top of page

Adref heb Elin - Gareth F. Williams

*For English review, please see language toggle switch*


♥Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2007♥


(awgrym) oed darllen: 12+

(awgrym) oed diddordeb: 12+

 

Clasuron wedi mynd yn angof

Dwi’n cofio darllen yn rhywle fod ’na dros 100 o gyhoeddiadau i blant a phobl ifanc yn cael eu cyhoeddi yng Nghymru bob blwyddyn, a gyda chymaint o deitlau newydd yn cyrraedd y farchnad, hawdd iawn yw anghofio am rai a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl, heb sôn am bron i ugain! Mae ’na glasuron coll yn llechu ar y silffoedd w’chi.


Ar ôl penderfynu y baswn i’n chwilota yn y llyfrgell am lyfr hŷn i’w ddarllen, dwi newydd orffen darllen Adref Heb Elin, gan y diweddar Gareth F Williams (lej) a’r unig beth alla i ddweud ydi, mam bach, dwi angen lie down ar ôl hynna.


Hunllef

Dyma nofel sy’n adrodd hanes hunllef waethaf pob rhiant: plentyn yn diflannu heb esboniad. Fel sy’n amlwg o’r teitl, mae Elin, merch sydd bron yn ddwy ar bymtheg oed, wedi mynd, a does dim golwg ohoni. Mewn nofel sydd wedi cael ei rhannu’n dair rhan, cawn ein tywys gan yr awdur trwy brofiad erchyll y teulu yn y dyddiau cyntaf, hyd at ddwy flynedd ar ôl y diwrnod.


Mae’r stori i gyd o safbwynt Ceri Mai, chwaer Elin, sy’n gorfod wynebu’r sefyllfa gyda’i rhieni ar ôl i Elin fynd yn AWOL. Teimla’r dyddiau cyntaf fel corwynt – yr Heddlu gyda’u cwestiynau diddiwedd, y papurau newydd, a’r sïon anochel sy’n mynd o amgylch y pentref.


Yn fuan iawn yn y nofel, cyn i’r teulu sylweddoli beth sydd wedi digwydd, mae’r darllenydd yn dechrau gweld sut mae pethau am fynd i fod yn llawer gwaeth i’r teulu druan. Wrth iddyn nhw baratoi i eistedd i lawr i fwyta, mae cwestiwn diniwed y fam, ‘be ydi hanas dy chwaer, dywad?’ yn gwneud i ni riddfan – y teimlad annifyr ’na sy’n tyfu, lle mae rhywun yn trio peidio â phoeni ac yn trio actio’n calm, cyn sylweddoli fod rhywbeth o’i le.



Trwy lygaid Ceri, rydan ni’n profi sefyllfa fasa neb yn dewis gorfod ei hwynebu. Y diffyg atebion ydi’r peth gwaethaf siŵr o fod. Oni bai am nofel fel hyn, dwi’m yn meddwl y baswn i’n gallu dychmygu’r fath beth. Mae Ceri, a’i theulu, yn profi pob emosiwn dan haul, o hiraeth anobeithiol hyd at atgasedd pur.


Yn y dyddiau cyntaf ar ôl y diflaniad, mae ’na ymdrech fawr gan yr awdurdodau a’r teulu i ddod o hyd iddi, ond yn raddol, mae’r gobaith yn pylu, ac mae’r chwilio’n dirwyn i ben. Tra mae pobl eraill yn dechrau cario ’mlaen efo’u bywydau, mae poen y teulu yn parhau, ac yn dyfnhau, os rywbeth. Hunllef ddi-baid.

Mae’r effaith ar y teulu yn sylweddol ac fe ddangosai'r gorau a’r gwaethaf o wahanol aelodau o’r teulu. Wrth i Ceri a’i thad dyfu’n agosach, ymbellhau a wna’r fam, a gallant wneud dim ond gwylio’n ddiymadferth wrth iddi lithro’n ddyfnach i dywyllwch enbyd:

“Yn fuan ar ôl hynny mi dda’th y niwl, yn do? Tra oeddech chi allan yn yr ardd yn tynnu dillad oddi ar y lein, rhyw hen niwl oer ac annifyr oedd yn gwrthod codi o gwbl; doeddech chi ond yn ca’l ambell gip trwyddo fo bob hyn a hyn, dim digon i chi weld nad oedd pethau fel y dylan nhw fod. Roedd o fel ’sa chi wedi dŵad adra a ffeindio fod rhywun sbeitlyd wedi newid ’ych dodrafn chi i gyd am rei diarth, a bod neb arall wedi sylwi ond chi.”

Er cof am Gareth F

Gareth F yw fy hoff awdur Cymraeg, a does dim rhyfedd ei fod wedi ennill Gwobr Tir na n-Og cymaint ag y gwnaeth. Petai dal yma, dwi’n sicr y byddai wedi cyhoeddi sawl clasur arall. Dwi’n cynghori unrhyw un i fynd i ddarganfod ei nofelau. Mae ganddo ddawn dweud syml a chlir, ac mae rhai darnau yn sefyll allan ac wedi aros gyda mi:


“Mae breuddwydion cas yn well o lawer am setlo yn y cof, ond dydi’r rheiny, chwaith, ddim yn digwydd pan ’dach chi’n eu disgwyl nhw... Dod yn slei a wnâi pob un hunllef, heb angen unrhyw ffilm na ddigwyddiad i’w sbarduno.. Ond mae’r breuddwydion casaf un yn dod pan ’dach chi’n effro, a dydi’r rhain ddim yn diflannu wrth i chi agor eich llygaid.”

Mae gan yr awdur y gallu i swyno a chyfareddu’r darllenydd â’i eiriau, ac yna, yn ddisymwth, eich taro chi’n fflatnar oddi ar eich echel. Dros gwrs y nofel, gwna hyn sawl tro, ond mae’r drydedd act yn mynd a hyn i’r eithaf.


Mae’r nofel dros bymtheg mlwydd oed erbyn hyn, ac oes, mae ’na ambell i reference fel Pop Idol sydd wedi heneiddio, ond tydyn nhw’n effeithio nemor ddim ar y stori, ac o ganlyniad, dyma lyfr sy’n dal ei dir yn gadarn yn 2022. Roedd ’na ambell beth faswn i wedi’i newid, fel rhai o resymau’r cymeriadau dros ymddwyn sut wnaethon nhw, ac roedd y cyfeiriad at y ‘peth’ yn y ffenest ar y dudalen olaf-ond-un braidd yn ddiangen yn fy marn i. (Mae’r awdur yn wych am sgwennu stwff creepy, ond nid fama oedd y lle). Mân bethau yw’r rhain. Ar y cyfan, dyma stori gripping ac ysgytwol. I ddyfynnu geiriau Ion Thomas (Gwales) - “clatsien o nofel.” Cytunaf 100%.


Diolch byth, fe gawn atebion i rai o’n cwestiynau erbyn diwedd y nofel, ond mae’r rollercoaster o emosiynau wedi ’ngadael i’n wag ac yn drained ar y diwedd. Yr unig beth dwi’n siŵr ohono; dwi byth isio profi’r fath beth go iawn.



 

Gwasg: Gomer@Lolfa

Cyhoeddwyd: 2006

Cyfres: Whap!

Pris: £6.99 (neu ym mhob llyfrgell!)

E-lyfr:


 

MWY O LYFRAU DA YNG NGHYFRES WHAP!




Recent Posts

See All
bottom of page