top of page

Chwilio

309 results found with an empty search

  • Gyda'n Gilydd - Caryl Hart, Ali Pye [addas. Mari George]

    *Scroll down for English* Genre: #iechyd #lles #amrywiaeth #dwyieithog #cyfeillgarwch / #health #wellbeing #diversity #bilingual #friendship Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◉ Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◉◉ Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎ Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎ Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎ Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎ Hiwmor/humour: ◎◎◎◎◎ Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◎◎◎ Gwaith celf/artwork: Ali Pye Mae nifer o blant wrthi’n dychwelyd i’r ysgol ar hyn o bryd ar ôl bod i ffwrdd am gyfnod hir iawn. Mae yna hefyd blant sy’n mynd i'r ysgol am y tro cyntaf, sy’n garreg filltir fawr beth bynnag, ond efallai yn fwy o beth ’leni yn sgil y lockdown. Fel bodau dynol, ’da ni ddim yn gwneud yn rhy dda ar ein pen ein hunain am gyfnodau hir – rydym ni’n greaduriaid cymdeithasol, sy’n hoff iawn o gwmni eraill. Roedd y lockdown yn amser heriol i lawer, wrth orfod ynysu yn ein cartrefi am fisoedd, heb fawr o gysylltiad gyda’n ffrindiau pennaf. Ydyn, mae ffrindiau yn hollbwysig. A dyma yw prif thema’r llyfr bendigedig yma, sy’n llawn negeseuon positif, hapus a lliwgar. Mae’n trafod beth yw cyfaill da, a’r profiadau gwerthfawr rydym ni’n eu rhannu â ffrindiau. Bydd llawer o’r sefyllfaoedd yn gyfarwydd iawn i’r plant ifanc. Mae maint y llyfr a’r gwaith celf yn ffrwydrad o liw atyniadol iawn ac yn siŵr o ddenu llygaid plant ifanc. Mae digonedd o fanylion bach diddorol yn cuddio yn y lluniau hefyd. Cyfeillgarwch, cynhwysedd ac amrywiaeth yw prif themâu’r llyfr. Fe ddarlunia lawer o blant o bob lliw a llun yn mwynhau cwmni ei gilydd ac yn gwneud amrywiaeth o dasgau gwahanol. Trafoda’r llyfr sut y mae rhai plant yn debyg, ond eraill yn wahanol. Does dim cyfeiriad uniongyrchol at liw croen ond mae’n amlwg fod amrywiaeth o hiliau gwahanol yn y llyfr. Tydi ieithoedd nac anabledd chwaith ddim yn rhwystro’r plant rhag bod yn ffrindiau. Dysgwn o’r llyfr fod rhai plant yn hoffi chwarae mewn grwpiau, tra bod yn well gan rai eu cwmni eu hunain. Y neges bwysig yw bod gwahaniaethau ac unigrywiaeth yn beth da a bod pawb yn wahanol, sydd yn gwneud pethau’n fwy diddorol. Meddyliwch pa mor boring fyddai’r byd petai bawb yn licio’r un pethau! Mae ’na negeseuon positif iawn yn y llyfr sy’n sôn am ddyfodol delfrydol (os nad braidd yn optimistaidd) heb drais a phethau tebyg. Yn y byd sydd ohoni mae’n bwysig addysgu’r genhedlaeth nesaf i fod yn oddefgar ac i barchu ei gilydd. Dwi’n gorfod gobeithio y bydden nhw’n dysgu o’n camgymeriadau ni ac yn tyfu i fyny i fod yn fwy caredig ac yn well dinasyddion y byd. Fel y mae’r llyfr yn awgrymu, bydden ni’n gallu mynd yn llawer pellach petai ni’n cyd-weithio yn hytrach na chystadlu yn erbyn ein gilydd. Gan fod mydr ac odl yn y testun gwreiddiol, mae’r llyfr yma’n addasiad yn hytrach nac yn gyfieithiad uniongyrchol, felly dylid ystyried hyn wrth ddarllen. Mae’r addaswr wedi gwneud job dda o ail greu naws y llyfr ond yn y Gymraeg, heb newid gormod. Dwi’n hoff iawn o lyfrau dwyieithog achos mae’n hybu cariad a pharch at y ddwy iaith. Bydd rhieni di-Gymraeg yn gallu mwynhau’r llyfr â’u plant – sy’n beth da! ’Dw i wrth fy modd gyda’r lluniau ar ddechrau ac ar ddiwedd y llyfr sy’n llawn o ymadroddion positif yn ymwneud â chyfeillgarwch. Efallai y gall y darllenwyr ychwanegu at y rhestr hirfaith yma? Ar ddechrau tymor ysgol, lle bydd plant o bob oed yn gwneud ffrindiau newydd, pa adeg gwell i wneud defnydd o’r llyfr perffaith yma? Llyfr sy’n sicr o fod yn boblogaidd yn y Cyfnod Sylfaen ac yn sbardun ar gyfer trafodaeth neu waith pellach. Bydd yn ideal ar gyfer unedau thematig fel ‘myfi fy hun’ neu ‘ffrindiau’ ac mae’n ticio nifer o flychau ym maes Datblygiad Personol a Chymdeithasol. Am lyfr gwych ar gyfer amser cylch neu amser gwasanaeth. Dyma i chi lyfr sy’n cyfleu’r negeseuon hollbwysig ‘mewn undod mae nerth’ a ‘gyda’n gilydd, gallwn newid y byd.’ Many children are currently returning to school after being away for a very long time. There are also those who are attending for the first time, which is a huge milestone anyway, but perhaps even more of a big deal following the lockdown. As human beings, we don't cope too well on our own for extended periods of time – we’re generally social creatures, who love the company of others. The lockdown was a challenging time for many, having to isolate in our homes for months on end, with little contact with our closest friends. Yes, friends are so important. Friendship is one of the main themes of this wonderful book, which is full of positive, happy and colourful messages. It discusses what being a good friend looks like, and talks of some of the experiences we share with friends. Many of the situations will be very familiar to young children. The large size of the book and the vibrant artwork is very attractive and sure to catch the eyes of younger readers. There are also plenty of interesting little details hidden in the pictures. Friendship, inclusion, diversity, kindness, tolerance and uniqueness are some of the themes that crop up in the book. There are depictions of children of all shapes and sizes happily playing together. We can see that some children are similar and others are different, both in terms of appearance and interests. There is no direct reference to skin colour but it is clear that the book is diverse. Neither differing languages or disability prevent the children from becoming friends. We learn from the book that some children like to play in groups, whilst some prefer their own company. The important message is that differences are a good thing and that makes things more interesting. Think about how boring the world would be if everyone liked the same things! There are very positive messages in the book that look towards an idealistic future without violence and such things. One can but dream… In today's world it is important to educate the next generation to be tolerant and respectful of each other. I have to hope that they will learn from our mistakes and grow up to be kinder, better citizens of the world. As the book suggests, we could all go much further if we worked together. As there’s rhyme in the original text, this book is an adaptation rather than a direct translation, so this should be taken into account when reading. The translator has done a good job of maintaining the ‘feel’ of the book but has added a little something too. I love bilingual books because they promote an appreciation of both languages. English speaking parents will be able to enjoy the book with their children – which is a good thing! The beginning and end covers of the book are full of positive phrases relating to friendship. Perhaps the readers can add to this list…? At the beginning of the school term, where children of all ages will be making new friends, what better time to make use of this book? It’s one that is bound to be popular in the Foundation Phase and can be used as a springboard for further discussion or work. It would be ideal for ‘Circle Time’ discussions or for topics such as ‘friendship’ or ‘Myself and I.’ It ticks a number of boxes in personal and social development also. The core message of ‘together we’re stronger’ can be felt throughout the book. Gwasg/publisher: Rily Cyhoeddwyd/released: 2019 Pris: £5.99 Not related to the book but it's a great song to learn in school. Welsh version available on http://www.cansing.org.uk/ Copyright Out of the Ark Music.

  • Mis yr ŷd - Manon Steffan Ros

    *Scroll down for English* ♥Llyfr y Mis i Blant, Mawrth 2019 ♥ ♥ Children's Book of the Month March 2019 ♥ Crynodeb o’r cynnwys Mae’r llyfr yn dilyn Tom wrth iddo gwrdd a Joni, sydd yn deithiwr. Mae rhan helaeth o drigolion Glannant wedi gwylltio wrth i’r teithwyr symud eu carafannau yno. Does neb wedi gwylltio mwy na Tad Tom. Cymeriadau Prif gymeriad y stori yw Tom. Mae ei ffrind Joni a’i deulu hefyd yn gymeriadau pwysig yn y llyfr. Mae rhieni Tom yn rhan bwysig hefyd Fy hoff ran Fy hoff ran yw’r brotest ar ddiwedd y llyfr. Mae Tom yn protestio’n ôl atyn nhw gan ddweud pa mor garedig mae Joni a’i deulu wedi bod iddo dros yr haf. I bwy fyddet ti’n argymhell y llyfr? Pam? Bydden i yn awgrymu’r llyfr yma i blant yn eu harddegau sydd eisiau darllen rhywbeth gwahanol iawn. Summary of contents The book follows Tom as he meets Joni, who is a traveller. Many of the residents of Glannant are outraged as the travellers move their caravans there. No one is outraged more than his father, Tom. Characters The main character in the story is Tom. His friend Joni and his family are also important characters in the book. Tom's parents are also an important part. The best bit My favourite part is the protest at the end of the book. Tom protests back at them and says how kind Joni and his family have been to him over the summer. Who would you recommend the book to? Why? I would suggest this book to teenagers who want to read something very different. Gwasg/publisher: CAA Cymru Cyhoeddwyd/released: 2019 Pris: £4.99 Yr awdur yn trafod y llyfr: The author discusses the novel: Gwybodaeth o Gwales: Nofel wreiddiol, afaelgar ar gyfer yr arddegau cynnar, gan un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru. Yn gefnlen i'r stori mae hanes cymuned o deithwyr sy'n symud eu carafannau i Gae Rhianfa. Dyma stori gref am ragfarnau, cyfeillgarwch a brawdoliaeth rhwng dynion ifanc. Adolygiad Gwales gan Mared Llwyd Rhaid i mi gyfaddef i mi wirioni ar nofelau Manon Steffan Ros ar gyfer plant a phobl ifanc byth ers i mi brofi’r wefr o ddarllen Prism gyda chriw o ddisgyblion Blwyddyn 6, a rhannu eu mwynhad pur ohoni, rai blynyddoedd yn ôl. Heb os, mae gan Manon ddawn arbennig – y ddawn o fedru dweud llawer mewn ychydig eiriau, ac o ysgrifennu mewn arddull rwydd, ddarllenadwy gan dreiddio’n ddwfn o dan yr wyneb ar yr un pryd. Yn amlach na pheidio, yr hyn nad yw’n cael ei ddweud yw’r dweud mawr yn ei nofelau, a llwydda i siarad â darllenwyr ifanc mewn iaith maen nhw’n ei deall heb fod yn nawddoglyd na phregethwrol. Yn dilyn llwyddiant diweddar Llyfr Glas Nebo a Fi a Joe Allen bûm yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddarllen Mis yr Ŷd. A chefais i ddim o fy siomi. Treiddia rhinweddau Manon fel awdur drwy’r nofel hon, unwaith eto – y cynildeb, y symlrwydd ymddangosiadol, y dwyster cudd ynghyd â’r gallu i ddarlunio cymeriadau cofiadwy, hawdd uniaethu â hwy a datblygiad arwyddocaol eu perthynas â’i gilydd. Nofel ar gyfer yr arddegau cynnar yw hon. Mae’r stori’n wedi’i hadrodd o safbwynt Tom, bachgen ifanc sy’n byw gyda’i dad a’i fam yn nhref ddychmygol Glannant. Unig blentyn yw Tom, a phlentyn unig. Ar ddechrau’r nofel, dysgwn fod ei dad, sy’n gynghorydd tref, wedi’i gythruddo gan ddyfodiad haid o deithwyr a’u carafannau i Gae Rhianfa ynghanol y dref. O dipyn i beth, daw Tom yn ffrindiau â Joni, un o’r teithwyr sydd yr un oed ag ef, wedi iddyn nhw gwrdd ar y traeth un diwrnod ar ddechrau gwyliau’r haf. Yn dilyn hynny cawn ddarlun o anghydfod mewnol Tom, a’i ddatblygiad yntau fel gŵr ifanc, wrth iddo ddewis brwydro yn erbyn rhagfarnau cul gweddill y pentrefwyr, a’i dad yn enwedig. Nofel gymharol fer yw Mis yr Ŷd. Mae’r stori’n ddigon syml ond wedi’i saernïo’n gelfydd. Mae hi’n hawdd iawn ei darllen o ganlyniad i’r iaith naturiol, rwydd a’r penodau byr, bachog. Er hynny, mae’r ysgrifennu’n gyforiog o ystyr ac o ddywediadau a throeon ymadrodd Cymraeg hyfryd. Gwneir defnydd o wahanol fathau o destunau – gan gynnwys blog, poster ac erthygl papur newydd – wrth adrodd y stori mewn mannau (techneg ddefnyddiol, heb os, wrth annog trafodaeth ar arddull mewn ystafell ddosbarth). Ymdrinnir â nifer o themâu pwysig ac amserol yn y nofel - themâu megis cyfeillgarwch, rhagfarnau, teyrngarwch a brawdoliaeth – ac mae’n ddarlun triw o fywydau arddegau heddiw. Ceir yma bortreadau hyfryd o’r gwahanol gymeriadau a’u perthynas â’i gilydd. Enghraifft berffaith o hyn yw’r darlun o berthynas gynnes, hapus Joni â’i deulu mewn cyferbyniad â pherthynas dan straen Tom â’i rieni: 'Er ein bod ni i gyd adref, fy nheulu i gyd, roedden ni ar ein pennau ein hunain.' Mae’r disgrifiad o dad Joni, â’i 'wên go iawn oedd yn cyrraedd ei lygaid' yn aros yn y cof, yn ogystal â’r awgrymiadau cynnil, sensitif o iselder mam Tom a geir gydol y nofel. Llongyfarchiadau i Manon Steffan Ros ar ysgrifennu chwip o nofel arall ar gyfer yr arddegau cynnar. Fedra i ond edmygu ei gwreiddioldeb, ei naturioldeb a’i dawn dweud dihafal. Edrychaf ymlaen yn barod at ddarllen y nesa! Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. Info from Gwales A gripping, original novel for young teenagers, by one of Wales' most popular authors. A story about prejudice, friendship and comradeship among young men set against the backdrop of a community of settlers moving their caravans to Cae Rhianfa. Gwales Review by Mared Llwyd: I must admit, I’m in love with Manon Steffan Ros’s novels for children and Young people ever since I read Prism with a Group of pupils from Year 6, and enjoyed it with them, some years ago. Without a doubt, she has the ability to convey meaning in a few words, whilst writing in an accessible way that is deep and layered in meaning at the same time. More often than not, the things that aren’t said are the most effective in her novels, and she successfully speaks to young readers in a way they understand without being preachy or patronising. Following the success of Llyfr Glas Nebo and Fi a Joe Allen I was looking forward to Mis yr ŷd. I was not disappointed. Her style as an author permeates this book, once again, I refer to the perceived simplicity, the hidden meaning and the ability to create memorable characters that are easy to relate to and their developing relationships together. This is a novel for early teens. The story is told from the viewpoint of Tom, a young boy who lives with his Father in the fictional town of Glannnant. Tom is an only child, and a lonely child at that. At the start of the novel, we learn that his Father, who’s a town councillor, is furious because a group of travellers and their caravans have descended on to the fields in the middle of town. Over time, Tom becomes friends with Joni, one of the travellers the same age as him after they met one day on the beach at the start of summer. Following this, we are told of Tom’s internal struggles and his development into a young man as he choses to fight against the prejudices of the other villagers, including his Father. Mis yr ŷd is a relatively short novel. The story is simple enough but it has been well crafted. It’s easy to read because of the natural everyday language and short, catchy chapters. Despite this, the writing is full of meaning and Welsh sayings too. Use is made of different formats, including a blog, poster and a newspaper article which will inspire a discussion in the classroom. Several important and timely topics are discussed in the novel, themes such as friendship, prejudice, loyalty and brotherhood – a fine portrayal of life as a teen today. There are wonderful portrayals of characters and their relationships with one another. For example, take Joni’s warm, happy relationship with his family as opposed to Tom’s strained relationship with his parents. Well done to Manon Steffan Ros for writing such another excellent novel for teenagers. I can only admire her originality, and her natural and unrivalled ability to convey meaning. I look forward to the next! A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. Further information by the publisher: One quiet Saturday, Tom is kicking his heels in the park after his best friend decides to go into town with the popular boys without inviting Tom. A young boy comes to the park, and the two start talking and laughing together. After a whole day in each other's company, Tom realizes that Joni is one of the travellers. 'Mis yr ŷd' is a novel about prejudice, friendship and brotherhood between young men as Tom learns to stand on his own two feet to protect his new friend and his kind community. * An original novel for older readers (12-14 years), by one of Wales' most popular authors; * It can be read independently for enjoyment, or used in a classroom with Key Stage 3 learners; * There is a digital package available for free on the Hwb website, which includes questions to accompany the novel. The novel will help learners enjoy a novel by identifying, selecting and using information as well as responding to the material in a stimulating way - this will lead to an understanding of the novel as a prose medium and responding to new GCSE 2016 specifications in due course.

  • Trio (3): Antur yr Eisteddfod - Manon Steffan Ros

    *Scroll down for English* Mae'r gadair ar goll. Dim ond 'Trio' all helpu! The chair's gone missing. Only 'Trio' can help! Genre: #ffuglen #doniol #antur / #fiction #funny #adventure Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◎◎ Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◎◎ Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎ Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎ Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎ Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎ Hiwmor/humour: ◉◉◉◉◎ Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◉◎◎ Gwaith celf/artwork: Huw Aaron Oed diddordeb/interest age: 7+ Oed darllen/reading age: 7+ Wel, efallai na chawsom ‘Steddfod ‘lenni, ond mae gennym achos i ddathlu achos mae Manon Steffan Ros a gwasg Atebol wedi cyhoeddi llyfr arall yng nghyfres boblogaidd ‘Trio.' Gan fod 'na dri llyfr bellach, mae’r ‘Trioleg Trio’ yn gyflawn o’r diwedd! Fe gafodd y llyfr ei lansio ym mis Awst I dipyn o ffanffer a dweud y gwir. Dwi’n meddwl fod Atebol wedi dallt hi efo sut i werthu llyfrau. Mae angen creu dipyn o ‘hype’ o amgylch y cynnyrch er mwyn cyffroi plant (a rhieni) I ddarllen a phrynu’r llyfrau. Gyda chyllid yn brin, mae marchnata llyfrau a lledaenu’r neges wedi mynd yn anoddach yng Nghymru, felly 10/10 gyda’r Gwaith marchnata ‘Trio.’ Mae’r peiriant cyfryngau cymdeithasol yn gweithio’n dda! Lansiwyd y trydydd llyfr yn yr Eisteddfod AmGen gyda sioe arloesol dros Zoom i deuluoedd. Roedd y sioe Antur y Goron yn un rhyngweithiol ‘whodunnit’ ac yn llwyddiant mawr, gyda dros 400 o bobl yn cofrestru i gymryd rhan. O’m safbwynt i, roedd hi’n hollol wych gweld yr holl fwrlwm o amgylch cyfres llyfrau Cymraeg, a bod y wasg a phawb fu’n gysylltiedig wedi rhoi cynnig ar wneud rhywbeth gwbl newydd a gwahanol. Gobeithio bydd yr holl ‘ffỳs’ yn talu ar ei ganfed ac yn cyflwyno’r gyfres i fwy o ddarllenwyr ifanc (yn ogystal â shifftio mwy o gopïau!) *** Pwy/beth yw ‘Trio’? Dyma gyfres newydd wreiddiol a chyffrous i blant gan yr awdur profiadol, Manon Steffan Ros. Arwyr y straeon yw tri o blant, sy’n galw eu hunain yn ‘Trio,’ ac maen nhw’n defnyddio eu sgiliau i ddatrys dirgelwch wrth fynd ar anturiaethau difyr. Mae blas tebyg i hen glasuron Enid Blyton ar y llyfrau Trio, ond mae hon yn gyfres ffres, fodern a gwreiddiol sy’n unigryw i Gymru. Mae’r criw, sef Derec Dynamo, Clem Clyfar a Dilys Dyfeisgar yn arwyr, ydyn, ond maen nhw hefyd yn hollol ddi-glem. Yn aml iawn, gwnânt smonach lwyr o bethau gyda chanlyniadau doniol. Fedrwch chi ddim helpu ond hoffi’r cymeriadau yma! Am beth mae’r llyfr yn sôn? Y tro hwn, mae’r plant yn mynd am antur i’r Eisteddfod (yn fwy eironig nac erioed yn 2020!) Yn debyg i lawer o blant Cymru, doedd y tri ‘rioed wedi bod i’r ‘Steddfod Genedlaethol o’r blaen felly roedd hyn yn mynd i fod yn brofiad newydd a chyffrous. Heb fynd dros ben llestri, mae’r awdur yn llwyddo i grynhoi beth yw’r eisteddfod fel rhan o’r stori, felly fydd hyn ddim yn broblem i blant sy’n anghyfarwydd a hyn. A dweud y gwir, ella bydd yn sbarduno rhai i fynd i ymweld â’r ‘Steddfod! Wrth i’r criw archwilio’r maes, fe ddônt ar draws yr Archdderwydd ei hun (y dyn pwysig yn y wisg ffansi!) a thrwy dipyn o glustfeinio craff, daw’r criw i wybod fod Y GADAIR wedi diflannu! Nid unrhyw gadair, o na, ond PRIF gadair arbennig y BRIF seremoni! O na! Bydd rhaid i’r tri ddibynnu ar eu holl sgiliau os ydynt am ffeindio pwy yw’r lleidr - a dychwelyd y gadair cyn y seremoni! Ras yn erbyn y cloc felly! Beth sy’n dda am y llyfr? Yn wahanol i Star Wars, dwi’n meddwl mai’r llyfr diweddaraf yw’r gorau eto. Fel hen win, mae’r gyfres yn gwella wrth fynd yn ei flaen ac nid oes unrhyw dystiolaeth ei fod yn colli stêm. Mae’r ffaith fod y cymeriadau dipyn bach yn wirion (ond yn hoffus) yn rhoi spin bach gwahanol ar y syniad o ‘arwyr.’​​ Dydyn nhw ddim yn cael pethau’n iawn bob tro - ond maen nhw’n trio dydyn! Ba-dwm! Mae’r stori yn ysgafn ac yn hawdd ei ddilyn, a fyddwch chi’n hapus i wybod fod ‘na loads o luniau cŵl gan Huw Aaron a dim gormod o ‘sgwennu ar bob tudalen. Yn bersonol, dwi’n licio’r darnau bach asides sydd yn y llyfr. Rhain yw’r darnau sydd yn dod ar ôl y symbol yma * Fel arfer mae’n cynnwys rhyw eiriau doeth gan yr awdur (llais yr awdur/adroddwr) sydd bron yn gorfod ychwanegu hyn ar ôl yr holl bethau gwirion mae Trio yn ddweud. (sy’n hollol boncyrs fel rheol) Beth bynnag, dwi’n meddwl fod hyn yn gweithio’n dda ac mae o reit amusing - ydw i’n iawn i feddwl fod ‘na fwy o hyn yn y llyfr yma na’r rhai blaenorol? Ac wrth gwrs, fel pob llyfr da – mae ein harwyr yn achub y dydd yn y diwedd! Pwy fyddai’n hoffi’r llyfr yma? Wel, does dim gormod o ‘sgwennu ar bob tudalen a dydi’r llyfr ddim yn rhy hir, felly mae’n berffaith fel dipyn bach o ddarllen ysgafn, er pleser. (sy’n wahanol i ddarllen trwm, ar gyfer gwaith!) Bosib fod y llyfr yn addas i blant rhwng 7-9 oed, ond yn sicr byddai plant Bl.5/6 yn mwynhau’r llyfr hefyd. Os ydych chi’n licio dipyn o antur, straeon ditectif a hiwmor – fe gewch chi hyn i gyd a mwy yn y llyfrau Trio. Oes yna le i wella? Mi faswn i’n licio gweld cyfres debyg (sef criw o blant yn arwyr) ond ar gyfer plant ‘chydig yn hŷn hefyd. Ond tydi hynny ddim byd i wneud gyda’r gyfres yma, felly dwi heb rili ateb y cwestiwn naddo! Dwi’n falch fod yr awdur yn canolbwyntio ar Gymru ac yn tynnu sylw at bethau Cymraeg, ond efallai bydd rhai yn teimlo fod y themâu braidd yn gyfyngedig. Wrth gwrs, dwi’n siŵr fod ‘na ddigon o bethau diddorol dros Gymru ar gyfer anturiaethau pellach, ond, tybed oes ‘na le i ‘Trio’ fynd i grwydro i wledydd eraill Ewrop (neu’r byd) yn y dyfodol? (jest dim i Loegr!) OMB dwi ‘di mwynhau - oes 'na fwy? Bosib fod ti’n gwybod hyn yn barod, ond os nad wyt ti - mae ‘na ragor o anturiaethau - Trio ac Antur y Mileniwm (Llyfr 1) Trio ac Antur y Castell (Llyfr 2) Athrawon/rhieni Mae’n ddyletswydd ar athrawon i gyflwyno straeon amrywiol i blant, a dwi’n gwybod fod cymaint o bwysau gwaith ei bod hi’n anodd dal i fyny â’r holl lyfrau newydd sy’n dod allan. Yn aml iawn, mae plant (yn enwedig dysgwyr) yn cysylltu’r Gymraeg gydag iaith yr ysgol - sef iaith gwaith. Tydyn nhw ddim bob amser yn gwneud y cyswllt rhwng llyfrau Cymraeg a straeon y gallen nhw fwynhau. Felly, os ydych chi’n chwilio am lyfr ysgafn i’w ddarllen ar ddiwedd y dydd gyda’ch dosbarth (rhywbeth sy’n HOLLOL HOLLOL BWYSIG ond yn aml yn cael ei hepgor yn CA2) yna dwi’n argymell y llyfrau Trio yn fawr. (yn enwedig i blant bl.3/4 a phlant Bl.5/6 sy’n llai hyderus yn y Gymraeg). Yn fy marn i, mae’r llyfrau Trio’n gweithio’n well fel llyfrau i’w mwynhau (er pleser) a dim ar gyfer gwneud gwaith e.e. ymarferion darllen a deall. Cofiwch am GLWB TRIO! Nid pob cyfres o lyfrau Cymraeg sy’n gallu brolio ‘clwb’ ecsgliwsif ei hun! Mae Atebol yn cynnig clwb darllen cyfrinachol (ia – fel ers talwm) ar gyfer aelodau sy’n hoffi darllen a dilyn hanesion Trio. Fe allwch gofrestru â’r clwb AM DDIM a chewch bethau difyr a hwyl yn y post. Dyma’r linc i gofrestru: https://atebol-siop.com/criw-trio.html?___store=cym&___from_store=eng (O ia – by the way - dydw i ddim yn gweithio i Atebol a dydyn nhw ddim wedi fy nhalu i ddweud hyn - dwi jest yn meddwl fod o’n syniad bril!) Well, we may not have had an Eisteddfod this year, but we still have cause to celebrate because Manon Steffan Ros and Atebol have published another book in the popular 'Trio' series. Now that there are three books, the 'Trio Trilogy' is finally complete! It just feels right now somehow! The book was launched in August to quite some fanfare. I think Atebol has cottoned on with how to sell books. Especially with children’s books, you need to create a bit of 'hype' around the product in order to generate buzz that will lead to sales. With less money around than in the past, the marketing of books in Wales can be difficult, so 10/10 in this instance. The third book was launched at the virtual Eisteddfod AmGen with an innovative show over Zoom for families. Antur y Goron was an interactive, detective whodunnit-type experience. It was a big success, with over 400 people signing up to take part. From my point of view, it was absolutely wonderful to see all the buzz around a Welsh-language book series, and everyone involved had taken a punt to do something completely new and different. I hope that it was a worthwhile endeavour that will introduce the character to new readers, as well as shifting more copies! What/what is ‘Trio’? This is an original and exciting series for children by experienced author, Manon Steffan Ros. The heroes of the stories are three children, who call themselves 'Trio,' and they use their skills (or lack thereof) to solve mysteries whilst on their entertaining adventures. The Trio books have a similar flavour to Enid Blyton's old classics, but this is a fresh, modern and original series that’s unique to Wales. The crew, called Derec Dynamo, Clem Clyfar and Dilys Dyfeisgar are heroes, yes, but they are also completely barmy. Very often, they’ll make a hash of things with hilarious results. You can't help but like them! What’s the book about? This time, the children go for an adventure to the Eisteddfod (more ironic than ever in 2020!) Like many welsh children, the three had never been to the National Eisteddfod before so this was going to be a new and exciting experience. Without it ever feeling forced, the author brings in many aspects of the Eisteddfod’s traditions as a natural part of the story. This will help those who are not familiar with the Eisteddfod and may even encourage some to go for themselves! As the gang explores the ‘Maes’, they will come across the Archdruid himself (the important man in the fancy dress!) and through some crafty eavesdropping, the crew learn that THE CHAIR has disappeared! Not any chair, but THE SPECIAL chair that forms part of the MAIN ceremony! Oh no! The three will have to rely on all their skills if they are to discover who stole the chair. Can they get it back in time? It’s going to be a race against the clock! What's good about the book? Unlike the Star Wars films, I think the latest book is the best yet. Like fine wine, the series is improving as it goes. The fact that the characters are a little bit silly (but likeable) puts a different little spin on the idea of 'heroes.' They don't always get it right - but they do try! The story is lighthearted and easy to follow, and you’ll be happy to know there’s lots of cool illustrations by Huw Aaron and not too much writing on every page. Personally, I like the little ‘aside’ bits in the book. These are the parts that come after this symbol * It usually contains some wise or witty remarks by the author (the author/narrator’s voice) who almost feels obliged to say these things after ‘Trio’s’ usual nonsense. In any case, I think it works well and it's rather amusing - am I right to think that there’s more of this in this book than the previous ones? And finally, of course, like all good books – our heroes save the day in the end! Who would like this book? Well, it’s not too long so it’s perfect for a bit of light reading, for pleasure. (which is different from heavy reading, for work!) The book may be suitable for children aged 7-9, but certainly Yr.5/6 would also enjoy the book. If you like adventure, detective stories and humour all rolled into one – Trio is for you. Is there room for improvement? I would like to see a similar series (a bunch of children as heroes) but for the teen years too. However, that’s got nothing to do with these books so I haven’t really answered the question, have I?! I am pleased that the author is focusing on Wales and drawing attention to Welsh landmarks and/or events, but some may feel that the themes are somewhat limiting. Of course, there are plenty of interesting things in Wales for further adventures, but I wonder if there’s scope for 'Trio' to go a bit further afield on their next adventures? Perhaps to other European countries? OMG I love it – are there more? You probably already know this, but if you didn't - there are more adventures - Trio ac Antur y Mileniwm (Book 1) Trio ac Antur y Castell (Book 2) Teachers/parents Teachers have a duty to introduce children to a wide variety of texts, and I know that a heavy workload makes it difficult to keep up with new releases. Very often, children (particularly those learning Welsh as a 2nd language) associate Welsh with the language of schooling – the language of work. They don’t always make the connection between Welsh books and stories they may enjoy. So, if you are looking for a light read for end-of-day class story time (Something VITALLY important but often forgotten in KS2) then I highly recommend the Trio books. (especially for year 3/4 children and those in Yrs. 5/6 who are less confident in Welsh) or just looking for a quick read. In my opinion, the Trio books work better as books to enjoy (for pleasure) and not for doing work e.g. comprehension exercises Remember about CLWB TRIO! Not every Welsh book series can boast its own exclusive club! Atebol offers a secret reading members club (yeah, like you used to get years ago) for anyone who likes to follow Trio's stories. You can register for FREE and you’ll get fun things in the post. Here’s the registration link: https://atebol-siop.com/criw-trio.html?___store=cym&___from_store=eng (Oh, and by the way - I don't work for Atebol and they haven't paid me to say all this - I just think it's a brilliant idea!) Gwasg/publisher: Atebol Cyhoeddwyd/released: 2020 Pris: £6.99

  • Draig o'r enw Môr - Jilly Bebbington

    *Scroll down for English* Straeon am y ddraig fechan gyda chalon fawr. Short stories about a little dragon with a big heart. Genre: #ffuglen #cyfrol #iechyd #lles / #short #fiction #health #wellbeing Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◎ Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◉◎ Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◉◎◎◎◎ Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎ Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎ Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎ Hiwmor/humour: ◉◉◎◎◎ Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◉◎◎ Gwaith celf/artwork: Andrea Grealy Addasiad/adaptation: Aled Islwyn Oed diddordeb/interest age: 5+ Darllen annibynnol/independent reading age: 7+ Peidiwch â gadael i’r clawr syml eich twyllo - dyma gyfrol sy’n byrlymu â straeon difyr am ddraig fach hapus, drygionus a chlên, sy’n hoffi dim yn fwy na threulio amser gyda phlant a staff Tŷ Hafan yn Ne Cymru. Mae pob ceiniog o elw o’r llyfr yn mynd i Dŷ Hafan. Nid yn unig y byddwch yn cefnogi elusen werthfawr iawn, ond byddwch chithau’n cael llyfr gwerth chweil o ganlyniad. Best of both worlds! Cyfrol o straeon byrion yw’r llyfr, wedi ei ysgrifennu yn wreiddiol gan Jilly Bebbington, a’i addasu i’r Gymraeg gan Aled Islwyn. (mae fersiwn Saesneg o’r llyfr hefyd yn bodoli, sef A Dragon Called Môr) Mae’r awdur yn byw yng Nghaerdydd ac mae hi wedi bod yn wirfoddolwr yn Nhŷ Hafan ers blynyddoedd. Ei gwaith gwirfoddol gyda’r plant sy’n mynychu’r hosbis oedd y sbardun ar gyfer y llyfr. Dyweda Jilly: “Rwyf wedi darllen a dyfeisio gymaint o storïau i’r plant yn yr hosbis dros yr 20 mlynedd rwyf wedi bod yn gwirfoddoli yno.” Am ffodus felly, ei bod hi wedi cael y cyfle i roi’r straeon ar bapur er mwyn cael eu rhannu gyda gweddill plant Cymru. Wna i ddim sôn am bob un o’r straeon yn unigol, ond dyma restr ohonynt o’r dudalen gynnwys: 1. Draig o'r enw Môr 2. Môr a'r Clwb Coginio 3. Môr a'r Olchfa 4. Môr a'r Cysur Cyffwrdd 5. Diwrnod prysur Môr 6. Môr yn achub y dydd Hosbis plant yw Tŷ Hafan, agorodd ei ddrysau yn 1999 i ddarparu gofal lliniarol pediatrig i Gymru gyfan. Mae’r gwasanaeth, sy’n rhad ac am ddim i’r rhai sydd ei angen, yn golygu fod rhaid i’r elusen godi £4.5 miliwn y flwyddyn i’w gynnal. Tipyn o gamp a dweud y lleiaf! Dyma i chi linell a ddyfynnir oddi ar eu gwefan. I mi, mae’n dweud cyfrolau am sut fath o le yw Tŷ Hafan. “If you think we simply provide a place where children can come to die, you couldn’t be further from the truth.” Os ydych chi fel fi, erioed wedi bod mewn hosbis o’r fath, mae’n hawdd iawn datblygu camsyniadau am beth sy’n digwydd yno. Mae’n dueddiad gan rai i feddwl amdanynt fel llefydd depressing a diobaith - ac wedi darllen Draig o’r enw Môr, dwi yn sylwi pa mor anghywir yw’r gred yma. Alla i ddim gor-bwysleisio pwysigrwydd ‘sgwennu a chyhoeddi llyfr o’r fath. Mawr yw ein diolch i bawb a fu’n gysylltiedig â hyn. Dysgais lawer am staff yr hosbis, eu gwaith, yr offer arbenigol a phopeth sy’n gwneud Tŷ Hafan yn le arbennig iawn. Gallaf weld nawr fod Tŷ Hafan (a sefydliadau tebyg) yn gymunedau cyfeillgar a chlos, llefydd hapus a saff, llawn cariad a hwyl. Wrth gwrs fod y plant sy’n mynychu Tŷ Hafan yn wael, ond dydi hynny ddim yn golygu na allent fwynhau pob eiliad o’u hamser yn y byd a gwerthfawrogi profiadau bywyd (nifer ohonynt yn bethau bychain rydym yn cymryd yn ganiataol) Diolch i ymroddiad staff Tŷ Hafan, gall y plant, pobl ifanc a’u teuluoedd greu atgofion bythgofiadwy, fel y cawn glywed wrth ddarllen. I nifer, mae hosbis yn lle dirgel a dieithr iawn ac mae’r llyfr yn helpu i daro goleuni ar rhai o weithgareddau’r hosbis. Yn glyfar iawn, mae’r awdur yn plethu llawer o ffeithiau am Dŷ Hafan i mewn i’r naratif yn naturiol, ac rydym yn dysgu am y lle heb feddwl, drwy glywed am Môr a’i anturiaethau. Reit ar gychwyn y llyfr, daw môr ar draws merch ifanc. Gan fod Môr yn ifanc, mae o braidd yn ddryslyd ac nid yw’n deall pam fod Lisa angen cadair gydag olwynion. Ond, wir i chi, nid yw Môr yn pitïo’r ferch, a tydi hithau ddim yn chwilio am sympathy chwaith! Cyn pen dim, mae’r ddau yn chwyrlïo o amgylch yr ystafell, gan droelli a gwibio, wrth i Lisa ddangos i Môr sut i weithio’r gadair!! Dim ond un enghraifft yw hyn o sut mae’r awdur yn normaleiddio’r syniad o salwch neu anabledd, ac yn dangos fod pawb yn mwynhau dipyn o hwyl, hyd yn oed yn yr hosbis. Mae’r llyfr yn syml, ac mae’r ysgrifen yn fawr ac yn weledol. Gwna hyn y llyfr yn berffaith ar gyfer darllenwyr annibynnol gymharol newydd ym mlynyddoedd 3 a 4. Llyfr annwyl, sydd hefyd yn hynod o effeithiol fel arf dysgu i athrawon. Byddai’n addas iawn ar gyfer gwasanaethau ysgol ag ati. Yn sicr, byddai’n gyfle gwych i ddysgu mwy am waith yr hosbis, ac efallai gellir trefnu gweithgaredd codi arian yn sgil darllen y llyfr. Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd. Menter ar y cyd rhwng gwasg Y Lolfa a Thŷ Hafan yw’r llyfr ac mae pob ceiniog o elw’r gwerthiant yn mynd i’r elusen. Mae tîm Sôn am Lyfra wedi mwynhau’r cyfle i ddysgu am waith amhrisiadwy’r hosbis, ac felly am wneud cyfraniad tuag at yr achos. Don't let this plain and simple front cover fool you - this is a volume bursting with entertaining stories about a happy, mischievous little sea dragon, who likes nothing more than spending time with the children and staff of Tŷ Hafan in South Wales. Every penny of profit from the book goes to Tŷ Hafan. Not only will you be supporting a very good cause, but you will also gain a worthwhile book in return. The Best of both worlds! The book is a volume of short stories, originally written by Jilly Bebbington, and adapted to Welsh by Aled Islwyn. (an English version of the book also exists, A Dragon Called Môr) The author lives in Cardiff and has volunteered at Tŷ Hafan for years. Her voluntary work with the children attending the hospice was the inspiration for the book it seems. Jilly says: "I have read and invented so many stories for the children in the hospice over the 20 years I have been volunteering there." Fortunately, then, she had the opportunity to put the stories to paper and they can now be shared with the children of Wales. I won't mention each of the stories individually, but here is a list of them from the contents page: 1. Draig o'r enw Môr 2. Môr a'r Clwb Coginio 3. Môr a'r Olchfa 4. Môr a'r Cysur Cyffwrdd 5. Diwrnod prysur Môr 6. Môr yn achub y dydd Tŷ Hafan is a children's hospice which opened its doors in 1999 to provide paediatric palliative care for the whole of Wales. The service, which is free for those who need it, means that the charity has to raise £4.5 million a year to maintain it. No small feat! This is a line quoted from their website. For me, it speaks volumes about what Tŷ Hafan is all about and how they see the world. "If you think we simply provide a place where children can come to die, you couldn’t be further from the truth." If you, like me, have never been to such a hospice, it’s very easy to pick up misconceptions about what goes on there. There’s a tendency by some to think of them as depressing places full of sadness and despair - and having read Draig o’r enw Môr - I notice how wrong this is. I can't overstate the importance of publishing such a book. Our thanks go out to all those involved. I learned a lot about the hospice staff, their work, the specialist equipment and everything that makes Tŷ Hafan a very special place. I can now see that Tŷ Hafan (and similar organisations) are friendly and close-knit communities, happy and safe, loving and fun places. Of course the children who attend Tŷ Hafan aren’t necessarily well, but that doesn’t mean that they can’t enjoy every moment of their time in the world and appreciate life’s little experiences (many of which we take for granted) Thanks to the dedication of the Tŷ Hafan staff, the children, young people and their families can create memories together as we hear in the book. For many, a hospice is a very mysterious and unknown place and the book helps to shed some light on some of the hospice's activities. Very cleverly, the author has naturally weaved many facts about Tŷ Hafan into the narrative, and we learn about the place without thinking, through Môr and his adventures. Right at the beginning of the book, Môr comes across a young girl. As he’s a young dragon, he’s a little confused and doesn’t understand why Lisa needs a wheelchair But, Môr doesn’t pity the girl, and she’s not looking for sympathy either! In no time at all, the new friends are spinning around the room, as Lisa shows Môr how to work the chair!!! This is just one example of how the author normalises the idea of illness or disability, and shows that everyone enjoys a bit of fun, even in the hospice. The book is simple, and the writing is large. This makes the book perfect for relatively new independent readers in years 3 and 4. A sweet book, which is also extremely effective as a learning tool for teachers. It would be well suited to school assemblies etc. It would certainly be a great opportunity to learn more about the work of the hospice, and perhaps a fundraising activity could be organised after reading the book. The possibilities are endless. The book is a joint initiative between Y Lolfa press and Tŷ Hafan and every penny of the proceeds of the sale goes to the charity. The Sôn am Lyfra team has enjoyed the opportunity to learn about the invaluable work of the hospice, and will be making a contribution to the cause. Gwasg/publisher: Y Lolfa Cyhoeddwyd/released: 2020 Pris: £4.99 - elw i gyd yn mynd i Tŷ Hafan. All proceeds go to Tŷ Hafan.

  • Brenin y Trenyrs - Pryderi Gwyn Jones

    *Scroll down for English* Os 'da chi'n caru trenyrs, hwn yw'r llyfr i chi! If you love trainers, then this is the book for you! Genre: #ffuglen #arddegau #cynnar / #early #teen #fiction Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◎◎ Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◎◎ Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎ Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎ Iaith gref/language: ◉◎◎◎◎ Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎ Hiwmor/humour: ◉◉◉◎◎ Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◉◎◎ Oedran/Age: 11-14 Arlwunwaith/Artwork: Huw Richards Adidas, Nike, Puma, Vans, Converse, Reebok, New Balance, Asics… does ’na drenyrs di-ri yn y byd… a does ’na neb wedi gwirioni gyda nhw mwy na phrif gymeriad y llyfr. Wrth ymweld yn rheolaidd â ’sgidlocyr, sef siop sgidiau mwyaf cŵl y dref, glafoeria am gael un par yn enwedig – yr Adidas ZX100000! Dwi’n gallu dallt penbleth y prif gymeriad yn iawn, achos mi ydw i’n ffan fawr o drenyrs fy hun ac yn fussy dros ben wrth siopa am bâr newydd. Weithiau, gall gymryd misoedd i ffeindio’r pâr perffaith! Fy hoff rai ERIOED yw’r rhai sydd gen i ar hyn o bryd, sef y Nike Pegasus 36. (oni'n super chuffed fod Manon Steffan Ros wedi deud bod nhw'n neis!) Ella fod hyn dipyn bach yn sad ond dwi’n eu ‘llnau nhw’n fisol er mwyn eu cadw nhw’n edrych ar eu gorau. Dwi’m yn meddwl fod y car yn cael gymaint o sylw hyd yn oed! Ta waeth – gan fy mod i’n dipyn bach o trainer geek fy hun, apeliodd y teitl a’r clawr yn syth. Roedd y clawr yn lliwgar ac iddo deimlad eithaf ‘retro.’ Yn y stori, dilynwn hynt a helynt y bachgen 13 oed, wrth iddo feddwl am ffyrdd dyfeisgar o hel y pres sydd ei angen i brynu’r pâr o drenyrs delfrydol. Does ganddo ddim gobaith o gael swydd, ac mae’r pres poced mor bitw, chaiff o byth mo’r trenyrs fel hyn. Gyda’i fêt gorau, Dyl, mae’r bechgyn yn dyfeisio cynllun er mwyn hel yr arian at ei gilydd. Cynllun fydd yn eu harwain at guddfan arbennig, yn y to uwchben swyddfa’r athrawon ymarfer corff! A wyddoch chi i ble mae’r twll yn y nenfwd yn arwain? ’Stafelloedd newid y genethod! O diar! Mae ambell is-naratif wedi eu clymu i mewn i’r brif stori, ac mae ’na dipyn o ‘love story’ rhwng y prif gymeriad a Lowri, merch olygus sydd yn yr un flwyddyn ag o. Yn anffodus, mae ’na ddwylo blewog o gwmpas a chawn wybod bod ’na leidr yn yr ysgol! Sut fydd hyn yn effeithio ar gynlluniau ein prif gymeriad? Bydd yn rhaid i chi ddarllen i ffeindio allan! Gall ennyn person ifanc i ddewis llyfr a’i ddarllen fod yn sialens ynddo’i hun yn aml iawn, ac os bydd darllenwr wedi cwblhau’r llyfr a’i fwynhau, yna gall yr awdur fod yn fodlon iawn â hynny. Job done. Dyma lyfr ysgafn iawn, sy’n osgoi bod yn rhy ddwys a phregethwrol, er bod yr awdur wedi llwyddo i gynnwys ambell i neges. Dyma lyfr gyda ’chydig o hiwmor y gallwn ei fwynhau heb ormod o waith meddwl– ac mae hyn reit brin yn y Gymraeg. Mae plant a phobl ifanc yn dweud fod llyfrau Cymraeg yn rhy serious, ac yn galw am fwy o hiwmor! (Gweler adroddiad Rosser, 2017). Dyma awdur sydd wedi gwrando ar y gynulleidfa, yn ôl pob tebyg. Mi wnes i fwynhau’r trivia am rai o’r prif frandiau (siŵr o ddod yn handi mewn pub quiz rhyw ddydd!) a’r ffaith fod sgidia velcro yn cael gymaint o stick! (mor wir!) Faswn i ddim wedi meiddio cael rhai velcro yn yr ysgol uwchradd! Dyma stori reit wahanol, sy’n ychwanegu at yr arlwy o lyfrau a straeon amrywiol sy’n bwydo diet llenyddol cytbwys pobl ifanc. Ni cheir yma stori o hud a lledrith mewn arall fydoedd pell, ond yn hytrach, pwnc digon cyfarwydd a down-to-earth gydag iaith naturiol a thafodiaith Ogleddol. Athro uwchradd yw’r awdur, felly mae’n amlwg wedi treulio digon o amser yng nghwmni pobl ifanc i ddeall yr hyn sy’n apelio i ddarllenwyr ifanc - ond nid rhy ifanc. A fydd y nofel yn plesio? Cawn weld - mae’r grŵp oedran 11-14 yn un anodd i’w blesio! Yn bersonol, doeddwn i ddim wedi rhagweld dilyniant i’r nofel, felly bydd hi’n ddiddorol gweld lle fydd y stori nesaf yn mynd. Bydd Kaiser y Trenyrs allan ddiwedd y flwyddyn yn ôl y sôn. Adidas, Nike, Puma, Vans, Converse, Reebok, New Balance, Asics... there’s no shortage of trainers in the world... and no one is more obsessed with them than our main character. He often frequents the coolest shoe shop in town, ‘Sgidlocyr, and dreams of owning the best (and most expensive) pair in the shop – the Adidas ZX100000. Cue God-like beams of light and choral music! I ‘get’ the main character’s love of trainers, because I'm a big fan of them myself and rather fussy when it comes to selecting a new pair. Sometimes, it can take months to find the perfect pair! My favourite trainers ever are the ones I have currently, the Nike Pegasus 36. You might think it a bit sad but I’ll clean them regularly to keep them looking at their best. I don’t think the car even gets that much attention! So, as I’m a bit of a trainer freak myself, the title and cover appealed. It’s a colourful front cover, if not a little retro. In the story, we follow the 13-year-old boy as he devises ingenious ways scrimp and save the money he needs to get those trainers. He hasn’t got a job, and the pocket money is quite dire, so greater measures are called for! With his best mate, the lads come up with a plan – a plan that somehow leads them to a hidden loft space above the PE teacher’s office. And do you know where that opening in the roof leads? The girl’s changing rooms! Oh dear! We have a few sub-stories within the main narrative including a bit of a romance with a pretty girl in his year. There’s also the matter of the school thief. How will this affect the boys’ plans? You’ll have to read to find out! Engaging young teens in reading can often be a challenge in itself, and if a reader picks up, finishes and enjoys this book, the author can sleep easily. This is a very light-hearted book, which avoids being too preachy and ‘deep’, although the author has managed to include a few messages. This is a book with a sense of humour that we can enjoy without too much thinking. Children and young people say that Welsh books are too serious, and call for more humour! (See Rosser report, 2017). This is a writer who has tried listening to the audience. I liked the bits of trivia about some of the well-known brands (sure to come in handy one day in a pub quiz!) and the attention to little details. For example, the teens’ perceptions of Velcro shoes – (so true!) – you wouldn’t have dared to wear Velcro when I was in high school! This story is a bit different, which adds to variety that feeds into young people's balanced literary diet. We don’t get magical fantasies in faraway lands here, but what we do get is familiar and down-to-earth subject matter. The writing is natural and uses Northern dialect. The author is a secondary school teacher, so has obviously spent enough time with young people to understand what appeals to young readers - but not too young. Will the novel appeal? We shall see - the 11-14 age group is a tough one to crack! Personally, I hadn't anticipated a follow-up to the novel, so it will be interesting to see where the next story will go. Kaiser y Trenyrs will follow towards the end of the year. Gwasg/publisher: Gwasg Carreg Gwalch Cyhoeddwyd/released: 2020 Pris: £6.95 AM YR AWDUR: Er iddo gael ei eni yn Aberystwyth, magwyd PryderiGwyn Jones yn Llansannan, Dyffryn Clwyd ac ym Mangor. Wedi cyfnod yn teithio de America ac Ewrop, symudodd i’r canolbarth wedi iddo briodi merch o Lanbryn-mair, a bellach mae’n dad i ddwy o ferched. Treulia ei ddyddiau ym Maldwyn yn dysgu yn Ysgol Uwchradd Caereinion, ac ymddiddora’n fawr mewn chwaraeon, yn enwedig pêldroed! Ymhlith ei lwyddiannau eisteddfodol mae coron Eisteddfod Powys 2004 a 2011, a Stôl Stomp Tegeingl 2012. Brenin y Trenyrs yw ei nofel gyntaf.

  • Gwennol - Sonia Edwards

    *Scroll down for English* Dwy ferch gyda stori ryfeddol... Two girls with an extraordinary tale... Genre: #ffuglen #arddegau / #teen #fiction Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◎ Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◎◎ Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◉◉◉◎◎ Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎ Iaith gref/language: ◉◎◎◎◎ Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎ Hiwmor/humour: ◉◉◎◎◎ Her darllen/reading difficulty: ◉◉◉◎◎ Oed darged/target age: 11-14 ADOLYGIAD GAN DR LLIO MAI HUGHES REVIEW BY DR LLIO MAI HUGHES Nofel sydd wedi ei hanelu ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau cynnar yw Gwennol. Dywed y broliant ar y cefn ei bod yn nofel afaelgar, ac mae hynny’n bendant yn wir gan nad oeddwn i’n gallu ei rhoi i lawr! Stori am ddwy ferch 13 oed yw hon, sef Eldra ac Yvonne. Mae diwrnod Eldra yn yr ysgol yn mynd o ddrwg i waeth. Oes, mae ganddi wers Addysg Gorfforol, ond nid dyna ydi darn gwaethaf y diwrnod o bell ffordd. Yn eistedd ar ei phen ei hun yn yr ystafell ddosbarth ar ôl y wers Gymraeg mae’r dagrau’n dechrau llifo, hyd nes y daw Yvonne i’r golwg. Dyma ddiwrnod cyntaf Yvonne yn ei hysgol newydd, a tydi hithau ddim yn cael diwrnod da iawn chwaith. Tydi Eldra ddim yn rhy siŵr o’r hogan newydd i ddechrau, mae hi’n union fel Mandy Price, yn llawn hyder ac yn dweud wrthi beth i’w wneud. Mae gan Eldra ei hofn hi braidd. Yn ystod gwers ola’r dydd, y wers Ffrangeg, mae Yvonne yn dechrau deall beth sydd wedi digwydd i Eldra. Er mai newydd ei chyfarfod mae hi, mae rhywbeth yn dweud wrth Yvonne y dylai ei helpu. Cyn hynny, wrth iddi ffrwydro yng nghanol y wers Ffrangeg, daw’r dosbarth a Miss Meredydd i ddeall mwy am Yvonne hefyd. Mae Eldra’n dechrau newid ei meddwl am yr hogan newydd. Tydi hi ddim fel Mandy. Mae Eldra’n teimlo’n gartrefol ac yn saff yng nghwmni Yvonne. Daw’r ddwy yn dipyn o ffrindiau, ac ar ôl gwers Addysg Gorfforol, mae Yvonne yn sylwi ar y man geni glas siâp gwennol sydd ar ffêr Eldra, a dyma ddechrau stori anghygoel sy’n datod wrth i’r genod ddod i wybod mwy am ei gilydd. Dyma stori sy’n cyffwrdd â rhai o drafferthion ysgol a thyfu i fyny yn ogystal â galar a cholled a mabwysiadu hefyd. Mae’n stori am gyfeillgarwch ac yn stori am berthyn. Byddwn yn bendant yn argymell y nofel hon fel llyfr darllen i berson ifanc yn eu harddegau cynnar, ond efallai y bydd yn apelio fwy at ferched. Mae’n darllen yn hawdd, mae’r eirfa’n briodol ar gyfer yr oed darllen – yn ddigon i ehangu gerifa heb fod yn rhy heriol yn fy marn i. Byddwn wedi hoffi clywed mwy am Myfanwy McBryde, ond peryg mai testun nofel arall fyddai hynny. Mi oeddwn i hefyd yn hoff iawn o’r ffeithiau diddorol sydd wedi’u cynnwys ar ddiwedd y nofel sy’n ychwanegu at ein dealltwriaeth o rai o elfennau’r stori. Gwybodaeth Bellach: Mae merch o’r enw Yvonne yn dechrau yn ysgol Eldra. Mae’r ddwy ferch 13 oed yn wahanol iawn, ac eto mae ’na debygrwydd ac agosatrwydd rhyngddynt. Mae gwirionedd y sefyllfa yn sioc i’r ddwy, ac yn newid eu bywydau. * Nofel wreiddiol ar gyfer darllenwyr hŷn (12-14 oed), gan un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru; * Gellir ei darllen yn annibynnol er mwyn mwynhad, neu ei defnyddio yn yr ystafell ddosbarth gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 3; * Mae pecyn digidol am ddim ar wefan Hwb, sy’n cynnwys cwestiynau i gyd-fynd â’r nofel. Bydd y nofel yn helpu dysgwyr i fwynhau darllen drwy ganfod, dethol a defnyddio gwybodaeth yn ogystal ag ymateb i’r hyn a ddarllenwyd mewn modd ysgogol – bydd hyn yn arwain at ddealltwriaeth o astudio’r nofel fel cyfrwng rhyddiaith ac yn ymateb i fanyleb newydd TGAU 2016 maes o law. https://hwb.gov.wales/repository/discovery/resource/bd4313c6-7516-4879-988e-ec12228ade21/cy?fields=resources&query=gwennol&sort=recommendation Gwennol is a novel aimed at young people in their early teens. The blurb on the back says that it’s a gripping novel, and this was certainly the case – I couldn’t put it down. I read it in one sitting if I recall! This is a story about two 13-year-old girls, Eldra and Yvonne. Eldra's day at school goes from bad to worse. Yes, she has a PE lesson, but that is by no means the worst part of the day. As she sits alone in the classroom after the Welsh lesson, the tears begin to flow until Yvonne emerges. This is Yvonne's first day at her new school, and she's not having a very good day either. Eldra isn't too sure of the new girl at first -she's just like Mandy Price, full of confidence and tells her what to do. Eldra is a bit scared of her to be honest. During the day's last lesson, Yvonne begins to understand what has happened to Eldra. Although she has only just met her, something tells Yvonne that she should help her. Before that, as she has an outburst in the middle of the French lesson, the class and Miss Meredydd come to understand more about Yvonne as well. Eldra starts to change her mind about the new girl. She’s not like Mandy. Eldra feels at ease and safe in Yvonne's company. The two become friends, and after a PE lesson, Yvonne notices the swallow-shaped blue birthmark on Eldra's ankle, and this is the beginning of an extraordinary story that unravels as the girls discover more about each other. This is a story that touches on some of the difficulties of school and growing up as well as grief, loss and adoption as well. It is a story of friendship and a story of belonging. I would definitely recommend this novel for any teenager in their early teens, although it may be more appealing to girls. It reads easily and the text is appropriate for the reading age – enough to expand vocabulary without being too challenging in my opinion. I would have liked to hear more about Myfanwy McBryde, but that would be another novel in itself. I also loved the interesting facts that have been included at the end of the novel that add to our understanding of some of the elements of the story. Further Information: A girl named Yvonne arrives at Eldra's school. The two 13 year old girls are very different, and yet there's a similarity and familiarity between them. The truth of the situation comes as a shock to them which will change both their lives. * An original novel for older readers (12-14 years), by one of Wales' most popular authors; * It can be read independently for enjoyment, or used in a classroom with Key Stage 3 learners; * There is a digital package available for free on the Hwb website, which includes questions to accompany the novel. The novel will help learners enjoy a novel by identifying, selecting and using information as well as responding to the material in a stimulating way - this will lead to an understanding of the novel as a prose medium and responding to new GCSE 2016 specifications in due course. https://hwb.gov.wales/repository/discovery/resource/bd4313c6-7516-4879-988e-ec12228ade21/cy?fields=resources&query=gwennol&sort=recommendation Cyhoeddwr/publisher: CAA Cyhoeddwyd/released: 2019 Pris: £5.99

  • Project Poli - Gwenno Mair Davies

    *Scroll down for English* Gwasg/publisher: CAA Cyhoeddwyd/released: 2018 Pris: £4.99 Cyfres/series: Halibalŵ Categori/category: #doniol #funny Oed/age: 7-11 (haen uwch/upper KS2) Sawl seren? ★★★★★ Crynodeb o'r cynnwys Dyma stori am hogan fach ddireidus o'r enw Poli sydd ddim yn rhy hoff o athrawon ... Mae Mr Llwyd yn rhy ddiflas, Mrs Alaw Erin Tomos yn canu gormod, Mr Smith Sbectol Sgwâr yn rhy hoff o dechnoleg ac mae Mrs Blodwen Bleddyn yn cau plant yn y storfa (meddan nhw!). Dros y gwyliau haf mae Poli'n cael gwaith cartref i greu project am ei hoff a chas bethau . . . Beth fydd hi'n ddewis sôn amdano fo? Fy hoff ran Fy hoff ran ydy pan mae cyfrinach Mrs Alaw Erin Tomos yn cael ei datgelu! Ddim canu mae hi'n hoff i go iawn ond hi ydy Ninja Nain! Yn ei amser rhydd mae hi'n gwneud karate a'i henw hi wrth gwffio ydy ‘Ninja Nain’. Mae hyn yn ddoniol oherwydd mae hi'n edrych mor hen ffasiwn ac yn cwffio hefo dyn mawr cryf! Cymeriadau Poli - Wel mae hi'n ddireidus ac yn fentrus. Mae hi'n troi'n dditectif i ysbio ar yr athrawon. Mr Llwyd: Dyn diflas, medda Poli, ond dipyn o gymeriad go iawn ... dipyn o glown! Mrs Blodwen Bleddyn - Dynes gas medda Poli ... ond fyddai anifeiliaid ddim yn cytuno! I bwy fyddet ti'n argymell y llyfr? Pam? I unrhyw un sy'n hoffi storïau digri hefo dipyn bach o dro yn y gynffon ...tydy athrawon i gyd ddim beth ydach chi'n feddwl - WIR! Dydy hwn ddim i athrawon, cofiwch!! Disgrifiad Gwales Dydy Poli ddim yn hapus o gwbl fod ganddi waith cartref i'w wneud dros wyliau'r haf. Ond ar ôl treulio wythnos gyntaf y gwyliau yn chwarae gêm dditectif ar y cyfrifiadur, mae hi'n cael syniad penigamp. Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr: Gwybodaeth Bellach: Teitl ei phroject fyddai 'Mae'n gas gen i athrawon', ac er mwyn iddo fod mor ddiddorol â phosibl, byddai'n rhaid iddi wneud ychydig o waith ditectif ac ysbïo ar ei chas athrawon dros y gwyliau. * Nofel ddoniol gan un o awduron plant poblogaidd Cymru. * Gellir ei darllen yn annibynnol er mwynhad, neu ei defnyddio yn yr ystafell ddosbarth gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 2; * Un o blith cyfres o chwe nofel i ddarllenwyr CA2 – tair ar haen sylfaenol/canolig a thair ar haen uwch i ddysgwyr MATh (mwy abl a thalentog). Mae'r nofel hon ar haen uwch/MATh. * Bydd pecyn gweithgareddau i gyd-fynd â'r nofelau ar Hwb – pecyn a fydd yn fuddiol wrth baratoi at y profion cenedlaethol. Summary of contents This is a story about a mischievous little girl called Poli who is not too fond of teachers. Mr Llwyd is too boring, Mrs Alaw Erin Tomos sings too much, Mr Smith Sbectol Sgwâr is too fond of technology and Mrs Blodwen Bleddyn locks children in the store cupboard (or so they say!). Over the summer holidays Poli gets homework to create a project about her likes and dislikes . . . What will she choose to talk about I wonder...? My favourite part My favourite part is when Mrs Alaw Erin Tomos's secret is revealed! She doesn't really like singing but she is Ninja Nain! In her free time she does karate and her name when fighting is 'Ninja Nain'. This is funny because she looks so old-fashioned and fights with a big strong man! Characters Poli - Well she is mischievous and creative. She turns into a detective in order to spy on the teachers. Mr Llwyd: A miserable man, says Poli, but a bit of a character ... a bit of a clown! Mrs Blodwen Bleddyn - A nasty woman says Poli ... but animals would not agree! Who would you recommend the book to? Why? For anyone who loves funny stories with a bit of a twist in it's tale. Teachers are not what you expect. Honestly - this is not for them! Gwales description When a teacher announces that Poli's class are being given homework over the summer holidays - preparing a project on either their favourite or worst thing in the world - Poli ISN'T happy, to say the least. The following has been provided by the Publisher: Further Information: After spending the first week of the holidays playing a detective game on her computer, she gets a brilliant idea and realizes that this homework could be a lot more fun than she had imagined. *A humorous novel by a popular Welsh children's author. * Can be read independently for enjoyment or used in the classroom with Key Stage 2 learners; * One of a series of six novels for KS2 readers - three on foundation/intermediate level and three on high level for MAT (more able and talented) learners. This novel is suitable for higher/MAT level. * An activities pack to complement the novels will be available on Hwb - a pack that will be helpful in preparing for national tests. MAM REVIEWS – NEW HALIBALŴ SERIES FOR CHILDREN AGED 7-1 https://mamcymru.wales/cy/2018/11/12/mam-reviews-new-halbalw-series-for-children-aged-7-11/

  • Drwy fy llygaid i - Jon Roberts

    *Scroll down for English* ‘Mae’r llyfr hardd a dymunol hwn yn cyfleu gwir bleserau bod yn awtistig,’ meddai Alan Gardner, cyflwynydd y gyfres deledu The Autistic Gardener Genre: #iechyd #lles #awtistiaeth / #health #wellbeing #autism Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◉ Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◉◎ Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎ Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎ Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎ Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎ Hiwmor/humour: ◉◉◎◎◎ Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◎◎◎ Oed diddordeb/interest age: 3+ Oed darllen/reading age: 5+ (ond yn ddefnyddiol ar gyfer plant hŷn hefyd) Cyhoeddwr/publisher: Graffeg Cyhoeddwyd/released: Awst 2020 Pris: £7.99 ISBN-13: 978-1912050079 Dyma lyfr hardd a syml wedi ei ysgrifennu gan dad sy’n ceisio esbonio mwy am ei ferch, Kya, sy’n awtistig. Mae’r ysgrifen liwgar wedi ei gosod ar gefndir gwyn felly nid yw’r tudalennau’n teimlo’n rhy ‘brysur.’ Roeddwn yn hoff o’r ffordd y mae’r ysgrifen yn dod yn fyw gan ffurfio patrymau hyfryd sy’n cyfleu’r teimladau a’r emosiynau. Mae gwaith celf Hannah Rounding yn gain, yn lliwgar ac yn gweddu’r llyfr i’r dim. Pan gafodd ei ferch ifanc ddiagnosis o awtistiaeth, penderfynodd yr awdur, Jon Roberts, o Abertawe ysgrifennu’r llyfr hawdd-i’w-ddarllen yma ar gyfer rhieni, athrawon a disgyblion er mwyn eu haddysgu am y cyflwr. Mae’n anodd i blant awtistig ddeall y byd o’u cwmpas, ac weithiau, mae’r pobl o’u cwmpas yn ei chael hi’n anodd eu deall nhw. Mae’r llyfr ein helpu i weld y byd drwy lygaid person awtistig, felly mae’r teitl yn addas iawn. Fel cyn-athro, byddwn wedi gwerthfawrogi gallu defnyddio’r adnodd yma gyda fy nosbarth, ac yn sicr byddai wedi bod yn ddefnyddiol er mwyn fy helpu i gefnogi plant tebyg i Kya oedd yn fy ngofal. Un peth sy’n bwysig ei nodi yw nad ‘How-to manual’ ar gyfer awtistiaeth yw’r llyfr. Mae awtistiaeth pawb yn unigryw, yn arbennig, ac yn cael ei gyfleu mewn ffyrdd gwahanol. Bydd rhai o’r pethau yn y llyfr yn siŵr o fod yn gyfarwydd, ac eraill ddim. Os nad oes gan bobl brofiad uniongyrchol o awtistiaeth, gall fod yn beth dryslyd ac mae nifer o gamsyniadau’n bodoli amdano. Tydi pawb ddim yn deall rhai o’r ymddygiadau a thueddiadau ac mae’r llyfr yma’n help mawr i unrhyw un sydd am wybod mwy. Fe gynhwysir rhestr o gysylltiadau hynod o ddefnyddiol yng nghefn y llyfr hefyd. Er ei fod yn ddefnyddiol ar gyfer rhieni ac athrawon, daw gwir werth y llyfr o’i ddefnyddio fel sbardun ar lawr y dosbarth gyda phlant ifanc. Drwy gyd-ddarllen y llyfr, gall yr athro neu riant arwain sgwrs am awtistiaeth drwy helpu’r plant lleiaf i wneud cysylltiadau a’u byd nhw. Gellir defnyddio’r llyfr fel cyflwyniad mewn gwasanaethau boreol ar y thema o awtistiaeth, ar ddiwrnod awtistiaeth y byd er enghraifft. Soniai’r llyfr am rai o’r heriau a brofir gan Kya ei hun (e.e. ddim yn hoffi sŵn uchel a bwydydd â gwead rhyfedd) ond ar y cyfan, cawn ddarlun positif iawn o’r cyflwr. Mae'r llyfr yn dangos ei bod hi'n gallu bod yn ofalgar ac yn annwyl, ac yn mwynhau'r un pethau a phlant nad ydynt ar y sbectrwm, fel hufen iâ! Dathliad o’n gwahaniaethau a’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw yw’r llyfr ac mae’n adnodd gwerthfawr sy’n haeddu lle ymhob ystafell ddosbarth. O'm profiad i, chewch chi neb mwy goddefgar na phlant ifanc (maen nhw’n well nac oedolion yn aml iawn) ac maen nhw’n derbyn fod rhai plant yn wahanol, ac fod hyn yn beth da. Mae fformat syml y llyfr yn ei wneud yn ideal ar gyfer ei addasu yn ôl yr angen. Er enghraifft, byddai rhiant a phlentyn yn gallu creu fersiwn personol o’r llyfr sy’n unigryw i’r plentyn. Dyma rywbeth fyddai’n ddefnyddiol i roi i oedolion dieithr sy’n dod i gyswllt â’r plentyn e.e. athrawon llanw, arweinyddion clybiau tu allan i’r ysgol. Mae ’na heriau ynghlwm â magu plentyn awtistig wrth gwrs, ond mae yna lawenydd mawr ac mae’n bwysig cofio hynny. Nid yw awtistiaeth yn diffinio’r unigolyn. Tydi plant awtistig a’u rhieni ddim yn chwilio am sympathy chwaith – y peth gorau gallwn wneud i help yw gwella ein dealltwriaeth ein hunain o'r cyflwr. Dyma ychydig eiriau a ddaeth gan y wasg sy’n cyfleu’r llyfr yn berffaith: “Y gobaith yw y bydd pobl eraill, sy’n profi llawenydd a heriau awtistiaeth yn eu bywydau, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn gallu uniaethu â’r stori hon ac ymgysylltu â hi. Fel bodau dynol, rydyn ni i gyd yn unigryw ac yn werthfawr, a dylem anwesu a charu’r gwahaniaethau hynny â’n holl galon a’n holl enaid.” Dyma erthygl ddifyr gan y Book Trust sy’n sôn mwy am Kya a’i thad a sut y daeth y llyfr i fodolaeth: https://www.booktrust.org.uk/news-and-features/features/2018/january/every-person-with-autism-is-unique-why-this-dad-made-a-book-about-his-daughter/ Diolch Jon (a Kya) am rannu eich profiadau ac am helpu eraill drwy wneud hyn. This is a beautifully simple book written by a father who is trying to explain more about his daughter, Kya, who is autistic. The colourful text is set against a white background so the pages don’t feel too 'busy.' The writing comes to life as it forms interesting shapes and patterns that convey the feelings and emotions. Hannah Rounding's artwork is delicate and colourful and is very appropriate for the book. When his young daughter was diagnosed with autism, the author, Jon Roberts, from Swansea decided to write this easy-to-read book for parents, teachers and pupils in order to teach them about the condition. It can be difficult for autistic people to understand the world around them, but equally, the world around them sometimes just can’t ‘get’ them. The book helps us see the world through the eyes of an autistic person, even if we only get a glimpse of what it’s really like. As a former teacher, I would have appreciated being able to use this resource with my class, and it would certainly have been useful for me personally, so that I could better understand the children who were in my care. One thing that is important to note – this is not a 'How-to manual' for autism. Everyone's autism is unique, special and will present in different ways. Some of the things in the book will no doubt be familiar, others not so much. If people do not have direct experience with autism, it can be a confusing thing to grasp and there are a number of misconceptions surrounding it. Not everyone understands some of the behaviours and this book is a great help to anyone who wants to know more. A list of extremely useful links is also included at the back of the book. Although useful for parents and teachers, the true value of the book comes from using it in the classroom with a young audience. It can be used as a springboard for discussion, under the guidance of the teacher or other adult. Children may have some prior experience with autism or they may not. Regardless of this, it will be an useful tool in order to facilitate discussion on acceptance, tolerance and diversity. What a great tool to have to hand in a school assembly on autism, such as on world autism day for example. The book mentions some of the challenges experienced by Kya herself (e.g. not liking loud noises and strangely textured foods) but on the whole, we get a very positive picture of living with autism. It shows that Kya can be loving and caring, and likes many of the things that children who are not on the spectrum do, such as ice cream! The book is a celebration of our differences and what makes us unique. It is an extremely valuable resource that deserves a place in every classroom. In my experience, young children are the most accepting and tolerant, (they are very often better than adults) and they accept that some children are different, but that is a good thing. The simple format of the book makes it ideal for adapting it as necessary. For example, a parent and child would be able to create a personalised version of the book that is unique to the child. This is something that would be useful to give to unfamiliar/new adults who come into contact with the child e.g. supply teachers, out of school club leaders. There are challenges in raising an autistic child of course, but there are great joys and it is important to remember that. Autism does not define the individual. Autistic children and their parents are not looking for sympathy either – the biggest help I think we can give is to educate ourselves and others and gain a better understanding of it. Here are a few words from the publishers that sums up the book well: "It is hoped that other people, who experience the joy and challenges of autism in their lives, either directly or indirectly, will be able to identify with and engage with this story. As human beings, we are all unique and precious, and we should cherish and love those differences with all our heart and all our souls." This is an interesting article by the Book Trust that discusses Kya and her father and how the book came into being: https://www.booktrust.org.uk/news-and-features/features/2018/january/every-person-with-autism-is-unique-why-this-dad-made-a-book-about-his-daughter/ Thank you Jon (and Kya) for sharing your experiences and helping others in the process.

  • Dirgelwch yr Ogof - T. Llew Jones

    *Scroll down for English* Mae 'na gyfrinach dywyll yng Nghwmtydu... There are some dark secrets in Cwmtydu... ♥ Llyfr y Mis: Medi 2009 ♥ ♥Book of the Month: September 2009♥ Genre: #ffuglen #hanesyddol / #historical #fiction Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◉ Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◎◎◎ Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◉◉◎◎◎ Trais, ofn/violence, scary: ◉◉◉◎◎ Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎ Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎ Hiwmor/humour: ◎◎◎◎◎ Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◉◉◉ Dydw i ddim yn gwybod os ydi hyn yn wir am y byd llyfrau Saesneg, ond dwi’n teimlo ein bod ni yng Nghymru wastad yn chwilio am y ‘big thing’ nesaf ym myd llyfrau plant ac yn llowcio teitlau newydd. I fod yn glir, nid lladd ar gyhoeddiadau newydd gwreiddiol ydw i - achos wrth gwrs fod angen teitlau fresh, newydd i ddenu darllenwyr y genhedlaeth nesaf. Ond, dwi yn teimlo ein bod ni weithiau yn anghofio’n rhy sydyn am y llyfrau da sydd wedi cael eu cyhoeddi’n barod. Mae ’na lyfrau gwych a gafodd eu cyhoeddi rhyw dair neu bedair blynedd yn ôl, sydd bellach yn angof neu sy’n cael fawr ddim sylw. A beth am y clasuron? Efallai fod hen lyfrau yn dyddio, ond ydi hyn yn rheswm digonol dros beidio eu darllen? Mae’n debyg fod nifer o resymau pam fod llyfrau’n tueddu i gael eu hanghofio yng Nghymru, ac mae arian – neu ddiffyg arian – yn siŵr o fod yn un rheswm (fodd bynnag, stori arall ydi honno). Yn y cyfamser, y gobaith yw y bydd ‘Adolygiadau o’r Archif’ yn taflu goleuni ar ambell drysor sy’n cuddio ar eich silffoedd. *** Heb amheuaeth, T. Llew Jones yw Brenin Llenyddiaeth Plant Cymru ac ar ôl cyhoeddi cymaint o lyfrau gwych - does fawr o syndod. Beth sy’n syndod yw fy mod i wedi anghofio sawl un a heb ddarllen rhai o gwbl! Un peth da am lockdown yw cael y cyfle i ailddarganfod ambell un. Penderfynais ailgydio yn Dirgelwch yr Ogof, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1977, er mwyn gweld a oedd y llyfr yn ‘dal dŵr’ yn 2020. Waw. Am nofel gyffrous o’r cychwyn i’r diwedd! Hanes smyglwyr pentref arfordirol Cwmtydu yn yr 18fed ganrif a geir yn y nofel hon, a dilynwn hanes un smyglwr yn benodol, sef ‘Siôn Cwilt’. Dyma ffigwr dirgel a chyfrwys sy’n cuddio ei hunaniaeth gyda chlogyn unigryw. Fo oedd ‘Han Solo’ ei ddydd! Bydd darllenwyr ar bigau’r drain eisiau gwybod mwy am y ffigwr tywyll yma. Yn fuan iawn, fe gawn ein cyflwyno i Watcyn Parri a’i fab, bonheddwyr sy’n berchen ar stad a phlasty’r Glasgoed. Nid yw’r gŵr bonheddig fel tirfeddianwyr eraill; mae’n ddyn caredig iawn gyda phobl y plwyf. Efallai ei fod mymryn yn rhy hael a dweud y gwir! Yn anffodus i’r hen ddyn, fe chwalwyd ei longau dramor, ac mae ei fuddsoddiadau a’i gyfoeth yn eistedd ar waelod y môr bellach. Mae’r rhain yn golledion enfawr i’r busnes ac mae dyfodol y stad yn y fantol. Bydd rhaid i’r hen ŵr glirio ei ddyledion neu bydd y plas yn syrthio i ddwylo rhywun estron. Yn y cyfamser, mae Bart Thomson, ecseisman (swyddog y gyfraith oedd yn casglu trethi a sicrhau ufudd-dod) wedi dod i’r ardal i roi terfyn ar y broblem smyglo fawr sy’n rhoi enw drwg i’r lle. Yn fuan ar ôl cyrraedd, sylweddolai’r swyddog fod y broblem yn llawer mwy nag ambell i smyglwr, a bod pobl yr ardal i gyd yn cadw’r gyfrinach! Fe fyddech chi’n synnu i glywed am rai o bobl ‘barchus’ y plwyf sydd ynghlwm â’r hen fusnes smyglo ’ma! Wrth wneud ei ymholiadau, daw’r ecseismon ar draws rhwystr ar ôl rhwystr ac fe’i gwelwn yn troi at ddulliau mwy eithafol a chreadigol o geisio dal y smyglwyr. Brwydr rhwng dau elyn yw prif naratif y stori (y gyfraith yn erbyn y troseddwyr) ac mae Bart Thompson yn obsessed gyda hela ac erlid Siôn Cwilt- ond mae hwnnw un cam o’i flaen bob tro! Er mai’r smyglo yw’r brif stori, mae’r awdur yn llwyddo i blethu sawl is-naratif i mewn yn llwyddiannus iawn. Er enghraifft, mae stori gariad gyffrous sy’n llawn troeon ‘will they/won’t they,’ cenfigen a brad. Cawn hefyd ogwydd arallfydol neu ysbrydol i’r stori gyda’r lleisiau dirgel… Pwy neu beth sy’n gyfrifol am y lleisiau rhyfedd yn nüwch yr ogof tybed?! Fy hoff beth am y nofel yw sut mae T. Llew Jones yn troi’r syniad o ‘good guy’ a ‘bad guy’ ar ei ben yn llwyr. Fe ddylem ochri gyda swyddog y gyfraith, a bod yn feirniadol iawn o Siôn Cwilt a’i griw, ond o’r cychwyn, roedd yn gas gen i'r ecseismon ac roeddwn i wrth fy modd yn gweld y smyglwyr yn ei drechu bob tro. Bron fel ‘Robin Hood’ - roedd Siôn Cwilt yn ffigwr arwrol oedd yn helpu’r bobl dlawd ac yn ceisio gwneud bywyd yn well. Pan fydd Siôn Cwilt mewn perygl o gael ei ddal - fydd y bobl yn cofio am ei aberth ac yn cadw’n dawel? Pwy ydi o? Beth yw ei enw go iawn? Llwyddodd yr awdur i hoelio fy sylw o’r cychwyn hyd at y dudalen olaf ac roeddwn i’n bles iawn efo’r diweddglo, er na chefais ateb i bob cwestiwn. Mae iaith y nofel yn safonol iawn ac yn raenus sy’n fodd o ymestyn geirfa. Ar y llaw arall, gall yr iaith ffurfiol yma gael ei gweld yn hen ffasiwn braidd erbyn hyn, a gall fod yn rwystr i rai darllenwyr nad ydynt mor hyderus ac eraill. Yn ogystal â bod yn nofel hynod o gyffrous, mae iddi werth addysgiadol uchel iawn gan ei bod yn llawn disgrifiadau cyfoethog. Yn sicr, dylai athrawon roi cynnig arni gyda dosbarth B.5/6 neu Bl.7. Mi fysa’n bechod mawr petai plentyn yn methu allan ar y stori wych yma am fod yr iaith o bosib yn rhy heriol - mae angen i athrawon ddatblygu ffyrdd creadigol o gyflwyno’r llyfr i ddisgyblion fyddai ddim fel arall yn mentro darllen y nofel. Darllen ar y cyd fel nofel ddosbarth yw’r ffordd orau o wneud hyn. Llyfr ffuglen hanesyddol yw hwn, sy’n ffenest i'r y cyfnod hwn yng Nghymru - cawn weld bywyd y bobl gyffredin, ond fe sylweddolwn hefyd nad oedd hi’n fêl i gyd ar y bonheddwyr chwaith! Cafodd y llyfr ei addasu yn ffilm yn 2002 sydd hefyd yn arwydd o’i lwyddiant a’i botensial -tydi hyn ddim yn digwydd yn aml yn y Gymraeg! Dwi wir wedi mwynhau darllen y llyfr yma eto, a byddaf yn mynd syth ymlaen i ddarllen llyfr arall gan yr awdur. Flynyddoedd yn ôl, gosododd yr awdur ‘y bar’ yn uchel iawn ar gyfer llenyddiaeth Gymraeg i blant, ac nid oes llawer o awduron heddiw sy’n gallu efelychu'r hyn a gyflawnodd. T Llew, chi yw'r brenin! Moesymgrymwn ger eich bron! I don't know if this is true of English-language books, but I feel that in Wales we are always gobbling up new titles and looking for the next 'big thing' in children's books. To be clear, I am not ‘having a dig’ at original new publications - of course we need fresh, new titles to attract the next generation readers. However, I feel that at times we quickly forget about the good books that have already been published. There are some wonderful books that were published perhaps three or four years ago, which are now forgotten or get little or no attention. And that’s before we even get to the proper classics. Old books can sometimes seem to be dated and slightly old-fashioned, but they must be viewed and valued as a product of their time. Is the fact that they are a bit old a good enough reason not to bother with them? There are probably a number of reasons why books tend to be forgotten in Wales, but money – or lack thereof – is bound to be one big reason (possibly political and a debate for another day!) Meanwhile, I hope that Sôn am Lyfra’s 'From the Archives’ reviews series will cast a light once again on some dusty treasures hiding on the bookshelf. *** Without a doubt, T. Llew Jones is the king of Children's literature of Wales and after writing so many great books – that’s hardly surprising. What is surprising, however, is that I have forgotten several of them and not read many at all! One good thing about lockdown is having the time to re-discover a few. I decided to start with Dirgelwch yr Ogof [Mystery of the Cave], first published in 1977, in order to see if the book was still viable in 2020. Wow! What an exciting novel from start to finish about the history of the smugglers of Cwmtydu in the 18th century. We follow the escapades of one smuggler in particular, Siôn Cwilt. This mysterious figure hides his identity with a pseudonym and a strange cape. He was like the Han Solo of his day! Readers will want to know more about this dark figure. Very early on we are introduced to Watcyn Parri and his son, the who own the Glasgoed estate and manor. This wealthy gentleman is not like other landowners; he is a very kind man, especially with the peasants who live on his lands. Perhaps he’s a little too generous for his own good. Sadly for the old man, all his ships have been lost at sea abroad, and his investments are now sitting at the bottom of the sea. These are huge losses for the business and the future of the estate is at stake. The old man will have to clear his debts or the house and lands will be taken off them. Meanwhile, Bart Thomson, an exciseman (an officer of the law who collects taxes on imports and ensures compliance) has come to the area to put an end to the great smuggling problem that blights the area. Shortly after arriving, the officer realizes that the problem is much more than a few smugglers, and soon discovers that the whole village is keeping a dark secret! Whilst making his enquiries, the exciseman is blocked at every turn and this sees him turn to more radical and creative methods to try and catch the smugglers red handed. A battle between two enemies forms the main narrative (the strong arm of the law against the criminals) and Bart Thompson becomes obsessed with hunting down the smuggling ringleader, Siôn Cwilt – who’s one step ahead of him every time! Although smuggling forms the main story, the author manages to weave several sub-narratives successfully. For example, we get an exciting love story which is full of 'will they/won’t they’ moments, envy and betrayal. We also get a paranormal dimension to the story with the strange and creepy voices in the caves. My favourite thing about the novel is how T. Llew Jones turns the idea of good guys and bad guys on his head. We should side with the law-abiding officer, and be very critical of Siôn Cwilt and his crew, but from the start, I disliked the exciseman loved it when the smugglers outsmarted him. Almost like a Robin Hood-type figure, Siôn Cwilt was portrayed as an almost heroic figure. Who is he really? Maybe his character could have been developed further. The author grabbed my attention from the start to finish and I was quite pleased with the conclusion, although I did not feel that all questions were answered. The novel’s language is of a high standard which is good for extending reader vocabulary. On the other hand, this formal language can feel somewhat dated, and could be a barrier for some less confident readers. (Although I feel it’s more to do with changes in the way we speak since the 70s more than reading ability) As well as being an exciting novel, it has very high educational value as it is full of rich descriptions. Teachers should attempt it with a Yr.5&6 class and certainly with Yr.7. It would be a great shame if children missed out on this wonderful story because the language was seen as too challenging- teachers need to develop creative ways of making the book accessible to pupils who would not otherwise try reading the novel. Using it as a class novel and reading together would be the best way I feel. This is a historical fiction book, which acts as a window for this period in Wales – we see glimpses of the lives of the ordinary folk, but we also recognize that the wealthy had their share of worries too! The book was adapted into a film in 2002 which is quite rare in Welsh. I have really enjoyed reading this book again, and I will go straight on to read another book by the author. Years ago, he set the bar very high for Welsh children’s literature and few writers today have been able to emulate his success. Yes, T. Llew, you are still the king and we kneel before you! Gwasg/publisher: Gomer Cyhoeddwyd/released: 1977, 2015 Pris £5.99

  • Y Tri Mochyn Bach/The Three Little Pigs - Giuseppe Di Lernia

    *Scroll down for English* ADDASWYD/ADAPTED: NON TUDUR Genre: #chwedl #chwedlau #clasur #lluniau #dwyieithog / #fable #classic #tale #picture #bilingual Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◎◎ Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◎◎ Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎ Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎ Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎ Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎ Hiwmor/humour: ◉◉◎◎◎ Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◎◎◎ Mae chwedl ‘Y Tri Mochyn Bach’ yn adnabyddus ar draws y byd, ac yn stori fydd pob plentyn (ac oedolyn) wedi dod ar ei draws yn ystod eu plentyndod. Mae dwsinau o fersiynau o’r stori wedi cael eu cyhoeddi dros y blynyddoedd, a dyma fersiwn fresh, newydd a modern ar gyfer 2020. Dwi ddim yn mynd i’ch diflasu drwy sôn am y plot - dwi’n meddwl eich bod yn hen gyfarwydd â digwyddiadau’r stori erbyn hyn! Darluniwyd y llyfr gan Giuseppe Di Lernia, Eidalwr sy’n dda iawn am ei waith celf ddigidol. Ewch i os am weld esiamplau o’i waith. Ceir yma stori ar ei newydd wedd sy’n gyfoes ac yn syml – nid yw’r tudalennau’n rhy brysur felly mae’n haws canolbwyntio ar y stori. Bydd plant ifanc wrth eu boddau’n adrodd y llinellau enwog: “felly chwythodd a chwythodd....” - mae’r testun wedi cael ei chwyddo’n fwy yn y darnau yma i hwyluso cyd-ddarllen a chyd-adrodd. Yn bersonol, mae’n well gen i’r fersiwn clasurol lle mae’r blaidd yn ‘bwyta’r moch, ond yn ôl sôn mae’r fersiwn sydd yn y llyfr yma’n bodoli hefyd, ble mae’r moch cyntaf anffodus yn dianc rhag y blaidd. Tybed os yw’r stori wedi cael ei newid er mwyn bod yn fwy ‘PC’?! Fy marn bersonol i yw hynny’n unig achos, yn y bôn, mae’r ‘wers’ yr un fath - ac efallai yn fwy effeithiol gan fod y moch bach dal yn fyw i ddysgu’r wers bwysig honno am ddyfalbarhad ac ymdrech. Dyma yw’r brif neges, fod llafur caled y trydydd mochyn (tŷ brics) wedi talu ar ei ganfed gan iddo allu gwrthsefyll ymosodiad y blaidd. Doniol oedd gweld y moch bach yn llwyddo i dalu’r pwyth yn ôl i’r blaidd wrth iddo losgi ei ben ôl yn y crochan berwedig. Wneith o ddim meiddio mocha ‘fo’r moch bach byth eto! Roeddwn i’n hoffi’r ffaith fod un o’r moch bach yn ferch yn y fersiwn yma. Bydd maint gweddol fawr y llyfr yn golygu ei fod yn berffaith ar gyfer darllen ar y cyd fel dosbarth ac yn ideal i’r Cyfnod Sylfaen. Dwi’n meddwl fod dewis y golygydd/wasg i wneud y llyfr yn ddwyieithog (ond symud y cyfieithiad i’r cefn) yn beth doeth. Mae cael y rhan Saesneg yn y cefn yn golygu fod mwy o le ar y tudalennau a gellir canolbwyntio ar y testun Cymraeg. Efallai byddai ‘side fold-out’ yn haws os yw rhiant di-Gymraeg am gyd ddarllen gan fod fflicio’n ôl ac ymlaen at y cefn braidd yn niwsans ac o bosib yn tarfu ar rediad y darllen. Mae’r nodiadau i athrawon a rhieni yn ddefnyddiol tu hwnt fel canllaw i sbarduno trafodaeth ystyrlon gyda’ch plentyn. Byddai rhiant sy’n ddibrofiad wrth ddarllen â’u plant yn siŵr o werthfawrogi ambell broc fel hyn. The fable of 'The Three Little Pigs' is well-known across the world and is a story that every child (and adult) will have encountered at some point during their childhood. Dozens, if not more, versions of the story have been published over the years, and this is a fresh, new and modern take on the classic tale, fit for 2020. I'm not going to bore you by talking about the plot- I think we are all familiar with the events of this story! The book was illustrated by Giuseppe Di Lernia, an Italian who is very good at digital artwork. Check out his page

  • Trio ac Antur y Mileniwm - Manon Steffan Ros

    Scroll down for English Stori am TRIO, grwp o ffrindiau sy'n caru antur. Story of TRIO - an adventure-loving bunch. Genre: #ffuglen #antur #doniol / #fiction #adventure #funny Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◎◎ Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◎◎ Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎ Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎ Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎ Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎ Hiwmor/humour: ◉◉◉◉◎ Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◎◎◎ Dyfarniad/Rating: ★★★★☆ Am beth mae’r llyfr yn sôn? Dyma gyfres newydd wreiddiol a chyffrous i blant gan yr awdur profiadol, Manon Steffan Ros. Arwyr y straeon yw tri o blant, sy’n galw eu hunain yn ‘Trio,’ ac maen nhw’n defnyddio eu sgiliau i ddatrys dirgelion wrth fynd ar anturiaethau difyr. Yn ôl Manon, daeth y syniad ar gyfer y gyfres ar ôl iddi gyfieithu rhai o lyfrau Enid Blyton i’r Gymraeg (cyfresi Pump Prysur a Saith Selog). Mae blas tebyg i’r hen glasuron yma ar Trio, ond mae hon yn gyfres wreiddiol ac unigryw i Gymru. Beth sy’n wahanol - ac yn ddoniol - am y llyfrau yw bod ein harwyr anhygoel braidd yn ddi-glem, ac yn aml iawn yn gwneud smonach llwyr o bethau, gyda chanlyniadau hileriys! Yn y llyfr yma, mae’r grŵp yn mynd ar antur i Ganolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, ond nid gwyliau arferol mo hwn, o na! Mae rhywbeth od iawn ar droed yn y brifddinas wrth i’r geiriau ar flaen yr adeilad eiconig gael eu newid i rywbeth digon anffodus... Ond pwy fyddai’n gwneud y fath beth? Does gan yr heddlu ddim syniad pwy sydd ar fai, a dim llawer o ffydd yn sgiliau ditectif ein criw o ffrindiau ifanc. Efallai eu bod nhw dipyn bach yn wirion, ond drwy weithio fel tîm a gyda ’chydig bach o bwerau arbennig, dwi’n siŵr y bydd y criw yn llwyddo i ddatrys y dirgelwch mawr. Beth sy’n dda am y llyfr? Dwi’n hoffi’r enw syml ar gyfer y giang, sef ‘Trio’ a bod ganddo ystyr ddwbl. Mae o’n golygu ‘tri’ yn Eidaleg, ond hefyd yn golygu ‘ceisio’ yn Gymraeg sy’n gweddu i’r grŵp yma’n berffaith. Maen nhw’n ‘trio’ eu gorau glas ond yn aml iawn yn cael pethau’n anghywir. Clyfar iawn Manon Steffan Ros! Mae’n dda gweld fod hyd yn oed arwyr y llyfr yn gwneud camgymeriadau weithiau a dydyn nhw ddim yn berffaith bob tro. Dw i'n credu fod y ffaith eu bod nhw’n gwneud cawl o bethau weithiau’n gwneud y llyfr yn fwy doniol o lawer. Mae’r ffaith fod yr anturiaethau’n digwydd yng Nghymru yn dda hefyd achos mae’n ein dysgu am lefydd a phethau yng Nghymru fel y Ganolfan Mileniwm (dwi eisiau mynd yna fy hun rŵan i weld y tu mewn). Oedd ’na gymeriadau da? Aelodau’r gang yw Derec Dynamo, Dilys Ddyfeisgar a Clem Clyfar. Mae pob un yn gymeriadau diddorol sydd â phwerau hud unigryw. Dwi’n hoffi Derec Dynamo sy’n gryf ac yn gyflym. Mae’r ffaith ei fod o’n gwisgo trôns dros ei drowsus yn ddoniol ac roedd darllen amdano’n ceisio dringo fyny’r adeilad (heb lwyddo) yn gwneud i mi chwerthin! Mae rhai o blant eraill y dosbarth yn genfigennus o gyfeillgarwch criw Trio ac maen nhw’n dweud pethau cas ac yn herian, ond dydi hyn ddim yn eu stopio nhw o gwbl. Erbyn diwedd y stori mae pawb wedi sylweddoli eu bod nhw’n cŵl ac eisiau bod yn ffrindiau gyda nhw. Pwy fyddai’n hoffi’r llyfr yma? Mae rhai yn dweud fod y llyfr yn addas ar gyfer plant 7-9 oed (ac mae hynny’n wir!) ond dwi’n meddwl y byddai plant hŷn yn mwynhau’r stori hefyd (9-11). Dyma rai rhesymau pam: · Does ’na ddim gormod o ysgrifennu ar bob tudalen felly mae’n lot haws i’w ddarllen ac weithiau mae’n cynnwys pwyntiau bwled hefyd. · Mae’r penodau yn fyr sy’n beth braf wrth ddarllen. · Mae digon o luniau cartŵn osym Huw Aaron ar y tudalennau i wneud y stori hyd yn oed yn fwy diddorol Mi fysa’r llyfr yn grêt i blant ’chydig yn hŷn hefyd sydd yn dysgu Cymraeg, neu jest eisiau mwynhau stori ysgafn heb ormod o waith meddwl. A ddylid newid rhywbeth am y stori? Fel arfer, dwi’n gallu meddwl am un neu ddau o bethau y byswn i'n hoffi eu newid am stori, ond tro yma, ’sgen i ddim byd i'w gynnig. Roedd y llyfr yn iawn fel oedd o – gobeithio y bydd ’na lot fwy o anturiaethau! Unrhyw beth arall? Mae’r criw yn dod yn ôl at ei gilydd ar gyfer dwy antur arall: Trio ac Antur y Castell (Llyfr 2) Trio ac Antur yr Eisteddfod (Llyfr 3) Athrawon/Rhieni Mae’n wych gweld cyfres newydd wreiddiol yn y Gymraeg sy’n creu arwyr cwbl newydd ac arbennig ar gyfer plant Cymru. Fel llawer o lyfrau gan Manon Steffan Ros, mae’r ysgrifennu o safon uchel iawn gan ei bod hi’n dewis ei geiriau yn ofalus. Mae’r llyfr yn llawn geiriau ac ymadroddion Cymraeg fel ‘codi gwrychyn’ ac ‘a’i ben yn ei blu’. Am ryw reswm mi wnaeth ‘gwyneb fel torth’ wneud i mi giglo! Os edrychwch ar y llyfr ei hun, mae o’n amlwg o ansawdd uchel iawn ac mae’r lliwiau glos a mat ar y clawr yn rhoi edrychiad ‘premiwm’ i’r llyfr. Mae’r tudalennau papur glossy yn teimlo’n braf wrth ddarllen a dwi’n hapus i ddweud nad ydi’r inc o un ochr yn dangos drwodd i’r dudalen arall! Stori berffaith i'w mwynhau ar ddiwedd y dydd. CRIW TRIO! Beth sy’n wahanol am y llyfrau yma yw bod y wasg wedi creu pethau i gyd-fynd â’r llyfrau sy’n rhywbeth cyffrous iawn i blant (ac yn rhywbeth prin iawn y dyddiau yma yn y Gymraeg). Mae plant Cymru yn gallu cofrestru AM DDIM i ymuno â ‘Chriw Trio’ a derbyn pecyn croeso yn y post ymysg pethau hwyl eraill. Mae’n werth manteisio ar hwn! Trio Reading Club There’s been a lot of ‘buzz’ about these books and the publisher has just launched a secret reading book club for young fans (something quite rare in Welsh nowadays). Children are able to register FOR FREE to join the 'Trio Crew’ and they’ll get a welcome pack in the post with a load of other fun things. This is worth taking advantage of! Dyma’r linc i gofrestru: Registration link: https://atebol-siop.com/criw-trio.html?___store=cym&___from_store=eng What’s the book about? This is an original and exciting new series for children by experienced author, Manon Steffan Ros. The heroes of the stories are three children, who call themselves 'Trio' and they use their skills to solve mysteries whilst on their adventures. According to Manon, the idea for the series came after she translated some of Enid Blyton's books into Welsh (Famous Five and Secret Seven). We get a flavour of these old classics with Trio, but this time we have an original and unique book for Wales. What’s different about these books is that our amazing heroes are rather useless at what they do, and they often make a mess of things with hilarious results! In this book, the group goes on an adventure to the Millennium Centre in Cardiff, but this is not a normal holiday, oh no! Something strange is afoot in the capital city as the words on the front of the iconic building have been changed to something quite unfortunate... but who would do such a thing? The police have no idea who’s to blame, and they don’t have much faith in our group’s abilities! Maybe they are a bit silly, but by working as a team and with the help of some special powers, the gang is sure to solve the big mystery. What's good about the book? I like the name for the gang, ‘Trio,’ which has a double meaning. It means ‘three' in Italian, but also means 'trying' in Welsh - which suits this group perfectly. They 'try' their best but very often get things wrong. It's good to see that even the heroes of the book sometimes make mistakes and they're not always perfect. I think the fact that they make a mess of things sometimes makes the book funnier. The fact that the adventures take place in Wales is also good because it teaches us about places and things in Wales such as the Millennium Centre (I want to go there myself now to see inside). Were there good characters? The gang members are Derec Dynamo, Dilys Ddyfeisgar and Clem Clyfar. Each one is interesting in their own way, with unique magic powers. I like Derec Dynamo the most because he is supposed to be strong and fast. The fact that his costume consists of wearing his undies over his trousers is funny and I laughed quite a bit when he tried (unsuccessfully) to climb the building! Some of the other children of the class are jealous of Trio’s friendship and they say mean things and often tease, but this doesn’t stop our crew. By the end of the story everyone has realised how amazing they are and want to be their friends. Who would like this book? Some say the book is suitable for children aged 7-9 (and yes, this is true!) but I think older children (about 9-11) would also enjoy the story. Here are some reasons why: · Not too much writing on each page so it's a lot easier to read · The chapters are short which is better for reading/confidence building. · There are plenty of cartoon illustrations on the pages to make the story even more interesting. The book is great for older children who are learning Welsh, or anyone really who just wants to enjoy a funny, light-hearted story without too much thinking. Should something be changed about the story? Normally, I’d give my opinion on things to change, but this time, I haven't got anything to offer. The book was fine as it was – I hope there will be a lot more adventures! Anything else? The ‘Trio’ come back together for two other adventures: Trio ac Antur y Castell (Book 2) Trio ac Antur yr Eisteddfod (Book 3) Teachers/Parents It is great to see an original, new Welsh-language series that creates completely new and distinctive heroes for the children of Wales. Like many books by Manon Steffan Ros, the writing is of a very high standard as she chooses her words carefully. The book is full of Welsh words and phrases and is a good language model. If you look at the book itself, it is clearly of very high quality and the contrasting gloss and matt front cover gives the book a 'premium' look. The glossy paper pages feel satisfying to the touch and I’m pleased to report that the thick paper ensures the ink doesn’t show through to the other page! This is a perfect story to enjoy at the end of the day. Gwasg/publisher: Atebol Cyhoeddwyd/released: 2018 Pris: £6.99

  • Henriét y Syffrajét -Angharad Tomos

    *Scroll down for English* Gwasg/publisher: Gwasg Carreg Gwalch Cyhoeddwyd/released: 2018 Pris: £6.99 ADOLYGIAD GAN REBECCA ROBERTS REVIEW BY REBECCA ROBERTS Mae Rebecca yn awdur ei hun ac wedi cyhoeddi dau lyfr hyd yma, sef 'Eat. Sleep. Rage. Repeat' a 'Mudferwi'. Mae hi'n byw ym Mhrestatyn gyda'i gwr a'i phlant, ac yn ogystal ac ysgrifennu, mae hi'n gweithio fel cyfieithydd a gweinydd dyneiddiwr. Rebecca is an author herself, and has published two novels with another on the way. These are 'Eat. Sleep. Rage. Repeat' and 'Mudferwi'. She lives in Prestatyn with her husband and two children, and as well as writing, works as a translator and a humanist celebrant. “Does dim byd tebyg i gael eich parlysu gan ofn; i ofni rhywbeth mor ofnadwy fel bod eich corff wedi rhewi; a’ch traed wedi eu hoelio i’r llawr… Dwi ddim eisiau mynd ymlaen i ddweud y stori. Dwi ddim eisiau eich dychryn. Ond os na ddweda i, fyddwch chi ddim yn gwybod, ac mae’n bwysig eich bod yn gwybod.” Dyma gychwyn prolog Henriét y Syffrajét, ac un o’r penodau agoriadol mwyaf brawychus i mi ddarllen yn y Gymraeg. Mae’r agoriad, a ysgrifennwyd o safbwynt Henrièt hŷn, yn hoelio’ch sylw yn syth ac yn mynnu eich bod yn darllen ymhellach. Yn yr ail bennod awn yn ôl i 1909 i gwrdd â Henrièt yn ifanc, a’i ffrind gorau Gladys. Cawn gipolwg ar fywyd dwy ferch ifanc yn byw yng Nghaernarfon yn nyddiau cynnar yr ugeinfed ganrif - bywyd eithaf rhwystredig a chul i ddwy ferch alluog, ac yn wir, i ferched yn gyffredinol. Er bod gan Henrièt rhieni eithaf llewyrchus a maldodus sy’n rhoi iddi’r rhyddid i holi ac addysgu ac archwilio, nid yw hyn yn wir am nifer fawr o’r merched o’i chwmpas. Yn rhan gyntaf y nofel cawn enghreifftiau o sut mae merched o bob oed yn dioddef o ganlyniad i anghydraddoldeb ac annhegwch a rhagrith y cyfnod. Yn fuan yn y stori mae Gladys ac Henriét yn dechrau ymwneud â mudiad y swffragwyr, ac mae plot yn nofel yn dilyn hynt a helynt y ffrindiau wrth iddyn nhw ddod yn rhan o’r ymgyrch i ennill y bleidlais i ferched, ac i orchfygu’r annhegwch a welir ym mhenodau gyntaf y nofel. Er mai cymeriadau dychmygol yw Henriét a Gladys, cawn gwrdd â’r merched go iawn fu’n gyfrifol am ennill y bleidlais i ferched, fel Emily Pankhurst, yn ogystal â’r rhai fu’n ei gwrthwynebu (David Lloyd George!) a dysgu mwy am yr ymgyrch a’r frwydr o safbwynt Cymraeg. Y tro gyntaf i mi glywed y gair suffragette oedd wrth wylio Mary Poppins. Does gen i ddim atgof o ddysgu am y pwnc yn yr ysgol, a heblaw am bwt yn y Dorling Kindersley Children’s Encyclopedia, ychydig iawn o wybodaeth oedd ar gael i mi’n ifanc am y frwydr i gael y bleidlais i ferched. Mawr rwy'n gobeithio bod y sefyllfa wedi newid erbyn heddiw, ond yn ifanc, ychydig iawn o wybodaeth oedd ar gael i mi ynglŷn ag ymgyrch fu mor allweddol i ferched Prydeinig. Llwyddiant mawr Angharad Tomos yw ysgrifennu nofel sy’n cynnwys gymaint o wybodaeth ffeithiol am weithgarwch y swffragwyr, ond sydd hefyd yn chwip o nofel ddarllenadwy. Mae gwaith ymchwil trylwyr yr awdur yn amlwg ar bob tudalen, ac mae ganddi hefyd y ddawn o gyfleu gwybodaeth wleidyddol cymhleth mewn ffordd bydd yn eglur ac yn ddealladwy i bobl yn eu harddegau neu bobl sydd heb ddarllen llawer ar y pwnc. Mae’n nofel uchelgeisiol sy’n cwmpasu ystod eang o themâu a digwyddiadau niferus dros gyfnod estynedig o amser. Yn bersonol, doeddwn i ddim yn gweld bod y lluniau yn ychwanegu rhyw lawer at y profiad o ddarllen y llyfr, a’r un peth yn wir am newid safbwynt y naratif o’r person cyntaf i’r trydydd person ac yn ôl. Yn fy marn i, darnau mwyaf pwerus y nofel oedd y rhai a adroddwyd gan Henrièt ei hun, a byddwn wedi hoffi rhagor o’r rhain, neu’n well fyth, nofel gyfan o’i safbwynt hi. Ond mân gwynion yw’r rhain, ac yn bendant ddim yn rheswm i beidio â phrynu copi i’r ferch ifanc yn dy fywyd. A dyma fi’n dod at broblem fwyaf y nofel. Gyda dwy ferch yn brif gymeriadau’r nofel rhagwelaf at ferched bydd yn apelio’n bennaf - sy’n bechod, achos mae’r stori yn berthnasol i bawb, ac yn parhau’n bwysig hyd heddiw; nid yn unig am ei bod yn addysgu am frwydr ein cyn-neiniau i gymryd cam yn agosach at gydraddoldeb, ond hefyd am ei bod yn pwysleisio bod gan bobl ifanc rôl bwysig i chwarae wrth newid y byd am y gorau. Felly na, peidiwch â phrynu copi i’ch merched yn unig - prynwch hi i’ch meibion hefyd. Athrawon - cyflwynwch y nofel i’ch dosbarthiadau. Mae hanes Henrièt a Gladys yn perthyn ac yn berthnasol i bawb! “Does dim byd tebyg i gael eich parlysu gan ofn; i ofni rhywbeth mor ofnadwy fel bod eich corff wedi rhewi; a’ch traed wedi eu hoelio i’r llawr… Dwi ddim eisiau mynd ymlaen i ddweud y stori. Dwi ddim eisiau eich dychryn. Ond os na ddweda i, fyddwch chi ddim yn gwybod, ac mae’n bwysig eich bod yn gwybod.” This is the beginning of the prologue of Henriét y Syffrajét, and one of the most frightening opening chapters that I’ve read in Welsh. The opening, written from the perspective of an older Henriét, immediately focuses your attention and demands further reading. In the second chapter we go back to 1909 to meet a young Henriét, and her best friend Gladys. We get a glimpse of the lives of two young girls living in Caernarfon in the early twentieth century- a pretty frustrating and limiting life for two able girls, and, indeed, females in general. Whilst Henriét has quite prosperous parents who give her the freedom to question, learn and explore, this is not the case for a large number of women. In the first part of the novel we have examples of how girls of all ages suffer as a result of inequality and hypocrisy of the period. Soon, Gladys and Henriét begin to get involved with the suffragettes' movement, and the plot of the novel follows their adventures as they become part of the campaign to win the women's vote, and to defeat the unfairness seen in the first chapters. Although Henriét and Gladys are fictional characters, we are introduced to real historical girls who have been responsible for winning the vote for girls, such as Emily Pankhurst, as well as those who have opposed her (David Lloyd George!) and learn more about the campaign from a Welsh perspective. The first time I heard the word Suffragette was whilst watching Mary Poppins. I don't have a recollection of learning about the subject at school, other than a bit in the Dorling Kindersley Children's Encyclopedia, so there was very little information for me back then about the fight to win the vote for women. I hope that the situation has changed by today, but at a young age, there was very little information available to me about a campaign that was so crucial to British girls. Angharad Tomos’s great success is in writing a novel that contains so much factual information about the activities of the suffragettes, but also a highly readable and compelling novel. The author's thorough research is evident on every page, and she has the aptitude for conveying complex political information in a way that will be clear and understandable to teenagers or people who have not read a lot on the subject. It is an ambitious novel covering a wide range of themes and events over an extended period of time. Personally, I didn't think the pictures added much to the experience of reading the book, and the same applies to changing the narrative's viewpoint from the first person to the third person and back. In my opinion, the most powerful bits of the novel were those narrated by Henriét herself, and I would have liked more of these, or better still, a complete novel from her point of view. But these are minor complaints, and definitely not a reason not to buy a copy for the young women in your lives. And now I’m coming to the novel's biggest problem. With two girls being the main characters of the novel I anticipate this novel will mainly appeal to girls-which is a shame, because the story is relevant to everyone, and remains important to this day; Not only because it teaches us about the struggle of those who came before us to take a step closer to equality, but also because it emphasises that young people have an important role to play in changing the world for the best. So no, don't just buy a copy for your daughters- buy it for your sons as well. Teachers- introduce the novel to your classes. The history of Henrièt and Gladys belongs to and applies to us all! PODCAST Mae Angharad yn cael cwmni Lleucu a Elliw i drafod nofel newydd Angharad Tomos, Henriet y Syffrajet. https://www.listennotes.com/podcasts/ar-y-silff/005-trafodaeth-henriet-y-Ux6Tiq3-PSr/

© 2019 Sônamlyfra. Proudly created with Wix.com.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon

Menter gwirfoddol yw Sôn am Lyfra sy’n darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i sgyrsiau a thrafodaethau am lyfrau. Rydym yn gweithredu’n gwbl annibynnol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.  Bydd eich rhodd yn help i ni gynnal y gwasanaeth.

 

Sôn am Lyfra is a voluntary venture that provides bilingual reviews for Welsh children and young people’s books. It shall also be a platform for conversations and discussions about books. We operate totally independently and we appreciate any donations that help us to achieve our goals. Your kindness will help us maintain the Service.

bottom of page