top of page

Pobl fel Ni - Cynan Llwyd

Updated: Jun 14, 2020

*Scroll down for English*


24 awr wedi'r ffrwydriad yng Nghaerdydd.

24 hours after an explosion in Cardiff.


Genre: ffuglen #byr / #short fiction,

Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◎

Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉

Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◉◉◉◉

Trais, ofn/violence, scary: ◉◉◉◎◎

Iaith gref/language: ◉◉◉◎◎

Rhyw/sex: ◎◎◎◎

Hiwmor/humour: ◎◎◎◎

Her darllen/reading difficulty::◉◉◎◎

Dyfarniad/Rating: ★★★

 

Syniad gwerth chweil yw’r gyfres ‘Stori Sydyn’ sy’n gwneud yn union beth mae’n ddweud ar y tun (fel yr hen advert Ronseal) - rhoi stori dda, gyflym i chi, am bris rhesymol IAWN! Llyfrau amlbwrpas iawn yw’r rhain - yn ideal os ydych chi’n oedolion, pobl ifanc, dysgu Cymraeg, newydd i ddarllen neu hyd yn oed jest prin o amser! Fe gewch deimlo’r balchder o actually gorffen nofel am chenj gan nad ydyn nhw’n rhy hir.



Defnyddia’r clawr liwiau trawiadol i fachu ein sylw o’r cychwyn gyda melyn a du sydd fel arfer yn dangos ‘Perygl!’ Un cwestiwn sydd gen i am y clawr – ai silhouette o’r awdur ydi hwnna? – [Awdur wedi ateb – Na!]


Cychwynna’r nofel pan mae Nathan (bachgen gwyn) yn cyfarfod Sadia (merch Fwslimaidd) ar fws ac mae’r ddau yn cychwyn cyfeillgarwch sy’n prysur droi fewn i berthynas. Digwyddodd eu sgwrs gyntaf ar y bws dros lyfr - felly bobl, os ‘da chi’n single pringles - anghofiwch am Tinder ac ewch am reid ar fws gyda llyfr da tro nesaf!


Er bod y ddau yn hapus iawn gyda’i gilydd, mae ‘na broblem hiliaeth yng Nghymuned Trelluest (ia, yr enw Cymraeg ar Grangetown - dwi wedi dysgu rhywbeth newydd) ac mae eu perthynas yn codi aeliau rhai yn y gymuned. Yn sicr nid yw tad Nathan, sy’n hiliwr rhonc yn cytuno gyda dewis ei fab. Roedd perthynas y Tad a’r mab yn ddiddorol – mae’r ddau yn gig a gwaed – ond eto – yn ddim byd tebyg. A dweud y gwir, mae gan Nathan gywilydd mawr o’i Dad a’i gredoau.



Am nifer o resymau, ond gan gynnwys y tlodi a’r diweithdra, mae tensiynau’n uchel rhwng y ddwy gymuned a daw’r gymuned Fwslimaidd yn darged i gamdriniaeth hiliol gan gael eu beio am ‘ddwyn ein jobs.’

Prif ddigwyddiad y nofel yw ffrwydrad mewn cyngerdd yn ardal Caerdydd, o bosib yn ymosodiad terfysgol ond ni chawn gadarnhad o hyn. Caiff ein prif gymeriadau eu dal yng nghanol erchylltra’r noson. Roedd y dryswch, yr ofn a’r panig yn y munudau yn dilyn y bom yn fy atgoffa o’r ymosodiad ym Manceinion. Scary.


Fe geir yma ddweud pwerus gan yr awdur sy’n gwneud observation o ba mor sydyn mae’r cyfryngau i symud ymlaen a chwilio am y ‘stori fawr’ nesaf:

Mae pob trasiedi’n troi’n hashnod. Ond yna daw’r hashnodau i ben a fydd neb yn cofio a fydd dim byd yn newid.”


Yn dilyn yr ymosodiad, ac er nad oes tystiolaeth o bwy oedd yn gyfrifol, mae grŵp o eithafwyr adain dde yn benderfynol o ‘dalu’r pwyth yn ôl’ ac mae torf ohonynt yn ymgasglu er mwyn llosgi’r mosg. Na i ddim sbwylio beth sy’n digwydd nesaf, ond mae’r penodau olaf yn reit frawychus a disturbing. Anodd credu fod pethau fel hyn wedi digwydd go iawn. Tybiwn fod llawer o’r nofel wedi ei ysbrydoli gan bethau sydd wedi digwydd yn ein byd yn barod.


Dwi'n hoffi'r syniad o'r tad fel wise Yoda.

Rhywbeth sy’n nodweddiadol o’r awdur yw ei ddisgrifiadau manwl ac effeithiol. Roeddwn yn hoff iawn o’r trosiad sy’n disgrifio’r tensiwn hiliol fel llosgfynydd Vesuvius, sydd ar fin chwythu. Neu’r syniad o gasineb fel drewdod fishy mecryll: “Mae casineb fel mecryll. Mae’n gadael ei ôl. Mae’n difetha popeth da. Mae’n staenio bywyd.” (ond dwi dal yn hoffi mecryll, sori!)

Efallai fod rhai o enwau defnyddiwr y dynion ar y chatroom braidd yn ystrydebol ac on-the-nose e.e. ‘Brits4Britain, Whiteguy, Angrydude’ ond wedi dweud hyn, yn aml iawn, mae’r idiots yma’n loud and proud gyda’u credoau gwirion. Mae ‘na fwy o’r ‘right wing extremeists’ ‘ma yn ein plith ‘na fyddech chi’n tybio. Mi ddes i ar draws un neu ddau ar fy Facebook fy hun cyn heddiw - cawson nhw eu ‘unfriendio’n reit handi!


Ym mis Mai 2020, yn dilyn llofruddiaeth dyn du yn America gan heddwas gwyn, sbardunodd hyn brotestiadau ar draws y byd gan ailgynnau’r ddadl ar hiliaeth (yn defnyddio’r hashnod #blacklivesmatter #bywydauduobwys.) Mae’r pynciau o hiliaeth a rhagfarn sydd dan sylw yn y nofel yn rhai go iawn a pherthnasol iawn heddiw. Yn ôl y ffigyrau, mae troseddau casineb wedi cynyddu yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hiliaeth ac anghydraddoldeb ar sail lliw croen yn rhywbeth sy’n dal i fod yn broblem yma yng Nghymru ac yn ‘bandemig’ yn ei hun. Croesawaf unrhyw beth sy’n agor y drws ar drafodaeth ac yn rhoi’r mater o dan y lach. Mae Pobl fel Ni yn nofel sy’n cychwyn sgwrs am hyn - gallaf weld defnydd addysgiadol da iddo yn ein hysgolion, lle mae angen gwneud mwy o waith ar daclo hiliaeth a rhagfarn. Y genhedlaeth nesaf yw’r gobaith y bydd pethau’n well.


Dyma nofel fer, pacy, sy’n codi cwestiynau mawr, ac un y gallaf argymell yn llwyr. Dwi’n falch fod y nofel yn cloi ar nodyn positif fod cariad yn drech na chasineb:


“er gwaethaf popeth, mae bywyd yn cynnig prydferthwch.”


Amen i hynny.


 

What a great idea the ‘Stori Sydyn’ [quick story] series is, that does exactly what it says on the tin (like the old Ronseal advert) – gives you an engaging, fast-paced story at a VERY reasonable price! This book (and indeed the series) is ideal for adults, young people, new readers, Welsh learners or even if you’re just short on time. If you’re like me, these books will give you the satisfaction of actually finishing a novel for once!


The cover makes use of very striking colours, that immediately grabs our attention with the use of yellow and black – normally associated with danger signs. I’m glad the blue strip has disappeared from the series (Sorry, just never liked it). I have one question about the cover – is it a silhouette of the author himself? [He answered – no it isn’t!]


The novel begins when Nathan (a white boy) meets Sadia (a Muslim girl) on a bus and she initiates a friendship that rapidly turns into a relationship. Single people take note - their first conversation on the bus happened over a book so, ditch Tinder and hop on a bus with a good book- you never know who you’ll get talking to!


Although both are very happy together, racism is a big concern in the community of Trelluest (yup, the Welsh name for Grangetown- I've learned something new today) and their relationship raises a few eyebrows to say the least. Nathan’s father, who is a staunch racist and anti-immigrant supporter certainly disagrees! Because of the poverty and unemployment, tensions are high between the two communities and the Muslim community becomes the target of racial abuse for 'stealing our jobs.' I am intrigued by Nathan’s relationship with his violent Dad – They are flesh and blood yet nothing alike and Nathan is deeply ashamed.


The main plot point of the book is a bomb in a concert in the Cardiff area, which is likely to be a terrorist attack. Our main characters are caught in the midst of the chaos and confusion. The fear and panic reminded me of the distressing images I saw on the news in Manchester following the May 22 explosion. There’s some thought-provoking stuff here from the author who draws our attention to the use of hashtags in such a crisis and how quickly people forget and move on to the next bit of ‘big news.’


Following the attack, (although there’s little evidence of who was responsible) a group of right-wing extremists are determined to seek revenge and a large crowd intends to burn down the mosque. I won’t spoil what happens next, but it is quite frightening and frankly disturbing. It’s hard to believe that things like this can, do and have happened when people are hurting and looking for some sort of vigilante justice.


A trademark of this author are his detailed and effective descriptions. I liked the metaphor describing the racial tension like the Vesuvius volcano, which has just erupted. Or how about the comparison of hatred and the lingering smell of mackerel. (Sorry, but I still love mackerel!)


Some examples may be a bit stereotypical and on-the-nose e.g. the names of the men on the chatroom – 'Brits4Britain, whiteguy, angrydude, but having said that, some of these right-wing idiots are quite open and proud about their divisive views. There are more of them around than you care to think – I came across a few on my Facebook friends list not long ago – safe to say they were promptly unfriended.


In May 2020, following the unlawful killing of a black man by a white officer in America, protests began happening all over the world using the slogan #Blacklivesmatter #BywydauDuoBwys. The subjects discussed in the novel are real and very relevant today. Apparently, hate crimes have gone up in the last couple of years in Wales so racism and racial inequality are still issues we have yet to tackle. It is a pandemic in itself. I welcome anything that opens the door on these issues and brings it under the spotlight. Pobl Fel Ni gets you thinking about these things and I can see it having valuable use in secondary schools as a starter for discussion on race.


This is a short, pacy novel which raises big questions, and one that I can wholeheartedly recommend.


I’m glad the novel concludes on the positive note that love prevails over hatred:


"Despite everything, life offers beauty."


Amen to that.

 

Cyhoeddwr/publisher: Y Lolfa

Cyhoeddwyd/Released: Ebrill 2020

Pris: £1 (Bargain!!!)

 

76 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page