top of page

Tu ôl i'r awyr - Megan Angharad Hunter

Updated: Feb 11, 2021

*Scroll down for English*


“Y nofel orau, fwyaf pwerus i mi ei darllen ers blynyddoedd. Mae’n ysgytwol.” - Manon Steffan Ros

Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◉◎

Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◉◉◉◉◎

Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎

Iaith gref/language: ◉◉◉◉◎

Rhyw/sex: ◉◉◉◎◎

Hiwmor/humour: ◉◉◉◎◎

Themau aeddfed/mature and upsetting themes

inc. suicide, self-harm, sexual references, sexuality and mental illness

 

Pob blwyddyn fel rheol, mae ’na un llyfr sy’n creu argraff - y llyfr mae pawb yn siarad amdano fo. Rhyw ddwy flynedd yn ôl, Llyfr Glas Nebo oedd o, a ’leni, Tu ôl i’r awyr ydi’r llyfr. Be’ bynnag yw eich barn am y llyfr, fedrwch chi ddim dadlau nad ydi o wedi creu argraff. Mae siarad mawr wedi bod amdano ar y cyfryngau cymdeithasol ac fe ddaw’n amlwg fod y llyfr wedi cael effaith ar nifer fawr o bobl, a bod ei ddarllen wedi bod yn brofiad digon ysgytwol, sydd wedi cymell pobl i fod isio mynegi eu sylwadau ar y we. Mae pawb eisiau ei ddarllen, a mae pawb eisiau dweud eu bod nhw wedi ei ddarllen. O safbwynt adolygwr, mae’n grêt fod ‘na fwrlwm am lenyddiaeth Cymraeg.


Dyma ond 'selection' bach o'r sylwadau cadarnhaol ar y we...

Yn ystod y lansiad rhithiol fis Tachwedd, dyma ddywedodd Marged Tudur am y nofel:


“Ma ’na lyfra weithia sy’n aros efo chi yn fwy na’r lleill, ma nhw’n newid eich ffordd chi o sbïo ar y byd ac ar wahanol betha. Ma nhw’n llyfra sy’n dod yn rhan ohonoch chi neu mae ’na gymeriada yn y llyfr da chi isio bod yn ffrindia hefo nhw neu falle bod nhw wedi dod yn ffrindia i chi. Mae ’na lyfra neith wastad aros yng nghanol symudiadau bywyd a heb amheuaeth, mae Tu ôl i’r awyr yn un o’r nofelau ysgubol, dirdynnol, gwefreiddiol yna. Mi wnaeth hi fy nharo i oddi ar fy echel ac yn syml, mae hi wedi mynd i rywle dwfn tu mewn i fy nghalon i ac mae hi wedi aros yna. Alla i ddim canmol y nofel yma ddigon a dwi’n gwbl mindblown o allu Megan a’i thalent aruthrol. Awdur cwbl, cwbl arbennig.”


Gwyliwch y lansiad yn ei gyfanrwydd yma ar sianel AM gwasg Y Lolfa: https://www.amam.cymru/ylolfa/4061


Mae gan yr awdur lais ffres ac mae ganddi ddawn dweud gwreiddiol sy’n ffraeth iawn ar adegau ac yn ddwys iawn dro arall – ond bob amser yn dal ein sylw. Daw’r cwbl at ei gilydd i gynnig profiad darllen pwerus a chwbl unigryw yn y Gymraeg.


Mae’r cymeriadau yn gwbl gredadwy, a’u teimladau a’u hemosiynau amrwd yn llawer mwy na geiriau ar bapur. Llwydda Megan i dreiddio i feddyliau’r cymeriadau a chyflwyno rhai o leisiau pobl ifanc Cymru heddiw yn effeithiol dros ben. Defnyddia ddull gwreiddiol iawn o gofnodi meddyliau Anest, sy’n llafar tu hwnt ac yn diystyru unrhyw atalnodi, ond sy’n gynrychiadol o sut mae llawer o bobl yn siarad o ddydd i ddydd heddiw, yn adlewyrchu’r iaith a ddefnyddir ar-lein ac ar ein ffonau symudol, ac hefyd yn cyfleu’r ffaith fod yr holl feddyliau yma’n gwibio trwy feddwl Anest yn ddi-stop. Mae’n effeithiol iawn ond reit intense ar yr un pryd, ac mae’n bosib na fydd y steil at ddant pawb.


tipyn o gamp cynal 'llais' cymeriadau mor wahanol drwy nofel gyfan

Iechyd meddwl Anest a Deian yw prif ganolbwynt y nofel, ond caiff nifer o themâu eraill eu trafod hefyd fel cyfeillgarwch a chariad. Profa Deian ac Anest heriau ac anawsterau tebyg, ond eto, mewn ffyrdd gwahanol iawn i’w gilydd. Teimla’r ddau nad ydyn nhw’n ddigon da, ac nad ydyn nhw’n perthyn i’r un byd â phawb arall – ond mae eu hoffter o gelf a cherddoriaeth yn eu huno ac maen nhw’n canfod lloches yng nghwmni ei gilydd.

Iechyd meddwl sydd wrth graidd y stori, ond dwi’n meddwl mai llwyddiant y nofel yw nad ydi hi’n anghofio am y bobl sydd y tu ôl i’r salwch meddwl. Caiff gwahanol gyflyrau fel gor bryder ac iselder eu trafod wrth gwrs, ond y prif ffocws ydi’r unigolion, eu meddyliau nhw, a sut maen nhw’n ceisio ymdopi a goresgyn yr heriau sy’n codi wrth fyw efo salwch meddwl.


I feddwl fod ’na bandemig, mi fuodd 2020 yn bumper year ar gyfer cyhoeddi llyfrau o safon. Mi fuodd ‘na dwf yn y nifer o lyfrau crossover fiction a gafodd eu cyhoeddi hefyd, sef llyfrau ar gyfer oedolion sydd hefyd yn addas ar gyfer oedolion ifanc. Dwi’n siŵr y bydd y ‘buzz’ sydd wedi bod am Tu ôl i’r awyr yn golygu y bydd rhai pobl ifanc yn eu harddegau yn cael eu denu at y llyfr. Oherwydd hynny, dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn nodi fod y llyfr yn cynnwys themâu anodd a dwys iawn, a all fod yn triggering ac a all beri gofid i rai darllenwyr. Tydi rhywun ddim yn cael darlun clir iawn o hynny o’r broliant, yn fy marn i. Fasa ni (Sôn am Lyfra) ddim yn argymell y llyfr ar gyfer cynulleidfa sydd o dan pymtheg oed ar y cyfan gan fod y llyfr yn trafod hunan laddiad a hunan niweidio. Ond wrth gwrs, cydnabyddwn mai dewis personol yw hyn ac mae gan bobl farn gwahanol ar gyfer beth sy’n addas i ba oedran.


Llongyfarchiadau Megan ar dy gampwaith o nofel gyntaf, rydym ni'n edrych ymlaen yn barod at yr un nesaf. Mae dyfodol disglair o dy flaen di fel awdur.

 

Every year, there’s that one book that everyone’s talking about. A few years ago, it was Llyfr Glas Nebo, and this year, it’s Tu ôl i’r awyr. Whatever your thoughts on it, you can’t say that it hasn’t made an impact. There’s been a lot of talk about it on social media, and it’s clear that the book has had such an effect on people, who felt so strongly after reading it, that they took the time to spread the word online. Everybody wants to read it, and everybody wants to say they’ve read it. From a book reviewers’ point of view, its great that there’s such passion and open discussion about our Welsh literature.


During the book’s virtual launch in November, Marged Tudur, who was chairing the talk, said:

"There are those books sometimes that just stay with you more than others, they change your way of looking at the world. This is one of them.”


Watch the whole launch here on Lolfa’s AM channel: https://www.amam.cymru/ylolfa/4061


The author has a fresh voice and a very original way of writing, both witty and intense at the same time, and never failing to grab our attention. It all comes together to offer an unique reading experience in Welsh.


The characters are believable, and their raw feelings and emotions are so much more than words on paper. Megan succeeds in delving into the minds of the characters and presents the voices of young people in Wales in such an authentic way. It’s quite an achievement to sustain two separate and very distinct characters throughout a novel like that. Anest’s way of recording her thoughts is very colloquial and informal and completely disregards rules of grammar and punctuation. Although exaggerated at times, this verbal, familiar way of writing replicates how many young people speak on a day-to-day basis through messaging apps and with friends and they will really identify with this. It conveys the chaotic thoughts racing through her head, and whilst it is very effective, it won’t be to everybody’s taste…



Anest and Deian become friends and it is their mental health that acts as the main focus of the novel, but a number of other themes are also discussed such as friendship and love. Deian and Anest experience similar challenges and difficulties, yet, in very different ways to each other. Both feel that they aren’t good enough, and that they don’t belong to the same world as everyone else – but their affection for art and music brings them together and they find refuge in each other's company and supporting one another.

Whilst mental health is at the heart of the novel, it’s success is that it does not forget about the real people behind the illnesses. Different conditions as as anxiety and depression are mentioned, yes, but the main focus is on the individuals, their thoughts, and how they try to cope with and overcome the challenges that arise when a person is living with a mental health issue.


To think that we’re in a pandemic, 2020 was a bumper year for publishing quality books. There was a growth in the number of crossover fiction that were published. These are books that may be listed as adult books, but are very suitable and appealing to young adults. I’ve even heard the term ‘new adults’ used too! These books act as a bridge between YA and adult literature and I’m sure the buzz surrounding Tu ôl i’r awyr will mean that some teenagers will choose to read it. For that reason, I think it’s only right to make it clear that the book contains some very difficult themes, which could be triggering or upsetting for some readers. You may not quite get a clear picture from the blurb. We at Sôn am Lyfra probably wouldn’t don't recommend the book for under fifteens on the whole, as the book discusses suicide and self-harm. Of course, we recognize this is a personal choice and people have differing views of what is suitable and what is not. Younger readers will need some reading stamina anyway as it’s quite a hefty book.


Congratulations on your first novel Megan, we're already looking forward to the next...

 

Cyhoeddwr/publisher: Y Lolfa

Cyhoeddwyd/released: 2020

Pris: £9.99

 

PWY YDI MEGAN ANGHARAD HUNTER?


Mae Megan yn dod o Ddyffryn Nantlle ac mae'n astudio Cymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn Y Stamp ac O'r Pedwar Gwynt, ac yn 2020 enillodd Ysgoloriaeth Awdur Ifanc Llenyddiaeth Cymru. tu ôl i'r awyr yw ei nofel gyntaf.




 

Recent Posts

See All
bottom of page