top of page

Laura - Bywyd Mentrus Laura Ashley [Mari Lovgreen]



(awgrym) oed darllen: 6/7+

(awgrym) oed diddordeb: 4+

Lluniau: Sara Rhys https://www.sararhys.co.uk/

 

Roedd Covid yn gyfnod anodd i lawer o fusnesau, ac yn 2020 mi aeth cwmni arall adnabyddus a chyfarwydd i mewn i drafferthion ariannol mawr: Laura Ashley. Roedd ei siopau ar hyd a lled Prydain yn gwerthu dillad a nwyddau cartref moethus. (Dwi’n siŵr mai papur wal Laura Ashley sydd yn y llofft gynnon ni!) Ar y funud olaf, camodd NEXT i mewn i achub y ‘brand’ ac maent bellach wedi ei ymgorffori fel rhan o deulu Next. Mae hyn yn golygu fod dyfodol Laura Ashley yn saff am y tro, ac fe fydd ei henw yn parhau ar y stryd fawr mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.



Ond tybed faint ohonoch oedd yn gwybod fod ganddi gysylltiad Cymreig? Oedd,roedd hi’n Gymraes! Dwi’n cofio darllen amdani yng nghyfres ‘Storïau Hanes Cymru’ gan y Dref Wen flynyddoedd yn ôl. Mae’r llyfrau hynny (er yn parhau i fod yn ddefnyddiol) wedi dyddio erbyn hyn, ac roedden ni’n overdue am lyfr newydd am yr unigolyn hynod yma.


Erbyn hyn, mae merched cryf ac ysbrydoledig ym mhobman o’n cwmpas, ac mae sawl chief executive yn fenywod. Ond yng nghyfnod Laura, mae’n debyg fod hyn yn rhywbeth anghyffredin. Mae’n destament i’w phenderfynolrwydd (di hwnna’n air dwa?) ei bod hi wedi llwyddo i sefydlu busnes hynod o lewyrchus a magu teulu ar yr un pryd. Ac er llwyddiant ei chwmni a'r holl brysurdeb a ddaeth gyda hyn, ei theulu oedd yn dod gyntaf iddi. Bechod y bu iddi farw mor ifanc a sydyn mewn damwain yn y cartref.



Dwi’n hoff iawn o’r gyfres ‘Enwogion o Fri,’ sy’n ffocysu ar unigolyn rhyfeddol o Gymru bob tro, gan daflu goleuni ar unigolion efallai sydd heb gael y sylw haeddiannol tan rŵan. Mae ‘na gysondeb yn y gyfres – testun sy’n llifo ac yn hawdd i’w ddarllen, wedi ei baru â lluniau hardd sy’n cyfoethogi’r stori yn ddi-ben-draw. Ond mae ‘na wahaniaethau yn y gyfres hefyd, a be dwi’n hoffi yw’r ffaith fod pob cyfrol yn unigryw gan fod cyfuniad newydd o awdur/arlunydd wrth y llyw bob tro, gan sicrhau fod pob un yn ffres ac yn wahanol.



Fedra i weld pam fod y gyfres yma wedi bod mor boblogaidd gydag athrawon – mae’n adnodd defnyddiol ar gyfer gwasanaethau boreol, (mae’n diwallu rhai o ofynion y Siarter Iaith a’r Cwricwlwm Newydd, er enghraifft). Gall fod yn adnodd ar gyfer tasg ymchwil annibynnol - ydi, mae’r we yn grêt, ond mae diffyg gwefannau Cymraeg felly mae llyfrau fel hyn yn grêt.



Yn ogystal â hanes bywyd Laura Ashley, mi ges i gopi o Ann drwy’r post hefyd. Mae gen i gywilydd i ddweud mod i ‘rioed wedi clywed amdani. Yn sicr mi wnes i ddysgu lot o ffeithiau newydd wrth ddarllen y llyfr yma. Ond, os dwi’n bod yn onest, roedd yn well gen i’r llyfr am fywyd Laura. Dim byd yn erbyn Ann Griffiths, ond pen yn erbyn y postyn, petai rhaid i mi ddewis, byddwn i’n dewis llyfr Laura Ashley. Roedd gen i fwy o ddiddordeb personol yn ei hanes. Dwi wedi pasio’r hen ffatri yng Ngharno sawl tro ar y ffordd i lawr i Gaerdydd ar yr A470 a dwi’n siŵr i mi ddefnyddio’r cwmni fel astudiaeth achos ar gyfer fy mhrosiect TGAU busnes.


Mae digon o ddewis o unigolion yn y gyfres, a phry’n bynnag lyfr brynwch chi, chewch chi ddim eich siomi. Llyfr Betty Campbell dwi isio’i ddarllen nesa...



SCREENSHOTS O LYFR ANN:





 

Gwasg: Broga

Cyhoeddwyd: Mehefin 2023

Pris: £5.99

Cyfres: Enwogion o Fri

Fformat: clawr meddal

 

HEFYD YN Y GYFRES:




AM YR AWDUR: (O Gwales)


Mae Mari Lovgreen wedi cynhyrchu llyfrau llawn hwyl i blant gyda gweisg amrywiol, gan gynnwys 'Llanast' (Gwasg Gomer), 'Syniadau Slei' (CAA), ynghyd â chyfrannu cerddi i gyfrolau o gerddi. Hi hefyd oedd yn gyfrifol am y gyfrol 'Brên Babi' (Y Lolfa) - cyfrol sy'n trafod y newid byd a wynebodd ei chydnabod a hithau wrth iddynt ddod yn famau am y tro cyntaf. Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae Mari wedi sgriptio droeon ar gyfer rhaglenni teledu i blant, gan gynnwys y rhaglenni poblogaidd Chwarter Call a Cacamwnci. Yn ogystal, mae ganddi flynyddoedd o brofiad yn cyflwyno rhaglenni i blant.


AM YR ARLUNYDD:

Artist cyfrwng cymysg yw Sara Rhys sy'n defnyddio ystod eang o gyfryngau i greu ei gwaith gweledol trawiadol. Dechreua pob prosiect gydag agwedd chwareus a meddwl agored wrth iddi geisio darganfod y dull gorau o gyfleu’r stori. Yn ganolbwynt i'w gweithiau i gyd, mae'r cymeriadau, boed y cymeriadau hynny'n bobl neu'n greaduriaid.Graddiodd mewn Celf Fodern fel myfyrwraig aeddfed gan dreulio amser i ddechrau fel gwneuthurwraig gemwaith. Yn nes ymlaen yn ei gyrfa doreithiog, dychwelodd at ei hoffter mawr o arlunio.


Mae Sara yn gredwr cryf bod llyfrau ar gyfer plant ac oedolion a'u bod yn blatfformau gwych i rannu straeon a syniadau. Ym mis Chwefror 2020, dewiswyd Sara fel arlunydd arbennig y Society of Children's Writers & Illustrators, ac yn 2021, derbyniodd nawdd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr er mwyn ei galluogi i ddatblygu ei gyrfa. Ar hyn o bryd, preswylia Sara yn yr Alban, ond mae wedi treulio cyfnodau mewn nifer o lefydd ar hyd a lled Prydain. Yn ystod ei chyfnod yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, bu'n mwynhau dysgu mwy am hanes ei theulu Cymraeg sy'n parhau i fod yn rhan bwysig o'i hunaniaeth.

bottom of page