top of page

Secs ac Ati - Y Stori'n Llawn - Laurie Nunn [addas. Llio Maddocks]



(awgrym) oed diddordeb: 13-18

(agwrym) oed darllen: 13+

Canllaw oed: 14+ (medd y cyhoeddwr)


Gwales:

Y llyfr sy'n dod â'r stori'n llawn ac yn creu gofod saff i drafod sut i fyw efo rhyw. Secs - Cyngor am ddim! Cwestiynau am dy gorff? Emosiynau newydd yn dy ddrysu? Neu boeni bod hyn ddim yn normal? Wel, dwyt ti ddim ar ben dy hun! Mae Otis, Maeve a'u ffrindiau yn gwybod bod mwy i'w ddysgu am BOB agwedd o gariad. A'r canlyniad? Canllaw gonest, cynhwysol, a llawn ffeithiau am secs!

 

ADOLYGIAD GAN LLIO MAI


Gyda chyfres olaf un y rhaglen Sex Education newydd gael ei ryddhau fis yma, a finnau wedi binge wylio’r bedwaredd gyfres yn barod mewn mater o ddyddiau, dyma’r cyfle perffaith i drafod y gyfrol Secs ac ati.


Yn ei rhagair i’r gyfrol mae Laurie Nunn - crëwr y rhaglen - yn nodi ei bod am i’r gyfres fod yn ‘fyd i bobl ifanc’ ac yn le i roi ‘cymorth i bawb sydd wedi cael gwersi Addysg Rhyw ddiflas a diffygiol yn yr ysgol.’

Efallai nad ydw i’r union target audience ar gyfer y gyfrol yma, a finna bellach yn fy nhridegau a newydd ddod yn fam, ond dw i yn teimlo fod y gwersi addysg rhyw ges i yn yr ysgol yn sicr yn gadael llawer o le i wella!


Mi fyddai llyfr fel hwn wedi bod yn grêt, a dw i’n credu y bydd yn grêt i unrhyw un, yn enwedig unrhyw berson ifanc, wrth geisio dysgu mwy am berthnasau, secs, rhywioldeb, y corff, iechyd meddwl, heintiau, safe sex a llawer mwy.



Yn gyntaf, mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n falch o weld bod cymaint o bynciau cysylltiedig â pherthnasau a secs yn cael eu trafod yma. Oes, mae yna lot o wybodaeth, ond mae’r gyfrol yn llawn lliw, lluniau, a chyfeiriadau at gymeriadau’r rhaglen deledu, ac o’r herwydd, mae’n hawdd iawn i’w ddarllen. Mae’r gyfrol hefyd wedi’i hysgrifennu mewn Cymraeg clir sy’n hawdd i’w ddeall, ac wedi llwyddo i osgoi defnyddio gormod ar dermau a geiriau dieithr.


Prin iawn iawn ydi’r llyfrau Cymraeg sydd ar gael sy’n trafod secs mewn modd mor agos atoch chi. Cymraeg yw iaith y nefoedd, ond nes i ’rioed deimlo ei bod hi’n iaith yr o’n i’n gallu ei defnyddio’n hawdd i siarad am secs. Mae rhai geiriau Cymraeg a’r cyfieithiadau o rai o’r termau yn gallu swnio’n drwsgl, yn od ac yn annaturiol. Llio Maddocks oedd y person perffaith i gyfieithu’r llyfr, ac mae hi wedi gwneud joban dda a gofalus wrth wneud, gan osgoi termau hen ffasiwn neu cringe. Yn ogystal â rhoi lot o wybodaeth ddefnyddiol i ni, mae'r gyfrol hon hefyd yn rhoi’r eirfa inni drafod secs yn llawer mwy naturiol yn y Gymraeg, yn fy marn i.



Pan oeddwn i yn yr ysgol, doedd y gwersi sex ed ddim yn grêt i fod yn onest. Mae gen i ryw gof o weld fideo gwyddonol am y broses atgenhedlu ym mlwyddyn 6. Rhai blynyddoedd wedyn yn yr ysgol uwchradd dw i’n siŵr y gwnaeth yr athrawes demonstratio sut i roi condom ymlaen gan ddefnyddio banana. Dw i’m yn cofio llawer mwy na hynny. Doedd yna ddim digon o wybodaeth i ni ar y pryd ac roedd y wybodaeth a gawsom yn reit arwynebol. Lle’r oedd y sgyrsiau am rywedd, hunaniaeth, hunan ddelwedd, cydsyniad, perthnasau iach a phethau felly? Er bod yna wastad le i wella, dw i’n falch o weld fod pethau’n wahanol erbyn heddiw. Mae pobl ifanc yn fwy parod i drafod materion yn ymwneud â rhyw yn agored, ac mae’n ymddangos eu bod nhw’n fwy informed ar y cyfan. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio addysg rhyw, ac mae bellach yn cynnwys addysg am berthnasau iach.


Pwnc arall dw i'n falch o'i weld yn cael sylw yn y gyfrol ydi secstio a rhyw yn y byd ar-lein. Mae'n hynod bwysig fod pobl ifanc yn gwybod sut i gadw'n saff ar-lein a'u bod nhw'n gwybod ei bod hi bellach yn anghyfreithlon i rannu unrhyw luniau noeth neu rywiol o rywun heb eu caniatâd.



Os ydach chi’n ffans o Sex Education (sydd wedi bod yn gyfres hynod o boblogaidd), ac yn dal yn yr ysgol, dw i’n meddwl wnewch chi werthfawrogi’r llyfr yma, sy’n cadw tôn ysgafn a doniol y gyfres wrth daclo’r pynciau mae pobl ifanc yn teimlo yn rhy embarassed i siarad gyda’u rhieni amdanynt!


Fy unig bryder yw, pan mae llyfrau yn cyd-fynd â chyfresi teledu, mae yna dueddiad i’r byd symud ymlaen yn sydyn a buan iawn mae pethau’n colli eu hapêl. Tybed fydd pobl ifanc ymhen deg mlynedd yn dal i sôn am Sex Education? Pwy a ŵyr? Ydi, mae cysylltiadau â chyfresi teledu poblogaidd yn helpu i ‘shifftio’ llyfrau, ond fy mhryder i yw ei fod ar yr un pryd yn ‘dyddio’r’ llyfr cyn ei amser. Tybiaf i’r llyfr gael ei ‘sgwennu rhwng y gyfres gyntaf a’r ail, sy’n golygu fod nifer o’r cymeriadau newydd ar goll. Byddai’n drueni petai’r llyfr ddim yn cael ei brynu, achos mae o wir yn werth ei ddarllen.




Mae Rily wedi ychwanegu darn yn y cefn sydd ddim ond yn y fersiwn Gymraeg- am ffilmio'r gyfres yma yng Nghymru!

 

Cyhoeddwr: Rily

Cyhoeddwyd: 2022

Fformat: Clawr meddal

Pris: £12.99

 

Mae'r tŷ wnaeth serennu yn y gyfres ar werth! Sgynoch chi filiwn neu ddau yn sbâr?



Recent Posts

See All
bottom of page