top of page

Pawb a Phopeth: Byd y Gymraeg / World of Welsh - Elin Meek

♥Llyfr y Mis: Medi 2023♥



(awgrym) oed diddordeb: 2+

(awgrym) oed darllen: 4+

 

DISGRIFIAD GWALES

Croeso i fyd y Gymraeg – byd sy’n llawn geiriau, lliw, bywyd a chalon. Dewch ar daith i ganfod trysorau’r Gymraeg, o ystyr enwau lleoedd, i idiomau a diarhebion. Cewch grwydro maes yr Eisteddfod a dysgu am draddodiadau, taclo treigladau a phobi bara brith! Dyma lyfr godidog i blant ac oedolion i gael dysgu am Gymru a’r Gymraeg, a’i chyfraniad pwysig i’n byd.


 

ADOLYGIAD GAN DIANE EVANS, ATHRAWES YMGHYNGHOROL Y GYMRAEG


Mae Byd y Gymraeg yn daith i Gymru o fewn tudalennau llyfr Elin Meek gyda gwaith dylunio hyfryd Valeriane Leblond. O fewn y llyfr ceir gwybodaeth am y Gymraeg, rhai o’r pethau sy’n gwneud Cymru yn unigryw a geirfa Cymraeg am wyliau, baneri a chyfandiroedd y byd. Mae nifer helaeth o’r tudalennau yn ddefnyddiol iawn ar gyfer gwaith Cwricwlwm i Gymru yn enwedig yn yr ysgolion mewn ardaloedd Seisnigaidd sy’n addysgu’r Gymraeg fel ail iaith. Fe geir banc o eirfa ar gyfer Yr Urdd a’r Eisteddfod, geirfa storïau Cymru, bwyd traddodiadol ac ati.



Rhywbeth gwahanol, ond defnyddiol yw’r cod QR ar gyfer y tudalennau Diarhebion, Cymariaethau ac Idiomau sydd yn ardderchog ar gyfer dysgwyr a’u rhieni, yn enwedig wrth roi cymorth i ynganu. I ddweud y gwir byddai hyn wedi bod yn handi ar gyfer mwy o’r tudalennau.


Ar ddechrau’r llyfr, fel y disgwyl, mae’r dudalen gynnwys yn dangos  pump ar ugain o benawdau e.e. Does Neb fel fi! Dyma ddwy dudalen wych sy’n cyflwyno geirfa rhannau’r corff, y synhwyrau a berfau ac ansoddeiriau gyda nodyn i atgoffa bod ansoddeiriau’n treiglo’n feddal ar ôl yn.


Defnyddiol dros ben ydy’r rhan Gwyliau a Dathliadau lle ceir chwe tudalen yn llawn o ddathliadau sy’n arbennig i ni yng Nghymru e.e. Diwrnod Owain Glyndŵr ond sydd hefyd yn cynnwys rhai cenedlaethol fel Diwrnod y Ddaear, Diwrnod Siocled y Byd, Mis Hanes Pobl Ddu.


Gellir defnyddio tudalennau’r llyfr yn y cartref wrth gwrs ond maen nhw hefyd yn addas ar gyfer gemau cyflwyno a drilio geirfa yn y dosbarth e.e. dwy dudalen Y Nadolig. Beth am chwarae gêm Sblat*?


*Oedolyn/athro i roi gair Saesneg a’r plentyn i bwyntio at y llun cywir gan weiddi “Sblat!”


*Oedolyn/athro i roi gair yn Saesneg a’r plentyn i bwyntio at y llun cywir ac enwi yn Gymraeg mor gyflym a phosib gan weiddi “Sblat!”



Rhai syniadau eraill posib:

* Dewis tudalen e.e.Yn y Ddinas. Plentyn i gael amser i edrych ar y geiriau/lluniau am 30 eiliad ac yna gweld faint ohonyn nhw maen gallu cofio.


*Dewis un o’r lluniau fel pwll nofio ond peidio dweud p’run. Plentyn arall i geisio dyfalu gan ofyn “Wyt ti yn y theatr?” Ydw / Nac ydw. Mae hyn yn dysgu patrymau iaith holi ac ateb.


Dyma lyfr lliwgar a defnyddiol gan Rily sy’n wych ar gyfer y cartref a’r ysgol. Mae'n llawn lluniau a geirfa handi ar gyfer gwaith cartref neu ar gyfer ehangu geirfa personol. Mae cymaint o waith wedi mynd i mewn i greu a dylunio'r llyfr hardd yma. Yn bennaf wedi ei anelu at siaradwyr newydd/dysgwyr ond mae ganddo ddefnydd ar gyfer siaradwyr cynhenid ifanc hefyd, megis plant ifanc. Mae’r tudalennau prysur a lliwgar yn siŵr o annog trafodaeth. Mi fydda i yn argymell y llyfr yma i athrawon sydd â sgiliau Cymraeg cyfyngedig ond sy’n gorfod addysgu’r Gymraeg fel pwnc. Dwi wedi rhoi ‘chydig o syniadau o dasgau posib, ond wir yr, mae’r posibiliadau’n ddi-ben draw hefo adnodd mor hyblyg.




 

Cyhoeddwr: Rily

Cyhoeddwyd: 2023

Pris: £12.99

Fformat: Clawr Caled

 

AM YR AWDUR: ELIN MEEK




bottom of page