top of page

Mae gan Mam Lwmp: Llyfr lluniau sy’n helpu i esbonio - Simone Baldwin [addas. Rhys Iorwerth]

Updated: Apr 5



(awgrym) oed darllen: 6+

(awgrym) oed diddordeb: 3+

(awgrym) oed y cyhoeddwr: 4-8

 

Nodyn gan yr awdur:

Chwech oed oedd fy mab pan sylwodd doctoriaid fod gen i ‘lwmp’. Fe chwiliais am gymorth i geisio esbonio pethau wrtho, ond fedrwn i ddim dod o hyd i ddim byd oedd yn helpu. Rydw i wedi creu’r llyfr yma i lenwi’r bwlch hwnnw, ac i helpu rhieni eraill sy’n wynebu sefyllfaoedd yr un mor anodd. Mae’r gerdd, sydd â darluniau’n cyd-fynd â hi, yn anelu at blant rhwng 4 ac 8 oed, ac i’w darllen gyda’ch gilydd fel ffordd gefnogol o ddechrau trafod pethau. Mae yma bwt hefyd am fy mhrofiadau fy hun.

Os oes angen y llyfr hwn arnoch chi neu ar anwylyd, o waelod calon, dyma ddymuno’r gorau i chi.

 

Maen nhw’n deud fod 1 allan o bob 2 person yn mynd i gael cancr. Siawns felly, fod chi’n nabod rhywun, neu wedi clywed am rywun sydd wedi cael eu heffeithio gan yr afiechyd.


Tydw i ddim yn siarad o brofiad, ond mi alla i gredu fod derbyn y newyddion fod nhw ‘wedi ffeindio lwmp,' boed hynny yn gancr neu beidio, yn un o’r pethau ‘na sy’n troi bywyd rhywun wyneb i waered - lle mae amser yn mynd mewn i slow motion. Anodd dychmygu sut mae’n teimlo heb fynd drwy’r profiad. Mae gen i ddau ffrind agos sydd wedi profi sefyllfa tebyg, ac mae o'n swnio fatha hunllef os dwi'n bod yn onest.


Mae'r pwnc newydd fod yn y newyddion yn ddiweddar, gyda merch fach tair oed yn dysgu byw gyda thiwmor: https://www.bbc.co.uk/news/articles/cxrz113k3yro


Tydi hwn ddim yn bwnc hawdd o gwbl. Yn wir, mae oedolion yn cael digon o drafferth siarad yn agored am bethau mor sensitif a phreifat a hyn, felly sut yn y byd mae cychwyn sgwrs o’r fath gyda phlentyn bach? Dwi’n credu fod llyfr yn fan cychwyn da.


Mae llyfrau’n gallu bod yn bwerus iawn, ac yn ffordd dda o ffeindio’r geiriau pan dydyn nhw ddim yn llifo. Dwi ddim am eiliad yn dweud fod rhoi llyfr i blentyn a deud ‘off you go’ yn ddigonol. Dim o gwbl. Ond maen nhw’n adnodda' arbennig o dda am sbarduno sgwrs, yn enwedig pan mae’r sgwrs yn gorfod bod yn un anodd.


Yn ôl yr awdur o Gyffordd Llanduno, a gafodd diagnosis o diwmor ar yr ymennydd, nid oes llawer o adnoddau yn bodoli i helpu i geisio esbonio pethau fel hyn wrth blentyn ifanc. Darllenwch ei stori yma ar wefan The Brain Tumour Charity: https://www.thebraintumourcharity.org/news/charity-news/mummy-has-a-lump-book/ Y diffyg adnoddau (neu gwybod lle i'w ffeindio) oedd un o’r prif resymau dros greu’r llyfr. Swni’n tybio fod ‘na lai fyth o bethau ar gael yn y Gymraeg, felly dwi’n falch o weld y llyfr ar gael yn y Gymraeg yn llenwi’r bwlch. https://www.simonebaldwin.co.uk/



Ar ffurf cerdd mae’r stori, wedi ei addurno gyda lluniau cain, minimalist gan Caroline Eames-Hughes. Mae gwedd y llyfr yn syml iawn – ychydig bach o destun, a hynny yn erbyn cefndir gwyn. I mi, mae hyn yn llawer mwy addas ‘na chael gormodedd o liw a lluniau, o ystyried y pwnc dan sylw.


Cymharol fyr yw’r llyfr a does dim information overload chwaith, felly gall hwn fod yn llyfr addas i’w rannu â phlant ifanc iawn heb eu digalonni na’u dychryn. Mae sgôp i unrhyw oedolyn sy’n cyd-ddarllen y llyfr ymhelaethu ar y cynnwys ac ateb cwestiynau sy’n siŵr o godi. Mae’r llyfr yn reit amhenodol o ran ‘y lwmp’, felly gall hwn fod yn addas ar gyfer trafod sawl math gwahanol o gancr. Mewn ffordd, os bydd  ‘na gwestiynau ychwanegol yn codi, yna mae hynny’n beth da. Sbardun sgwrs yw’r stori, felly os yw’n gychwyn ar drafodaeth, yna mae wedi cyflawni ei bwrpas.


Dyma’r math o sgwrs does neb eisiau gorfod cael gyda’u plant, ond os ddaw'r dydd, mae’n braf gwybod fod ‘na adnoddau syml ac annwyl fel hyn i gefnogi. Diolch o waelod calon Simone am ddod a’r llyfr yma i fodolaeth. Bydd yn help i nifer dwi’n siŵr.


 

Cyhoeddwr: Three Bs Publishing

Cyhoeddwyd: 2022

Pris: £6.99

Fformat: clawr meddal


 

Dyma erthygl am gyoeddi'r llyfr:




 

FERSIWN SAESNEG AR GAEL HEFYD:




LLYFR AR GYFER TADAU AR GAEL HEFYD (YN SAESNEG YN UNIG AR HYN O BRYD):



STORI'R AWDUR:



bottom of page