Herio i'r Eithaf - Huw Jack Brassington

*Scroll down for English*


Uplifting and inspirational.

Genre: #ffeithiol #antur #awyragored #hunangofiant / #nonfiction #adventure #autobiography


Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◎◎

Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◉◉

Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎

Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎

Iaith gref/language: ◉◉◎◎◎

Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎

Hiwmor/humour: ◉◉◉◉

Her darllen/reading difficulty: ◉◉◎◎


Dyfarniad/Rating: ★★★★★


Wel, amser cyfaddef. Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am Huw Jack Brassington, yr anturiwr a’r athletwr, cyn darllen y llyfr yma. Pan wnes i holi ffrind amdano, mi ddudodd o “o ia, y boi mynydd ’na.” Felly sori, Huw – dwn i ddim pa graig dw i wedi bod yn cuddio o dani tan rŵan. Ond ella fod hynny’n beth da – mod i’n hollol unbiased wrth fynd ati i ddarllen – a ’sgwennu’r adolygiad ’ma!


Dyma lyfr sy’n hanner autobiography a hanner self-help manual faswn i’n ddweud. Mae o’n dechrau trwy ein cyflwyno ni i’r ‘hen ddyn yn y gadair siglo,’ sef yr hen Huw Jack. Syniad da, sy’n cael ei gyfeirio ato’n aml drwy’r llyfr – y syniad o beidio cael regrets pan ’da chi’n hen.

Mae Huw yn ein tywys ni ar siwrne ei fywyd hyd yma, a’r holl bethau insane mae o wedi eu cyflawni. O ddringo Mont Blanc, Pencampwriaeth Triathlon y Byd, Ultimate Hell, teithio’r byd, Coast 2 Coast Seland Newydd hyd at Ras Cefn y Ddraig, fe gawn yr hanes i gyd a llawer mwy. Trafoda ei brofiadau cyn, yn ystod ac ar ôl y rasys gwyllt ac fe gawn ddarlun ‘behind the scenes’ o pa mor physically a mentally demanding ydi rhai o’r cystadlaethau ’ma. Yn enwedig yn ystod lockdown, gyda llawer ohonom yn fwy caeth i’r tŷ nac arfer, roedd hi’n dipyn o ddihangfa cael teithio’r byd wrth darllen am y llefydd anhygoel a’r pobl diddorol mae o wedi gyfarfod heb adael y soffa!


Wrth Googlio, mi ddes i ar draws llun o Huw ar ddechrau Ras Cefn y Ddraig. Mae tŷ fy rhieni jest i’r dde o’r llun, a dwi’n cofio diwrnod y ras – mi oeddwn i gerllaw yn gwylio’r haid o gystadleuwyr yn sgrialu allan o’r castell am y mynydd. Tan rŵan, dwi’m yn meddwl fod hi wedi gwawrio arna i cymaint o beast ydi’r ras ’ma! O Gonwy i Landeilo – 200 milltir gyda 8.5 milltir o ddringo wedi’i rannu dros bum diwrnod ar hyd mynyddoedd didrugaredd Cymru. Ydi’r peth yn bosib hyd yn oed? Wel yndi - just about – dim ond 47% o gystadleuwyr sy’n gorffen y ras! Mae o’n disgrifio pob cymal o’r ras, day by day, ac mae rhywun yn cael blas o sut beth yw’r anghenfil yma. Mae’n amlwg yn ras chwedlonol sy’n chwalu corff ac enaid ond mae Huw wastad yn llwyddo i ffeindio’r ochr bositif. Fel y mae’n dweud – er eich bod chi wedi torri erbyn y diwedd, yn y pen draw fyddwch chi’n dod allan ohoni’n gryfach. Dwi’n gweld hyn fel metaphor ar gyfer cyfnodau anodd mewn bywyd.

doniol


Fel rhywun sydd wedi stryglo efo fy mhwysau fy hun yn y gorffennol, mi oeddwn i wastad yn fixated ar ‘golli pwysa’. Er bod fy ffrindiau yn denau fel milgwn, doeddwn i jest methu shifftio’r bol. Dros y blynyddoedd dwi wedi dod i ddeall mai nid tenau a bach yw siâp naturiol fy nghorff. Fasa rhaid i mi literally starfio fy hun i fod yn denau denau, a fasa hynny ddim yn iach. Roedd hi’n dda gweld fod Huw wedi gorfod cydnabod rhywbeth tebyg - na fyddai ganddo byth ffisioleg rhedwr triathlon, a byddai’r fath beth yn anghynaladwy. Nid yn unig mae o wedi derbyn hyn, ond mae o wedi gwneud y mwyaf o’r corff a’r cryfder sydd ganddo. Eto, neges bwysig iawn fan hyn hefyd.

Tydi Huw heb guddio’r ffaith fod ganddo dyslecsia chwai