(awgrym) oed diddordeb: 10-15
(awgrym) oed darllen: 10+
Darluniau: David O'Connell http://davidoconnell.uk/
Gwasg: Rily
Cyhoeddwyd: 2023
Pris: £9.99
Fformat: clawr meddal
Dwi’m yn cofio mam a dad byth yn eistedd i lawr hefo fi a fy chwaer i gael “y sgwrs” am y “birds and the bees.” Ar un llaw, ella fasa hynny wedi bod yn eithaf useful, ond wedi meddwl yn iawn, dwi meddwl fasa fo wedi bod yn rhy cringey ac awkward! Yn y dyddia’ hynny (a dwi ond yn sôn am y 90au) doedda chi jest DDIM yn trafod sex yn gyhoeddus, a DEFFO ddim hefo’ch rhieni.
Dwi ddim yn cofio’n iawn sut wnes i ddod i ddeall ‘sut mae pethau yn gweithio’ ond dwi’n bendant o un peth – doedd o ddim o ganlyniad i’r gwersi sex ed yn ‘rysgol achos roedd heina’n hopeless! Mae gen i ryw gof o ffeindio encyclopaedia reit fanwl ar y silff adra a chael agoriad llygad go iawn!
Wrth gwrs mae isio dysgu am y ‘bioleg’ tu ôl i’r cyfan, ond mae llawer mwy iddi ‘na hynny. Yn wahanol i’r llyfrau llychlyd, hen ffasiwn oedd ganddo ni, mae’r llyfr deniadol, modern yma yn sôn am nifer o bynciau cyfoes fel iechyd meddwl, rhywedd, cyfryngau cymdeithasol, teuluoedd cyfunol, gorbryder, catfishing a phethau felly- llawer mwy ‘na jest dysgu am sut mae sberm ac wy yn dod at ei gilydd (ond, ie, mi fyddwch chi’n falch o glywed fod 'na ddiagramau o’r bits and bobs yna yn rywle!)
Gweld y llyfr yma wnes i yn Saesneg gyntaf, a chlywed wedyn fod Rily wedi gwneud addasiad o lyfr poblogaidd Dr Ranj - Dysgu am Dyfu: Llawlyfr i Fechgyn. Mae’n bwysig nodi nad llyfr am ryw yn unig yw hwn. Mae’n cynnwys gwybodaeth am lwyth o bethau defnyddiol a difyr sydd yn ymwneud â thyfu i fyny, a’r holl newidiadau crazy sy’n digwydd yn ystod y glasoed. Stwff fel hylendid personol, perthnasau, chwaraeon, cadw’n iach, iechyd meddwl, seibrfwlio, ffrindiau, hormonau, emosiynau a mwy... mae’r rhestr yn parhau!
Yn siarad o brofiad, mae bechgyn yn aml iawn yn cael bad rep am fod yn ‘blentyniadd’ neu’n anaeddfed pan mae’n dod i ryw, ond dwi’n meddwl fod hynny’n annheg braidd. Mae bechgyn eisiau dysgu am y pethau ‘ma i gyd, ond mae angen iddyn nhw gael eu cyflwyno mewn ffordd sy’n mynd i apelio.
Dwi’n cofio bod yn curious iawn am y corff ac am ryw o oedran weddol ifanc, (tua 10 oed ish) ond yn teimlo mod i ddim yn cael gofyn i neb am ei fod o’n teimlo fel rwbath weird neu embarassing i fod â diddordeb mewn pethau o'r fath. Mae’n bechod mod i wedi gorfod darllen llyfrau am sex yn slei bach yn y llyfrgell ysgol yn hytrach na gallu eu prynu neu eu benthyg â balchder! Mi fasa Morgan unarddeg oed wedi llowcio llyfr fel hyn, dwi’n gwybod hynny. Dwi’n falch fod ni fel cymdeithas yn siarad yn fwy agored am ryw a materion fel rhywedd a iechyd meddwl erbyn hyn.
Er mai bechgyn yn amlwg yw’r gynulleidfa darged, dwi’n falch fod ‘na adran yn sôn am ferched hefyd. Mae’n hollbwysig fod bechgyn yn deall sut mae’r newidiadau yn effeithio ar ferched hefyd- bydd hyn y magu empathi a pharch at ein gilydd. Hogia – dwi’n siŵr newch chi sgorio pwyntia’ hefo’r gennod drwy fod yn informed am y petha ‘ma!
I rywun fel fi, sydd fel arfer yn dewis gwneud pethau eraill yn hytrach na darllen, mae canllaw cynhwysfawr a difyr fel hwn jest y peth i ddwyn perswâd i ddarllen. Gyda’i steil ysgafn a’r hiwmor, golyga hyn nad yw’r llyfr yn teimlo fel gwers ABCh ddiflas. Mae tôn yr awdur yn gyfeillgar ac yn agos atoch chi hefyd – dydi o byth yn pregethu ‘na bod yn patronising. ‘Sneb isio hynny!
Gydag unrhyw lyfr sy’n trafod rhyw, mae gan bawb farn wahanol am ba oedran sy’n addas. Fel bachgen, cyn-athro a rhiant bellach, dwi wastad wedi teimlo ewch chi ddim yn wrong drwy ddysgu am y pethau ‘ma cyn gynted â phosib. Mae gadael cwestiynau heb eu hateb, neu osgoi eu trafod am fod nhw’n ‘embarassing’ yn gallu bod yr un mor niweidiol. Dyna sut mae myths a chamsyniadau’n cychwyn! Fydd pawb ddim yn cytuno gyda fi wrth gwrs, ond mi fyswn i’n argymell y llyfr yma i fechgyn rhwng 10-15 oed.
Crynodeb: Dyma lyfr hynod o ddifyr a defnyddiol, sy’n ganllaw gwerthfawr i unrhyw fachgen sy’n awyddus i ddeall y newidiadau i’r corff a sut i fagu hyder ac i ymfalchïo yn eu hunain. Yndi, mae tyfu i fyny yn gallu bod yn anodd, ond mae’n gyfnod cyffrous hefyd (fydd o ddim am byth, gaddo!). Dylai’r llyfr yma fod yn hosan Nadolig pob bachgen ar eu prifiant!
Comments