top of page

Darganfod! Newid Hinsawdd - DK [addas. Sioned Lleinau]

*For English review, see language toggle switch*



(awgrym) oed darllen: 7+

(awgrym) oed diddordeb: 6+

 

Argyfwng yr amgylchedd

“It is unequivocal.” Mae newid hinsawdd yn digwydd. Dyna mae adroddiad diweddaraf yr IPCC (2022) yn ei ddweud. Does dim amheuaeth ei fod yn effeithio ar ein planed erbyn hyn -mae angen i ni weithredu, a hynny cyn ei bod hi’n rhy hwyr!


Gyda chymaint o bethau eraill yn digwydd yn y newyddion, fel y rhyfel yn Wcráin, y cost of living crisis ac ati, hawdd yw anghofio’r argyfwng amgylcheddol a’i wylio’n llithro lawr yr agenda. Dim ond heddiw, dywedodd prif weinidog newydd y DU na fydd o’n teithio i’r gynhadledd enfawr COP27 eleni – pa fath o esiampl mae hynny’n ei osod?


Yn ddiweddar, erfyniodd y cyflwynydd enwog, Syr David Attenborough, arnom i roi stop ar newid hinsawdd er mwyn achub y blaned. Mae’r fideo yn ddirdynnol ac yn werth ei gweld – rhan o gyfres Frozen Planet II ar y BBC.



Llyfrau ffeithiol DK

Pan oeddwn i'n blentyn - llyfrau Dorling Kindersley oedd fy ffefryn. Yn wir, roeddwn i’n eu llowcio. Llongau. Trenau. Adeiladau. Ymlusgiaid. Adar. Roedd gen i’r cyfan! Heb os, rhain YW'r llyfrau ffeithiol gorau sydd ar y farchnad - o ran eu delwedd a’u cynnwys. Maen nhw mor llachar a gweledol gyda lluniau eye-catching i ddenu sylw cenhedlaeth o blant ifanc sydd wedi tyfu i fyny o flaen sgriniau. Nid gwerslyfrau llychlyd a diflas mo’r rhain! Mae’r gwaith dylunio a gosod yn ardderchog - gyda thudalennau yn orlawn â ffeithiau diddorol ond wedi eu gwahanu’n dameidiau bach mewn ffont amlwg.


Dwi wedi bod fatha tôn gron yn sôn am y diffyg llyfrau ffeithiol Cymraeg da sydd ar gael. Nid pawb sydd eisiau darllen storis am dylwyth teg neu’r Mabinogi. Fedra i ddim pwysleisio pa mor bwysig ydi cael cyfresi ffeithiol difyr, sy’n gallu bwydo chwilfrydedd ac awydd plant ifanc am wybodaeth. O edrych ar beth sydd ar gael ar y silffoedd yn y Gymraeg ar hyn o bryd - da ni ar ei hôl hi braidd. Lle mae’r llyfrau ffeithiol wedi mynd?


‘Sad’ efallai, ond mi wnes i ecseitio pan welais i fod Rily wedi addasu un o lyfrau DK o’r gyfres wych Find Out! / Darganfod!



Be wnei di ddarganfod?

Mae’r llyfr yn cychwyn o’r cychwyn - gan esbonio beth yn union ydi ‘hinsawdd.’ Mae’r llyfr yn olrhain hanes a newidiadau’r hinsawdd drwy'r oesoedd a sut y cyrhaeddon ni’r sefyllfa bryderus ’da ni ynddi heddiw. Mae’n esbonio’n glir sut mae dyn wedi effeithio ar y systemau cain sy’n cadw’r blaned yn iach ac yn gytbwys. Yn ogystal â thrafod yr achosion, cawn enghreifftiau o’r goblygiadau os na wnawn ni newid ein ffyrdd. Does dim yn portreadu’r argyfwng hinsawdd yn fwy na’r ddelwedd o’r arth wen sydd ar y clawr. Mae ’na linell denau rhwng dweud y gwir yn onest a chodi ofn heb fod angen, a dwi’n meddwl fod y llyfr yma’n taro’r cydbwysedd yn iawn.


Os ydym am weld gwir newid, rhaid i ddynolryw newid ei hagwedd a’i hymddygiad. Mae newid hinsawdd – a sut i’w ddatrys – yn broblem hynod o gymhleth, ac yn un sy’n gofyn am gydweithio byd-eang. Tydi hi ddim yn rhy hwyr eto – drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn droi’r trai ar y newidiadau pellgyrhaeddol!


Mae graddfa’r broblem fyd-eang mor fawr ei fod yn anodd i ni ei brosesu weithiau. Dyna pam dwi’n hoffi’r ffaith fod y llyfr yn cynnig syniadau ymarferol am yr hyn y gallwn NI ei wneud, ar lefel bersonol. Dewi Sant ddywedodd “Gwnewch y pethau bychain” ynte. Pan mae’r amgylchedd yn y cwestiwn- roedd o’n llygaid ei le. Rhaid i bob un ohonom ni chwarae ein rhan, hyd yn oed os yw hynny’n golygu troi’r thermostat i lawr ambell i radd, neu sychu’r dillad ar y lein yn lle eu taflu mewn i’r tumble dryer.



Mwy Mwy Mwy!

Dwi wedi gwirioni efo’r llyfr yma - plîs plîs Rily wnewch chi addasu mwy o’r gyfres? Dwi wedi archebu sawl un o’r llyfrau Saesneg yn barod (Engineering, Reptiles a Space Travel!) ac mi fasa’n grêt cael mwy o’r gyfres yn y Gymraeg.


Dyma lyfr fydd yn hynod o ddefnyddiol yn yr ystafell ddosbarth, i wneud gwaith daearyddiaeth ar gynhesu byd eang neu gynaliadwyedd, er enghraifft. Fel athro fy hun, gallaf dystio bod y llyfr yma’n cynnig llawer iawn o gyfleoedd am waith ymchwil annibynnol ac am drafodaethau difyr.


Y genhedlaeth nesaf fydd yn etifeddu’r blaned, (neu be fydd ar ôl ohoni!) felly mae’n hynod o bwysig iddyn nhw gael dealltwriaeth gadarn o’r sefyllfa a sut y gallan nhw ysgogi newid – jest fel Greta a’r miliynau o blant aeth ar streiciau ysgol dros yr amgylchedd yn 2019.

Gyda’n gilydd, fe allwn ni stopio newid hinsawdd. Mae’n rhaid i ni!

egni adnewyddadwy - pwnc hynod o amserol!

 

Gwasg: Rily

Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2022

Pris: £6.99

 

ADRODDIAD YR IPCC


IPCC, 2022: Climate Change 2022: Impacts, Adaptation and Vulnerability. Contribution of Working Group II to the Sixth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change [H.-O. Pörtner, D.C. Roberts, M. Tignor, E.S. Poloczanska, K. Mintenbeck, A. Alegría, M. Craig, S. Langsdorf, S. Löschke, V. Möller, A. Okem, B. Rama (eds.)]. Cambridge University Press. Cambridge University Press, Cambridge, UK and New York, NY, USA, 3056 pp., doi:10.1017/9781009325844

bottom of page