Adnabod Awdur
Sioned Wyn
Roberts
Geni:
Rhagfyr
Yn wreiddiol o:
Pwllheli
Byw yn:
Caerdydd
Ffeithiau Fflach
Llyfrau
(plant a phobl ifanc)
Ffwlbart Ffred: Drewi fel ffwlbart
(Atebol, 2020)
Holi ac ateb awdur
Sioned Wyn Roberts
Tro'r awdur newydd i blant, Sioned Wyn Roberts i ateb cwestiynau Són am Lyfra!
Dewch i ddod i 'nabod 'chydig bach amdani...
Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu llyfrau?
Wnes i erioed feddwl am sgwennu llyfrau nes i mi fynd ar gwrs llenyddiaeth plant yng Nghanolfan TÅ· Newydd tua 18 mis yn ôl. Roedd y profiad yn ysbrydoliaeth llwyr a dydw i ddim wedi stopio ysgrifennu ers hynny. Yn fuan wedyn cefais le ar gynllun Llenyddiaeth Cymru i ddatblygu awduron llyfrau stori-a-llun. Dyna pryd y cafodd cyfres Ffwlbart Ffred ei greu.
Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?
Dwi wedi mwynhau darllen erioed. Fel plentyn, roedd ffantasi hanesyddol yn apelio. Luned Bengoch, clasur gan Elizabeth Watkin-Jones a The Little White Horse gan Elizabeth Goudge (doedd neb wedi clywed am y llyfr yma nes i J K Rowling sôn mai hwn oedd ei ffefryn hi fel plentyn a rwan mae o nôl mewn print!)
Cymeriadau cryf yn gyntaf ac yna’r plot. I blant, mae cymeriadau dewr a di-ofn yn apelio. Ac mae antur a chyffro yn bwysig. Mae chwedlau a straeon tylwyth teg yn straeon da, gyda motifs sy’n berthnasol i ni heddiw.
Beth sydd bwysicach – cymeriadau neu plot?
Ffwlbart Ffred: Drewi fel Ffwlbart yw fy llyfr cyntaf. Y cyntaf mewn cyfres.
Gobeithio y byddan nhw yn chwerthin wrth fwynhau y stori a gweld lluniau doniol Bethan Mai, y darlunydd. Mae’r straeon mewn odl felly yn hwyl i’w darllen ac yn ffordd dda o gofio stori.
Mae Ffwlbart Ffred yn gyfres sy’n ‘egluro’ ein idiomau mwyaf od. Ymadroddion fel: yn ddu fel bol buwch, bwrw hen wragedd a ffyn, mynd dros ben llestri a cheisio dy orau glas. Roeddwn i eisiau creu cyfres wreiddiol oedd yn gynhenid Gymraeg.
Meddyliwch am eich llyfr diwethaf. Beth oedd o?
Beth ydych chi’n gobeithio i ddarllenwyr ei gael o ddarllen y stori?
Beth yw eich hoff lyfr neu awdur a pham?
Wolf Hall gan Hilary Mantel. Achos weithiau mae ambell i ddisgrifiad neu syniad mor wreiddiol mae’n rhaid stopio darllen a phendronni am chydig. Mae The Light We Cannot See gan Anthony Doerr yn ffefryn hefyd.
Dwi’n cael ‘ffads’ efo awduron; os ydw i’n mwynhau gwaith un awdur dwi’n darllen eu llyfrau nhw ac yna’n mynd ymlaen i’r ffefryn newydd.
Oes na gymeriad ydych chi’n caru ei gasáu? (neu jest caru)
Roeddwn i yn casau Edmund yn The Lion the Witch and the Wardrobe.
Oes lyfr newydd ar y gorwel?
Oes, mae rhagor o straeon Ffwlbart Ffred i ddod ac rwy’ gweithio ar ddwy nofel ar hyn o bryd.
Mae gen i Kindle, sy’n handi iawn tra’n teithio, ond mae’n anodd cofio be dwi’n ddarllen arni achos allai ddim gweld y clawr. Felly llyfr go iawn i mi bob tro - hoffi byseddu llyfr, mynd nôl a mlaen a gweld y clawr. A fedrwch chi ddim darllen Kindle yn y bath.
Llyfr go iawn neu e-lyfr?
Ac yn olaf...
Oes gennych neges i ysbrydoli darllenwyr/
ysgrifenwyr ifanc?
Binjiwch! Darllenwch llwyth o lyfrau! Mae llyfr da yn agor bydoedd newydd.Hefyd ‘da ni’n cael mynd i mewn i feddyliau cymeriadau, rhai sy’n debyg i ni ac eraill sy’n hollol wahnol - helpu ni ddeall pobol yn well.
Pan mae llyfr yn anodd, neu’n cymryd amser i’w ddarllen, gorfodwch eich hun i wthio mlaen. (a sgipiwch y darnau diflas.). O fewn dim, fyddwch chi wedi ymgolli yn y stori. Ond does dim angen i ddarllen fod yn boen, weithiau mae’n braf cael llyfr sy’n hawdd ac yn page-turner. Ac mae comics a tecsts yn ddarllen hefyd.
I awduron ifanc - ewch amdani, does dim byd i’w golli. Un peth pwysig ydw i wedi ddysgu ydy - mae hyd yn oed awduron talentog a phrofiadol yn gorfod gweithio ar sgwennu. Dydy o ddim yn dod allan yn berffaith y tro cyntaf - mae’n iawn i gymryd eich amser i feddwl, mireinio a gwella’r gwaith. A phob lwc