top of page

Cnwcyn - Meinir Pierce Jones

*For English review, please see language toggle switch*


(awgrym) oed darllen: 6+

(awgrym) oed diddordeb: 4+

 

Trwbl yn y goedwig...


Stori newydd, berthnasol i’r oes sydd ohoni gan awdur sy’n hen law ar ’sgwennu straeon difyr.

Dwi’n licio’r enw ‘Cnwcyn’ - enw bach doniol sy’n gweddu’n iawn i gnocell y coed - aderyn rydych yn siŵr o’i glywed cyn i chi ei weld! Mae Cnwcyn (a’i ffrindiau) yn byw yng nghoedwig Pen-y-Bryn yn ddedwydd eu byd, nes i’r dynion mewn hetiau caled ddod i darfu ar eu heddwch. A dweud y gwir, maen nhw’n gwneud mwy na hynny, achos wedi dod i chwalu a dinistrio’r goedwig maen nhw, gan wneud Cnwcyn yn ddigartref yn y broses.


Er iddo ofyn i sawl un o’i gymdogion cyfagos am lety, does ’na neb eisiau rhoi to uwch ei ben. Cnwcyn druan. Mae ei sefyllfa anffodus ar ôl colli ei gartref yn ein taro hyd yn oed yn fwy ar hyn o bryd, a ninnau’n gweld sefyllfa dorcalonnus pobl Wcráin sydd hefyd wedi gorfod codi eu pac a chanfod eu hunain heb gartref.

Mynd o ddrwg i waeth mae pethau ym Mhen-y-Bryn. Pan mae tân mawr yn bygwth yr anifeiliaid eraill, pwy sydd yno’n syth i helpu? Cnwcyn siŵr iawn. A buan iawn daw’r anifeiliaid eraill i sylwi mai trwy weithio gyda’i gilydd a chael dipyn bach o ffydd mae goresgyn unrhyw her.

Tybed fydd Cnwcyn yn llwyddo i ddod o hyd i gartref newydd?



Negeseuon cyfoes

Llyfr gwreiddiol Cymraeg yw hwn, gyda naws ‘traddodiadol’ ond sy’n cynnwys negeseuon cyfoes fel datgoedwigo, yr amgylchedd a digartrefedd yn ogystal â rhai bythol-bwysig fel cyfeillgarwch a chydweithio. Swnio fel lot o themâu i’w cynnwys mewn un stori? Wel, maen nhw’n slotio i mewn yn daclus ac yn naturiol i’r stori, heb gael eu gorfodi.


Dwi’n deall fod plant yn gweld y byd yn fwy du a gwyn nac oedolion, ac mae na limit i be fedrwch chi gynnwys mewn llyfr i blant bach, ond oes ‘na dueddiad i bortreadu’r dynion torri coed braidd yn ystrydebol fan hyn fel y big bad guys? Ella mai fi sy’n gorfeddwl – ond mae gweithwyr coedwigaeth angen byw hefyd does! Ella bod y neges o ddatgoedwigo cynaliadwy braidd yn heriol ar gyfer llyfr o’r fath, ond o bosib, byddai wedi bod modd tynnu sylw ato rhywsut? Cyfeillgarwch a gweithio fel tîm yw prif negeseuon y llyfr, fodd bynnag.



Yn ôl rhai ystadegau, ’da ni’n colli 10 miliwn hectar o goedwigoedd bob blwyddyn ar draws y byd (sy’n lot fawr, ac yn bryderus iawn!) Gorau po gyntaf y gallwn addysgu’r rhai lleiaf am y problemau sy’n wynebu byd natur – gan obeithio y gwnawn nhw well job o ofalu amdano na wnaeth ein cenhedlaeth ni.


Bargen!

Mae’r gwaith celf cartŵnaidd yn drawiadol ac yn lliwgar, ac mae’n stori ddigon sylweddol – sy’n golygu gwerth am arian am eich £6.99! Stori ‘nos da’ perffaith sy’n galw am oedolyn i helpu gyda’r darllen, ac i fod yno i gael sgwrs am rai o’r pynciau difyr sy’n codi.


Mae digon o gyfleoedd trafod yn codi o'r llyfr - ar gyfer plant 7+ hefyd. Llyfr y baswn i'n defnyddio mewn gwasanaeth ysgol yn sicr.

 

Gwasg: Atebol

Cyhoeddwyd: Medi 2022

Pris: £6.99

 

bottom of page