Y Castell Siwgr - Angharad Tomos

*Scroll down for English*


Dwy ferch ar ddau gyfandir. Un lord ag awch am elw.

Two girls, two continents. One Lord, with a thirst for profit.

Rhybudd! Cynnwys aeddfed. Awgrym oed 15+

Warning! Mature content. Suggested aged 15+

ADOLYGIAD GAN

REVIEW BY

DR. GARETH EVANS-JONES









Haf 2018 oedd y tro cyntaf imi ymweld â Chastell Penrhyn. Am flynyddoedd, bues i braidd yn anfoddog mynd yno, oherwydd yr hanes a’r agwedd negyddol a oedd gan sawl un roeddwn yn eu nabod tuag at y lle. Ond ym mis Mehefin 2018, euthum yno er mwyn gweld yr arddangosfa ‘12 Stori’ gan Manon Steffan Ros. Fe’m swynwyd a’m hysgwyd i’r byw gan y llenyddiaeth a’r celf a grëwyd mewn ymateb i hanes y castell a’i berchnogion. Yn sicr, fe ddaeth â’r hanes yn fyw. A nodwedd arbennig arall am yr arddangosfa oedd iddi ysbrydoli un o nofelwyr pwysicaf Cymru heddiw i dyrchu ymhellach yn nhir annymunol hanes teulu Arglwydd Penrhyn, ymateb yn greadigol i’r hanes hwnnw, a chynhyrchu nofel newydd, sef Y Castell Siwgr. Heb os, dyma un o nofelau pwysicaf y Gymru gyfoes.


Dilyn straeon dwy ferch yn eu harddegau a wnawn, sef Dorcas ac Eboni, ond adroddir hanesion y ddwy ar wahân. Yn rhan gyntaf y nofel, dilynir bywyd Dorcas, merch o Ddolgellau, sy’n cael ei gorfodi gan amgylchiadau cymdeithasol i fynd i weini yng Nghastell Penrhyn. O gyrraedd yno, profa Dorcas amryw heriau, yn cynnwys gweithio oriau diddiwedd, gorfod cyfathrebu drwy gyfrwng y Saesneg, a bodoli mewn cyflwr isel iawn, ‘yn faw isa’r domen’. Llwydda Angharad Tomos i ddelweddu hanes Dorcas mewn modd cwbl gredadwy a chelfydd, sy’n ennyn cydymdeimlad y darllenydd o’r dechrau hyd at y frawddeg olaf. Cryfder mawr arall yw’r modd y delweddir natur ‘gaethiwus’ bod yn gyflogedig gan y teulu Penrhyn. Yn wir, mae’r agwedd hon ar ran gyntaf y nofel yn hynod ingol, a dwyseir hynny drwy symud at ail ran y gwaith, sef stori Eboni, caethferch ar blanhigfa teulu’r Penrhyn yn Jamaica.



Mae stori Eboni yn un ddirdynnol a theimladwy iawn. Mae’r byd y mae’n perthyn iddo, y profiadau annymunol a gaiff, a’r tro trawiadol yn ei hanes yn sicrhau bod ei stori yn un sy’n cydio’n llwyr yn y darllenydd, sy’n ei ysgwyd yn ddidrugaredd, ac sy’n ei orfodi i wir gydnabod yr agwedd afiach ar hanes dynoliaeth nad yw’n cael ei thrafod mor eang ag y dylai: hanes caethwasiaeth.


O gofio am y gwir anffodus fod hiliaeth yn fyw ac yn iach yn 2020, ac o gofio ein bod ni’n byw yn oes ymgyrchoedd #BywydauDuoBwys (#BlackLivesMatter), mae Y Castell Siwgr yn nofel eithriadol amserol. Yn ddiau, credaf y bydd y nofel hon yn lladmerydd arbennig a chwbl deilwng i hyrwyddo addysg ‘newydd’ am hiliaeth, caethwasiaeth, a chysylltiad y ddeubeth â’r Cymry. Dylai’r nofel gael ei darllen yn ofalus ac yn fanwl, a’i rhannu ymysg cynulleidfa eang iawn.


Heb os, dyma nofel gignoeth o gredadwy, sy’n llwyddo i adrodd stori hanesyddol sydd mor amserol ag erioed.


Summer 2018 was the first time I ever visited Penrhyn Castle. For years, I was reluctant to go there, because o