top of page

Wyneb yn Wyneb - Sioned Wyn Roberts

♥Llyfr y Mis i Blant: Awst 2023♥


Gwaith arbennig gan Almon ar y clawr os ga i ddeud!

(awgrym) oed darllen: 9-13

(awgrym) oed diddordeb: 8+

Disgrifiad Gwales:

Dwi'n casau Robat Wyllt. Bron iawn gymaint ag ydw i'n casau fy hun.

Mwrddrwg ydy Twm. Dwyn. Twyllo. Bwlio. Mae o’n giamstar ar y cyfan. Ond mae rhywbeth ar goll, mae gwacter yn ei fywyd a does ganddo ddim syniad pam. Un noson dywyll, pan mae Twm y Lleidr wrth ei waith, daw wyneb yn wyneb â’i ffawd, a darganfod gwirionedd sydd mor ysgytwol, mae’n newid cwrs ei fywyd am byth.

 

Dwi’n gyfarwydd â gwaith blaenorol yr awdur o fy nghyfnod ar y panel Tir na n-Og, lle ddaeth Sioned Wyn Roberts i’r brig hefo chwip o nofel gyntaf, Gwag y Nos. Roedd y llyfr yna mor dda, roedd ei hail nofel yn haeddu darlleniad yn awtomatig! Dwi’n cynnwys screenshot o dudalen gyntaf o Gwag y Nos er mwyn dangos pa mor effeithiol oedd y dudalen gyntaf. Mae’r awdur yn cychwyn yr ail nofel gyda rhywbeth tebyg hefyd.


tudalen gyntaf Gwag y Nos

cychwyn Wyneb yn Wyneb

I wneud yn glir, nid dilyniant ydi Wyneb yn Wyneb, ond mae o’n bodoli yn yr un universe â nofel Gwag y Nos, fel petai, ac fe fydd ambell i gymeriad neu leoliad yn gyfarwydd.



Mae Wyneb yn Wyneb yn cychwyn yn yr un lle, yn wyrcws Gwag y Nos. Uffern ar y ddaear os gofiwch chi, lle mae Nyrs Jenat ffiaidd a Robat Wyllt greulon yn teyrnasu dros y plant anffodus. Cawn glywed mwy am Robat Wyllt y tro hwn, a’r ffordd y mae’n rheoli drwy ofn a thrais.


Mae’r nofel yn dechrau gyda’r prif gymeriad, Twm, yn esbonio sut mae o wedi bod yn gi bach i Robat Wyllt ofnadwy. Mae hwnnw wedi bod yn ei ben o, a dros amser, wedi ei droi’n was bach ffyddlon ac yn hen fwli mawr. Drwy fod yn right hand man i’r hen sglyfath, Robat Wyllt, mae Twm y lleidr wedi mwynhau tipyn o statws, ond mae’r gost wedi bod yn uchel i’w hunan-barch. Gyda phawb yn ei ofni, does ganddo’r un ffrind yn y byd, ac mae’n casáu ei hun am hynny.


Er y down i wybod fod y wyrcws wedi troi Twm yn fachgen digon annymunol, fy nheimlad yw fod y backstory o sut y trodd yn fwli ei hun wedi cael ei frysio braidd. Faswn i wedi gweld hyn yn fwy credadwy petawn ni wedi gweld sut roedd Twm yn trin rhai o’r plant eraill.


Ar ôl cael ei hel gan ei fos i Blas Bodfel i ladrata, caiff bywyd Twm ei newid am byth wrth iddo ddod wyneb yn wyneb â rhywun cyfarwydd, ond anghyfarwydd iawn ar yr un pryd. Ddweda i ddim mwy.


Wedi dod i ddeall fod mwy i’r stori, a bod ei fywyd wedi bod yn gelwydd i gyd, mae Twm & co yn penderfynu dianc a mynd on the run. Efallai fod hyn fymryn yn anghredadwy o ystyried pa mor sydyn ddigwyddodd hyn? Ta waeth, roll with it, achos hyn sy’n gosod sail ar gyfer antur beryglus fydd yn mynd a nhw’n bell iawn – holl ffordd o Bwllheli draw i ddociau Lerpwl. Sôn am neidio o’r badell i’r tân!



Cofiwch, does dim rhaid bod wedi darllen y llyfr arall er mwyn mwynhau Wyneb yn Wyneb, gan ei bod i bob pwrpas yn gweithio fel nofel ar ei phen ei hun. Wnes i ddim mwynhau’r nofel yma cweit gystal â’r llall os dwi’n bod yn onest; chafodd o jest ddim yr un fath o impact, ond roedd yn ddifyr cael dychwelyd i fyd y wyrcws unwaith eto. Eto, cefais fy atgoffa’n gryf o’r clasur, Street Child gan Berlie Doherty, wrth ddarllen y llyfr. Dwi’ siŵr ddaru’r prif gymeriad redeg i ffwrdd yn fanna hefyd.


Mae steil ysgrifennu Sioned yn unigryw – yn hawdd i’w ddarllen, yn llafar ac yn naturiol, gan wneud defnydd o frawddegau byr, effeithiol. (does neb isio brawddegau hir a chymhleth o hyd nagoes? Get to the point ynde!) Gall yr iaith fod yn ddi-flewyn ar dafod ar adegau, sy’n gweithio’n dda.


Gydag un Wobr Tir na n-Og dan ei belt, mae Sioned Roberts wedi profi ei bod hi’n un da am ‘sgwennu stori antur. Oes ‘na fwy i’w ddweud yn y byd yma tybed? Ai trioleg fydd hon?  Synnwn i ddim y bydd Robat Wyllt yn gandryll ar ôl digwyddiadau’r nofel, a bydd yn siŵr o fod yn ysu am gael dial...



 

Gwasg: Atebol

Cyhoeddwyd: 2023

Pris: £7.99 Fformat: Clawr meddal

 

bottom of page