top of page

'Dolig Diflas y Dyn Dweud Drefn - Lleucu Lynch

*For English review, please see language toggle switch*


(awgrym) oed darllen: 6/7+

(awgrym) oed diddordeb: 4-7

Lluniau: Gwen Millward https://www.gwenmillward.com/

 

ADOLYGIAD GAN LLIO MAI



Os oes yna unrhyw un sy’n casáu’r Nadolig, y Dyn Dweud Drefn ydi hwnnw! O fod wedi darllen y llyfrau blaenorol, dw i’n siŵr ein bod i gyd wedi gallu dyfalu na fysa’r Dyn Dweud Drefn yn ffan mawr o holl ffỳs, sŵn a goleuadau’r ŵyl. Rhywun sy’n hoff iawn o’r Nadolig ydi’r Ci Bach. Eleni, rhywsut neu’i gilydd, mae’r Ci Bach wedi llwyddo i berswadio’r Dyn Dweud Drefn i roi cynnig ar ddathlu’r Nadolig - heb ddweud y drefn! Tipyn o sialens i’r Dyn Dweud Drefn yn wir!


Tybed a fydd y Dyn Dweud Drefn yn llwyddo i beidio dweud y drefn trwy gydol y dydd? Mae’n sicr yn cael ei herio sawl gwaith yn ystod y diwrnod. Caiff ei ddeffro’n gynnar, a tydi hynny ddim yn ddechrau da iawn i ddiwrnod Nadolig y Dyn Dweud Drefn. Bydd yn rhaid i chi brynu copi o’r llyfr er mwyn gwybod a fydd y diwrnod yn llwyddiant, ac os ydi’r Ci Bach yn llwyddo i gael y Dyn Dweud Drefn i fwynhau’r Nadolig, heb ddweud y drefn.


Dw i’n hoff iawn o’r gyfres yma gan Lleucu Fflur Lynch. Mae cymeriad y Dyn Dweud Drefn yn wych, ac mae ei berthynas efo’r Ci Bach yn rhoi deunydd am straeon lu i’n diddanu. Caiff y ddau eu portreadu’n wych unwaith eto trwy luniau hoffus a swynol Gwen Millward.

Dyma lyfr gwych i’w ddarllen dros gyfnod y Nadolig (ac unrhyw bryd arall a dweud y gwir)! Mae’n stori am gyfeillgarwch ac am yr hyn all ddigwydd pan mae rhywun yn mentro gwneud rhywbeth yn wahanol ac yn camu allan o’u comfort zone.




Cymeriad newydd - Y Ddynes Dweud Drefn! ha!

 

Gwasg: Carreg Gwalch

Cyhoeddwyd: 2022

Pris: £4.95

 

HEFYD YN Y GYFRES...



bottom of page