Chwilio
94 results found with an empty search
- Pryderi Gwyn Jones | Sonamlyfra
Adnabod Awdur Pryderi Gwyn Jones Geni: 1972 Yn wreiddiol o: Aberystwyth Byw yn: Glantwymyn Ffaith ddiddorol: Cefais fy achub gan hofrenydd byddin Chile tra’n cerdded mynyddoedd yn yr Andes. Ffeithiau Fflach Llyfrau (plant a phobl ifanc) Brenin y Trenyrs (2020) Kaiser y Trenyrs (i'w gyhoeddi) Cwestiwn ac Ateb Yr awdur Pryderi Gwyn Jones yn ateb cwestiynau Sôn am Lyfra! Beth yw eich cefndir a/neu beth ydych yn ei wneud ar hyn o bryd? Athro Ysgol Uwchradd. Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu llyfrau? Mwynhau y direidi yn llyfrau Eurig Wyn, United a Powdr Rhech. Hefyd, yr angen am lyfrau hwyliog a gwreiddiol yn Gymraeg. Pa lyfrau wnaeth ddylanwadu arnoch fel darllenwr ifanc? Pam? Cofiaf fy mam yn prynu llyfr o’r enw, Ffrindiau Tomi i mi mewn ‘steddfod flynyddoedd maith yn ôl. Roeddwn wrth fy modd gyda’r stori a’r lluniau. Wedyn, cefais flas ar lyfrau Twm Miall, Cyw Haul a Cyw Dôl a llyfrau Dafydd Huws am y Dyn Dwad. Beth sydd bwysicaf – y cymeriadau neu’r plot? Hynny yw – beth sy’n gwneud llyfr da? Mae creu cyfanwaith yn bwysig, ond rwy’n meddwl bod y llais yn y llyfr yn bwysig iawn. Mae’n rhaid trio cael y llais i siarad efo’r darllenwyr. Beth yw dy lyfr diweddaraf i blant a beth ydych chi’n gobeithio i ddarllenwyr ei gael o ddarllen y stori? Brenin y Trenyrs. Mwynhad o ddarllen stori syml a thrafod pethau’r byd yn naturiol yn Gymraeg. Pa neges sydd gen ti i ysbrydoli darllenwyr/ysgrifenwyr ifanc? Peidiwch ag aros am ryw ysbrydoliaetth fawr, ac i’r lleuad a’r ser fod yn y lle iawn. Eisteddwch i lawr, a thriwch greu RHYWBETH! Wedyn, mi fydd gennych chi rywbeth i’w ddatblygu a’i ymestyn a’i wella. Oes yna gymeriad rydach chi’n ei garu neu’n ei gasáu? Dwi’n hoff iawn o’r prif gymeriad, ond dydw i ddim yn hoff iawn o Lloyd, cariad Lisa, ei chwaer. Oes llyfr newydd ar y gorwel? Os byw ac iach, bydd Kaiser y Trenyrs yn cael ei gyhoeddi fis Hydref. Beth yw dy hoff bar o dreinyrs yn y byd? Mae’n rhaid i mi sôn am y pâr o drenyrs adidas cyntaf a gefais yn siop Meirion Appleton yn Aberystwyth erstalwm. Adidas Samba du a gwyn oedden nhw, ac roeddwn yn teimlo’n rel boi ac yn meddwl fy mod i’n gallu rhedeg yn gyflymach a neidio’n uwch ynddyn nhw. Y trenyrs diweddara i mi eu cael ydy Adidas Original Supercourt gwynion. Roedden nhw’n fargen am hanner pris! Os fasa gen ti dreinyrs hud – be fasa ti’n hoffi nhw allu wneud? Cerdded fyny walia’ a neidio o un adeilad i’r llall. Unrhyw sylw arall? Diolch am gael ateb yr Holiadur Awduron. Trenyrs i bawb o bobl y byd ddweda i! Adi Dassler, sylfaenydd adidas ydy'r ddelw. Tu allan i brif swyddfa adidas yn Herzogenarach wrth Nuremberg yn yr Almaen!
- Y Gweisg | Sonamlyfra
Y Gweisg Dyma restr o'r gweisg yng Nghymru sy'n cyhoeddi llyfrau i blant yn y Gymraeg. Cliciwch ar y deilsen i fynd at wefanau'r gweisg. Carreg Gwalch
- Awduron | Sonamlyfra
Cliciwch ar y teils i weld mwy o wybodaeth am bob awdur. . Gareth F Williams B ethan Gwanas Manon Steffan Ros Lleucu Roberts Rhian Cadwaladr Elidir Jones Gwyn Morgan Llyr Titus Mererid Hopwood Myrddin ap Dafydd Elin Meek Meleri Wyn James Brenda Wyn Jones Sioned Wyn Roberts Heiddwen Tomos Casia Wiliam Pryderi Gwyn Jones T. Llew Jones Luned Aaron Carys Haf Glyn Ydan ni wedi anghofio rhywun? Chi'n awdur ac yn ffansi cael tudalen bywgraffiad? Cysylltwch. Awduron Cymru
- Themau CS | Sonamlyfra
LLYFRAU CYFNOD SYLFAEN Mae'r rhestrau llyfrau yn cael eu diweddaru. Bydden nhw'n ôl yn fuan.
- Casgliad Empathi Cymru | Sonamlyfra
Am y tro cyntaf, mae EmpathyLabUK wedi paratoi casgliad Cymraeg o lyfrau sy'n cynnwys #empathi. Cliciwch ar y llun i agor y linc neu ewch i ddarganfod mwy ar wefan Empathy Lab. LAWRLWYTHO
- Sôn am Lyfra'n Lansio!! Sôn am Lyfra goes live! | Sonamlyfra
Yn ôl Sôn am Lyfra'n Lansio!! Sôn am Lyfra goes live! 27.3.20 O’r diwedd, mae Sôn am Lyfrau wedi glanio! At last, Sôn am Lyfra [Talk about Books!] has landed! O’r diwedd, mae Sôn am Lyfrau wedi glanio! Os nad ydych yn gwybod yn barod, gwefan sy’n cynnal adolygiadau dwyieithog o lyfrau plant a phobl ifanc Cymraeg fydd Sôn am Lyfra. Rydym yn gobeithio bydd y wefan o ddefnydd i blant, pobl ifanc, rhieni, athrawon neu unrhyw un gyda diddordeb mewn llyfrau. Drwy gynnig gwasanaeth dwyieithog, rydym yn gobeithio cefnogi rhieni di-gymraeg a dysgwyr sydd yn awyddus i ddarllen mwy o lyfrau Cymraeg ond sydd ddim yn siŵr ble i ddechrau. Y gobaith fydd, y byddwch yn gallu defnyddio’r wefan i chwilio am y llyfr perffaith! Rydym yn chwilio am gyfranwyr gwirfoddol i yrru adolygiadau o lyfrau hen a newydd i ni er mwyn i ni allu eu hychwanegu at y casgliad sydd ar y wefan. Os ydych wedi darllen llyfr da- beth am rannu hyn gydag eraill? Cysylltwch â ni a chroeso! Rydym yn edrych ymlaen at weld y wefan yn datblygu ac yn prysur lenwi âg adolygiadau! ********************************* At last, Sôn am Lyfra [Talk about Books!] has landed! If you don’t already know, this will be a website that hosts bilingual reviews of Welsh children and young people's books. We hope the website will be of use to children, young people, parents, teachers or indeed anyone with an interest in books. By offering a bilingual service, we hope to support non-Welsh speaking parents and learners who wish to read more Welsh books but are not sure where to start. Hopefully, you'll be able to use the website to search for the perfect book! We are looking for volunteer contributors to send us reviews of old and new books so that we can add them to the collection on the website. If you have read a good book – why not share this with others? You’re welcome to get in touch! We look forward to seeing the website develop and rapidly becoming the biggest collection of honest Welsh book reviews on the web!
- News03 | Sonamlyfra
Nôl Newyddion DYDDIAD DYMA'R TEITL GALLWCH NEWID HWN UNRHYW BRYD, COFIWCH! I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. It's easy. I'm a paragraph. Click here to add your own text and edit me. It's easy.
- Meleri Wyn James | Sonamlyfra
Meleri Wyn James Lawrlwytho PDF
- Haf Llewelyn | Sonamlyfra
Haf Llewelyn Lawrlwytho PDF
- Myrddin ap Dafydd | Sonamlyfra
Myrddin ap Dafydd Lawrlwytho PDF
- Rebecca Roberts | Sonamlyfra
Rebecca Roberts Lawrlwytho PDF
- Casia Wiliam | Sonamlyfra
Casia Wiliam Lawrlwytho PDF