top of page

Diwrnod Prysur! - Huw Aaron

Updated: Mar 20



(awgrym) oed darllen: 5+

(awgrym) oed diddordeb: 0-5


 


ADOLYGIAD SYDYN GAN LLIO MAI


Mae ‘Diwrnod Prysur!’ yn lyfr llun a gair syml sy’n adlewyrchu diwrnod prysur plentyn. Cawn ein cyflwyno i 21 o wahanol ferfenwau fel bwyta, dringo, dawnsio a chwerthin. Ynghyd â’r geiriau ceir un o ddarluniau bywiog a lliwgar Huw Aaron o blentyn bach yn gwneud y weithred.


Dyma lyfr gwych i’w ddarllen gyda phlentyn sy’n dechrau dysgu geirfa ehangach a dw i’n credu y gall fod yn lyfr defnyddiol ar gyfer dangos ac ymarfer strwythur diwrnod i blentyn hefyd. Fel mae Huw Aaron yn ddweud mae ‘gair a gwneud yn dod gyda’i gilydd i blant’ a dw i’n siŵr y byddai’r rhai bach yn cael hwyl yn gwneud rhai o’r gweithredoedd sy’n cael eu darlunio yn y llyfr hwn wrth ei ddarllen. Beth am chwarae gêm bach i ddysgu’r berfenwau/gweithrediadau? Simon Says efallai...


Yng nghefn y llyfr mae cyfieithiad o’r geirau a brawddegau ffonetig sy’n cynnig help llaw i unrhyw blentyn, rhiant neu oedolyn arall sy’n dysgu Cymraeg ac eisiau ymarfer rhai o’r geiriau.  Mae hyn yn syniad gwych a dylai hyn gael ei gynnwys mewn mwy o lyfrau.


Mae ‘Diwrnod Prysur!’ yn lyfr grêt i’w ddarllen cyn amser gwely, i ddysgu geirfa newydd, ac i’w ddefnyddio yn ystod y dydd i helpu plentyn bach gyda threfnu y diwrnod. Does dim ‘stori’ ar ffurf naratif draddodiadol yma fel y cyfryw, ond nid dyna ei bwrpas. 







 

Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch

Dyddiad Cyhoeddi: Medi 2023

Fformat: Clawr meddal

Pris: £6.95

 

bottom of page