top of page

Fi ydy fi - Sian Eirian Lewis



(awgrym) oed darllen: 8+

(awgrym) oed diddordeb: 8-15


Disgrifiad Gwales:

Llyfr gwybodaeth i ferched 8+ oed am dyfu i fyny. Bydd pob pennod yn trafod agwedd benodol o’r profiad o dyfu i fyny, yn cynnwys: Pam mae fy nghorff yn aeddfedu?, Hormonau, Bronnau, Blew, Chwysu, Croen, Mislif, Deall fy emosiynau, Fy Nghorff, Ffrindiau. Mae'r testun wedi'i gymeradwyo gan arbenigwyr.


 

Elin Fflur yn cyfweld â'r awdur. Pnawn Da, S4C




 

Dwi wedi adolygu ambell lyfr am dyfu i fyny / corff dynol yn ddiweddar, gan gynnwys Secs ac ati, Dysgu am Dyfu a Ti a dy gorff. Roedd pob un o’r rhain yn llyfrau ardderchog, ond un peth sy’n gyffredin rhyngddynt yw mai addasiadau o lyfrau Saesneg ydyn nhw. Am y tro cyntaf, dyma lyfr gwreiddiol Cymraeg i ferched yn sôn am dyfu i fyny.  Dwi ddim yn dweud bod unrhyw beth o’i le ag addasiadau, ond mae’n hen bryd i ni ddechrau buddsoddi mwy mewn llyfrau ffeithiol gwreiddiol. Ond pam fod ‘na cyn lleied ohonyn nhw sgwn i? Wel dywedodd rhywun (yn y diwydiant) wrtha i fod hyn i wneud hefo’r ffaith fod ‘na gymaint o waith ymchwil/darlunio angen ei wneud, a bod hyn yn gwneud y gost o’u cynhyrchu yn uchel. Wel, mae’r Lolfa wedi penderfynu buddsoddi a dwi’n meddwl fod yr end result yn llwyddiannus iawn.


Reit. Dwi’n gwneud disclaimer rŵan. Roedd Llio (y wraig) i fod i adolygu’r llyfr yma, ond mae hi’n rhy brysur fis yma i wneud. Felly fi, dyn 33 oed, sy’n adolygu’r llyfr  - dim cweit y target audience dwi’n cydnabod, ond mi oedd yn interesting read beth bynnag. O bosib, mae hynny’n profi nid dim ond llyfr i ferched ydi hwn - byddai bechgyn yn elwa o’i ddarllen a thrio deall yr hyn mae merched yn mynd drwyddo yn ystod y glasoed.

Pan ‘da chi’n meddwl am y pwnc o dyfu fyny, yn aml iawn rydych chi’n cael atgofion o sgyrsiau awkward hefo rhieni neu wersi sex ed diflas yn yr ysgol. Mae’n gallu bod yn bwnc sensitif a dwi’n cydnabod fod o’n gallu bod yn anodd i drafod hefo oedolion. Mae gwersi ysgol yn gallu rhoi dipyn o drosolwg, ond dydyn nhw jest ddim yn debygol o allu ateb yr holl gwestiynau. Dyna pam dwi’n meddwl fod llyfrau fel hyn MOR bwysig. Bydd rhai yn teimlo’n llawer mwy cyfforddus darllen llyfr fel hyn ‘na gofyn cwestiynau o flaen grŵp o bobl. Yn sicr tydw i ddim yn cytuno efo’r syniad o weld y pwnc fel un embarassing ac un i’w osgoi, ac felly dwi’n annog sgyrsiau agored am y pwnc, a dechrau rheiny mor fuan ag sy’n bosib (gan sicrhau fod hyn yn briodol, wrth gwrs).



Mae genethod yn gallu dechrau profi newidiadau yn ystod y glasoed yn gynt na bechgyn, a phan mae rhywbeth fel y mislif yn dod yn annisgwyl, mae'n gallu achosi dryswch a phryder. Dwi’n falch felly fod y llyfr

yn cael ei argymell i blant 8+ - mae’n bwysig fod pobl ifanc yn aros yn informed am bethau ac yn gwybod pa newidiadau sydd ar y gweill. Os ‘da chi efo ryw syniad o beth i ddisgwyl, mae hyn yn gallu helpu i leihau unrhyw stress sy’n gysylltiedig. (btw - mae tyfu fyny dal am fod yn stressful, ond mae gwybod be ‘di be yn siŵr o fod yn help!) Yn aml iawn mae plant yn clywed pethau ar yr iard sy’n hollol anghywir, felly un rôl bwysig sydd gan lyfrau fel hyn yw cael gwared â’r misconceptions a’r myths sy’n codi o amgylch y pwnc.

Os oeddech chi yn yr ysgol ers talwm, roedd gwersi ‘addysg rhyw’ fel y galwyd bryd hynny yn cynnwys gwylio videos cringey a hen ffasiwn (chi’n cofio’r wheelie tv trolleys?) ac ella os oeddech chi’n lwcus, ryw 10 munud o Q&A efo athro di-glem oedd yn breuddwydio am fod unrhyw le arall. Diolch byth fod y dyddiau yna wedi mynd. Erbyn hyn, mae addysg rhyw yn cynnwys llawer mwy o wybodaeth am bynciau cyfoes megis perthnasau iach, rhywioldeb a sut i gadw’n saff ar-lein. Mae’r llyfr yma yn cynnwys llwyth o bynciau defnyddiol megis aros yn saff ar-lein, ffrindiau a dathlu eich corff.



Mae’n amlwg iawn fod yr awdur wedi gwneud llawer o waith ymchwil, er mwyn sicrhau fod y ffeithiau’n gywir. Mae hi hefyd wedi cymryd yr holl wybodaeth ac wedi ei osod mewn ffordd sy’n hawdd -ac yn hwyl – i’w ddarllen. Yn weledol, dwi’n meddwl fod y dylunwyr wedi gwneud joban ardderchog o sicrhau nad oes gormod o wybodaeth ar y tudalennau, ac felly ‘da ni’n osgoi information overload. Mae steil cartŵn y llyfr yn lliwgar ac yn fodern, ond nid yw’n teimlo’n fabïaidd o gwbl. Os oes gen i gwyn, y diffyg ffotograffau (lluniau go iawn) fydda hynny. Yn bersonol dwi’n licio lluniau go iawn yn ogystal â cartŵns, ond rywbeth bach iawn ydi hynny.


Dwi ddim yn mynd i’ch diflasu hefo breakdown o beth sydd yn y llyfr – dwi jest am gynnwys llun o ambell dudalen, yn ogystal â’r dudalen gynnwys. Cewch weld â’ch llygaid eich hun pa mor ddiddorol yw’r llyfr fel adnodd (neu anrheg i ferch).



Dwi’n meddwl basa rhoi copi o’r llyfr yma i bob merch yn wych, ond dwi’n gweld hynny’n annhebygol o ddigwydd. Os ydych chi’n rhiant sy’n teimlo’n rhy chwithig i drafod y pwnc gyda’ch plentyn, mae’r llyfr yma’n fan cychwyn da. Wrth gwrs fod y llyfr yn gweddu darllen annibynnol, ond weithiau mae’n dda i drafod pethau gyda phobl eraill- yn sicr mae’r llyfr yn gweithio fel sbardun trafodaeth rhwng plentyn a rhiant.

Doedd ‘na ddim llyfrau fel hyn ers talwm. Oedd, roedd llyfrau am y corff yn bodoli, ond doedden nhw definitely ddim mor apelgar ac accessible â hwn. Mae safon llyfrau wedi gwella cymaint!


Efallai fod hwn yn swnio fel anrheg od i brynu i rywun, ond wir yr, dwi’n meddwl y byddai llyfr fel hyn yn cael ei werthfawrogi yn y pen draw (hyd yn oed os fasa nhw byth yn cyfaddef!)


Merched ifanc Cymru, mae’r llyfr yma’n werth ei ddarllen, credwch fi. Gobeithio fod y wasg yn gweithio ar fersiwn i Fechgyn hefyd!


 

Gwasg: Lolfa

Cyhoeddwyd: Hydref 2023

Pris: £7.99

 

bottom of page