(awgrym) oed darllen: 5+
(awgrym) oed diddordeb: 0-5
Disgrifiad Gwales:
Llyfr chwilio-a-chanfod hud lle gall plant chwilio am gymeriadau Nadoligaidd trwy gyfrwng 'ffenest glyfar' ar bob tudalen. Ceir pum golygfa dymhorol, a thrwy ddefnyddio'r torts hud ar ffurf cerdyn rhwng y tudalen a'r 'ffenest glyfar', caiff plant eu swyno a'u rhyfeddu gan y darluniau cudd a ddatgelir.
Un o’r pethau mwyaf diddorol wnes i yn 2023 oedd cael job mewn llyfrgell. Dwi wrth fy modd yng nghanol y llyfrau, ac mae’n gyfle grêt i ffeindio allan am rai bach da. Dyma sut wnes i glywed am Ble mae Santa/ Where’s Santa? – pan ddaeth plentyn a fo at y ddesg er mwyn cael ei fenthyg. Roeddwn i’n meddwl fod y llyfr yn cŵl ac yn wahanol iawn.
Dyma chydig o bwyntiau bwled amdano:
Mae'r llyfr yn ddwyieithog felly yn grêt os 'da chi'n dysgu Cymraeg neu isio helpu eich plentyn. Os 'da chi'n gallu siarad Cymraeg yn barod, wel, 'da chi'n cael bargen - dau stori am bris un!
Mae steil y llyfr yn gyfoes ac yn lliwgar
Mae'r stori yn cynnwys tortsh er mwyn chwilio am wahanol gymeriadau - bydd hyn yn siŵr o wneud darllen yn hwyl - yn enwedig os 'da chi'n cael trafferth cael eich plentyn i eistedd lawr i wrando ar stori. Rhaid i chi lithro'r tortsh rhwng y tudalenau er mwyn ei ddefnyddio.
Mae'r tortsh yn rhyngweithiol ac yn rhoi rhywbeth i'r plant wneud wrth ddarllen.
Gwyliwch y clip fideo isod i weld sut mae'n gweithio:
コメント