top of page

Betty - Bywyd Penderfynol Betty Campbell - Nia Morais

Updated: Mar 26

Llyfr y Mis i Blant: Tachwedd 2023



 

(awgrym) oed diddordeb: 7-11

(awgrym) oed darllen: 7+


Disgrifiad Gwales:

Cyfrol yng nghyfres 'Enwogion o Fri' am gyfraniad pwysig Betty Campbell - prifathrawes groenddu gyntaf Cymru - i'n hanes fel cenedl. Pwrpas y gyfres yw goleuo plant Cymru am gyfraniad unigolion o Gymru i'n diwylliant, a hynny mewn nifer o feysydd amrywiol.



 

Adolygiad Gwales - gan Delyth Roberts


Cyfrol newydd yn y gyfres boblogaidd Enwogion o Fri ydi Betty: Bywyd Penderfynol Betty Campbell gan Nia Morais, Bardd Plant Cymru, a'r lluniau gan Anastasia Magloire.


Yr hyn a gawn ydi hanes bywyd prifathrawes ddu gyntaf Cymru, a’i huchelgais a’i brwydr i oresgyn rhagfarn a gwrthwynebiad oherwydd lliw ei chroen. Tyfodd Betty Campbell i fod yn symbol cryf o unigolyn ysbrydoledig a di-ildio wrth ymgyrraedd at ei nod. Arlunydd sy’n byw ac yn gweithio yn Florida ydi Anastasia Magloire. Ceir yma briodas dda rhwng gair a delwedd, a nodir enwau arwyr eraill yn eu dewis feysydd ar y tudalennau sy’n dathlu sefydlu mis Hydref fel mis Hanes Pobl Dduon. Mae’n debyg mai’n fwriadol yr hepgorir enwi’r Brenin Siarl a Nelson Mandela ar y tudalennau blaenorol.


Mae’r ysgrifennu’n syml ac effeithiol, ac fel Bardd Plant Cymru mae Nia Morais ei hun am annog plant i feithrin eu hannibyniaeth a’u hunaniaeth unigryw gan ddatblygu eu lleisiau personol a phwerus eu hunain fel y gwnaeth Betty Campbell o’u blaenau.


Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.



 

Adolygiad sydyn Sôn am Lyfra


Fel 'da chi'n gwybod, 'da ni'n ffans mawr o'r gyfres yma yn Sôn am Lyfra, a dwi'n meddwl fod y llyfrau yn boblogaidd iawn ar hyd a lled Cymru, boed hynny’n fersiwn Gymraeg neu Saesneg. Dwi wedi eu gweld mewn cartrefi ac mewn ysgolion. Mae nhw'n adnoddau addysgol ardderchog a defnyddiol, yn enwedig yng nghyd-destun Cwricwlwm Newydd i Gymru.


Mae bywyd ‘Betty’ yn un rhyfeddol. Dwi mor falch fod 'na gydnabyddiaeth iddi yma yng Nghymru - ar ffurf cerflun – ac yn y llyfr yma erbyn hyn! Yn ôl sôn, y cerflun newydd ohoni  yng Nghaerdydd yw'r un cyntaf o ferch go-iawn mewn man cyhoeddus yng Nghymru. Arbennig. (Ond hefyd gwarthus i ryw raddau fod ‘na ddim mwy ohonyn nhw!)



Mae steil cartŵn/comic y llyfr yn fodern, yn lliwgar ac yn drawiadol iawn. Mae’n sefyll allan ac yn creu argraff, efallai yn fwy nac unrhyw un o’r llyfrau eraill yn y gyfres. Roedd Betty yn unigolyn hynod iawn, ac felly mae’n addas iawn fod gwedd y llyfr yn adlewyrchu hynny.


Dwi’n cofio clywed hanes Rosa Parks pan oeddwn yn yr ysgol gynradd, ond dwi’n meddwl fod angen i ni sôn wrth ein plant am Betty Campbell, oedd yn benderfynol o beidio gadael i ddim byd ei rhwystro rhag llwyddo. Dim hyd yn oed athrawon cas! Mae ei stori yn rhoi neges bwerus iawn dwi’n meddwl.


Bydd y llyfr yma’n addas iawn ar gyfer gwasanaeth boreol yn yr ysgol, fel rhan o waith sy’n edrych ar hanes pobl Dduon yng Nghymru. Yndi, mae’n adnodd defnyddiol iawn, ond mae hefyd yn gwneud anrheg neis i blentyn rhwng 7-9+ oed.


Mae’r gyfres yma’n mynd o nerth i nerth. Edrych ymlaen i weld pwy fydd o dan y sbotolau nesaf.


 

Cyhoeddwr: Broga

Cyhoeddwyd: 2023

Cyfres: Enwogion o Fri

Fformat: clawr meddal

Pris: £5.99

 

MWY AM BETTY:



bottom of page