Byw yn fy nghroen - Amrywiol

*Scroll down for English & comments*


Profiadau pobl ifanc sy'n dioddef yn dawel

The experiences of young people suffering in silence.


♥♥Llyfr y mis Awst 2019 - August Book of the Month♥♥


Genre: iechyd a lles, hunan-help / health & wellbeing, self-help

Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◉◉ Themau trist,anodd/upsetting,tough themes: ◉◉◉◎◎ Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎ Iaith gref/language: ◉◎◎◎◎ Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎ Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◉◉◎

Dyfarniad/verdict: ★ ★ ★ ★ ☆

Adolygiad gan Manon Elin James


Dyma gyfrol lle y mae dwsin o bobl ifanc rhwng 10 a 26 oed yn rhannu eu profiadau o fyw â chyflyrau iechyd hir dymor, a hynny’n gwbl agored ac yn onest.



Rhoddir sylw i amrywiaeth eang o gyflyrau: iselder, gorbryder, cancr y gwaed, anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD), spina bifida, clefyd y siwgr math 1, epilepsi, ulcerative colitis, clefyd stargardt, CFS/ME, acne a Myasthenia Gravis. Mae enwau rhai o’r cyflyrau yn gyffredin, ond mae’n bosib mai dyma’r tro cyntaf i nifer ohonynt gael eu trafod yn gyhoeddus yn Gymraeg.


Egyr y gyfrol â rhagair gan y golygydd, Sioned Erin Hughes, sy’n egluro mai nod y gyfrol yw rhoi “llais i’r sawl sydd wedi ofni eu geiriau eu hunain cyhyd, a hynny ar gownt y stigma”, gan ddangos hefyd nad yw bywyd pobl ifanc yn fêl i gyd.


Ceir rhestr hynod ddefnyddiol o beth y dylid, ac na ddylid, ei ddweud wrth rywun sy’n byw â salwch neu gyflwr hirdymor. Er enghraifft, gall rhywbeth mor syml â gofyn ‘Sut wyt ti’n teimlo heddiw?’ fod o gymorth mawr. Rwy’n siŵr y bydd rhestr o’r fath yn annog sgyrsiau, gan fod pobl yn fwy hyderus eu bod yn gwybod beth i’w ddweud.



Ceir strwythur a fformat gwahanol i bob pennod, gyda rhai cyfranwyr yn rhannu sut mae’r salwch wedi effeithio arnynt wrth iddynt dyfu i fyny, ac eraill yn penderfynu canolbwyntio ar gyfnod penodol. Er enghraifft, cofnod o ddiwrnod gydag OCD a gawn gan Elis Derby, sy’n dangos bod symptomau ac effaith cyflyrau o’r fath yn amrywio yn ddyddiol. Pwysleisir hyn hefyd gan Mared Jarman, a ddywed nad yw ei golwg hi’n gyson: “mae’n newid o ddydd i ddydd, o awr i awr, o ystafell i ystafell, ac o berson i berson.”


Mae’r profiadau a rennir yn y gyfrol hefyd yn llwyddo i chwalu mythau am rai o’r cyflyrau. Wrth feddwl am epilepsi, mae’n siŵr y bydd y rhan fwyaf ohonom yn meddwl yn syth am ffitiau. Ond mae darn Liwsi Mô yn ein haddysgu am fath penodol o epilepsi, sef Atypical Absence Epilepsy. Yn yr un modd, mae Elis Derby yn chwalu’r stereoteip niweidiol mai gair i ddisgrifio person taclus neu drefnus yw OCD drwy ddisgrifio’r ‘meddyliau drwg’ a gâi: “darluniau o weld aelodau o fy nheulu yn cael eu hanafu’n ddifrifol mewn damwain car.”


Yr hyn sy’n gwneud y gyfrol yn arbennig yw’r modd y plethir cyflyrau corfforol a meddyliol. Wedi’r cyfan, mae’n anodd meddwl am unrhyw salwch neu gyflwr na fyddai’n cael effaith negyddol ar sut mae rhywun yn teimlo. Sonia Lois Mererid Williams am yr unigrwydd a deimla “fod ’na neb arall yn dallt ‘go iawn’”. Cofnoda Sioned Erin Hughes hefyd fod sgileffaith cyffuriau i drin Myasthenia Gravis yn medru cynnwys mathau o iselder, gorbryder, hysteria a pharanoia.