top of page

Pedair Cainc Y Mabinogi - Siân Lewis

Updated: Mar 7, 2021

*Scroll down for English*


♥ Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2016 ♥

♥ Tir na n-Og Award Winner 2016 ♥

Gwaith celf/artwork: Valériane LeBlond


Oed diddordeb/interest age: 7+

Reading age/oed darllen: 8-9+

 

Synopsis


Y Mabinogi yw chwedlau hynaf ac enwocaf Cymru, a'r Pedair Cainc yw straeon craidd y chwedlau hyn. Er iddyn nhw gael eu hysgrifennu ar femrwn tua wyth canrif yn ôl, bu storïwyr yn eu hadrodd ar lafar sawl canrif cyn hynny. Mae'r chwedlau wedi para cyhyd am eu bod yn dal i allu cydio yn y dychmyg â'u hud a lledrith, eu hantur, eu rhamant a'u rhyfeddodau unigryw. Argraffiad clawr meddal. (Gwales)


A luxurious edition in paperpack. The Four Branches of the Mabinogi are the oldest and most famous legends in Wales. First written down around eight hundred years ago, they were being told for many years before that. Join us and explore these captivating stories with their unique mix of magic, romance, adventure, giants, wars and wizards. (Gwales)

 

Adolygiad gan Sarah Down-Roberts



Mae'n siŵr fod y rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â Phedair Cainc y Mabinogi – rhai ohonom, o bosib, wedi gorfod eu hastudio'n fanwl mewn Cymraeg Canol, ac eraill ohonom wedi cael bras syniad o'r straeon ar ôl eu darllen mewn llyfrau plant. Wel, dyma lyfr sy'n cynnwys rhywbeth yn y canol – addasiad swmpus o'r pedair stori. Mae'r llyfr yn addas i blant hŷn ac oedolion. Mae ynddo dros 120 o dudalennau ac y mae hynny'n rhoi syniad i chi o'r manylder a geir yma.


Mae'r llyfr clawr caled wedi cael ei gyflwyno mewn diwyg glân, hawdd ei ddarllen ond yr hyn sy'n gwneud y llyfr hwn yn gwbl atyniadol yw'r lluniau gan yr artist Valériane Leblond. Ar ddechrau'r gyfrol ceir llun o bawb ym mhob cainc gydag eglurhad pwy yw pwy. Ceir hefyd fapiau o Gymru'n dangos lle yn union mae'r mannau gwahanol a enwir yn y ceinciau.



Dyma lyfr, heb os, sy'n haeddu bod yn hosan pob plentyn y Nadolig hwn. Bydd ei ddarllen yn rhoi cyflwyniad penigamp i rai o brif gymeriadau ein llên i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr. Mae'r awdur wedi dal naws y ceinciau i'r dim – eu tristwch a'u hiwmor, ac mae'r dweud mewn mannau yn hyfryd o gynnil a diwastraff. Mi ellid ei ddarllen dro ar ôl tro a chael pleser pur yn byseddu'r tudalennau cain.

Ar gael yn Saesneg hefyd.


Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.


 

Review by Sarah Down-Roberts

I'm sure most of us are familiar or have at least heard of the Four Branches of The Mabinogi - some of us may have studied them in great detail in Middle Welsh, and others may have got a rough idea from reading about them in children's books. This book is something in-between - a substantial adaptation of the four tales. It's appropriate for adults and children. There are over 120 pages and this gives you some idea of the detail included.


This paperback version is clean and easy to read, but what makes it so attractive is the artwork by Valériane Leblond. At the start of the book we get a picture of everyone and an explanation of who's who. We also get maps of Wales showing exactly where everything is.



This is without a doubt a book that deserves to be in stockings this Christmas. Reading it will give a great introduction to some of the main characters in Welsh literature for a new generation of readers. The author retains the 'feel' of the Branches- their sadness and their humour, and the writing is concise and to the point. It can be enjoyed over and over!


Also available in English.


A review from www.gwales.com with the permission of the Welsh Books Council.

 

Cyhoeddwr/publisher: Rily

Cyhoeddwyd/released: 2017

Pris: £6.99

ISBN: 9781849670234

 

bottom of page