Adnabod Awdur
Pryderi
Gwyn Jones
_jfif.jpg)
Geni:
1972
Yn wreiddiol o:
Aberystwyth
Byw yn:
Glantwymyn
Ffaith
ddiddorol:
Cefais fy achub gan hofrenydd byddin Chile tra’n cerdded mynyddoedd yn yr Andes.
Ffeithiau Fflach
Llyfrau
(plant a phobl ifanc)
Brenin y Trenyrs (2020)
Kaiser y Trenyrs (i'w gyhoeddi)


Cwestiwn ac Ateb
Yr awdur Pryderi Gwyn Jones
yn ateb cwestiynau Sôn am Lyfra!
_jfif.jpg)
Beth yw eich cefndir a/neu beth ydych yn ei wneud ar hyn o bryd?
Athro Ysgol Uwchradd.


Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu llyfrau?
Mwynhau y direidi yn llyfrau Eurig Wyn, United a Powdr Rhech. Hefyd, yr angen am lyfrau hwyliog a gwreiddiol yn Gymraeg.
Pa lyfrau wnaeth ddylanwadu arnoch fel darllenwr ifanc? Pam?
Cofiaf fy mam yn prynu llyfr o’r enw, Ffrindiau Tomi i mi mewn ‘steddfod flynyddoedd maith yn ôl. Roeddwn wrth fy modd gyda’r stori a’r lluniau. Wedyn, cefais flas ar lyfrau Twm Miall, Cyw Haul a Cyw Dôl a llyfrau Dafydd Huws am y Dyn Dwad.

Beth yw dy lyfr diweddaraf i blant a beth ydych chi’n gobeithio i ddarllenwyr ei gael o ddarllen y stori?
Brenin y Trenyrs.
Mwynhad o ddarllen stori syml a thrafod pethau’r byd yn naturiol yn Gymraeg.
Pa neges sydd gen ti i ysbrydoli darllenwyr/ysgrifenwyr ifanc?
Peidiwch ag aros am ryw ysbrydoliaetth fawr, ac i’r lleuad a’r ser fod yn y lle iawn. Eisteddwch i lawr, a thriwch greu RHYWBETH! Wedyn, mi fydd gennych chi rywbeth i’w ddatblygu a’i ymestyn a’i wella.


Oes yna gymeriad rydach chi’n ei garu neu’n ei gasáu?
Dwi’n hoff iawn o’r prif gymeriad, ond dydw i ddim yn hoff iawn o Lloyd, cariad Lisa, ei chwaer.
Oes llyfr newydd ar y gorwel?
Os byw ac iach, bydd Kaiser y Trenyrs yn cael ei gyhoeddi fis Hydref.



Beth yw dy hoff bar o dreinyrs yn y byd?
Mae’n rhaid i mi sôn am y pâr o drenyrs adidas cyntaf a gefais yn siop Meirion Appleton yn Aberystwyth erstalwm. Adidas Samba du a gwyn oedden nhw, ac roeddwn yn teimlo’n rel boi ac yn meddwl fy mod i’n gallu rhedeg yn gyflymach a neidio’n uwch ynddyn nhw. Y trenyrs diweddara i mi eu cael ydy Adidas Original Supercourt gwynion. Roedden nhw’n fargen am hanner pris!
Os fasa gen ti dreinyrs hud – be fasa ti’n hoffi nhw allu wneud?
Cerdded fyny walia’ a neidio o un adeilad i’r llall.


Unrhyw sylw arall?
Diolch am gael ateb yr Holiadur Awduron.
Trenyrs i bawb o bobl y byd ddweda i!

Adi Dassler, sylfaenydd adidas ydy'r ddelw. Tu allan i brif swyddfa adidas yn Herzogenarach wrth Nuremberg yn yr Almaen!