top of page

Dirgelwch yr Ogof - T. Llew Jones

*Scroll down for English*


Mae 'na gyfrinach dywyll yng Nghwmtydu...

There are some dark secrets in Cwmtydu...


♥ Llyfr y Mis: Medi 2009 ♥

♥Book of the Month: September 2009♥


Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◉

Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◎◎◎

Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◉◉◎◎◎

Trais, ofn/violence, scary: ◉◉◉◎◎

Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎

Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎

Hiwmor/humour: ◎◎◎◎◎

Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◉◉◉

 

Dydw i ddim yn gwybod os ydi hyn yn wir am y byd llyfrau Saesneg, ond dwi’n teimlo ein bod ni yng Nghymru wastad yn chwilio am y ‘big thing’ nesaf ym myd llyfrau plant ac yn llowcio teitlau newydd. I fod yn glir, nid lladd ar gyhoeddiadau newydd gwreiddiol ydw i - achos wrth gwrs fod angen teitlau fresh, newydd i ddenu darllenwyr y genhedlaeth nesaf. Ond, dwi yn teimlo ein bod ni weithiau yn anghofio’n rhy sydyn am y llyfrau da sydd wedi cael eu cyhoeddi’n barod. Mae ’na lyfrau gwych a gafodd eu cyhoeddi rhyw dair neu bedair blynedd yn ôl, sydd bellach yn angof neu sy’n cael fawr ddim sylw. A beth am y clasuron? Efallai fod hen lyfrau yn dyddio, ond ydi hyn yn rheswm digonol dros beidio eu darllen?


Mae’n debyg fod nifer o resymau pam fod llyfrau’n tueddu i gael eu hanghofio yng Nghymru, ac mae arian – neu ddiffyg arian – yn siŵr o fod yn un rheswm (fodd bynnag, stori arall ydi honno). Yn y cyfamser, y gobaith yw y bydd ‘Adolygiadau o’r Archif’ yn taflu goleuni ar ambell drysor sy’n cuddio ar eich silffoedd.


***



Heb amheuaeth, T. Llew Jones yw Brenin Llenyddiaeth Plant Cymru ac ar ôl cyhoeddi cymaint o lyfrau gwych - does fawr o syndod. Beth sy’n syndod yw fy mod i wedi anghofio sawl un a heb ddarllen rhai o gwbl! Un peth da am lockdown yw cael y cyfle i ailddarganfod ambell un. Penderfynais ailgydio yn Dirgelwch yr Ogof, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1977, er mwyn gweld a oedd y llyfr yn ‘dal dŵr’ yn 2020.

Waw. Am nofel gyffrous o’r cychwyn i’r diwedd! Hanes smyglwyr pentref arfordirol Cwmtydu yn yr 18fed ganrif a geir yn y nofel hon, a dilynwn hanes un smyglwr yn benodol, sef ‘Siôn Cwilt’. Dyma ffigwr dirgel a chyfrwys sy’n cuddio ei hunaniaeth gyda chlogyn unigryw. Fo oedd ‘Han Solo’ ei ddydd! Bydd darllenwyr ar bigau’r drain eisiau gwybod mwy am y ffigwr tywyll yma.


Yn fuan iawn, fe gawn ein cyflwyno i Watcyn Parri a’i fab, bonheddwyr sy’n berchen ar stad a phlasty’r Glasgoed. Nid yw’r gŵr bonheddig fel tirfeddianwyr eraill; mae’n ddyn caredig iawn gyda phobl y plwyf. Efallai ei fod mymryn yn rhy hael a dweud y gwir! Yn anffodus i’r hen ddyn, fe chwalwyd ei longau dramor, ac mae ei fuddsoddiadau a’i gyfoeth yn eistedd ar waelod y môr bellach. Mae’r rhain yn golledion enfawr i’r busnes ac mae dyfodol y stad yn y fantol. Bydd rhaid i’r hen ŵr glirio ei ddyledion neu bydd y plas yn syrthio i ddwylo rhywun estron.



Yn y cyfamser, mae Bart Thomson, ecseisman (swyddog y gyfraith oedd yn casglu trethi a sicrhau ufudd-dod) wedi dod i’r ardal i roi terfyn ar y broblem smyglo fawr sy’n rhoi enw drwg i’r lle. Yn fuan ar ôl cyrraedd, sylweddolai’r swyddog fod y broblem yn llawer mwy nag ambell i smyglwr, a bod pobl yr ardal i gyd yn cadw’r gyfrinach! Fe fyddech chi’n synnu i glywed am rai o bobl ‘barchus’ y plwyf sydd ynghlwm â’r hen fusnes smyglo ’ma! Wrth wneud ei ymholiadau, daw’r ecseismon ar draws rhwystr ar ôl rhwystr ac fe’i gwelwn yn troi at ddulliau mwy eithafol a chreadigol o geisio dal y smyglwyr.


Brwydr rhwng dau elyn yw prif naratif y stori (y gyfraith yn erbyn y troseddwyr) ac mae Bart Thompson yn obsessed gyda hela ac erlid Siôn Cwilt- ond mae hwnnw un cam o’i flaen bob tro! Er mai’r smyglo yw’r brif stori, mae’r awdur yn llwyddo i blethu sawl is-naratif i mewn yn llwyddiannus iawn. Er enghraifft, mae stori gariad gyffrous sy’n llawn troeon ‘will they/won’t they,’ cenfigen a brad. Cawn hefyd ogwydd arallfydol neu ysbrydol i’r stori gyda’r lleisiau dirgel… Pwy neu beth sy’n gyfrifol am y lleisiau rhyfedd yn nüwch yr ogof tybed?!



Fy hoff beth am y nofel yw sut mae T. Llew Jones yn troi’r syniad o ‘good guy’ a ‘bad guy’ ar ei ben yn llwyr. Fe ddylem ochri gyda swyddog y gyfraith, a bod yn feirniadol iawn o Siôn Cwilt a’i griw, ond o’r cychwyn, roedd yn gas gen i'r ecseismon ac roeddwn i wrth fy modd yn gweld y smyglwyr yn ei drechu bob tro. Bron fel ‘Robin Hood’ - roedd Siôn Cwilt yn ffigwr arwrol oedd yn helpu’r bobl dlawd ac yn ceisio gwneud bywyd yn well. Pan fydd Siôn Cwilt mewn perygl o gael ei ddal - fydd y bobl yn cofio am ei aberth ac yn cadw’n dawel? Pwy ydi o? Beth yw ei enw go iawn?


Llwyddodd yr awdur i hoelio fy sylw o’r cychwyn hyd at y dudalen olaf ac roeddwn i’n bles iawn efo’r diweddglo, er na chefais ateb i bob cwestiwn. Mae iaith y nofel yn safonol iawn ac yn raenus sy’n fodd o ymestyn geirfa. Ar y llaw arall, gall yr iaith ffurfiol yma gael ei gweld yn hen ffasiwn braidd erbyn hyn, a gall fod yn rwystr i rai darllenwyr nad ydynt mor hyderus ac eraill. Yn ogystal â bod yn nofel hynod o gyffrous, mae iddi werth addysgiadol uchel iawn gan ei bod yn llawn disgrifiadau cyfoethog. Yn sicr, dylai athrawon roi cynnig arni gyda dosbarth B.5/6 neu Bl.7. Mi fysa’n bechod mawr petai plentyn yn methu allan ar y stori wych yma am fod yr iaith o bosib yn rhy heriol - mae angen i athrawon ddatblygu ffyrdd creadigol o gyflwyno’r llyfr i ddisgyblion fyddai ddim fel arall yn mentro darllen y nofel. Darllen ar y cyd fel nofel ddosbarth yw’r ffordd orau o wneud hyn.


Llyfr ffuglen hanesyddol yw hwn, sy’n ffenest i'r y cyfnod hwn yng Nghymru - cawn weld bywyd y bobl gyffredin, ond fe sylweddolwn hefyd nad oedd hi’n fêl i gyd ar y bonheddwyr chwaith! Cafodd y llyfr ei addasu yn ffilm yn 2002 sydd hefyd yn arwydd o’i lwyddiant a’i botensial -tydi hyn ddim yn digwydd yn aml yn y Gymraeg!


Dwi wir wedi mwynhau darllen y llyfr yma eto, a byddaf yn mynd syth ymlaen i ddarllen llyfr arall gan yr awdur. Flynyddoedd yn ôl, gosododd yr awdur ‘y bar’ yn uchel iawn ar gyfer llenyddiaeth Gymraeg i blant, ac nid oes llawer o awduron heddiw sy’n gallu efelychu'r hyn a gyflawnodd. T Llew, chi yw'r brenin! Moesymgrymwn ger eich bron!


 

I don't know if this is true of English-language books, but I feel that in Wales we are always gobbling up new titles and looking for the next 'big thing' in children's books. To be clear, I am not ‘having a dig’ at original new publications - of course we need fresh, new titles to attract the next generation readers. However, I feel that at times we quickly forget about the good books that have already been published. There are some wonderful books that were published perhaps three or four years ago, which are now forgotten or get little or no attention. And that’s before we even get to the proper classics. Old books can sometimes seem to be dated and slightly old-fashioned, but they must be viewed and valued as a product of their time. Is the fact that they are a bit old a good enough reason not to bother with them?


There are probably a number of reasons why books tend to be forgotten in Wales, but money – or lack thereof – is bound to be one big reason (possibly political and a debate for another day!) Meanwhile, I hope that Sôn am Lyfra’s 'From the Archives’ reviews series will cast a light once again on some dusty treasures hiding on the bookshelf.


***


Without a doubt, T. Llew Jones is the king of Children's literature of Wales and after writing so many great books – that’s hardly surprising. What is surprising, however, is that I have forgotten several of them and not read many at all! One good thing about lockdown is having the time to re-discover a few. I decided to start with Dirgelwch yr Ogof [Mystery of the Cave], first published in 1977, in order to see if the book was still viable in 2020.



Wow! What an exciting novel from start to finish about the history of the smugglers of Cwmtydu in the 18th century. We follow the escapades of one smuggler in particular, Siôn Cwilt. This mysterious figure hides his identity with a pseudonym and a strange cape. He was like the Han Solo of his day! Readers will want to know more about this dark figure.


Very early on we are introduced to Watcyn Parri and his son, the who own the Glasgoed estate and manor. This wealthy gentleman is not like other landowners; he is a very kind man, especially with the peasants who live on his lands. Perhaps he’s a little too generous for his own good. Sadly for the old man, all his ships have been lost at sea abroad, and his investments are now sitting at the bottom of the sea. These are huge losses for the business and the future of the estate is at stake. The old man will have to clear his debts or the house and lands will be taken off them.


Meanwhile, Bart Thomson, an exciseman (an officer of the law who collects taxes on imports and ensures compliance) has come to the area to put an end to the great smuggling problem that blights the area. Shortly after arriving, the officer realizes that the problem is much more than a few smugglers, and soon discovers that the whole village is keeping a dark secret! Whilst making his enquiries, the exciseman is blocked at every turn and this sees him turn to more radical and creative methods to try and catch the smugglers red handed.



A battle between two enemies forms the main narrative (the strong arm of the law against the criminals) and Bart Thompson becomes obsessed with hunting down the smuggling ringleader, Siôn Cwilt – who’s one step ahead of him every time! Although smuggling forms the main story, the author manages to weave several sub-narratives successfully. For example, we get an exciting love story which is full of 'will they/won’t they’ moments, envy and betrayal. We also get a paranormal dimension to the story with the strange and creepy voices in the caves.


My favourite thing about the novel is how T. Llew Jones turns the idea of good guys and bad guys on his head. We should side with the law-abiding officer, and be very critical of Siôn Cwilt and his crew, but from the start, I disliked the exciseman loved it when the smugglers outsmarted him. Almost like a Robin Hood-type figure, Siôn Cwilt was portrayed as an almost heroic figure. Who is he really? Maybe his character could have been developed further.


The author grabbed my attention from the start to finish and I was quite pleased with the conclusion, although I did not feel that all questions were answered. The novel’s language is of a high standard which is good for extending reader vocabulary. On the other hand, this formal language can feel somewhat dated, and could be a barrier for some less confident readers. (Although I feel it’s more to do with changes in the way we speak since the 70s more than reading ability) As well as being an exciting novel, it has very high educational value as it is full of rich descriptions. Teachers should attempt it with a Yr.5&6 class and certainly with Yr.7. It would be a great shame if children missed out on this wonderful story because the language was seen as too challenging- teachers need to develop creative ways of making the book accessible to pupils who would not otherwise try reading the novel. Using it as a class novel and reading together would be the best way I feel.


This is a historical fiction book, which acts as a window for this period in Wales – we see glimpses of the lives of the ordinary folk, but we also recognize that the wealthy had their share of worries too! The book was adapted into a film in 2002 which is quite rare in Welsh.


I have really enjoyed reading this book again, and I will go straight on to read another book by the author. Years ago, he set the bar very high for Welsh children’s literature and few writers today have been able to emulate his success. Yes, T. Llew, you are still the king and we kneel before you!

 

Gwasg/publisher: Gomer

Cyhoeddwyd/released: 1977, 2015

Pris £5.99

 

106 views0 comments
bottom of page