y diben hwn, ac nad yw'n gyfystyr â meddiannu eich preifatrwydd. Bydd ein cyfathrebu yn bennaf dros e-bost a/neu gyfryngau cymdeithasol. 3. A fydd Sôn am Lyfra yn rhannu fy nata personol ag unrhyw un arall? Na. Dim o gwbl. 4. Sut fydd Sôn am Lyfra yn defnyddio'r data personol y mae'n ei gasglu amdanaf i? ​ Bydd Sôn am Lyfra yn prosesu (casglu, storio a defnyddio) y wybodaeth a ddarparwch mewn modd sy'n gydnaws â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yr UE. Byddwn yn ymdrechu i gadw eich gwybodaeth yn gywir ac yn gyfredol, a pheidio â'i chadw'n hirach nag sy'n angenrheidiol. Mae'n ofynnol i Sôn am Lyfra gadw gwybodaeth yn unol â'r gyfraith, fel gwybodaeth sydd ei hangen at ddibenion treth incwm ac archwilio. Gall pa mor hir y dylid cadw mathau penodol o ddata personol hefyd gael eu rheoli gan ofynion sector busnes penodol ac arferion cytunedig. Gellir cadw data personol yn ychwanegol at y cyfnodau hyn yn dibynnu ar anghenion busnes unigol. ​ 5. O dan ba amgylchiadau y bydd Sôn am Lyfra yn cysylltu â mi? ​ Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i'ch hysbysu o ddigwyddiadau sydd i ddod; i drafod rhannu eich cynnwys personol os ydych wedi anfon clipiau atom i'w defnyddio ar ein tudalennau cymunedol. Os oes problem gyda rhoddion Paypal, efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi yn yr achos hwn. ​ 6. A allaf ddarganfod y data personol sydd gan y sefydliad amdanaf i? ​ Gall Sôn am Lyfra, ar eich cais, gadarnhau pa wybodaeth sydd gennym amdanoch chi a sut y caiff ei phrosesu. Os oes gan Sôn am Lyfra ddata personol amdanoch chi, gallwch ofyn am y wybodaeth ganlynol: Hunaniaeth a manylion cyswllt yr unigolyn neu'r sefydliad sydd wedi penderfynu sut a pham i brosesu eich data. Mewn rhai achosion, bydd hyn yn gynrychiolydd yn yr UE. Manylion cyswllt y swyddog diogelu data, lle bo'n berthnasol. Pwrpas y prosesu yn ogystal â'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu. Os yw'r prosesu wedi'i seilio ar fuddiannau cyfreithlon Sôn am Lyfra neu drydydd parti, gwybodaeth am y buddiannau hynny. Y categorïau o ddata personol sy'n cael eu casglu, eu storio a'u prosesu. Derbynnydd / derbynwyr neu gategorïau o dderbynwyr y datgelir / y datgelir y data iddynt. Os ydym yn bwriadu trosglwyddo'r data personol i drydedd wlad neu sefydliad rhyngwladol, mae’r wybodaeth am sut rydym yn sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn ddiogel. Mae'r UE wedi cymeradwyo anfon data personol i rai gwledydd oherwydd eu bod yn bodloni safon ofynnol o ddiogelu data. Mewn achosion eraill, byddwn yn sicrhau bod mesurau penodol ar waith i ddiogelu eich gwybodaeth. ​ Am faint y caiff y data ei storio. ​ Manylion eich hawliau i gywiro, dileu, cyfyngu neu wrthwynebu prosesu o'r fath. ​ Gwybodaeth am eich hawl i dynnu caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. ​ Sut i gyflwyno cwyn gyda'r awdurdod goruchwylio. ​ A yw darparu data personol yn ofyniad statudol neu gytundebol, neu ofyniad sy'n angenrheidiol i ymrwymo i gontract, yn ogystal â ph'un a oes rhaid i chi ddarparu'r data personol a chanlyniadau posibl methu â darparu data o'r fath. Ffynhonnell data personol os nad oedd yn cael ei gasglu'n uniongyrchol gennych chi. ​ Unrhyw fanylion a gwybodaeth am wneud penderfyniadau awtomataidd, fel proffilio, ac unrhyw wybodaeth ystyrlon am y rhesymeg dan sylw, yn ogystal ag arwyddocâd a chanlyniadau disgwyliedig prosesu o'r fath. ​ 7. Pa ffurfiau adnabod fydd angen i mi eu darparu er mwyn cael mynediad at hyn? ​ Mae Sôn am Lyfra yn derbyn y ffurflenni adnabod canlynol pan ofynnir am wybodaeth am eich data personol: Pasbort Trwydded yrru Tystysgrif geni Bil cyfleustodau (o'r 3 mis diwethaf) Datganiad banc (o'r 3 mis diwethaf) Manylion cyswllt y Swyddog Diogelu Data: ​ Morgan Dafydd 39, Lôn Gwaenfynydd Cyffordd Llandudno Conwy LL31 9FG sonamlyfra@aol.com

  • Gwyn Morgan | Sonamlyfra

    Adnabod Awdur Gwyn Morgan Geni: 1954 Yn wreiddiol o: Trecynon Byw yn: Penderyn Ffaith ddiddorol: Mae'n casglu hetiau! Ffeithiau Fflach Llyfrau (plant a phobl ifanc) Dannedd Gosod Ben (Gwasg y Dref Wen) 1989 Caliban a Cherddi eraill (Gomer) 1993 Zac yn y Pac (Gwasg y Dref Wen) 1994 gyda Dai Owen Rwba Dwba (Dref Wen) 1995 Hari Hyll yr Ail (Dref Wen) 1996 Ben ar ei Wyliau (Dref Wen) 1996 Y Paffiwr a cherddi eraill (Gomer)1997 Zac yn Grac (Gwasg y Dref Wen) 1999 gyda Dai Owen Llew Lletchwith (Gwasg y Dref Wen) 2000 Jazz (Gwasg y Dref Wen) 2001 Psst (Gwasg y Dref Wen) 2002 Abracadabra (Dref Wen) 2002 Isi a'r Cloch (Gwasg y Dref Wen) 2003 Twpsyn (Gwasg y Dref Wen) 2004 Babi Ben (Gwasg y Dref Wen) 2004 Ailgylchu Alwyn (Gwasg y Dref Wen) 2005 Tu Chwith (Dref Wen) 2006 Jocs Gwirion Gwyn a Dai (Gwasg Carreg Gwalch) 2006 Posau Gwallgo (Dref Wen) 2007 Dyg a Def Diawledig (Gwasg y Dref Wen) 2011 Tricsi a Dicsi (Dref Wen) 2019 Pogo Ping Pong (Dref Wen) 2016 Gwyliau Pitw (2014)

  • Archif LYM | Sonamlyfra

    Hufen Afiach Dai Awst 2021 Bolgi a'r ŵyn bach Ebrill 2021 Dyn dweud drefn yn yr ardd Ionawr 2021 Mali a'r Goleudy Medi 2020 Sut dwi'n teimlo Gorffennaf 2020 Pwy sy wedi llyncu Llŷr? . Ebrill 2020 Llyfr Adar Mawr Y Plant Chwefror 2020 Hufen Afiach Dai Awst 2021 Petai'r Byd i gyd yn... Chwefror 2021 Ble mae Boc 2? Rhagfyr 2020 Sw Sara Mai Awst 2020 Branwen Mehefin 2020 Mae ein tŷ ni ar dân Mawrth 2020 Dyma Ni . Ionawr 2020 Archif (misoedd blaenorol)

  • Themau ca3+ | Sonamlyfra

    LLYFRAU UWCHRADD Mae'r rhestrau yn cael eu diweddaru. Byddent yn ôl yn fuan.

  • Sioned Wyn Roberts | Sonamlyfra

    Adnabod Awdur Sioned Wyn Roberts Geni: Rhagfyr Yn wreiddiol o: Pwllheli Byw yn: Caerdydd Ffeithiau Fflach Llyfrau (plant a phobl ifanc) Ffwlbart Ffred: Drewi fel ffwlbart (Atebol, 2020) Holi ac ateb awdur Sioned Wyn Roberts Tro'r awdur newydd i blant, Sioned Wyn Roberts i ateb cwestiynau Són am Lyfra! Dewch i ddod i 'nabod 'chydig bach amdani... Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu llyfrau? Wnes i erioed feddwl am sgwennu llyfrau nes i mi fynd ar gwrs llenyddiaeth plant yng Nghanolfan Tŷ Newydd tua 18 mis yn ôl. Roedd y profiad yn ysbrydoliaeth llwyr a dydw i ddim wedi stopio ysgrifennu ers hynny. Yn fuan wedyn cefais le ar gynllun Llenyddiaeth Cymru i ddatblygu awduron llyfrau stori-a-llun. Dyna pryd y cafodd cyfres Ffwlbart Ffred ei greu. Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc? Dwi wedi mwynhau darllen erioed. Fel plentyn, roedd ffantasi hanesyddol yn apelio. Luned Bengoch, clasur gan Elizabeth Watkin-Jones a The Little White Horse gan Elizabeth Goudge (doedd neb wedi clywed am y llyfr yma nes i J K Rowling sôn mai hwn oedd ei ffefryn hi fel plentyn a rwan mae o nôl mewn print!) Cymeriadau cryf yn gyntaf ac yna’r plot. I blant, mae cymeriadau dewr a di-ofn yn apelio. Ac mae antur a chyffro yn bwysig. Mae chwedlau a straeon tylwyth teg yn straeon da, gyda motifs sy’n berthnasol i ni heddiw. Beth sydd bwysicach – cymeriadau neu plot? Ffwlbart Ffred: Drewi fel Ffwlbart yw fy llyfr cyntaf. Y cyntaf mewn cyfres. Gobeithio y byddan nhw yn chwerthin wrth fwynhau y stori a gweld lluniau doniol Bethan Mai, y darlunydd. Mae’r straeon mewn odl felly yn hwyl i’w darllen ac yn ffordd dda o gofio stori. Mae Ffwlbart Ffred yn gyfres sy’n ‘egluro’ ein idiomau mwyaf od. Ymadroddion fel: yn ddu fel bol buwch, bwrw hen wragedd a ffyn, mynd dros ben llestri a cheisio dy orau glas. Roeddwn i eisiau creu cyfres wreiddiol oedd yn gynhenid Gymraeg. Meddyliwch am eich llyfr diwethaf. Beth oedd o? Beth ydych chi’n gobeithio i ddarllenwyr ei gael o ddarllen y stori? Beth yw eich hoff lyfr neu awdur a pham? Wolf Hall gan Hilary Mantel. Achos weithiau mae ambell i ddisgrifiad neu syniad mor wreiddiol mae’n rhaid stopio darllen a phendronni am chydig. Mae The Light We Cannot See gan Anthony Doerr yn ffefryn hefyd. Dwi’n cael ‘ffads’ efo awduron; os ydw i’n mwynhau gwaith un awdur dwi’n darllen eu llyfrau nhw ac yna’n mynd ymlaen i’r ffefryn newydd. Oes na gymeriad ydych chi’n caru ei gasáu? (neu jest caru) Roeddwn i yn casau Edmund yn The Lion the Witch and the Wardrobe. Oes lyfr newydd ar y gorwel? Oes, mae rhagor o straeon Ffwlbart Ffred i ddod ac rwy’ gweithio ar ddwy nofel ar hyn o bryd. Mae gen i Kindle, sy’n handi iawn tra’n teithio, ond mae’n anodd cofio be dwi’n ddarllen arni achos allai ddim gweld y clawr. Felly llyfr go iawn i mi bob tro - hoffi byseddu llyfr, mynd nôl a mlaen a gweld y clawr. A fedrwch chi ddim darllen Kindle yn y bath. Llyfr go iawn neu e-lyfr? Ac yn olaf... Oes gennych neges i ysbrydoli darllenwyr/ ysgrifenwyr ifanc? Binjiwch! Darllenwch llwyth o lyfrau! Mae llyfr da yn agor bydoedd newydd.Hefyd ‘da ni’n cael mynd i mewn i feddyliau cymeriadau, rhai sy’n debyg i ni ac eraill sy’n hollol wahnol - helpu ni ddeall pobol yn well. Pan mae llyfr yn anodd, neu’n cymryd amser i’w ddarllen, gorfodwch eich hun i wthio mlaen. (a sgipiwch y darnau diflas.). O fewn dim, fyddwch chi wedi ymgolli yn y stori. Ond does dim angen i ddarllen fod yn boen, weithiau mae’n braf cael llyfr sy’n hawdd ac yn page-turner. Ac mae comics a tecsts yn ddarllen hefyd. I awduron ifanc - ewch amdani, does dim byd i’w golli. Un peth pwysig ydw i wedi ddysgu ydy - mae hyd yn oed awduron talentog a phrofiadol yn gorfod gweithio ar sgwennu. Dydy o ddim yn dod allan yn berffaith y tro cyntaf - mae’n iawn i gymryd eich amser i feddwl, mireinio a gwella’r gwaith. A phob lwc Diolch Sioned am ateb ein cwestiynau i gyd! Llyfr 1af Sioned AR GAEL NAWR Ffaith ddiddorol: Weithiau dwi’n cael cipolwg slei ar ddiwedd nofel er mwyn checio os ydy fy hoff gymeriad dal yn fyw.

  • News05 | Sonamlyfra

    Nôl Newyddion DYDDIAD DYMA'R TEITL GALLWCH NEWID HWN UNRHYW BRYD, COFIWCH! I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. It's easy. I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. It's easy.

© 2019 Sônamlyfra. Proudly created with Wix.com.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon

Menter gwirfoddol yw Sôn am Lyfra sy’n darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i sgyrsiau a thrafodaethau am lyfrau. Rydym yn gweithredu’n gwbl annibynnol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.  Bydd eich rhodd yn help i ni gynnal y gwasanaeth.

 

Sôn am Lyfra is a voluntary venture that provides bilingual reviews for Welsh children and young people’s books. It shall also be a platform for conversations and discussions about books. We operate totally independently and we appreciate any donations that help us to achieve our goals. Your kindness will help us maintain the Service.

bottom of page