top of page

Gladiatrix - Bethan Gwanas

Updated: Dec 13, 2023



(awgrym) oed diddordeb: 15+

(awgrym) oed darllen: 15+

Themau: ymladd, trais, gwaed, dienyddio, cyfeiriadau rhywiol

 

ADOLYGIAD GAN REBECCA ROBERTS


Stori am ddwy chwaer, Rhiannon a Heledd, ydi Gladiatrix - stori sy’n ein tywys ni o Ynys Môn dan reolaeth derwyddon yr Orddwig i Rufain a Halicarnassarus yn Nhwrci. Ar ôl i fyddin Rufeinig  dan arweiniad Suetonius Paulinus lladd gweddill eu llwyth, mae’r milwyr yn atal dienyddio Heledd a Rhiannon oherwydd eu dewrder wrth ymladd. Nid marw ar faes y gad yw eu tynged, ond cael eu hyfforddi i fod yn gladiatrix a brwydro am eu bywydau o flaen gynulleidfa’r amffitheatr.


Dydw i ddim yn un am grynhoi plot straeon mewn adolygiadau, felly wna i fodloni ar ddweud bod y plot, fel ymhob stori gan Bethan Gwanas, yn dynn ac mae pob pennod yn llawn emosiwn a chyffro a thensiwn. Wnes i lowcio’r llyfr - unwaith ti ddechrau darllen mae’n anodd ei roi i un ochr. Wnes i grio a dyrnu’r awyr sawl tro. Mae’r prif gymeriadau’n unigryw ac yn fyw, ac ro’n i wirioneddol yn drist ar farwolaeth sawl un. (Dim spoilers gen i - bydd yn rhaid darllen i weld pwy sy’n goroesi a phwy sy’n diweddu efo tryfer trwy ei g/chalon!). Mae’n nofel hanesyddol, a wnes i wir fwynhau’r ffordd wnaeth Gwanas llwyddo i blethu hanes rhai o bobl bwysicaf y cyfnod - Suetonious, Buddug, Caradog, Spartacus - i’r naratif ac i bortreadu bywyd beunyddiol Ynys Môn a Rhufain heb arafu gormod ar y plot.  Yn amlwg, mae hi wedi gwneud ei gwaith ymchwil yn drylwyr iawn, a wnaeth ffrwyth ei dychymyg (gan nad oes cofnodion ysgrifenedig gan y derwyddon) argyhoeddi. Mae’r arddull yn apelio i’w synhwyrau ac ar brydiau teimlais fy mod i’n sefyll ochr yn ochr â’r cymeriadau.


Er erchylltra’r cyfnod, er tristwch y cymeriadau wrth iddyn nhw orfod gwylio’u teulu a’u cyfoedion yn marw fesul un, nid yw’n  nofel ddwys na phrudd. Mae’n nofel am chwaeroliaeth a dysgu sut i faddau a goroesi.  Os nad ydi’n amlwg erbyn rŵan, ro’n i wrth fy modd. Anhygoel, Gwanas - yn fy marn i, dyma ydi dy nofel orau hyd yn hyn.

 

ADOLYGIAD GAN MORGAN DAFYDD



“Father to a murdered son. Husband to a murdered wife. And I will have my vengeance, in this life or the next.”


Os ‘da chi’n nabod y linell eiconig yna, fyddwch chi’n gwybod mai o’r ffilm Gladiator y daw o. Ffilm arbennig a chofiadwy iawn. Wel, anghofiwch am Russell Crowe, achos mae gynon ni lyfr Cymraeg rŵan yn adrodd hanes cyfnod gwaedlyd iawn yn ein hanes, ac mae o'n wych. Ma'n dangos pa mor dda mae llyfrau #gwreiddiol yn gallu bod.



Roedd yr ychydig wybodaeth oedd gen i am y Gladiatoriaid yn deillio o gartŵns fel Asterix vs Julius Caesar. Doeddwn i ddim wedi deall mai caethweision oedden nhw mewn gwirionedd, ac yn sicr doeddwn i ‘rioed wedi clywed fod merched wedi bod yn Gladiatoriaid hefyd! Cŵl! (neu druan ohonynt, dwi’m cweit yn siŵr!) Dyma yw ystyr y teitl, Gladiatrix, sef y gair ar gyfer Gladiatoriaid benywaidd – ac mae’n deitl arbennig ar gyfer llyfr os ga i ddeud, ac yn sefyll allan fel un reit wahanol ymysg silffoedd o lyfrau Cymraeg undonog.

O ran y Derwyddon sydd hefyd yn ymddangos yn y nofel, heb law mod i wedi clywed y gair o’r blaen, wyddwn i lai fyth am eu hanes nhw! (ond i fod yn deg, does neb yn hollol siŵr amdanynt, achos mae’r tystiolaeth reit brin).



Dwi’m yn awgrymu am eiliad fod nofel ffuglen fel Gladiatrix am roi cyfrif hanesyddol manwl gywir o’r cyfnod, achos nid dyna ei bwrpas. Er hyn, dwi’n teimlo mod i wedi dod i nabod y cyfnod cythryblus yma yn hanes Cymru  fymryn yn well, ac os rhywbeth, mae o wedi fy ngwneud yn awyddus i ddysgu mwy. A minnau’n byw dafliad carreg i ffwrdd o Gaerhun (Canovium oedd yr enw Rhufeinig), mae eu hôl yn dal o’n cwmpas ym mhobman, os ‘da chi’n gwybod lle i chwilio.


Fel mae Bethan ei hun yn dweud, mae llawer o’n gwybodaeth am y cyfnod cynnar yma yn dameidiog iawn, a weithiau does ‘na ddim cofnodion o gwbl. Wrth reswm felly, mae hi wedi cymryd darnau bach o hanes, a hefo ‘chydig bach o fill in the blanks a thipyn go lew o greadigrwydd, wedi llwyddo i wehyddu stori ardderchog a chwbl gredadwy o gwmpas y ffeithiau prin. Yn sicr, mae ôl gwaith ymchwil manwl i’w weld yma (tua dwy flynedd gymerodd i sgwennu’r nofel yn ôl sôn), ac mae’r attention to detail yn glodwiw.


Gan ddweud dim llawer mwy na’r broliant rhag i mi sbwylio gormod, roedd dwy chwaer ifanc, Rhiannon a Heledd, yn byw’n fodlon a chytûn ar Ynys Môn, gyda gweddill llwyth yr Orddwig a’u harweinwyr, y Derwyddon ‘doeth.’ Hynny yw, tan mae negesydd annisgwyl yn glanio hefo rhybudd fod byddin y Rhufeiniaid dafliad carreg i ffwrdd o Fôn. O feddwl pa mor ddifrifol yw’r neges, digon chwerthinllyd yw ymateb y Cymry brodorol! Wrth i Suetonius Paulinus a’i filwyr brysuro i gyfeiriad yr ynys, cymryd rhan mewn rhyw ddefnodau digon rhyfedd mae’r Derwyddon, yn y gobaith bydd eu hoffrymau i’r Duwiau’n ddigon i’w cadw’n saff. O nefoedd... ‘Craduriaid. Toes ganddyn nhw ddim syniad am y storm sydd ar y gorwel, ac mae rhyw eirioni tywyll i ymateb anwybodus trigolion yr Ynys - ‘Doedd gan y Rhufeiniaid ddim gobaith!’ medden nhw...



Wedi i’r ynyswyr ddod wyneb yn wyneb â grym milwrol cadarn a didrugaredd y Rhufeiniaid, cael eu dal mae’r chwiorydd a’u gwerthu fel da byw. Ar ôl cael eu hel i wlad estron, cânt eu gorfodi i ymladd fel entertainment ar gyfer y byddigion Rhufeinig. Carcharorion ydyn nhw bellach, ac mae’n rhaid gadael fynd o’u bywydau gynt. Efallai byddai marwolaeth wedi bod yn fendith iddynt, achos mae hyn yn swnio’n llawer gwaeth...


Pan mae Gladiatoriaid yn cwrdd yn yr arena, a’r dorf yn ysu am waed, dim ond un sy’n debygol o ddod allan yn fyw. Kill or be killed ydi hi ym myd yr amffitheatr ac mae gwendid yn angheuol. Tybed pa mor bell fydd y ddwy chwaer yn fodlon mynd?


Dduda i ddim mwy ‘blaw’r  ffaith fod BG yn llwyddo i’ch taro oddi ar eich hechel sawl tro. Roeddwn i ar bigau’r drain drwy rhan fwyaf o’r nofel ac roedd darnau ohoni yn ddigon i godi cyfog bron! (er, rhaid i mi gyfaddef, dwi wrth fy modd efo’r gwaed a’r gyflafan!)


Pwy di’r gynulleidfa? (wel, unrhywun, fwy neu lai)


Dyma bwnc sy’n ennyn dipyn o drafodaeth ymysg llyfrbryfaid, sef pwy yw cynulleidfa darged llyfr? Yn achos y llyfr yma, daw o dan label ‘llyfr OI!’ (oedolion ifanc), ond oes rhaid cael label o gwbl? Ia, genod yn eu harddegau yw’r prif gymeriadau, ond mi fydd gan y llyfr apêl ehangach ‘na arddegwyr yn unig. Rhaid i mi bwysleisio cymaint y byddai’r llyfr hefyd yn apelio at oedolion, ac mi fyddai’n biti mawr petai oedolion ddim yn ei ddarllen, am ei fod o ar silffoedd ffuglen Oedolion Ifanc. Os rhywbeth, mae llyfrau yn y categori yma’n well o lawer – mwy o antur a llai o falu cachu!



Mae’r awdur eisoes wedi profi ei hun yn giamstar ar ‘sgwennu straeon antur / ffantasi sy’n cydio o’r dudalen gyntaf ac yn gadael y darllenydd yn ysu am fwy. Roedd cyfres Y Melanai yn wych, ond mae Gladiatrix yn mynd gam ymhellach ac yn fwy aeddfed ac yn fwy gwaedlyd.


Bechod ar y diawl fod gan S4C ddim cyllideb Hollywood, achos mi fasa’r nofel yn gwneud cracar o ffilm! Gawson ni hwyl yn ystod y lansiad yn trafod pa actorion Cymraeg fysa’n gallu chwarae’r gwahanol gymeriadau! Mici Plwm fel cadfridog Rhufeinig pompous tybed? Oes 'na le i Martin Sheen? Pwy fasa'n gallu chwarae'r chwiorydd tybed?


Oherwydd yr ymladd, y trais, y gwaed, y dienyddiadau a’r perfeddion di-ri, fydd y llyfr ddim at ddant pawb, ond os ‘da chi’n licio pethau fel Vikings, Game of Thrones, The 300, Spartacus ac ati, wel, mi gewch chi fodd i fyw yn ei ddarllen. Ond, cofiwch, yng nghanol erchylltra’r sefyllfa, stori am ddwy chwaer - eu cyfeillgarwch, eu nerth a’u hysfa i oroesi yw hon yn y bôn.


Tydw i ddim wedi cael yr awydd i ddarllen ryw lawer yn ddiweddar, go debyg  am mod i methu cadw fy llygaid ar agor erbyn 8pm (babi 5 mis oed yn y tŷ – need I say more?). Ond, hwn oedd y llyfr i newid hynny, mi ddarllenais i hi mewn ychydig ddyddiau, a dwi wedi cael cic yn dîn i ail gydio yn y darllen. Diolch Bethan.


Dim gair o glwyddau; fy hoff nofel o 2023. Gwaed, gyts a Gladiators - be gewch chi well?!


 

Gwasg: Lolfa

Cyhoeddwyd: 2023

Pris: £9.99

 

bottom of page